Revised Common Lectionary (Complementary)
97 Yr Arglwydd sydd yn teyrnasu; gorfoledded y ddaear: llawenyched ynysoedd lawer. 2 Cymylau a thywyllwch sydd o’i amgylch ef: cyfiawnder a barn yw trigfa ei orseddfainc ef. 3 Tân a â allan o’i flaen ef, ac a lysg ei elynion o amgylch. 4 Ei fellt a lewyrchasant y byd: y ddaear a welodd, ac a grynodd. 5 Y mynyddoedd a doddasant fel cwyr o flaen yr Arglwydd, o flaen Arglwydd yr holl ddaear. 6 Y nefoedd a fynegant ei gyfiawnder ef, a’r holl bobl a welant ei ogoniant. 7 Gwaradwydder y rhai oll a wasanaethant ddelw gerfiedig, y rhai a ymffrostiant mewn eilunod: addolwch ef, yr holl dduwiau. 8 Seion a glywodd, ac a lawenychodd; a merched Jwda a orfoleddasant, oherwydd dy farnedigaethau di, O Arglwydd. 9 Canys ti, Arglwydd, wyt oruchel goruwch yr holl ddaear: dirfawr y’th ddyrchafwyd goruwch yr holl dduwiau. 10 Y rhai a gerwch yr Arglwydd, casewch ddrygioni: efe sydd yn cadw eneidiau ei saint; efe a’u gwared o law y rhai annuwiol. 11 Heuwyd goleuni i’r cyfiawn, a llawenydd i’r rhai uniawn o galon. 12 Y rhai cyfiawn, llawenychwch yn yr Arglwydd; a moliennwch wrth goffadwriaeth ei sancteiddrwydd ef.
1 Y traethawd cyntaf a wneuthum, O Theoffilus, am yr holl bethau a ddechreuodd yr Iesu eu gwneuthur a’u dysgu, 2 Hyd y dydd y derbyniwyd ef i fyny wedi iddo trwy’r Ysbryd Glân roddi gorchmynion i’r apostolion a etholasai: 3 I’r rhai hefyd yr ymddangosodd efe yn fyw wedi iddo ddioddef, trwy lawer o arwyddion sicr; gan fod yn weledig iddynt dros ddeugain niwrnod, a dywedyd y pethau a berthynent i deyrnas Dduw. 4 Ac wedi ymgynnull gyda hwynt, efe a orchmynnodd iddynt nad ymadawent o Jerwsalem, eithr disgwyl am addewid y Tad, yr hwn, eb efe, a glywsoch gennyf fi. 5 Oblegid Ioan yn ddiau a fedyddiodd â dwfr; ond chwi a fedyddir â’r Ysbryd Glân, cyn nemor o ddyddiau. 6 Gan hynny wedi eu dyfod hwy ynghyd, hwy a ofynasant iddo, gan ddywedyd, Arglwydd, ai’r pryd hwn y rhoddi drachefn y frenhiniaeth i Israel? 7 Ac efe a ddywedodd wrthynt, Ni pherthyn i chwi wybod yr amseroedd na’r prydiau, y rhai a osododd y Tad yn ei feddiant ei hun. 8 Eithr chwi a dderbyniwch nerth yr Ysbryd Glân wedi y delo efe arnoch; ac a fyddwch dystion i mi yn Jerwsalem, ac yn holl Jwdea, a Samaria, ac hyd eithaf y ddaear. 9 Ac wedi iddo ddywedyd y pethau hyn, a hwynt‐hwy yn edrych, efe a ddyrchafwyd i fyny; a chwmwl a’i derbyniodd ef allan o’u golwg hwynt. 10 Ac fel yr oeddynt yn edrych yn ddyfal tua’r nef, ac efe yn myned i fyny, wele, dau ŵr a safodd gerllaw iddynt mewn gwisg wen; 11 Y rhai hefyd a ddywedasant, Chwi wŷr o Galilea, paham y sefwch yn edrych tua’r nef? yr Iesu hwn, yr hwn a gymerwyd i fyny oddi wrthych i’r nef, a ddaw felly yn yr un modd ag y gwelsoch ef yn myned i’r nef.
I’r Pencerdd, Salm i feibion Cora.
47 Yr holl bobl, curwch ddwylo; llafargenwch i Dduw â llef gorfoledd. 2 Canys yr Arglwydd goruchaf sydd ofnadwy; Brenin mawr ar yr holl ddaear. 3 Efe a ddwg y bobl danom ni, a’r cenhedloedd dan ein traed. 4 Efe a ddethol ein hetifeddiaeth i ni, ardderchowgrwydd Jacob, yr hwn a hoffodd efe. Sela. 5 Dyrchafodd Duw â llawen floedd, yr Arglwydd â sain utgorn. 6 Cenwch fawl i Dduw, cenwch: cenwch fawl i’n Brenin, cenwch. 7 Canys Brenin yr holl ddaear yw Duw: cenwch fawl yn ddeallus. 8 Duw sydd yn teyrnasu ar y cenhedloedd: eistedd y mae Duw ar orseddfainc ei sancteiddrwydd. 9 Pendefigion y bobl a ymgasglasant ynghyd, sef pobl Duw Abraham: canys tarianau y ddaear ydynt eiddo Duw: dirfawr y dyrchafwyd ef.
93 Yr Arglwydd sydd yn teyrnasu, efe a wisgodd ardderchowgrwydd; gwisgodd yr Arglwydd nerth, ac ymwregysodd: y byd hefyd a sicrhawyd, fel na syflo. 2 Darparwyd dy orseddfainc erioed: ti wyt er tragwyddoldeb. 3 Y llifeiriaint, O Arglwydd, a ddyrchafasant, y llifeiriaint a ddyrchafasant eu twrf; y llifeiriaint a ddyrchafasant eu tonnau. 4 Yr Arglwydd yn yr uchelder sydd gadarnach na thwrf dyfroedd lawer, na chedyrn donnau y môr. 5 Sicr iawn yw dy dystiolaethau: sancteiddrwydd a weddai i’th dŷ, O Arglwydd, byth.
15 Oherwydd hyn minnau hefyd, wedi clywed eich ffydd yn yr Arglwydd Iesu, a’ch cariad tuag ar yr holl saint, 16 Nid wyf yn peidio â diolch drosoch, gan wneuthur coffa amdanoch yn fy ngweddïau; 17 Ar i Dduw ein Harglwydd Iesu Grist, Tad y gogoniant, roddi i chwi Ysbryd doethineb a datguddiad, trwy ei adnabod ef: 18 Wedi goleuo llygaid eich meddyliau; fel y gwypoch beth yw gobaith ei alwedigaeth ef, a pheth yw golud gogoniant ei etifeddiaeth ef yn y saint, 19 A pheth yw rhagorol fawredd ei nerth ef tuag atom ni y rhai ŷm yn credu, yn ôl gweithrediad nerth ei gadernid ef; 20 Yr hon a weithredodd efe yng Nghrist, pan ei cyfododd ef o feirw, ac a’i gosododd i eistedd ar ei ddeheulaw ei hun yn y nefolion leoedd, 21 Goruwch pob tywysogaeth, ac awdurdod, a gallu, ac arglwyddiaeth, a phob enw a enwir, nid yn unig yn y byd hwn, ond hefyd yn yr hwn a ddaw: 22 Ac a ddarostyngodd bob peth dan ei draed ef, ac a’i rhoddes ef yn ben uwchlaw pob peth i’r eglwys, 23 Yr hon yw ei gorff ef, ei gyflawnder ef, yr hwn sydd yn cyflawni oll yn oll.
44 Ac efe a ddywedodd wrthynt, Dyma’r geiriau a ddywedais i wrthych, pan oeddwn eto gyda chwi, bod yn rhaid cyflawni pob peth a ysgrifennwyd yng nghyfraith Moses, a’r proffwydi, a’r salmau, amdanaf fi. 45 Yna yr agorodd efe eu deall hwynt, fel y deallent yr ysgrythurau. 46 Ac efe a ddywedodd wrthynt, Felly yr ysgrifennwyd, ac felly yr oedd raid i Grist ddioddef, a chyfodi o feirw y trydydd dydd: 47 A phregethu edifeirwch a maddeuant pechodau yn ei enw ef ymhlith yr holl genhedloedd, gan ddechrau yn Jerwsalem. 48 Ac yr ydych chwi yn dystion o’r pethau hyn.
49 Ac wele, yr ydwyf fi yn anfon addewid fy Nhad arnoch: eithr arhoswch chwi yn ninas Jerwsalem, hyd oni wisger chwi â nerth o’r uchelder.
50 Ac efe a’u dug hwynt allan hyd ym Methania; ac a gododd ei ddwylo, ac a’u bendithiodd hwynt. 51 Ac fe a ddarfu, tra oedd efe yn eu bendithio hwynt, ymadael ohono ef oddi wrthynt, ac efe a ddygwyd i fyny i’r nef. 52 Ac wedi iddynt ei addoli ef, hwy a ddychwelasant i Jerwsalem, gyda llawenydd mawr: 53 Ac yr oeddynt yn wastadol yn y deml, yn moli ac yn bendithio Duw. Amen.
William Morgan Welsh Bible Edition © British & Foreign Bible Society 1992.