Chronological
15 A hwy a ddygasant ato blant bychain hefyd, fel y cyffyrddai efe â hwynt: a’r disgyblion pan welsant, a’u ceryddasant hwy. 16 Eithr yr Iesu a’u galwodd hwynt ato, ac a ddywedodd, Gadewch i’r plant bychain ddyfod ataf fi, ac na waherddwch hwynt: canys eiddo’r cyfryw rai yw teyrnas Dduw. 17 Yn wir meddaf i chwi, Pwy bynnag ni dderbynio deyrnas Dduw fel dyn bach, nid â efe i mewn iddi.
18 A rhyw lywodraethwr a ofynnodd iddo, gan ddywedyd, Athro da, wrth wneuthur pa beth yr etifeddaf fi fywyd tragwyddol? 19 A’r Iesu a ddywedodd wrtho, Paham y’m gelwi yn dda? nid oes neb yn dda ond un, sef Duw. 20 Ti a wyddost y gorchmynion, Na odineba, Na ladd, Na ladrata, Na ddwg gamdystiolaeth, Anrhydedda dy dad a’th fam. 21 Ac efe a ddywedodd, Hyn oll a gedwais o’m hieuenctid. 22 A’r Iesu pan glybu hyn, a ddywedodd wrtho, Y mae un peth eto yn ôl i ti: gwerth yr hyn oll sydd gennyt, a dyro i’r tlodion; a thi a gei drysor yn y nef: a thyred, canlyn fi. 23 Ond pan glybu efe y pethau hyn, efe a aeth yn athrist: canys yr oedd efe yn gyfoethog iawn. 24 A’r Iesu, pan welodd ef wedi myned yn athrist, a ddywedodd, Mor anodd yr â’r rhai y mae golud ganddynt i mewn i deyrnas Dduw! 25 Canys haws yw i gamel fyned trwy grau’r nodwydd ddur, nag i oludog fyned i mewn i deyrnas Dduw. 26 A’r rhai a glywsent a ddywedasant, A phwy a all fod yn gadwedig? 27 Ac efe a ddywedodd, Y pethau sydd amhosibl gyda dynion, sydd bosibl gyda Duw. 28 A dywedodd Pedr, Wele, nyni a adawsom bob peth, ac a’th ganlynasom di. 29 Ac efe a ddywedodd wrthynt, Yn wir meddaf i chwi, Nid oes neb a’r a adawodd dŷ, neu rieni, neu frodyr, neu wraig, neu blant, er mwyn teyrnas Dduw, 30 A’r ni dderbyn lawer cymaint yn y pryd hwn, ac yn y byd a ddaw fywyd tragwyddol.
31 Ac efe a gymerodd y deuddeg ato, ac a ddywedodd wrthynt, Wele, yr ydym ni yn myned i fyny i Jerwsalem; a chyflawnir pob peth a’r sydd yn ysgrifenedig trwy’r proffwydi am Fab y dyn. 32 Canys efe a draddodir i’r Cenhedloedd, ac a watwerir, ac a amherchir, ac a boerir arno: 33 Ac wedi iddynt ei fflangellu, y lladdant ef: a’r trydydd dydd efe a atgyfyd. 34 A hwy ni ddeallasant ddim o’r pethau hyn; a’r gair hwn oedd guddiedig oddi wrthynt, ac ni wybuant y pethau a ddywedwyd.
35 A bu, ac efe yn nesáu at Jericho, i ryw ddyn dall fod yn eistedd yn ymyl y ffordd yn cardota: 36 A phan glybu efe y dyrfa yn myned heibio, efe a ofynnodd pa beth oedd hyn. 37 A hwy a ddywedasant iddo, Mai Iesu o Nasareth oedd yn myned heibio. 38 Ac efe a lefodd, gan ddywedyd, Iesu, Mab Dafydd, trugarha wrthyf. 39 A’r rhai oedd yn myned o’r blaen a’i ceryddasant ef i dewi: eithr efe a lefodd yn fwy o lawer, Mab Dafydd, trugarha wrthyf. 40 A’r Iesu a safodd, ac a orchmynnodd ei ddwyn ef ato. A phan ddaeth efe yn agos, efe a ofynnodd iddo, 41 Gan ddywedyd, Pa beth a fynni di i mi ei wneuthur i ti? Yntau a ddywedodd, Arglwydd, cael ohonof fy ngolwg. 42 A’r Iesu a ddywedodd wrtho, Cymer dy olwg: dy ffydd a’th iachaodd. 43 Ac allan o law y cafodd efe ei olwg, ac a’i canlynodd ef, gan ogoneddu Duw. A’r holl bobl, pan welsant, a roesant foliant i Dduw.
19 A’r Iesu a aeth i mewn, ac a aeth trwy Jericho. 2 Ac wele ŵr a elwid wrth ei enw Saccheus, ac efe oedd ben‐publican, a hwn oedd gyfoethog. 3 Ac yr oedd efe yn ceisio gweled yr Iesu, pwy ydoedd; ac ni allai gan y dyrfa, am ei fod yn fychan o gorffolaeth. 4 Ac efe a redodd o’r blaen, ac a ddringodd i sycamorwydden, fel y gallai ei weled ef; oblegid yr oedd efe i ddyfod y ffordd honno. 5 A phan ddaeth yr Iesu i’r lle, efe a edrychodd i fyny, ac a’i canfu ef; ac a ddywedodd wrtho, Saccheus, disgyn ar frys: canys rhaid i mi heddiw aros yn dy dŷ di. 6 Ac efe a ddisgynnodd ar frys, ac a’i derbyniodd ef yn llawen. 7 A phan welsant, grwgnach a wnaethant oll, gan ddywedyd, Fyned ohono ef i mewn i letya at ŵr pechadurus. 8 A Saccheus a safodd, ac a ddywedodd wrth yr Arglwydd, Wele, hanner fy na, O Arglwydd, yr ydwyf yn ei roddi i’r tlodion; ac os dygais ddim o’r eiddo neb trwy gamachwyn, yr ydwyf yn ei dalu ar ei bedwerydd. 9 A’r Iesu a ddywedodd wrtho, Heddiw y daeth iachawdwriaeth i’r tŷ hwn, oherwydd ei fod yntau yn fab i Abraham. 10 Canys Mab y dyn a ddaeth i geisio ac i gadw yr hyn a gollasid.
11 Ac a hwy yn gwrando ar y pethau hyn, efe a chwanegodd, ac a ddywedodd ddameg, am ei fod efe yn agos i Jerwsalem, ac am iddynt dybied yr ymddangosai teyrnas Dduw yn y fan. 12 Am hynny y dywedodd efe, Rhyw ŵr bonheddig a aeth i wlad bell i dderbyn teyrnas iddo’i hun, ac i ddychwelyd. 13 Ac wedi galw ei ddeg gwas, efe a roddes iddynt ddeg punt, ac a ddywedodd wrthynt, Marchnatewch hyd oni ddelwyf. 14 Eithr ei ddinaswyr a’i casasant ef, ac a ddanfonasant genadwri ar ei ôl ef, gan ddywedyd, Ni fynnwn ni hwn i deyrnasu arnom. 15 A bu, pan ddaeth efe yn ei ôl, wedi derbyn y deyrnas, erchi ohono ef alw’r gweision hyn ato, i’r rhai y rhoddasai efe yr arian, fel y gwybyddai beth a elwasai bob un wrth farchnata. 16 A daeth y cyntaf, gan ddywedyd, Arglwydd, dy bunt a enillodd ddeg punt. 17 Yntau a ddywedodd wrtho, Da, was da: am i ti fod yn ffyddlon yn y lleiaf, bydded i ti awdurdod ar ddeg dinas. 18 A’r ail a ddaeth, gan ddywedyd, Arglwydd, dy bunt di a wnaeth bum punt. 19 Ac efe a ddywedodd hefyd wrth hwnnw, Bydd dithau ar bum dinas. 20 Ac un arall a ddaeth, gan ddywedyd, Arglwydd, wele dy bunt, yr hon oedd gennyf wedi ei dodi mewn napgyn: 21 Canys mi a’th ofnais, am dy fod yn ŵr tost: yr wyt ti yn cymryd i fyny y peth ni roddaist i lawr, ac yn medi y peth ni heuaist. 22 Yntau a ddywedodd wrtho, O’th enau dy hun y’th farnaf, tydi was drwg. Ti a wyddit fy mod i yn ŵr tost, yn cymryd i fyny y peth ni roddais i lawr, ac yn medi y peth ni heuais: 23 A phaham na roddaist fy arian i i’r bwrdd cyfnewid, fel, pan ddaethwn, y gallaswn ei gael gyda llog? 24 Ac efe a ddywedodd wrth y rhai oedd yn sefyll gerllaw, Dygwch oddi arno ef y bunt, a rhoddwch i’r hwn sydd â deg punt ganddo; 25 (A hwy a ddywedasant wrtho, Arglwydd, y mae ganddo ef ddeg punt;) 26 Canys yr wyf fi yn dywedyd i chwi, mai i bob un y mae ganddo, y rhoddir iddo; eithr oddi ar yr hwn nid oes ganddo, y dygir oddi arno, ie, yr hyn sydd ganddo. 27 A hefyd fy ngelynion hynny, y rhai ni fynasent i mi deyrnasu arnynt, dygwch hwynt yma, a lleddwch ger fy mron i.
28 Ac wedi iddo ddywedyd y pethau hyn, efe a aeth o’r blaen, gan fyned i fyny i Jerwsalem. 29 Ac fe a ddigwyddodd pan ddaeth efe yn agos at Bethffage a Bethania, i’r mynydd a elwir Olewydd, efe a anfonodd ddau o’i ddisgyblion, 30 Gan ddywedyd, Ewch i’r pentref ar eich cyfer; yn yr hwn, gwedi eich dyfod i mewn, chwi a gewch ebol yn rhwym, ar yr hwn nid eisteddodd dyn erioed: gollyngwch ef, a dygwch yma. 31 Ac os gofyn neb i chwi, Paham yr ydych yn ei ollwng? fel hyn y dywedwch wrtho, Am fod yn rhaid i’r Arglwydd wrtho. 32 A’r rhai a ddanfonasid a aethant ymaith, ac a gawsant fel y dywedasai efe wrthynt. 33 Ac fel yr oeddynt yn gollwng yr ebol, ei berchenogion a ddywedasant wrthynt, Paham yr ydych yn gollwng yr ebol? 34 A hwy a ddywedasant, Mae yn rhaid i’r Arglwydd wrtho ef. 35 A hwy a’i dygasant ef at yr Iesu: ac wedi iddynt fwrw eu dillad ar yr ebol, hwy a ddodasant yr Iesu arno. 36 Ac fel yr oedd efe yn myned, hwy a daenasant eu dillad ar hyd y ffordd. 37 Ac weithian, ac efe yn nesáu at ddisgynfa mynydd yr Olewydd, dechreuodd yr holl liaws disgyblion lawenhau, a chlodfori Duw â llef uchel, am yr holl weithredoedd nerthol a welsent; 38 Gan ddywedyd, Bendigedig yw y Brenin sydd yn dyfod yn enw’r Arglwydd: Tangnefedd yn y nef, a gogoniant yn y goruchaf. 39 A rhai o’r Phariseaid o’r dyrfa a ddywedasant wrtho, Athro, cerydda dy ddisgyblion. 40 Ac efe a atebodd ac a ddywedodd wrthynt, Yr ydwyf yn dywedyd i chwi, Pe tawai’r rhai hyn, y llefai’r cerrig yn y fan.
41 Ac wedi iddo ddyfod yn agos, pan welodd efe y ddinas, efe a wylodd drosti, 42 Gan ddywedyd, Pe gwybuasit tithau, ie, yn dy ddydd hwn, y pethau a berthynent i’th heddwch! eithr y maent yn awr yn guddiedig oddi wrth dy lygaid. 43 Canys daw’r dyddiau arnat, a’th elynion a fwriant glawdd o’th amgylch, ac a’th amgylchant, ac a’th warchaeant o bob parth, 44 Ac a’th wnânt yn gydwastad â’r llawr, a’th blant o’th fewn; ac ni adawant ynot faen ar faen; oherwydd nad adnabuost amser dy ymweliad. 45 Ac efe a aeth i mewn i’r deml, ac a ddechreuodd fwrw allan y rhai oedd yn gwerthu ynddi, ac yn prynu; 46 Gan ddywedyd wrthynt, Y mae yn ysgrifenedig, Fy nhŷ i, tŷ gweddi yw: eithr chwi a’i gwnaethoch yn ogof lladron. 47 Ac yr oedd efe beunydd yn athrawiaethu yn y deml. A’r archoffeiriaid, a’r ysgrifenyddion, a phenaethiaid y bobl, a geisient ei ddifetha ef; 48 Ac ni fedrasant gael beth a wnaent: canys yr holl bobl oedd yn glynu wrtho i wrando arno.
William Morgan Welsh Bible Edition © British & Foreign Bible Society 1992.