Print Page Options
Previous Prev Day Next DayNext

Revised Common Lectionary (Complementary)

Daily Bible readings that follow the church liturgical year, with thematically matched Old and New Testament readings.
Duration: 1245 days
Beibl William Morgan (BWM)
Version
Salmau 122

Caniad y graddau, o’r eiddo Dafydd.

122 Llawenychais pan ddywedent wrthyf, Awn i dŷ yr Arglwydd. Ein traed a safant o fewn dy byrth di, O Jerwsalem. Jerwsalem a adeiladwyd fel dinas wedi ei chydgysylltu ynddi ei hun. Yno yr esgyn y llwythau, llwythau yr Arglwydd, yn dystiolaeth i Israel, i foliannu enw yr Arglwydd. Canys yno y gosodwyd gorseddfeinciau barn, gorseddfeinciau tŷ Dafydd. Dymunwch heddwch Jerwsalem: llwydded y rhai a’th hoffant. Heddwch fyddo o fewn dy ragfur, a ffyniant yn dy balasau. Er mwyn fy mrodyr a’m cyfeillion y dywedaf yn awr, Heddwch fyddo i ti. Er mwyn tŷ yr Arglwydd ein Duw, y ceisiaf i ti ddaioni.

Esther 7

Felly daeth y brenin a Haman i gyfeddach gydag Esther y frenhines. A dywedodd y brenin wrth Esther drachefn yr ail ddydd, wrth gyfeddach y gwin, Beth yw dy ddymuniad, Esther y frenhines? ac fe a roddir i ti; a pha beth yw dy ddeisyfiad? gofyn hyd yn hanner y deyrnas, ac fe a’i cwblheir. A’r frenhines Esther a atebodd, ac a ddywedodd, O chefais ffafr yn dy olwg di, O frenin, ac o rhyglydda bodd i’r brenin, rhodder i mi fy einioes ar fy nymuniad, a’m pobl ar fy neisyfiad. Canys gwerthwyd ni, myfi a’m pobl, i’n dinistrio, i’n lladd, ac i’n difetha: ond pe gwerthasid ni yn gaethweision ac yn gaethforynion, mi a dawswn â sôn, er nad yw y gwrthwynebwr yn cystadlu colled y brenin.

Yna y llefarodd y brenin Ahasferus, ac y dywedodd wrth Esther y frenhines, Pwy yw hwnnw? a pha le y mae efe, yr hwn a glywai ar ei galon wneuthur felly? A dywedodd Esther, Y gwrthwynebwr a’r gelyn yw yr Haman drygionus hwn. Yna Haman a ofnodd gerbron y brenin a’r frenhines.

A’r brenin a gyfododd yn ei ddicllonedd o gyfeddach y gwin, ac a aeth i ardd y palas: a Haman a safodd i ymbil ag Esther y frenhines am ei einioes; canys efe a welodd fod drwg wedi ei baratoi yn ei erbyn ef oddi wrth y brenin. Yna y dychwelodd y brenin o ardd y palas i dŷ cyfeddach y gwin. Ac yr oedd Haman wedi syrthio ar y gwely yr oedd Esther arno. Yna y dywedodd y brenin, Ai treisio y frenhines hefyd y mae efe yn tŷ gyda mi? Hwy’n gyntaf ag yr aeth y gair allan o enau y brenin, hwy a orchuddiasant wyneb Haman. A Harbona, un o’r ystafellyddion, a ddywedodd yng ngŵydd y brenin, Wele hefyd y crocbren a baratôdd Haman i Mordecai, yr hwn a lefarodd ddaioni am y brenin, yn sefyll yn nhŷ Haman, yn ddeg cufydd a deugain o uchder. Yna y dywedodd y brenin, Crogwch ef ar hwnnw. 10 Felly hwy a grogasant Haman ar y pren a barasai efe ei ddarparu i Mordecai. Yna dicllonedd y brenin a lonyddodd.

Datguddiad 1:9-20

Myfi Ioan, yr hwn wyf hefyd eich brawd, a’ch cydymaith mewn cystudd, ac yn nheyrnas ac amynedd Iesu Grist, oeddwn yn yr ynys a elwir Patmos, am air Duw, ac am dystiolaeth Iesu Grist. 10 Yr oeddwn i yn yr ysbryd ar ddydd yr Arglwydd; ac a glywais o’r tu ôl i mi lef fawr fel llais utgorn, 11 Yn dywedyd, Mi yw Alffa ac Omega, y cyntaf a’r diwethaf: a’r hyn yr wyt yn ei weled, ysgrifenna mewn llyfr, a danfon i’r saith eglwys y rhai sydd yn Asia; i Effesus, ac i Smyrna, ac i Pergamus, ac i Thyatira, ac i Sardis, a Philadelffia, a Laodicea. 12 Ac mi a droais i weled y llef a lefarai wrthyf. Ac wedi i mi droi, mi a welais saith ganhwyllbren aur; 13 Ac yng nghanol y saith ganhwyllbren, un tebyg i Fab y dyn, wedi ymwisgo â gwisg laes hyd ei draed, ac wedi ymwregysu ynghylch ei fronnau â gwregys aur. 14 Ei ben ef a’i wallt oedd wynion fel gwlân, cyn wynned â’r eira; a’i lygaid fel fflam dân; 15 A’i draed yn debyg i bres coeth, megis yn llosgi mewn ffwrn; a’i lais fel sŵn llawer o ddyfroedd. 16 Ac yr oedd ganddo yn ei law ddeau saith seren: ac o’i enau yr oedd cleddau llym daufiniog yn dyfod allan: a’i wynepryd fel yr haul yn disgleirio yn ei nerth. 17 A phan welais ef, mi a syrthiais wrth ei draed ef fel marw. Ac efe a osododd ei law ddeau arnaf fi, gan ddywedyd wrthyf, Nac ofna; myfi yw’r cyntaf a’r diwethaf: 18 A’r hwn wyf fyw, ac a fûm farw; ac wele, byw ydwyf yn oes oesoedd, Amen; ac y mae gennyf agoriadau uffern a marwolaeth. 19 Ysgrifenna’r pethau a welaist, a’r pethau sydd, a’r pethau a fydd ar ôl hyn; 20 Dirgelwch y saith seren a welaist yn fy llaw ddeau, a’r saith ganhwyllbren aur. Y saith seren, angylion y saith eglwys ydynt: a’r saith ganhwyllbren a welaist, y saith eglwys ydynt.

Beibl William Morgan (BWM)

William Morgan Welsh Bible Edition © British & Foreign Bible Society 1992.