Revised Common Lectionary (Complementary)
Salm neu Gân o gysegriad tŷ Dafydd.
30 Mawrygaf di, O Arglwydd: canys dyrchefaist fi, ac ni lawenheaist fy ngelynion o’m plegid. 2 Arglwydd fy Nuw, llefais arnat, a thithau a’m hiacheaist. 3 Arglwydd, dyrchefaist fy enaid o’r bedd: cedwaist fi yn fyw, rhag disgyn ohonof i’r pwll. 4 Cenwch i’r Arglwydd, ei saint ef; a chlodforwch wrth goffadwriaeth ei sancteiddrwydd ef. 5 Canys ennyd fechan y bydd yn ei lid; yn ei fodlonrwydd y mae bywyd: dros brynhawn yr erys wylofain, ac erbyn y bore y bydd gorfoledd. 6 Ac mi a ddywedais yn fy llwyddiant, Ni’m syflir yn dragywydd. 7 O’th ddaioni, Arglwydd, y gosodaist gryfder yn fy mynydd: cuddiaist dy wyneb, a bûm helbulus. 8 Arnat ti, Arglwydd, y llefais, ac â’r Arglwydd yr ymbiliais. 9 Pa fudd sydd yn fy ngwaed, pan ddisgynnwyf i’r ffos? a glodfora y llwch di? a fynega efe dy wirionedd? 10 Clyw, Arglwydd, a thrugarha wrthyf: Arglwydd, bydd gynorthwywr i mi. 11 Troaist fy ngalar yn llawenydd i mi: diosgaist fy sachwisg, a gwregysaist fi â llawenydd; 12 Fel y cano fy ngogoniant i ti, ac na thawo. O Arglwydd fy Nuw, yn dragwyddol y’th foliannaf.
18 A’r Arglwydd a ymddangosodd iddo ef yng ngwastadedd Mamre, ac efe yn eistedd wrth ddrws y babell, yng ngwres y dydd. 2 Ac efe a gododd ei lygaid, ac a edrychodd, ac wele driwyr yn sefyll ger ei fron: a phan eu gwelodd, efe a redodd o ddrws y babell i’w cyfarfod hwynt, ac a ymgrymodd tua’r ddaear, 3 Ac a ddywedodd, Fy Arglwydd, os cefais yn awr ffafr yn dy olwg di, na ddos heibio, atolwg, oddi wrth dy was. 4 Cymerer, atolwg, ychydig ddwfr, a golchwch eich traed, a gorffwyswch dan y pren; 5 Ac mi a ddygaf damaid o fara, a chryfhewch eich calon; wedi hynny y cewch fyned ymaith: oherwydd i hynny y daethoch at eich gwas. A hwy a ddywedasant, Gwna felly, fel y dywedaist. 6 Ac Abraham a frysiodd i’r babell at Sara, ac a ddywedodd, Paratoa ar frys dair ffiolaid o flawd peilliaid, tylina, a gwna yn deisennau. 7 Ac Abraham a redodd at y gwartheg, ac a gymerodd lo tyner a da, ac a’i rhoddodd at y llanc, yr hwn a frysiodd i’w baratoi ef. 8 Ac efe a gymerodd ymenyn, a llaeth, a’r llo a baratoesai efe, ac a’i rhoddes o’u blaen hwynt: ac efe a safodd gyda hwynt tan y pren; a hwy a fwytasant.
12 Ac efe a ddywedodd hefyd wrth yr hwn a’i gwahoddasai ef, Pan wnelych ginio neu swper, na alw dy gyfeillion, na’th frodyr, na’th geraint, na’th gymdogion goludog; rhag iddynt hwythau eilchwyl dy wahodd dithau, a gwneuthur taledigaeth i ti. 13 Eithr pan wnelych wledd, galw’r tlodion, yr efryddion, y cloffion, y deillion: 14 A dedwydd fyddi; am nad oes ganddynt ddim i dalu i ti: canys fe a delir i ti yn atgyfodiad y rhai cyfiawn.
William Morgan Welsh Bible Edition © British & Foreign Bible Society 1992.