Print Page Options
Previous Prev Day Next DayNext

Revised Common Lectionary (Complementary)

Daily Bible readings that follow the church liturgical year, with thematically matched Old and New Testament readings.
Duration: 1245 days
Beibl William Morgan (BWM)
Version
Salmau 100

Salm o foliant.

100 Cenwch yn llafar i’r Arglwydd, yr holl ddaear. Gwasanaethwch yr Arglwydd mewn llawenydd: deuwch o’i flaen ef â chân. Gwybyddwch mai yr Arglwydd sydd Dduw: efe a’n gwnaeth, ac nid ni ein hunain: ei bobl ef ydym, a defaid ei borfa. Ewch i mewn i’w byrth ef â diolch, ac i’w gynteddau â mawl: diolchwch iddo, a bendithiwch ei enw. Canys da yw yr Arglwydd: ei drugaredd sydd yn dragywydd; a’i wirionedd hyd genhedlaeth a chenhedlaeth.

Jeremeia 50:17-20

17 Fel dafad ar wasgar yw Israel; llewod a’i hymlidiasant ymaith: brenin Asyria yn gyntaf a’i hysodd, a’r Nebuchodonosor yma brenin Babilon yn olaf a’i diesgyrnodd. 18 Am hynny fel hyn y dywed Arglwydd y lluoedd, Duw Israel; Wele, myfi a ymwelaf â brenin Babilon, ac â’i wlad, fel yr ymwelais â brenin Asyria. 19 A mi a ddychwelaf Israel i’w drigfa, ac efe a bawr ar Carmel a Basan; ac ar fynydd Effraim a Gilead y digonir ei enaid ef. 20 Yn y dyddiau hynny, ac yn yr amser hwnnw, medd yr Arglwydd, y ceisir anwiredd Israel, ac ni bydd; a phechodau Jwda, ond nis ceir hwynt: canys myfi a faddeuaf i’r rhai a weddillwyf.

Ioan 10:31-42

31 Am hynny y cododd yr Iddewon gerrig drachefn i’w labyddio ef. 32 Yr Iesu a atebodd iddynt, Llawer o weithredoedd da a ddangosais i chwi oddi wrth fy Nhad: am ba un o’r gweithredoedd hynny yr ydych yn fy llabyddio i? 33 Yr Iddewon a atebasant iddo, gan ddywedyd, Nid am weithred dda yr ydym yn dy labyddio, ond am gabledd, ac am dy fod di, a thithau yn ddyn, yn dy wneuthur dy hun yn Dduw. 34 Yr Iesu a atebodd iddynt, Onid yw yn ysgrifenedig yn eich cyfraith chwi, Mi a ddywedais, Duwiau ydych? 35 Os galwodd efe hwy yn dduwiau, at y rhai y daeth gair Duw, (a’r ysgrythur nis gellir ei thorri;) 36 A ddywedwch chwi am yr hwn a sancteiddiodd y Tad, ac a’i hanfonodd i’r byd, Yr wyt ti yn cablu; am i mi ddywedyd, Mab Duw ydwyf? 37 Onid wyf fi yn gwneuthur gweithredoedd fy Nhad, na chredwch i mi: 38 Ond os ydwyf yn eu gwneuthur, er nad ydych yn credu i mi, credwch y gweithredoedd; fel y gwybyddoch ac y credoch, fod y Tad ynof fi, a minnau ynddo yntau. 39 Am hynny y ceisiasant drachefn ei ddal ef: ac efe a ddihangodd allan o’u dwylo hwynt. 40 Ac efe a aeth ymaith drachefn dros yr Iorddonen, i’r man lle y buasai Ioan ar y cyntaf yn bedyddio; ac a arhosodd yno. 41 A llawer a ddaethant ato ef, ac a ddywedasant, Ioan yn wir ni wnaeth un arwydd: ond yr holl bethau a’r a ddywedodd Ioan am hwn, oedd wir. 42 A llawer yno a gredasant ynddo.

Beibl William Morgan (BWM)

William Morgan Welsh Bible Edition © British & Foreign Bible Society 1992.