Revised Common Lectionary (Complementary)
Salm o foliant.
100 Cenwch yn llafar i’r Arglwydd, yr holl ddaear. 2 Gwasanaethwch yr Arglwydd mewn llawenydd: deuwch o’i flaen ef â chân. 3 Gwybyddwch mai yr Arglwydd sydd Dduw: efe a’n gwnaeth, ac nid ni ein hunain: ei bobl ef ydym, a defaid ei borfa. 4 Ewch i mewn i’w byrth ef â diolch, ac i’w gynteddau â mawl: diolchwch iddo, a bendithiwch ei enw. 5 Canys da yw yr Arglwydd: ei drugaredd sydd yn dragywydd; a’i wirionedd hyd genhedlaeth a chenhedlaeth.
15 A gair yr Arglwydd a ddaeth ataf, gan ddywedyd, 16 Tithau fab dyn, cymer i ti un pren, ac ysgrifenna arno, I Jwda, ac i feibion Israel ei gyfeillion. A chymer i ti bren arall, ac ysgrifenna arno, I Joseff, pren Effraim, ac i holl dŷ Israel ei gyfeillion: 17 A chydia hwynt y naill wrth y llall yn un pren i ti; fel y byddont yn un yn dy law di.
18 A phan lefaro meibion dy bobl wrthyt, gan ddywedyd, Oni fynegi i ni beth yw hyn gennyt? 19 Dywed wrthynt, Fel hyn y dywed yr Arglwydd Dduw; Wele fi yn cymryd pren Joseff, yr hwn sydd yn llaw Effraim, a llwythau Israel ei gyfeillion, a mi a’u rhoddaf hwynt gydag ef, sef gyda phren Jwda, ac a’u gwnaf hwynt yn un pren, fel y byddont yn fy llaw yn un.
20 A bydded yn dy law, o flaen eu llygaid hwynt, y prennau yr ysgrifennych arnynt; 21 A dywed wrthynt, Fel hyn y dywed yr Arglwydd Dduw; Wele fi yn cymryd meibion Israel o fysg y cenhedloedd yr aethant atynt, ac mi a’u casglaf hwynt o amgylch, ac a’u dygaf hwynt i’w tir eu hun; 22 A gwnaf hwynt yn un genedl o fewn y tir ym mynyddoedd Israel, ac un brenin fydd yn frenin iddynt oll: ni byddant hefyd mwy yn ddwy genedl, ac ni rennir hwynt mwyach yn ddwy frenhiniaeth: 23 Ac ni ymhalogant mwy wrth eu heilunod, na thrwy eu ffieidd‐dra, nac yn eu holl anwireddau: eithr cadwaf hwynt o’u holl drigfaon, y rhai y pechasant ynddynt, a mi a’u glanhaf hwynt; fel y byddont yn bobl i mi, a minnau a fyddaf yn Dduw iddynt hwythau. 24 A’m gwas Dafydd fydd frenin arnynt; ie, un bugail fydd iddynt oll: yn fy marnedigaethau hefyd y rhodiant, a’m deddfau a gadwant ac a wnânt. 25 Trigant hefyd yn y tir a roddais i’m gwas Jacob, yr hwn y trigodd eich tadau ynddo; a hwy a drigant ynddo, hwy a’u meibion, a meibion eu meibion byth; a Dafydd fy ngwas fydd dywysog iddynt yn dragywydd. 26 Gwnaf hefyd â hwynt gyfamod hedd; amod tragwyddol a fydd â hwynt: a gosodaf hwynt, ac a’u hamlhaf, a rhoddaf fy nghysegr yn eu mysg hwynt yn dragywydd. 27 A’m tabernacl fydd gyda hwynt; ie, myfi a fyddaf iddynt yn Dduw, a hwythau a fyddant i mi yn bobl. 28 A’r cenhedloedd a gânt wybod mai myfi yr Arglwydd sydd yn sancteiddio Israel; gan fod fy nghysegr yn eu mysg hwynt yn dragywydd.
15 Ac mi a welais arwydd arall yn y nef, mawr, a rhyfeddol; saith angel a chanddynt y saith bla diwethaf: oblegid ynddynt hwy y cyflawnwyd llid Duw. 2 Ac mi a welais megis môr o wydr wedi ei gymysgu â thân; a’r rhai oedd yn cael y maes ar y bwystfil, ac ar ei ddelw ef, ac ar ei nod ef, ac ar rifedi ei enw ef, yn sefyll ar y môr gwydr, a thelynau Duw ganddynt. 3 A chanu y maent gân Moses gwasanaethwr Duw, a chân yr Oen; gan ddywedyd, Mawr a rhyfedd yw dy weithredoedd, O Arglwydd Dduw Hollalluog; cyfiawn a chywir yw dy ffyrdd di, Brenin y saint. 4 Pwy ni’th ofna di, O Arglwydd, ac ni ogonedda dy enw? oblegid tydi yn unig wyt sanctaidd: oblegid yr holl genhedloedd a ddeuant ac a addolant ger dy fron di; oblegid dy farnau di a eglurwyd.
William Morgan Welsh Bible Edition © British & Foreign Bible Society 1992.