Revised Common Lectionary (Complementary)
9 Trugarha wrthyf, Arglwydd; canys cyfyng yw arnaf: dadwinodd fy llygad gan ofid, ie, fy enaid a’m bol. 10 Canys fy mywyd a ballodd gan ofid, a’m blynyddoedd gan ochain: fy nerth a ballodd oherwydd fy anwiredd, a’m hesgyrn a bydrasant. 11 Yn warthrudd yr ydwyf ymysg fy holl elynion, a hynny yn ddirfawr ymysg fy nghymdogion; ac yn ddychryn i’r rhai a’m hadwaenant: y rhai a’m gwelent allan, a gilient oddi wrthyf. 12 Anghofiwyd fi fel un marw allan o feddwl: yr ydwyf fel llestr methedig. 13 Canys clywais ogan llaweroedd; dychryn oedd o bob parth: pan gydymgyngorasant yn fy erbyn, y bwriadasant fy nieneidio. 14 Ond mi a obeithiais ynot ti, Arglwydd: dywedais, Fy Nuw ydwyt. 15 Yn dy law di y mae fy amserau: gwared fi o law fy ngelynion, ac oddi wrth fy erlidwyr. 16 Llewyrcha dy wyneb ar dy was: achub fi er mwyn dy drugaredd.
23 Llefarodd yr Arglwydd hefyd wrth Moses, gan ddywedyd, 2 Llefara wrth feibion Israel, a dywed wrthynt, Gwyliau yr Arglwydd, y rhai a gyhoeddwch yn gymanfeydd sanctaidd, ydyw fy ngwyliau hyn. 3 Chwe diwrnod y gwneir gwaith; a’r seithfed dydd y bydd Saboth gorffwystra, sef cymanfa sanctaidd; dim gwaith nis gwnewch: Saboth yw efe i’r Arglwydd yn eich holl drigfannau.
4 Dyma wyliau yr Arglwydd, y cymanfeydd sanctaidd, y rhai a gyhoeddwch yn eu tymor. 5 O fewn y mis cyntaf, ar y pedwerydd dydd ar ddeg o’r mis, yn y cyfnos, y bydd Pasg yr Arglwydd. 6 A’r pymthegfed dydd o’r mis hwnnw y bydd gŵyl y bara croyw i’r Arglwydd: saith niwrnod y bwytewch fara croyw. 7 Ar y dydd cyntaf y bydd i chwi gymanfa sanctaidd: dim caethwaith ni chewch ei wneuthur. 8 Ond offrymwch ebyrth tanllyd i’r Arglwydd saith niwrnod; ar y seithfed dydd bydded cymanfa sanctaidd; na wnewch ddim caethwaith.
22 A nesaodd gŵyl y bara croyw, yr hon a elwir y pasg. 2 A’r archoffeiriaid a’r ysgrifenyddion a geisiasant pa fodd y difethent ef: oblegid yr oedd arnynt ofn y bobl.
3 A Satan a seth i mewn i Jwdas, yr hwn a gyfenwid Iscariot, yr hwn oedd o rifedi’r deuddeg. 4 Ac efe a aeth ymaith, ac a ymddiddanodd â’r archoffeiriaid a’r blaenoriaid, pa fodd y bradychai efe ef iddynt. 5 Ac yr oedd yn llawen ganddynt: a hwy a gytunasant ar roddi arian iddo. 6 Ac efe a addawodd, ac a geisiodd amser cyfaddas i’w fradychu ef iddynt yn absen y bobl.
7 A daeth dydd y bara croyw, ar yr hwn yr oedd rhaid lladd y pasg. 8 Ac efe a anfonodd Pedr ac Ioan, gan ddywedyd, Ewch, paratowch i ni’r pasg, fel y bwytaom. 9 A hwy a ddywedasant wrtho, Pa le y mynni baratoi ohonom? 10 Ac efe a ddywedodd wrthynt, Wele, pan ddeloch i mewn i’r ddinas, cyferfydd â chwi ddyn yn dwyn ystenaid o ddwfr: canlynwch ef i’r tŷ lle yr êl efe i mewn. 11 A dywedwch wrth ŵr y tŷ, Y mae’r Athro yn dywedyd wrthyt, Pa le y mae’r llety, lle y gallwyf fwyta’r pasg gyda’m disgyblion? 12 Ac efe a ddengys i chwi oruwchystafell fawr, wedi ei thaenu: yno paratowch. 13 A hwy a aethant, ac a gawsant fel y dywedasai efe wrthynt; ac a baratoesant y pasg.
William Morgan Welsh Bible Edition © British & Foreign Bible Society 1992.