Revised Common Lectionary (Complementary)
Caniad y graddau, o’r eiddo Dafydd.
133 Wele mor ddaionus ac mor hyfryd yw trigo o frodyr ynghyd! 2 Y mae fel yr ennaint gwerthfawr ar y pen, yn disgyn ar hyd y farf, sef barf Aaron; yr hwn oedd yn disgyn ar hyd ymyl ei wisgoedd ef: 3 Fel gwlith Hermon, ac fel y gwlith yn disgyn ar fynyddoedd Seion: canys yno y gorchmynnodd yr Arglwydd y fendith, sef bywyd yn dragywydd.
9 A phan gynaeafoch gynhaeaf eich tir, na feda yn llwyr gonglau dy faes, ac na chynnull loffion dy gynhaeaf. 10 Na loffa hefyd dy winllan, ac na chynnull rawn gweddill dy winllan; gad hwynt i’r tlawd ac i’r dieithr: yr Arglwydd eich Duw chwi ydwyf fi.
11 Na ladratewch, ac na ddywedwch gelwydd, ac na thwyllwch bob un ei gymydog.
12 Ac na thyngwch i’m henw i yn anudon, ac na haloga enw dy Dduw; yr Arglwydd ydwyf fi.
13 Na chamatal oddi wrth dy gymydog, ac nac ysbeilia ef: na thriged cyflog y gweithiwr gyda thi hyd y bore.
14 Na felltiga’r byddar, ac na ddod dramgwydd o flaen y dall; ond ofna dy Dduw: yr Arglwydd ydwyf fi.
15 Na wnewch gam mewn barn; na dderbyn wyneb y tlawd, ac na pharcha wyneb y cadarn: barna dy gymydog mewn cyfiawnder.
16 Ac na rodia yn athrodwr ymysg dy bobl; na saf yn erbyn gwaed dy gymydog: yr Arglwydd ydwyf fi.
17 Na chasâ dy frawd yn dy galon: gan geryddu cerydda dy gymydog, ac na ddioddef bechod ynddo.
18 Na ddiala, ac na chadw lid i feibion dy bobl; ond câr dy gymydog megis ti dy hun: yr Arglwydd ydwyf fi.
25 Ac wele, rhyw gyfreithiwr a gododd, gan ei demtio ef, a dywedyd, Athro, pa beth a wnaf i gael etifeddu bywyd tragwyddol? 26 Yntau a ddywedodd wrtho, Pa beth sydd ysgrifenedig yn y gyfraith? pa fodd y darlleni? 27 Ac efe gan ateb a ddywedodd, Ti a geri yr Arglwydd dy Dduw â’th holl galon, ac â’th holl enaid, ac â’th holl nerth, ac â’th holl feddwl; a’th gymydog fel ti dy hun. 28 Yntau a ddywedodd wrtho, Ti a atebaist yn uniawn: gwna hyn, a byw fyddi.
William Morgan Welsh Bible Edition © British & Foreign Bible Society 1992.