Chronological
1 Paul, wedi ei alw i fod yn apostol Iesu Grist trwy ewyllys Duw, a’r brawd Sosthenes, 2 At eglwys Dduw yr hon sydd yng Nghorinth, at y rhai a sancteiddiwyd yng Nghrist Iesu, a alwyd yn saint, gyda phawb ag sydd yn galw ar enw ein Harglwydd Iesu Grist, ym mhob man, o’r eiddynt hwy a ninnau: 3 Gras fyddo i chwi, a thangnefedd, oddi wrth Dduw ein Tad ni, a’r Arglwydd Iesu Grist. 4 Yr ydwyf yn diolch i’m Duw bob amser drosoch chwi, am y gras Duw a rodded i chwi yng Nghrist Iesu; 5 Am eich bod ym mhob peth wedi eich cyfoethogi ynddo ef, mewn pob ymadrodd, a phob gwybodaeth; 6 Megis y cadarnhawyd tystiolaeth Crist ynoch: 7 Fel nad ydych yn ôl mewn un dawn, yn disgwyl am ddatguddiad ein Harglwydd Iesu Grist: 8 Yr hwn hefyd a’ch cadarnha chwi hyd y diwedd, yn ddiargyhoedd, yn nydd ein Harglwydd Iesu Grist. 9 Ffyddlon yw Duw, trwy yr hwn y’ch galwyd i gymdeithas ei Fab ef Iesu Grist ein Harglwydd ni. 10 Ac yr wyf yn atolwg i chwi, frodyr, trwy enw ein Harglwydd Iesu Grist, ddywedyd o bawb ohonoch chwi yr un peth, ac na byddo ymbleidio yn eich plith; eithr bod ohonoch wedi eich cyfan gysylltu yn yr un meddwl, ac yn yr un farn. 11 Canys fe ddangoswyd i mi amdanoch chwi, fy mrodyr, gan y rhai sydd o dŷ Chlöe, fod cynhennau yn eich plith chwi. 12 A hyn yr ydwyf yn ei ddywedyd, bod pob un ohonoch yn dywedyd, Yr ydwyf fi yn eiddo Paul; minnau yn eiddo Apolos; minnau yn eiddo Ceffas; minnau yn eiddo Crist. 13 A rannwyd Crist? ai Paul a groeshoeliwyd drosoch? neu ai yn enw Paul y’ch bedyddiwyd chwi? 14 Yr ydwyf yn diolch i Dduw, na fedyddiais i neb ohonoch, ond Crispus a Gaius; 15 Fel na ddywedo neb fedyddio ohonof fi yn fy enw fy hun. 16 Mi a fedyddiais hefyd dylwyth Steffanas: heblaw hynny nis gwn a fedyddiais i neb arall. 17 Canys nid anfonodd Crist fi i fedyddio, ond i efengylu; nid mewn doethineb ymadrodd, fel na wnelid croes Crist yn ofer. 18 Canys yr ymadrodd am y groes, i’r rhai colledig, ynfydrwydd yw; eithr i ni’r rhai cadwedig, nerth Duw ydyw. 19 Canys ysgrifenedig yw, Mi a ddifethaf ddoethineb y doethion, a deall y rhai deallus a ddileaf. 20 Pa le y mae’r doeth? pa le mae’r ysgrifennydd? pa le y mae ymholydd y byd hwn? oni wnaeth Duw ddoethineb y byd hwn yn ynfydrwydd? 21 Canys oherwydd yn noethineb Duw, nad adnabu’r byd trwy ddoethineb mo Dduw, fe welodd Duw yn dda trwy ffolineb pregethu gadw y rhai sydd yn credu. 22 Oblegid y mae’r Iddewon yn gofyn arwydd, a’r Groegwyr yn ceisio doethineb: 23 Eithr nyni ydym yn pregethu Crist wedi ei groeshoelio, i’r Iddewon yn dramgwydd, ac i’r Groegwyr yn ffolineb; 24 Ond iddynt hwy y rhai a alwyd, Iddewon a Groegwyr, yn Grist gallu Duw, a doethineb Duw. 25 Canys y mae ffolineb Duw yn ddoethach na dynion; a gwendid Duw yn gryfach na dynion. 26 Canys yr ydych yn gweled eich galwedigaeth, frodyr, nad llawer o rai doethion yn ôl y cnawd, nad llawer o rai galluog, nad llawer o rai boneddigion, a alwyd: 27 Eithr Duw a etholodd ffôl bethau’r byd, fel y gwaradwyddai’r doethion; a gwan bethau’r byd a etholodd Duw, fel y gwaradwyddai’r pethau cedyrn; 28 A phethau distadl y byd, a phethau dirmygus, a ddewisodd Duw, a’r pethau nid ydynt, fel y diddymai’r pethau sydd: 29 Fel na orfoleddai un cnawd ger ei fron ef. 30 Eithr yr ydych chwi ohono ef yng Nghrist Iesu, yr hwn a wnaethpwyd i ni gan Dduw yn ddoethineb, ac yn gyfiawnder, ac yn sancteiddrwydd, ac yn brynedigaeth: 31 Fel megis ag y mae yn ysgrifenedig, Yr hwn sydd yn ymffrostio, ymffrostied yn yr Arglwydd.
2 A myfi, pan ddeuthum atoch, frodyr, a ddeuthum nid yn ôl godidowgrwydd ymadrodd neu ddoethineb, gan fynegi i chwi dystiolaeth Duw. 2 Canys ni fernais i mi wybod dim yn eich plith, ond Iesu Grist, a hwnnw wedi ei groeshoelio. 3 A mi a fûm yn eich mysg mewn gwendid, ac ofn, a dychryn mawr. 4 A’m hymadrodd a’m pregeth i, ni bu mewn geiriau denu o ddoethineb ddynol, ond yn eglurhad yr Ysbryd a nerth: 5 Fel na byddai eich ffydd mewn doethineb dynion, ond mewn nerth Duw. 6 A doethineb yr ydym ni yn ei llefaru ymysg rhai perffaith: eithr nid doethineb y byd hwn, na thywysogion y byd hwn, y rhai sydd yn diflannu. 7 Eithr yr ydym ni yn llefaru doethineb Duw mewn dirgelwch, sef y ddoethineb guddiedig, yr hon a ragordeiniodd Duw cyn yr oesoedd i’n gogoniant ni: 8 Yr hon nid adnabu neb o dywysogion y byd hwn: oherwydd pes adwaenasent, ni chroeshoeliasent Arglwydd y gogoniant. 9 Eithr fel y mae yn ysgrifenedig, Ni welodd llygad, ac ni chlywodd clust, ac ni ddaeth i galon dyn, y pethau a ddarparodd Duw i’r rhai a’i carant ef. 10 Eithr Duw a’u heglurodd i ni trwy ei Ysbryd: canys yr Ysbryd sydd yn chwilio pob peth; ie, dyfnion bethau Duw hefyd. 11 Canys pa ddyn a edwyn bethau dyn, ond ysbryd dyn yr hwn sydd ynddo ef? felly hefyd, pethau Duw nid edwyn neb, ond Ysbryd Duw. 12 A nyni a dderbyniasom, nid ysbryd y byd, ond yr Ysbryd sydd o Dduw; fel y gwypom y pethau a rad roddwyd i ni gan Dduw. 13 Y rhai yr ydym yn eu llefaru hefyd, nid â’r geiriau a ddysgir gan ddoethineb ddynol, ond a ddysgir gan yr Ysbryd Glân; gan gydfarnu pethau ysbrydol â phethau ysbrydol. 14 Eithr dyn anianol nid yw yn derbyn y pethau sydd o Ysbryd Duw: canys ffolineb ydynt ganddo ef; ac nis gall eu gwybod, oblegid yn ysbrydol y bernir hwynt. 15 Ond yr hwn sydd ysbrydol, sydd yn barnu pob peth; eithr efe nis bernir gan neb. 16 Canys pwy a wybu feddwl yr Arglwydd, yr hwn a’i cyfarwydda ef? Ond y mae gennym ni feddwl Crist.
3 A myfi, frodyr, ni allwn lefaru wrthych megis wrth rai ysbrydol, ond megis rhai cnawdol, megis wrth rai bach yng Nghrist. 2 Mi a roddais i chwi laeth i’w yfed, ac nid bwyd: canys hyd yn hyn nis gallech, ac nis gellwch chwaith eto yr awron, ei dderbyn. 3 Canys cnawdol ydych chwi eto: canys tra fyddo yn eich plith chwi genfigen, a chynnen, ac ymbleidio; onid ydych yn gnawdol, ac yn rhodio yn ddynol? 4 Canys tra dywedo un, Myfi ydwyf eiddo Paul; ac arall, Myfi wyf eiddo Apolos; onid ydych chwi yn gnawdol? 5 Pwy gan hynny yw Paul, a phwy Apolos, ond gweinidogion trwy y rhai y credasoch chwi, ac fel y rhoddes yr Arglwydd i bob un? 6 Myfi a blennais, Apolos a ddyfrhaodd; ond Duw a roddes y cynnydd. 7 Felly nid yw’r hwn sydd yn plannu ddim, na’r hwn sydd yn dyfrhau; ond Duw, yr hwn sydd yn rhoi’r cynnydd. 8 Eithr yr hwn sydd yn plannu, a’r hwn sydd yn dyfrhau, un ydynt: a phob un a dderbyn ei briod wobr ei hun, yn ôl ei lafur ei hun. 9 Canys cyd‐weithwyr Duw ydym ni: llafurwaith Duw, adeiladaeth Duw, ydych chwi. 10 Yn ôl y gras Duw a roddwyd i mi, megis pensaer celfydd, myfi a osodais y sylfaen, ac y mae arall yn goruwch adeiladu. Ond edryched pob un pa wedd y mae yn goruwch adeiladu. 11 Canys sylfaen arall nis gall neb ei osod, heblaw’r un a osodwyd, yr hwn yw Iesu Grist. 12 Eithr os goruwch adeilada neb ar y sylfaen hwn, aur, arian, meini gwerthfawr, coed, gwair, sofl; 13 Gwaith pob dyn a wneir yn amlwg: canys y dydd a’i dengys, oblegid trwy dân y datguddir ef; a’r tân a brawf waith pawb, pa fath ydyw. 14 Os gwaith neb a erys, yr hwn a oruwch adeiladodd ef, efe a dderbyn wobr. 15 Os gwaith neb a losgir, efe a gaiff golled: eithr efe ei hun a fydd cadwedig; eto felly, megis trwy dân. 16 Oni wyddoch chwi mai teml Dduw ydych, a bod Ysbryd Duw yn trigo ynoch? 17 Os llygra neb deml Dduw, Duw a lygra hwnnw: canys sanctaidd yw teml Duw, yr hon ydych chwi. 18 Na thwylled neb ei hunan. Od oes neb yn eich mysg yn tybied ei fod ei hun yn ddoeth yn y byd hwn, bydded ffôl, fel y byddo doeth. 19 Canys doethineb y byd hwn sydd ffolineb gyda Duw: oherwydd ysgrifenedig yw, Y mae efe yn dal y doethion yn eu cyfrwystra. 20 A thrachefn, Y mae yr Arglwydd yn gwybod meddyliau y doethion, mai ofer ydynt. 21 Am hynny na orfoledded neb mewn dynion: canys pob peth sydd eiddoch chwi: 22 Pa un bynnag ai Paul, ai Apolos, ai Ceffas, ai’r byd, ai bywyd, ai angau, ai pethau presennol, ai pethau i ddyfod; y mae pob peth yn eiddoch chwi; 23 A chwithau yn eiddo Crist; a Crist yn eiddo Duw.
4 Felly cyfrifed dyn nyni, megis gweinidogion i Grist, a goruchwylwyr ar ddirgeledigaethau Duw. 2 Am ben hyn, yr ydys yn disgwyl mewn goruchwylwyr, gael un yn ffyddlon. 3 Eithr gennyf fi bychan iawn yw fy marnu gennych chwi, neu gan farn dyn: ac nid wyf chwaith yn fy marnu fy hun. 4 Canys ni wn i ddim arnaf fy hun; ond yn hyn ni’m cyfiawnhawyd: eithr yr Arglwydd yw’r hwn sydd yn fy marnu. 5 Am hynny na fernwch ddim cyn yr amser, hyd oni ddelo’r Arglwydd, yr hwn a oleua ddirgelion y tywyllwch, ac a eglura fwriadau’r calonnau: ac yna y bydd y glod i bob un gan Dduw. 6 A’r pethau hyn, frodyr, mewn cyffelybiaeth a fwriais i ataf fy hun ac at Apolos, o’ch achos chwi: fel y gallech ddysgu ynom ni, na synier mwy nag sydd ysgrifenedig, fel na byddoch y naill dros y llall yn ymchwyddo yn erbyn arall. 7 Pwy sydd yn gwneuthur rhagor rhyngot ti ac arall? a pha beth sydd gennyt a’r nas derbyniaist? ac os derbyniaist, paham yr wyt ti yn gorfoleddu, megis pe bait heb dderbyn? 8 Yr ydych chwi yr awron wedi eich diwallu, yr ydych chwi yr awron wedi eich cyfoethogi, chwi a deyrnasasoch hebom ni: ac och Dduw na baech yn teyrnasu, fel y caem ninnau deyrnasu gyda chwi. 9 Canys tybied yr wyf ddarfod i Dduw ein dangos ni, yr apostolion diwethaf, fel rhai wedi eu bwrw i angau: oblegid nyni a wnaethpwyd yn ddrych i’r byd, ac i’r angylion, ac i ddynion. 10 Yr ydym ni yn ffyliaid er mwyn Crist, a chwithau yn ddoethion yng Nghrist; nyni yn weiniaid, a chwithau yn gryfion; chwychwi yn anrhydeddus, a ninnau yn ddirmygus. 11 Hyd yr awr hon yr ydym ni yn dwyn newyn a syched, ac yr ydym ni yn noethion, ac yn cael cernodiau, ac yn grwydraidd; 12 Ac yr ydym yn llafurio, gan weithio â’n dwylo’n hunain. Pan y’n difenwir, yr ydym yn bendithio; pan y’n herlidir, yr ydym yn ei ddioddef; 13 Pan y’n ceblir, yr ydym yn gweddïo: fel ysgubion y byd y gwnaethpwyd ni, a sorod pob dim, hyd yn hyn. 14 Nid i’ch gwaradwyddo chwi yr ydwyf yn ysgrifennu’r pethau hyn; ond eich rhybuddio yr wyf fel fy mhlant annwyl. 15 Canys pe byddai i chwi ddeng mil o athrawon yng Nghrist, er hynny nid oes i chwi nemor o dadau: canys myfi a’ch cenhedlais chwi yng Nghrist Iesu trwy’r efengyl. 16 Am hynny yr wyf yn atolwg i chwi, byddwch ddilynwyr i mi. 17 Oblegid hyn yr anfonais atoch Timotheus, yr hwn yw fy annwyl fab, a ffyddlon yn yr Arglwydd; yr hwn a ddwg ar gof i chwi fy ffyrdd i yng Nghrist, megis yr wyf ym mhob man yn athrawiaethu ym mhob eglwys. 18 Ac y mae rhai wedi ymchwyddo, fel pe bawn i heb fod ar fedr dyfod atoch chwi. 19 Eithr mi a ddeuaf atoch ar fyrder, os yr Arglwydd a’i myn; ac a fynnaf wybod, nid ymadrodd y rhai sydd wedi chwyddo, ond eu gallu. 20 Canys nid mewn ymadrodd y mae teyrnas Dduw; eithr mewn gallu. 21 Beth a fynnwch chwi? ai dyfod ohonof fi atoch chwi â gwialen, ynteu mewn cariad, ac ysbryd addfwynder?
William Morgan Welsh Bible Edition © British & Foreign Bible Society 1992.