Print Page Options
Previous Prev Day Next DayNext

Revised Common Lectionary (Complementary)

Daily Bible readings that follow the church liturgical year, with thematically matched Old and New Testament readings.
Duration: 1245 days
Beibl William Morgan (BWM)
Version
Salmau 67

I’r Pencerdd ar Neginoth, Salm neu Gân.

67 Duw a drugarhao wrthym, ac a’n bendithio; a thywynned ei wyneb arnom: Sela: Fel yr adwaener dy ffordd ar y ddaear, a’th iachawdwriaeth ymhlith yr holl genhedloedd. Molianned y bobl di, O Dduw; molianned yr holl bobl dydi. Llawenhaed y cenhedloedd, a byddant hyfryd: canys ti a ferni y bobl yn uniawn, ac a lywodraethi y cenhedloedd ar y ddaear. Sela. Molianned y bobl di, O Dduw; molianned yr holl bobl dydi. Yna y ddaear a rydd ei ffrwyth; a Duw, sef ein Duw ni, a’n bendithia. Duw a’n bendithia; a holl derfynau y ddaear a’i hofnant ef.

Diarhebion 2:1-5

Fy mab, os derbynni di fy ngeiriau, ac os cuddi fy ngorchmynion gyda thi; Fel y parech i’th glust wrando ar ddoethineb, ac y gogwyddech dy galon at ddeall; Ie, os gwaeddi ar ôl gwybodaeth, os cyfodi dy lef am ddeall; Os ceisi hi fel arian, os chwili amdani fel am drysorau cuddiedig; Yna y cei ddeall ofn yr Arglwydd, ac y cei wybodaeth o Dduw.

Actau 15:36-41

36 Ac wedi rhai dyddiau, dywedodd Paul wrth Barnabas, Dychwelwn, ac ymwelwn â’n brodyr ym mhob dinas y pregethasom air yr Arglwydd ynddynt, i weled pa fodd y maent hwy. 37 A Barnabas a gynghorodd gymryd gyda hwynt Ioan, yr hwn a gyfenwid Marc. 38 Ond ni welai Paul yn addas gymryd hwnnw gyda hwynt, yr hwn a dynasai oddi wrthynt o Pamffylia, ac nid aethai gyda hwynt i’r gwaith. 39 A bu gymaint cynnwrf rhyngddynt, fel yr ymadawsant oddi wrth ei gilydd; ac y cymerth Barnabas Marc gydag ef, ac y mordwyodd i Cyprus: 40 Eithr Paul a ddewisodd Silas, ac a aeth ymaith, wedi ei orchymyn i ras Duw gan y brodyr. 41 Ac efe a dramwyodd trwy Syria a Cilicia, gan gadarnhau’r eglwysi.

Beibl William Morgan (BWM)

William Morgan Welsh Bible Edition © British & Foreign Bible Society 1992.