Revised Common Lectionary (Complementary)
9 Trugarha wrthyf, Arglwydd; canys cyfyng yw arnaf: dadwinodd fy llygad gan ofid, ie, fy enaid a’m bol. 10 Canys fy mywyd a ballodd gan ofid, a’m blynyddoedd gan ochain: fy nerth a ballodd oherwydd fy anwiredd, a’m hesgyrn a bydrasant. 11 Yn warthrudd yr ydwyf ymysg fy holl elynion, a hynny yn ddirfawr ymysg fy nghymdogion; ac yn ddychryn i’r rhai a’m hadwaenant: y rhai a’m gwelent allan, a gilient oddi wrthyf. 12 Anghofiwyd fi fel un marw allan o feddwl: yr ydwyf fel llestr methedig. 13 Canys clywais ogan llaweroedd; dychryn oedd o bob parth: pan gydymgyngorasant yn fy erbyn, y bwriadasant fy nieneidio. 14 Ond mi a obeithiais ynot ti, Arglwydd: dywedais, Fy Nuw ydwyt. 15 Yn dy law di y mae fy amserau: gwared fi o law fy ngelynion, ac oddi wrth fy erlidwyr. 16 Llewyrcha dy wyneb ar dy was: achub fi er mwyn dy drugaredd.
9 Canys fel dyfroedd Noa y mae hyn i mi: canys megis y tyngais nad elai dyfroedd Noa mwy dros y ddaear; felly y tyngais na ddigiwn wrthyt, ac na’th geryddwn. 10 Canys y mynyddoedd a giliant, a’r bryniau a symudant: eithr fy nhrugaredd ni chilia oddi wrthyt, a chyfamod fy hedd ni syfl, medd yr Arglwydd sydd yn trugarhau wrthyt.
10 Canys gweddus oedd iddo ef, oherwydd yr hwn y mae pob peth, a thrwy yr hwn y mae pob peth, wedi iddo ddwyn meibion lawer i ogoniant, berffeithio Tywysog eu hiachawdwriaeth hwy trwy ddioddefiadau. 11 Canys yr hwn sydd yn sancteiddio, a’r rhai a sancteiddir, o’r un y maent oll. Am ba achos nid yw gywilyddus ganddo eu galw hwy yn frodyr; 12 Gan ddywedyd, Myfi a fynegaf dy enw di i’m brodyr; yng nghanol yr eglwys y’th folaf di. 13 A thrachefn, Myfi a fyddaf yn ymddiried ynddo. A thrachefn, Wele fi a’r plant a roddes Duw i mi. 14 Oblegid hynny, gan fod y plant yn gyfranogion o gig a gwaed, yntau hefyd yr un modd a fu gyfrannog o’r un pethau; fel trwy farwolaeth y dinistriai efe yr hwn oedd â nerth marwolaeth ganddo, hynny yw, diafol; 15 Ac y gwaredai hwynt, y rhai trwy ofn marwolaeth oeddynt dros eu holl fywyd dan gaethiwed. 16 Canys ni chymerodd efe naturiaeth angylion; eithr had Abraham a gymerodd efe. 17 Am ba achos y dylai efe ym mhob peth fod yn gyffelyb i’w frodyr; fel y byddai drugarog ac Archoffeiriad ffyddlon, mewn pethau yn perthyn i Dduw, i wneuthur cymod dros bechodau y bobl. 18 Canys yn gymaint â dioddef ohono ef, gan gael ei demtio, efe a ddichon gynorthwyo’r rhai a demtir.
William Morgan Welsh Bible Edition © British & Foreign Bible Society 1992.