Revised Common Lectionary (Complementary)
Salm o foliant.
100 Cenwch yn llafar i’r Arglwydd, yr holl ddaear. 2 Gwasanaethwch yr Arglwydd mewn llawenydd: deuwch o’i flaen ef â chân. 3 Gwybyddwch mai yr Arglwydd sydd Dduw: efe a’n gwnaeth, ac nid ni ein hunain: ei bobl ef ydym, a defaid ei borfa. 4 Ewch i mewn i’w byrth ef â diolch, ac i’w gynteddau â mawl: diolchwch iddo, a bendithiwch ei enw. 5 Canys da yw yr Arglwydd: ei drugaredd sydd yn dragywydd; a’i wirionedd hyd genhedlaeth a chenhedlaeth.
45 A phan rannoch y tir wrth goelbren yn etifeddiaeth, yr offrymwch i’r Arglwydd offrwm cysegredig o’r tir; yr hyd fydd pum mil ar hugain o gorsennau o hyd, a dengmil o led. Cysegredig fydd hynny yn ei holl derfyn o amgylch. 2 O hyn y bydd i’r cysegr bum cant ar hyd, a phum cant ar led, yn bedeirongl oddi amgylch; a deg cufydd a deugain, yn faes pentrefol iddo o amgylch. 3 Ac o’r mesur hwn y mesuri bum mil ar hugain o hyd, a dengmil o led; ac yn hwnnw y bydd y cysegr, a’r lle sancteiddiolaf. 4 Y rhan gysegredig o’r tir fydd i’r offeiriaid, y rhai a wasanaethant y cysegr, y rhai a nesânt i wasanaethu yr Arglwydd; ac efe a fydd iddynt yn lle tai, ac yn gysegrfa i’r cysegr. 5 A’r pum mil ar hugain o hyd, a’r dengmil o led, fydd hefyd i’r Lefiaid y rhai a wasanaethant y tŷ, yn etifeddiaeth ugain o ystafelloedd.
6 Rhoddwch hefyd bum mil o led, a phum mil ar hugain o hyd, yn berchenogaeth i’r ddinas, ar gyfer offrwm y rhan gysegredig: i holl dŷ Israel y bydd hyn.
7 A rhan fydd i’r tywysog o’r tu yma ac o’r tu acw i offrwm y rhan gysegredig, ac i berchenogaeth y ddinas, ar gyfer y rhan gysegredig, ac ar gyfer etifeddiaeth y ddinas, o du y gorllewin tua’r gorllewin, ac o du y dwyrain tua’r dwyrain: a’r hyd fydd ar gyfer pob un o’r rhannau, o derfyn y gorllewin hyd derfyn y dwyrain. 8 Yn y tir y bydd ei etifeddiaeth ef yn Israel, ac ni orthryma fy nhywysogion fy mhobl i mwy; a’r rhan arall o’r tir a roddant i dŷ Israel yn ôl eu llwythau.
9 Fel hyn y dywed yr Arglwydd Dduw; Digon i chwi hyn, tywysogion Israel; bwriwch ymaith drawster a difrod, gwnewch hefyd farn a chyfiawnder, tynnwch ymaith eich trethau oddi ar fy mhobl, medd yr Arglwydd Dduw.
32 A bu, a Phedr yn tramwy trwy’r holl wledydd, iddo ddyfod i waered at y saint hefyd y rhai oedd yn trigo yn Lyda. 33 Ac efe a gafodd yno ryw ddyn a’i enw Aeneas, er ys wyth mlynedd yn gorwedd ar wely, yr hwn oedd glaf o’r parlys. 34 A Phedr a ddywedodd wrtho, Aeneas, y mae Iesu Grist yn dy iacháu di: cyfod, a chyweiria dy wely. Ac efe a gyfododd yn ebrwydd. 35 A phawb a’r oedd yn preswylio yn Lyda a Saron a’i gwelsant ef, ac a ymchwelasant at yr Arglwydd.
William Morgan Welsh Bible Edition © British & Foreign Bible Society 1992.