Chronological
11 A’r apostolion a’r brodyr oedd yn Jwdea, a glywsant ddarfod i’r Cenhedloedd hefyd dderbyn gair Duw. 2 A phan ddaeth Pedr i fyny i Jerwsalem, y rhai o’r enwaediad a ymrysonasant yn ei erbyn ef, 3 Gan ddywedyd, Ti a aethost i mewn at wŷr dienwaededig, ac a fwyteaist gyda hwynt. 4 Eithr Pedr a ddechreuodd, ac a eglurodd y peth iddynt mewn trefn, gan ddywedyd, 5 Yr oeddwn i yn ninas Jopa yn gweddïo; ac mewn llewyg y gwelais weledigaeth, Rhyw lestr megis llenlliain fawr yn disgyn, wedi ei gollwng o’r nef erbyn ei phedair congl; a hi a ddaeth hyd ataf fi. 6 Ar yr hon pan edrychais, yr ystyriais, ac mi a welais bedwarcarnolion y ddaear, a gwylltfilod, ac ymlusgiaid, ac ehediaid y nef. 7 Ac mi a glywais lef yn dywedyd wrthyf, Cyfod, Pedr; lladd, a bwyta. 8 Ac mi a ddywedais, Nid felly, Arglwydd: canys dim cyffredin neu aflan nid aeth un amser i’m genau. 9 Eithr y llais a’m hatebodd i eilwaith o’r nef, Y pethau a lanhaodd Duw, na alw di yn gyffredin. 10 A hyn a wnaed dair gwaith: a’r holl bethau a dynnwyd i fyny i’r nef drachefn. 11 Ac wele, yn y man yr oedd tri wŷr yn sefyll wrth y tŷ yr oeddwn ynddo, wedi eu hanfon o Cesarea ataf fi. 12 A’r Ysbryd a archodd i mi fyned gyda hwynt, heb amau dim. A’r chwe brodyr hyn a ddaethant gyda mi; a nyni a ddaethom i mewn i dŷ y gŵr. 13 Ac efe a fynegodd i ni pa fodd y gwelsai efe angel yn ei dŷ, yn sefyll ac yn dywedyd wrtho, Anfon wŷr i Jopa, a gyr am Simon, a gyfenwir Pedr: 14 Yr hwn a lefara eiriau wrthyt, trwy y rhai y’th iacheir di a’th holl dŷ. 15 Ac a myfi yn dechrau llefaru, syrthiodd yr Ysbryd Glân arnynt, megis arnom ninnau yn y dechreuad. 16 Yna y cofiais air yr Arglwydd, y modd y dywedasai efe, Ioan yn wir a fedyddiodd â dwfr; eithr chwi a fedyddir â’r Ysbryd Glân. 17 Os rhoddes Duw gan hynny iddynt hwy gyffelyb rodd ag i ninnau, y rhai a gredasom yn yr Arglwydd Iesu Grist, pwy oeddwn i, i allu lluddias Duw? 18 A phan glywsant y pethau hyn, distawu a wnaethant, a gogoneddu Duw, gan ddywedyd, Fe roddes Duw, gan hynny i’r Cenhedloedd hefyd edifeirwch i fywyd.
19 A’r rhai a wasgarasid oherwydd y blinder a godasai ynghylch Steffan, a dramwyasant hyd yn Phenice, a Cyprus, ac Antiochia, heb lefaru’r gair wrth neb ond wrth yr Iddewon yn unig. 20 A rhai ohonynt oedd wŷr o Cyprus ac o Cyrene, y rhai wedi dyfod i Antiochia, a lefarasant wrth y Groegiaid, gan bregethu yr Arglwydd Iesu. 21 A llaw yr Arglwydd oedd gyda hwynt: a nifer mawr a gredodd, ac a drodd at yr Arglwydd.
22 A’r gair a ddaeth i glustiau yr eglwys oedd yn Jerwsalem am y pethau hyn: a hwy a anfonasant Barnabas i fyned hyd Antiochia. 23 Yr hwn pan ddaeth, a gweled gras Duw, a fu lawen ganddo, ac a gynghorodd bawb oll, trwy lwyrfryd calon, i lynu wrth yr Arglwydd. 24 Oblegid yr oedd efe yn ŵr da, ac yn llawn o’r Ysbryd Glân, ac o ffydd: a llawer o bobl a chwanegwyd i’r Arglwydd. 25 Yna yr aeth Barnabas i Darsus, i geisio Saul. Ac wedi iddo ei gael, efe a’i dug i Antiochia. 26 A bu iddynt flwyddyn gyfan ymgynnull yn yr eglwys, a dysgu pobl lawer; a bod galw y disgyblion yn Gristionogion yn gyntaf yn Antiochia.
27 Ac yn y dyddiau hynny daeth proffwydi o Jerwsalem i waered i Antiochia. 28 Ac un ohonynt, a’i enw Agabus, a gyfododd, ac a arwyddocaodd trwy yr Ysbryd, y byddai newyn mawr dros yr holl fyd: yr hwn hefyd a fu dan Claudius Cesar. 29 Yna y disgyblion, bob un yn ôl ei allu, a fwriadasant anfon cymorth i’r brodyr oedd yn preswylio yn Jwdea: 30 Yr hyn beth hefyd a wnaethant, gan ddanfon at yr henuriaid trwy law Barnabas a Saul.
12 Ac ynghylch y pryd hwnnw yr estynnodd Herod frenin ei ddwylo i ddrygu rhai o’r eglwys. 2 Ac efe a laddodd Iago brawd Ioan â’r cleddyf. 3 A phan welodd fod yn dda gan yr Iddewon hynny, efe a chwanegodd ddala Pedr hefyd. (A dyddiau’r bara croyw ydoedd hi.) 4 Yr hwn, wedi ei ddal, a roddes efe yng ngharchar, ac a’i traddododd at bedwar pedwariaid o filwyr i’w gadw; gan ewyllysio, ar ôl y Pasg, ei ddwyn ef allan at y bobl. 5 Felly Pedr a gadwyd yn y carchar: eithr gweddi ddyfal a wnaethpwyd gan yr eglwys at Dduw drosto ef. 6 A phan oedd Herod â’i fryd ar ei ddwyn ef allan, y nos honno yr oedd Pedr yn cysgu rhwng dau filwr, wedi ei rwymo â dwy gadwyn; a’r ceidwaid o flaen y drws oeddynt yn cadw y carchar. 7 Ac wele, angel yr Arglwydd a safodd gerllaw, a goleuni a ddisgleiriodd yn y carchar: ac efe a drawodd ystlys Pedr, ac a’i cyfododd ef, gan ddywedyd, Cyfod yn fuan. A’i gadwyni ef a syrthiasant oddi wrth ei ddwylo. 8 A dywedodd yr angel wrtho, Ymwregysa, a rhwym dy sandalau. Ac felly y gwnaeth efe. Yna y dywedodd, Bwrw dy wisg amdanat, a chanlyn fi. 9 Ac efe a aeth allan, ac a’i canlynodd ef: ac ni wybu mai gwir oedd y peth a wnaethid gan yr angel; eithr yr oedd yn tybied mai gweled gweledigaeth yr oedd. 10 Ac wedi myned ohonynt heblaw y gyntaf a’r ail wyliadwriaeth, hwy a ddaethant i’r porth haearn yr hwn sydd yn arwain i’r ddinas, yr hwn a ymagorodd iddynt o’i waith ei hun: ac wedi eu myned allan, hwy a aethant ar hyd un heol; ac yn ebrwydd yr angel a aeth ymaith oddi wrtho. 11 A Phedr, wedi dyfod ato ei hun, a ddywedodd, Yn awr y gwn yn wir anfon o’r Arglwydd ei angel, a’m gwared i allan o law Herod, ac oddi wrth holl ddisgwyliad pobl yr Iddewon. 12 Ac wedi iddo gymryd pwyll, efe a ddaeth i dŷ Mair mam Ioan, yr hwn oedd â’i gyfenw Marc, lle yr oedd llawer wedi ymgasglu, ac yn gweddïo. 13 Ac fel yr oedd Pedr yn curo drws y porth, morwyn a ddaeth i ymwrando, a’i henw Rhode. 14 A phan adnabu hi lais Pedr, nid agorodd hi y porth gan lawenydd; eithr hi a redodd i mewn, ac a fynegodd fod Pedr yn sefyll o flaen y porth. 15 Hwythau a ddywedasant wrthi, Yr wyt ti’n ynfydu. Hithau a daerodd mai felly yr oedd. Eithr hwy a ddywedasant, Ei angel ef ydyw. 16 A Phedr a barhaodd yn curo: ac wedi iddynt agori, hwy a’i gwelsant ef, ac a synasant. 17 Ac efe a amneidiodd arnynt â llaw i dewi, ac a adroddodd iddynt pa wedd y dygasai’r Arglwydd ef allan o’r carchar: ac efe a ddywedodd, Mynegwch y pethau hyn i Iago, ac i’r brodyr. Ac efe a ymadawodd, ac a aeth i le arall. 18 Ac wedi ei myned hi yn ddydd, yr oedd trallod nid bychan ymhlith y milwyr, pa beth a ddaethai o Pedr. 19 Eithr Herod, pan ei ceisiodd ef, ac heb ei gael, a holodd y ceidwaid, ac a orchmynnodd eu cymryd hwy ymaith. Yntau a aeth i waered o Jwdea i Cesarea, ac a arhosodd yno.
20 Eithr Herod oedd yn llidiog iawn yn erbyn gwŷr Tyrus a Sidon: a hwy a ddaethant yn gytûn ato; ac wedi ennill Blastus, yr hwn oedd ystafellydd y brenin, hwy a ddeisyfasant dangnefedd; am fod eu gwlad hwynt yn cael ei chynhaliaeth o wlad y brenin. 21 Ac ar ddydd nodedig, Herod, gwedi gwisgo dillad brenhinol, a eisteddodd ar orseddfainc, ac a areithiodd wrthynt. 22 A’r bobl a roes floedd, Lleferydd Duw, ac nid dyn ydyw. 23 Ac allan o law y trawodd angel yr Arglwydd ef, am na roesai’r gogoniant i Dduw: a chan bryfed yn ei ysu, efe a drengodd.
24 A gair Duw a gynyddodd ac a amlhaodd. 25 A Barnabas a Saul, wedi cyflawni eu gweinidogaeth, a ddychwelasant o Jerwsalem, gan gymryd gyda hwynt Ioan hefyd, yr hwn a gyfenwid Marc.
William Morgan Welsh Bible Edition © British & Foreign Bible Society 1992.