Revised Common Lectionary (Complementary)
93 Yr Arglwydd sydd yn teyrnasu, efe a wisgodd ardderchowgrwydd; gwisgodd yr Arglwydd nerth, ac ymwregysodd: y byd hefyd a sicrhawyd, fel na syflo. 2 Darparwyd dy orseddfainc erioed: ti wyt er tragwyddoldeb. 3 Y llifeiriaint, O Arglwydd, a ddyrchafasant, y llifeiriaint a ddyrchafasant eu twrf; y llifeiriaint a ddyrchafasant eu tonnau. 4 Yr Arglwydd yn yr uchelder sydd gadarnach na thwrf dyfroedd lawer, na chedyrn donnau y môr. 5 Sicr iawn yw dy dystiolaethau: sancteiddrwydd a weddai i’th dŷ, O Arglwydd, byth.
20 A’r brenin a orchmynnodd i Hilceia, ac i Ahicam mab Saffan, ac i Abdon mab Micha, ac i Saffan yr ysgrifennydd, ac i Asaia gwas y brenin, gan ddywedyd, 21 Ewch, ymofynnwch â’r Arglwydd drosof fi, a thros y gweddill yn Israel ac yn Jwda, am eiriau y llyfr a gafwyd: canys mawr yw llid yr Arglwydd a dywalltodd efe arnom ni, oblegid na chadwodd ein tadau ni air yr Arglwydd, gan wneuthur yn ôl yr hyn oll sydd ysgrifenedig yn y llyfr hwn. 22 Yna yr aeth Hilceia, a’r rhai a yrrodd y brenin, at Hulda y broffwydes, gwraig Salum mab Ticfath, fab Hasra, ceidwad y gwisgoedd; (a hi oedd yn aros yn Jerwsalem yn yr ysgoldy;) ac a ymddiddanasant â hi felly.
23 A hi a ddywedodd wrthynt, Fel hyn y dywedodd Arglwydd Dduw Israel, Dywedwch i’r gŵr a’ch anfonodd chwi ataf fi, 24 Fel hyn y dywedodd yr Arglwydd, Wele fi yn dwyn drwg ar y lle hwn, ac ar ei drigolion, sef yr holl felltithion sydd ysgrifenedig yn y llyfr a ddarllenasant hwy gerbron brenin Jwda: 25 Am iddynt fy ngwrthod i, ac arogldarthu i dduwiau dieithr, i’m digio i â holl waith eu dwylo; am hynny yr ymdywallt fy llid i ar y lle hwn, ac nis diffoddir ef. 26 Ond am frenin Jwda, yr hwn a’ch anfonodd chwi i ymofyn â’r Arglwydd, fel hyn y dywedwch wrtho, Fel hyn y dywed Arglwydd Dduw Israel am y geiriau a glywaist; 27 Oblegid i’th galon feddalhau, ac i tithau ymostwng o flaen Duw, pan glywaist ei eiriau ef yn erbyn y fan hon ac yn erbyn ei thrigolion, ac ymostwng ohonot ger fy mron, a rhwygo dy ddillad, ac wylo o’m blaen i; am hynny y gwrandewais innau, medd yr Arglwydd. 28 Wele, mi a’th gymeraf di ymaith at dy dadau, a thi a ddygir ymaith i’r bedd mewn heddwch, fel na welo dy lygaid di yr holl ddrwg yr ydwyf fi yn ei ddwyn ar y fan hon, ac yn erbyn ei phreswylwyr. Felly hwy a ddygasant air i’r brenin drachefn.
29 Yna y brenin a anfonodd, ac a gynullodd holl henuriaid Jwda a Jerwsalem. 30 A’r brenin a aeth i fyny i dŷ yr Arglwydd, a holl wŷr Jwda, a thrigolion Jerwsalem, yr offeiriaid hefyd a’r Lefiaid, a’r holl bobl o fawr i fychan; ac efe a ddarllenodd, lle y clywsant hwy, holl eiriau llyfr y cyfamod, yr hwn a gawsid yn nhŷ yr Arglwydd. 31 A’r brenin a safodd yn ei le, ac a wnaeth gyfamod gerbron yr Arglwydd, ar rodio ar ôl yr Arglwydd, ac ar gadw ei orchmynion ef, a’i dystiolaethau, a’i ddefodau, â’i holl galon, ac â’i holl enaid; i gwblhau geiriau y cyfamod y rhai sydd ysgrifenedig yn y llyfr hwnnw. 32 Ac efe a wnaeth i bawb a’r a gafwyd yn Jerwsalem, ac yn Benjamin, sefyll wrth yr amod: trigolion Jerwsalem hefyd a wnaethant yn ôl cyfamod Duw, sef Duw eu tadau. 33 Felly Joseia a dynnodd ymaith y ffieidd-dra i gyd o’r holl wledydd y rhai oedd eiddo meibion Israel, ac efe a wnaeth i bawb a’r a gafwyd yn Israel wasanaethu, sef gwasanaethu yr Arglwydd eu Duw. Ac yn ei holl ddyddiau ef ni throesant hwy oddi ar ôl Arglwydd Dduw eu tadau.
25 Ac wele, yr oedd gŵr yn Jerwsalem, a’i enw Simeon; a’r gŵr hwn oedd gyfiawn a duwiol, yn disgwyl am ddiddanwch yr Israel: a’r Ysbryd Glân oedd arno. 26 Ac yr oedd wedi ei hysbysu iddo gan yr Ysbryd Glân, na welai efe angau, cyn iddo weled Crist yr Arglwydd. 27 Ac efe a ddaeth trwy’r ysbryd i’r deml: a phan ddug ei rieni y dyn bach Iesu, i wneuthur drosto yn ôl defod y gyfraith; 28 Yna efe a’i cymerth ef yn ei freichiau, ac a fendithiodd Dduw, ac a ddywedodd, 29 Yr awr hon, Arglwydd, y gollyngi dy was mewn tangnefedd, yn ôl dy air: 30 Canys fy llygaid a welsant dy iachawdwriaeth, 31 Yr hon a baratoaist gerbron wyneb yr holl bobloedd; 32 Goleuni i oleuo y Cenhedloedd, a gogoniant dy bobl Israel. 33 Ac yr oedd Joseff a’i fam ef yn rhyfeddu am y pethau a ddywedwyd amdano ef. 34 A Simeon a’u bendithiodd hwynt, ac a ddywedodd wrth Mair ei fam ef, Wele, hwn a osodwyd yn gwymp ac yn gyfodiad i lawer yn Israel, ac yn arwydd yr hwn y dywedir yn ei erbyn; 35 (A thrwy dy enaid di dy hun hefyd yr â cleddyf;) fel y datguddir meddyliau llawer o galonnau. 36 Ac yr oedd Anna broffwydes, merch Phanwel, o lwyth Aser: hon oedd oedrannus iawn, ac a fuasai fyw gyda gŵr saith mlynedd o’i morwyndod; 37 Ac a fuasai yn weddw ynghylch pedair a phedwar ugain mlynedd, yr hon nid âi allan o’r deml, ond gwasanaethu Duw mewn ymprydiau a gweddïau ddydd a nos. 38 A hon hefyd yn yr awr honno, gan sefyll gerllaw, a foliannodd yr Arglwydd, ac a lefarodd amdano ef wrth y rhai oll oedd yn disgwyl ymwared yn Jerwsalem.
William Morgan Welsh Bible Edition © British & Foreign Bible Society 1992.