Revised Common Lectionary (Complementary)
Caniad y graddau.
121 Dyrchafaf fy llygaid i’r mynyddoedd, o’r lle y daw fy nghymorth. 2 Fy nghymorth a ddaw oddi wrth yr Arglwydd, yr hwn a wnaeth nefoedd a daear. 3 Ni ad efe i’th droed lithro: ac ni huna dy geidwad. 4 Wele, ni huna ac ni chwsg ceidwad Israel. 5 Yr Arglwydd yw dy geidwad: yr Arglwydd yw dy gysgod ar dy ddeheulaw. 6 Ni’th dery yr haul y dydd, na’r lleuad y nos. 7 Yr Arglwydd a’th geidw rhag pob drwg: efe a geidw dy enaid. 8 Yr Arglwydd a geidw dy fynediad a’th ddyfodiad, o’r pryd hwn hyd yn dragywydd.
6 Yn y flwyddyn y bu farw y brenin Usseia, y gwelais hefyd yr Arglwydd yn eistedd ar eisteddfa uchel a dyrchafedig, a’i odre yn llenwi y deml. 2 Y seraffiaid oedd yn sefyll oddi ar hynny: chwech adain ydoedd i bob un: â dwy y cuddiai ei wyneb, ac â dwy y cuddiai ei draed, ac â dwy yr ehedai. 3 A llefodd y naill wrth y llall, ac a ddywedodd, Sanct, Sanct, Sanct, yw Arglwydd y lluoedd, yr holl ddaear sydd lawn o’i ogoniant ef. 4 A physt y rhiniogau a symudasant gan lef yr hwn oedd yn llefain, a’r tŷ a lanwyd gan fwg.
5 Yna y dywedais, Gwae fi! canys darfu amdanaf: oherwydd gŵr halogedig ei wefusau ydwyf fi, ac ymysg pobl halogedig o wefusau yr ydwyf yn trigo: canys fy llygaid a welsant y brenin, Arglwydd y lluoedd. 6 Yna yr ehedodd ataf un o’r seraffiaid, ac yn ei law farworyn a gymerasai efe oddi ar yr allor mewn gefel: 7 Ac a’i rhoes i gyffwrdd â’m genau, ac a ddywedodd, Wele, cyffyrddodd hwn â’th wefusau, ac ymadawodd dy anwiredd, a glanhawyd dy bechod. 8 Clywais hefyd lef yr Arglwydd yn dywedyd, Pwy a anfonaf? a phwy a â drosom ni? Yna y dywedais, Wele fi, anfon fi.
5 Bu hefyd, a’r bobl yn pwyso ato i wrando gair Duw, yr oedd yntau yn sefyll yn ymyl llyn Gennesaret; 2 Ac efe a welai ddwy long yn sefyll wrth y llyn: a’r pysgodwyr a aethent allan ohonynt, ac oeddynt yn golchi eu rhwydau. 3 Ac efe a aeth i mewn i un o’r llongau, yr hon oedd eiddo Simon, ac a ddymunodd arno wthio ychydig oddi wrth y tir. Ac efe a eisteddodd, ac a ddysgodd y bobloedd allan o’r llong. 4 A phan beidiodd â llefaru, efe a ddywedodd wrth Simon, Gwthia i’r dwfn, a bwriwch eich rhwydau am helfa. 5 A Simon a atebodd ac a ddywedodd wrtho, O Feistr, er i ni boeni ar hyd y nos, ni ddaliasom ni ddim: eto ar dy air di mi a fwriaf y rhwyd. 6 Ac wedi iddynt wneuthur hynny, hwy a ddaliasant liaws mawr o bysgod: a’u rhwyd hwynt a rwygodd. 7 A hwy a amneidiasant ar eu cyfeillion, oedd yn y llong arall, i ddyfod i’w cynorthwyo hwynt. A hwy a ddaethant; a llanwasant y ddwy long, onid oeddynt hwy ar soddi. 8 A Simon Pedr, pan welodd hynny, a syrthiodd wrth liniau’r Iesu, gan ddywedyd, Dos ymaith oddi wrthyf; canys dyn pechadurus wyf fi, O Arglwydd. 9 Oblegid braw a ddaethai arno ef, a’r rhai oll oedd gydag ef, oherwydd yr helfa bysgod a ddaliasent hwy; 10 A’r un ffunud ar Iago ac Ioan hefyd, meibion Sebedeus, y rhai oedd gyfranogion â Simon. A dywedodd yr Iesu wrth Simon, Nac ofna: o hyn allan y deli ddynion. 11 Ac wedi iddynt ddwyn y llongau i dir, hwy a adawsant bob peth, ac a’i dilynasant ef.
William Morgan Welsh Bible Edition © British & Foreign Bible Society 1992.