Print Page Options
Previous Prev Day Next DayNext

Revised Common Lectionary (Complementary)

Daily Bible readings that follow the church liturgical year, with thematically matched Old and New Testament readings.
Duration: 1245 days
Beibl William Morgan (BWM)
Version
Salmau 20

I’r Pencerdd, Salm Dafydd.

20 Gwrandawed yr Arglwydd arnat yn nydd cyfyngder: enw Duw Jacob a’th ddiffynno. Anfoned i ti gymorth o’r cysegr, a nerthed di o Seion. Cofied dy holl offrymau, a bydded fodlon i’th boethoffrwm. Sela. Rhodded i ti wrth fodd dy galon; a chyflawned dy holl gyngor. Gorfoleddwn yn dy iachawdwriaeth di, a dyrchafwn faner yn enw ein Duw: cyflawned yr Arglwydd dy holl ddymuniadau. Yr awr hon y gwn y gwared yr Arglwydd ei eneiniog: efe a wrendy arno o nefoedd ei sancteiddrwydd, yn nerth iechyd ei ddeheulaw ef. Ymddiried rhai mewn cerbydau, a rhai mewn meirch: ond nyni a gofiwn enw yr Arglwydd ein Duw. Hwy a gwympasant, ac a syrthiasant; ond nyni a gyfodasom, ac a safasom. Achub, Arglwydd: gwrandawed y Brenin arnom yn y dydd y llefom.

Barnwyr 9:7-15

A phan fynegasant hynny i Jotham, efe a aeth ac a safodd ar ben mynydd Garisim, ac a ddyrchafodd ei lef, ac a waeddodd, dywedodd hefyd wrthynt, Gwrandewch arnaf fi, O wŷr Sichem, fel y gwrandawo Duw arnoch chwithau. Y prennau gan fyned a aethant i eneinio brenin arnynt; a dywedasant wrth yr olewydden, Teyrnasa arnom ni. Ond yr olewydden a ddywedodd wrthynt, A ymadawaf fi â’m braster, â’r hwn trwof fi yr anrhydeddant Dduw a dyn, a myned i lywodraethu ar y prennau eraill? 10 A’r prennau a ddywedasant wrth y ffigysbren, Tyred di, teyrnasa arnom ni. 11 Ond y ffigysbren a ddywedodd wrthynt, A ymadawaf fi â’m melystra, ac â’m ffrwyth da, ac a af fi i lywodraethu ar y prennau eraill? 12 Yna y prennau a ddywedasant wrth y winwydden, Tyred di, teyrnasa arnom ni. 13 A’r winwydden a ddywedodd wrthynt hwy, A ymadawaf fi â’m melyswin, yr hwn sydd yn llawenhau Duw a dyn, a myned i lywodraethu ar y prennau eraill? 14 Yna yr holl brennau a ddywedasant wrth y fiaren, Tyred di, teyrnasa arnom ni. 15 A’r fiaren a ddywedodd wrth y prennau, Os mewn gwirionedd yr eneiniwch fi yn frenin arnoch, deuwch ac ymddiriedwch yn fy nghysgod i: ac onid e, eled tân allan o’r fiaren, ac ysed gedrwydd Libanus.

1 Ioan 2:18-28

18 O blant bychain, yr awr ddiwethaf ydyw: ac megis y clywsoch y daw anghrist, yr awron hefyd y mae anghristiau lawer; wrth yr hyn y gwyddom mai’r awr ddiwethaf ydyw. 19 Oddi wrthym ni yr aethant hwy allan, eithr nid oeddynt ohonom ni: canys pe buasent ohonom ni, hwy a arosasent gyda ni: eithr hyn a fu, fel yr eglurid nad ydynt hwy oll ohonom ni. 20 Eithr y mae gennych chwi eneiniad oddi wrth y Sanctaidd hwnnw, a chwi a wyddoch bob peth. 21 Nid ysgrifennais atoch oblegid na wyddech y gwirionedd, eithr oblegid eich bod yn ei wybod, ac nad oes un celwydd o’r gwirionedd. 22 Pwy yw’r celwyddog, ond yr hwn sydd yn gwadu nad Iesu yw’r Crist? Efe yw’r anghrist, yr hwn sydd yn gwadu’r Tad a’r Mab. 23 Pob un a’r sydd yn gwadu’r Mab, nid oes ganddo’r Tad chwaith: [ond] yr hwn sydd yn cyffesu’r Mab, y mae’r Tad ganddo hefyd. 24 Arhosed gan hynny ynoch chwi yr hyn a glywsoch o’r dechreuad. Od erys ynoch yr hyn a glywsoch o’r dechreuad chwithau hefyd a gewch aros yn y Mab ac yn y Tad. 25 A hon yw’r addewid a addawodd efe i ni, sef bywyd tragwyddol. 26 Y pethau hyn a ysgrifennais atoch ynghylch y rhai sydd yn eich hudo. 27 Ond y mae’r eneiniad a dderbyniasoch ganddo ef, yn aros ynoch chwi, ac nid oes arnoch eisiau dysgu o neb chwi; eithr fel y mae’r un eneiniad yn eich dysgu chwi am bob peth, a gwir yw, ac nid yw gelwydd; ac megis y’ch dysgodd chwi, yr arhoswch ynddo. 28 Ac yr awron, blant bychain, arhoswch ynddo; fel, pan ymddangoso efe, y byddo hyder gennym, ac na chywilyddiom ger ei fron ef yn ei ddyfodiad.

Beibl William Morgan (BWM)

William Morgan Welsh Bible Edition © British & Foreign Bible Society 1992.