Revised Common Lectionary (Complementary)
Maschil Ethan yr Esrahiad.
89 Trugareddau yr Arglwydd a ddatganaf byth: â’m genau y mynegaf dy wirionedd o genhedlaeth hyd genhedlaeth. 2 Canys dywedais, Adeiledir trugaredd yn dragywydd: yn y nefoedd y sicrhei dy wirionedd. 3 Gwneuthum amod â’m hetholedig, tyngais i’m gwas Dafydd. 4 Yn dragywydd y sicrhaf dy had di; ac o genhedlaeth i genhedlaeth yr adeiladaf dy orseddfainc di. Sela. 5 A’r nefoedd, O Arglwydd, a foliannant dy ryfeddod; a’th wirionedd yng nghynulleidfa y saint. 6 Canys pwy yn y nef a gystedlir â’r Arglwydd? pwy a gyffelybir i’r Arglwydd ymysg meibion y cedyrn? 7 Duw sydd ofnadwy iawn yng nghynulleidfa y saint, ac i’w arswydo yn ei holl amgylchoedd. 8 O Arglwydd Dduw y lluoedd, pwy sydd fel tydi, yn gadarn Iôr? a’th wirionedd o’th amgylch? 9 Ti wyt yn llywodraethu ymchwydd y môr: pan gyfodo ei donnau, ti a’u gostegi. 10 Ti a ddrylliaist yr Aifft, fel un lladdedig: trwy nerth dy fraich y gwasgeraist dy elynion. 11 Y nefoedd ydynt eiddot ti, a’r ddaear sydd eiddot ti: ti a seiliaist y byd a’i gyflawnder. 12 Ti a greaist ogledd a deau: Tabor a Hermon a lawenychant yn dy enw. 13 Y mae i ti fraich a chadernid: cadarn yw dy law, ac uchel yw dy ddeheulaw. 14 Cyfiawnder a barn yw trigfa dy orseddfainc: trugaredd a gwirionedd a ragflaenant dy wyneb. 15 Gwyn eu byd y bobl a adwaenant yr hyfrydlais: yn llewyrch dy wyneb, O Arglwydd, y rhodiant hwy. 16 Yn dy enw di y gorfoleddant beunydd; ac yn dy gyfiawnder yr ymddyrchafant. 17 Canys godidowgrwydd eu cadernid hwynt ydwyt ti; ac yn dy ewyllys da y dyrchefir ein corn ni. 18 Canys yr Arglwydd yw ein tarian; a Sanct Israel yw ein Brenin.
14 Wele y dyddiau yn dyfod, medd yr Arglwydd, fel y cyflawnwyf y peth daionus a addewais i dŷ Israel, ac i dŷ Jwda.
15 Yn y dyddiau hynny, ac yn yr amser hwnnw, y paraf i Flaguryn cyfiawnder flaguro i Dafydd; ac efe a wna farn a chyfiawnder yn y tir. 16 Yn y dyddiau hynny Jwda a waredir, a Jerwsalem a breswylia yn ddiogel; a hwn yw yr enw y gelwir ef, Yr Arglwydd ein cyfiawnder.
17 Canys fel hyn y dywed yr Arglwydd, Ni phalla i Dafydd ŵr yn eistedd ar frenhinfainc tŷ Israel. 18 Ac ni phalla i’r offeiriaid y Lefiaid ŵr ger fy mron i, i offrymu poethoffrwm, ac i offrymu bwyd‐offrwm, ac i wneuthur aberth, yn dragywydd.
19 A gair yr Arglwydd a ddaeth at Jeremeia, gan ddywedyd, 20 Fel hyn y dywed yr Arglwydd, Os gellwch ddiddymu fy nghyfamod â’r dydd, a’m cyfamod â’r nos, ac na byddo dydd a nos yn eu hamser; 21 Yna y diddymir fy nghyfamod â Dafydd fy ngwas, na byddo iddo fab yn teyrnasu ar ei deyrngadair ef, ac â’r Lefiaid yr offeiriaid fy ngweinidogion. 22 Megis na ellir cyfrif llu y nefoedd, ac na ellir mesur tywod y môr; felly myfi a amlhaf had Dafydd fy ngwas, a’r Lefiaid y rhai sydd yn gweini i mi. 23 Hefyd, gair yr Arglwydd a ddaeth at Jeremeia, gan ddywedyd, 24 Oni weli di pa beth y mae y bobl hyn yn ei lefaru, gan ddywedyd, Y ddau deulu a ddewisodd yr Arglwydd, efe a’u gwrthododd hwynt? felly y dirmygasant fy mhobl, fel nad ydynt mwyach yn genedl yn eu golwg hwynt. 25 Fel hyn y dywed yr Arglwydd, Os fy nghyfamod â’r dydd ac â’r nos ni saif, ac oni osodais i ddefodau y nefoedd a’r ddaear: 26 Yna had Jacob a Dafydd fy ngwas a wrthodaf fi, fel na chymerwyf o’i had ef lywodraethwyr ar had Abraham, Isaac, a Jacob: canys mi a ddychwelaf eu caethiwed hwynt, ac a drugarhaf wrthynt.
41 A Phedr a ddywedodd wrtho, Arglwydd, ai wrthym ni yr wyt ti yn dywedyd y ddameg hon, ai wrth bawb hefyd? 42 A’r Arglwydd a ddywedodd, Pwy yw’r goruchwyliwr ffyddlon a phwyllog, yr hwn a esyd ei arglwydd ar ei deulu, i roddi cyfluniaeth iddynt mewn pryd? 43 Gwyn ei fyd y gwas hwnnw, yr hwn y caiff ei arglwydd ef, pan ddêl, yn gwneuthur felly. 44 Yn wir meddaf i chwi, Efe a’i gesyd ef yn llywodraethwr ar gwbl ag sydd eiddo. 45 Eithr os dywed y gwas hwnnw yn ei galon, Y mae fy arglwydd yn oedi dyfod; a dechrau curo’r gweision a’r morynion, a bwyta ac yfed, a meddwi: 46 Daw arglwydd y gwas hwnnw mewn dydd nad yw efe yn disgwyl, ac ar awr nad yw efe yn gwybod, ac a’i gwahana ef, ac a esyd ei ran ef gyda’r anffyddloniaid. 47 A’r gwas hwnnw, yr hwn a wybu ewyllys ei arglwydd, ac nid ymbaratôdd, ac ni wnaeth yn ôl ei ewyllys ef, a gurir â llawer ffonnod. 48 Eithr yr hwn ni wybu, ac a wnaeth bethau yn haeddu ffonodiau, a gurir ag ychydig ffonodiau. Ac i bwy bynnag y rhoddwyd llawer, llawer a ofynnir ganddo; a chyda’r neb y gadawsant lawer, ychwaneg a ofynnant ganddo.
William Morgan Welsh Bible Edition © British & Foreign Bible Society 1992.