Chronological
28 Ac yn niwedd y Saboth, a hi yn dyddhau i’r dydd cyntaf o’r wythnos, daeth Mair Magdalen, a’r Fair arall, i edrych y bedd. 2 Ac wele, bu daeargryn mawr: canys disgynnodd angel yr Arglwydd o’r nef, ac a ddaeth, ac a dreiglodd y maen oddi wrth y drws, ac a eisteddodd arno. 3 A’i wynepryd oedd fel mellten, a’i wisg yn wen fel eira. 4 A rhag ei ofn ef y crynodd y ceidwaid, ac a aethant megis yn feirw. 5 A’r angel a atebodd ac a ddywedodd wrth y gwragedd, Nac ofnwch: canys mi a wn mai ceisio yr ydych yr Iesu, yr hwn a groeshoeliwyd. 6 Nid yw efe yma: canys cyfododd, megis y dywedodd. Deuwch, gwelwch y fan lle y gorweddodd yr Arglwydd. 7 Ac ewch ar ffrwst, a dywedwch i’w ddisgyblion, gyfodi ohono o feirw. Ac wele, y mae efe yn myned o’ch blaen chwi i Galilea: yno gwelwch ef. Wele, dywedais i chwi. 8 Ac wedi eu myned ymaith ar frys oddi wrth y bedd, gydag ofn a llawenydd mawr, rhedasant i fynegi i’w ddisgyblion ef.
9 Ac fel yr oeddynt yn myned i fynegi i’w ddisgyblion ef, wele, yr Iesu a gyfarfu â hwynt, gan ddywedyd, Henffych well. A hwy a ddaethant, ac a ymafaelasant yn ei draed ef, ac a’i haddolasant. 10 Yna y dywedodd yr Iesu wrthynt, Nac ofnwch: ewch, mynegwch i’m brodyr, fel yr elont i Galilea, ac yno y’m gwelant i.
11 Ac wedi eu myned hwy, wele, rhai o’r wyliadwriaeth a ddaethant i’r ddinas, ac a fynegasant i’r archoffeiriaid yr hyn oll a wnaethid. 12 Ac wedi iddynt ymgasglu ynghyd gyda’r henuriaid, a chydymgynghori, hwy a roesant arian lawer i’r milwyr, 13 Gan ddywedyd, Dywedwch, Ei ddisgyblion a ddaethant o hyd nos, ac a’i lladratasant ef, a nyni yn cysgu. 14 Ac os clyw y rhaglaw hyn, ni a’i perswadiwn ef, ac a’ch gwnawn chwi yn ddiofal. 15 A hwy a gymerasant yr arian, ac a wnaethant fel yr addysgwyd hwynt: a thaenwyd y gair hwn ymhlith yr Iddewon hyd y dydd heddiw.
16 A’r un disgybl ar ddeg a aethant i Galilea, i’r mynydd lle yr ordeiniasai’r Iesu iddynt. 17 A phan welsant ef, hwy a’i haddolasant ef: ond rhai a ameuasant. 18 A’r Iesu a ddaeth, ac a lefarodd wrthynt, gan ddywedyd, Rhoddwyd i mi bob awdurdod yn y nef ac ar y ddaear. 19 Ewch gan hynny a dysgwch yr holl genhedloedd, gan eu bedyddio hwy yn enw’r Tad, a’r Mab, a’r Ysbryd Glân; 20 Gan ddysgu iddynt gadw pob peth a’r a orchmynnais i chwi. Ac wele, yr ydwyf fi gyda chwi bob amser hyd ddiwedd y byd. Amen.
16 Ac wedi darfod y dydd Saboth, Mair Magdalen, a Mair mam Iago, a Salome, a brynasant beraroglau, i ddyfod i’w eneinio ef. 2 Ac yn fore iawn, y dydd cyntaf o’r wythnos, y daethant at y bedd, a’r haul wedi codi. 3 A hwy a ddywedasant wrth ei gilydd, Pwy a dreigla i ni y maen ymaith oddi wrth ddrws y bedd? 4 (A phan edrychasant, hwy a ganfuant fod y maen wedi ei dreiglo ymaith;) canys yr oedd efe yn fawr iawn. 5 Ac wedi iddynt fyned i mewn i’r bedd, hwy a welsant fab ieuanc yn eistedd o’r tu deau, wedi ei ddilladu â gwisg wenllaes; ac a ddychrynasant. 6 Ac efe a ddywedodd wrthynt, Na ddychrynwch. Ceisio yr ydych yr Iesu o Nasareth, yr hwn a groeshoeliwyd: efe a gyfododd; nid yw efe yma: wele y man y dodasant ef. 7 Eithr ewch ymaith, dywedwch i’w ddisgyblion ef, ac i Pedr, ei fod ef yn myned o’ch blaen chwi i Galilea: yno y cewch ei weled ef, fel y dywedodd i chwi. 8 Ac wedi myned allan ar frys, hwy a ffoesant oddi wrth y bedd; canys dychryn a syndod oedd arnynt. Ac ni ddywedasant ddim wrth neb: canys yr oeddynt wedi ofni.
9 A’r Iesu, wedi atgyfodi y bore y dydd cyntaf o’r wythnos, a ymddangosodd yn gyntaf i Mair Magdalen, o’r hon y bwriasai efe allan saith o gythreuliaid. 10 Hithau a aeth, ac a fynegodd i’r rhai a fuasent gydag ef, ac oeddynt mewn galar ac wylofain. 11 A hwythau, pan glywsant ei fod ef yn fyw, ac iddi hi ei weled ef, ni chredent.
12 Ac wedi hynny yr ymddangosodd efe mewn gwedd arall i ddau ohonynt, a hwynt yn ymdeithio, ac yn myned i’r wlad. 13 A hwy a aethant, ac a fynegasant i’r lleill: ac ni chredent iddynt hwythau.
14 Ac ar ôl hynny efe a ymddangosodd i’r un ar ddeg, a hwy yn eistedd i fwyta; ac a ddanododd iddynt eu hanghrediniaeth a’u calon‐galedwch, am na chredasent y rhai a’i gwelsent ef wedi atgyfodi. 15 Ac efe a ddywedodd wrthynt, Ewch i’r holl fyd, a phregethwch yr efengyl i bob creadur. 16 Y neb a gredo ac a fedyddier a fydd cadwedig: eithr y neb ni chredo a gondemnir. 17 A’r arwyddion hyn a ganlynant y rhai a gredant: Yn fy enw i y bwriant allan gythreuliaid; ac â thafodau newyddion y llefarant; 18 Seirff a godant ymaith; ac os yfant ddim marwol, ni wna iddynt ddim niwed; ar y cleifion y rhoddant eu dwylo, a hwy a fyddant iach.
19 Ac felly yr Arglwydd, wedi llefaru wrthynt, a gymerwyd i fyny i’r nef, ac a eisteddodd ar ddeheulaw Duw. 20 A hwythau a aethant allan, ac a bregethasant ym mhob man, a’r Arglwydd yn cydweithio, ac yn cadarnhau’r gair, trwy arwyddion y rhai oedd yn canlyn. Amen.
William Morgan Welsh Bible Edition © British & Foreign Bible Society 1992.