Print Page Options
Previous Prev Day Next DayNext

Chronological

Read the Bible in the chronological order in which its stories and events occurred.
Duration: 365 days
Beibl William Morgan (BWM)
Version
1 Thesaloniaid 1-5

Paul, a Silfanus, a Thimotheus, at eglwys y Thesaloniaid, yn Nuw Dad, a’r Arglwydd Iesu Grist: Gras i chwi, a thangnefedd, oddi wrth Dduw ein Tad, a’r Arglwydd Iesu Grist. Yr ydym yn diolch i Dduw yn wastadol drosoch chwi oll, gan wneuthur coffa amdanoch yn ein gweddïau, Gan gofio yn ddi-baid waith eich ffydd chwi, a llafur eich cariad, ac ymaros eich gobaith yn ein Harglwydd Iesu Grist, gerbron Duw a’n Tad; Gan wybod, frodyr annwyl, eich etholedigaeth chwi gan Dduw. Oblegid ni bu ein hefengyl ni tuag atoch mewn gair yn unig, eithr hefyd mewn nerth, ac yn yr Ysbryd Glân, ac mewn sicrwydd mawr; megis y gwyddoch chwi pa fath rai a fuom ni yn eich plith, er eich mwyn chwi. A chwi a aethoch yn ddilynwyr i ni, ac i’r Arglwydd, wedi derbyn y gair mewn gorthrymder mawr, gyda llawenydd yr Ysbryd Glân: Hyd onid aethoch yn siamplau i’r rhai oll sydd yn credu ym Macedonia ac yn Achaia. Canys oddi wrthych chwi y seiniodd gair yr Arglwydd, nid yn unig ym Macedonia, ac yn Achaia, ond ym mhob man hefyd eich ffydd chwi ar Dduw a aeth ar led; fel nad rhaid i ni ddywedyd dim. Canys y maent hwy yn mynegi amdanom ni, pa ryw ddyfodiad i mewn a gawsom ni atoch chwi, a pha fodd y troesoch at Dduw oddi wrth eilunod, i wasanaethu’r bywiol a’r gwir Dduw; 10 Ac i ddisgwyl am ei Fab ef o’r nefoedd, yr hwn a gyfododd efe o feirw, sef Iesu, yr hwn a’n gwaredodd ni oddi wrth y digofaint sydd ar ddyfod.

Canys chwi eich hunain a wyddoch, frodyr, ein dyfodiad ni i mewn atoch, nad ofer fu: Eithr wedi i ni ddioddef o’r blaen, a chael amarch, fel y gwyddoch chwi, yn Philipi, ni a fuom hy yn ein Duw i lefaru wrthych chwi efengyl Duw trwy fawr ymdrech. Canys ein cyngor ni nid oedd o hudoliaeth nac o aflendid, nac mewn twyll: Eithr megis y’n cyfrifwyd ni gan Dduw yn addas i ymddiried i ni am yr efengyl, felly yr ydym yn llefaru; nid megis yn rhyngu bodd i ddynion, ond i Dduw, yr hwn sydd yn profi ein calonnau ni. Oblegid ni fuom ni un amser mewn ymadrodd gwenieithus, fel y gwyddoch chwi, nac mewn rhith cybydd-dod; Duw yn dyst: Nac yn ceisio moliant gan ddynion, na chennych chwi, na chan eraill; lle y gallasem bwyso arnoch, fel apostolion Crist. Eithr ni a fuom addfwyn yn eich mysg chwi, megis mamaeth yn maethu ei phlant. Felly, gan eich hoffi chwi, ni a welsom yn dda gyfrannu â chwi, nid yn unig efengyl Duw, ond ein heneidiau ein hunain hefyd, am eich bod yn annwyl gennym. Canys cof yw gennych, frodyr, ein llafur a’n lludded ni: canys gan weithio nos a dydd, fel na phwysem ar neb ohonoch, ni a bregethasom i chwi efengyl Duw. 10 Tystion ydych chwi, a Duw hefyd, mor sanctaidd, ac mor gyfiawn, a diargyhoedd, yr ymddygasom yn eich mysg chwi y rhai ydych yn credu: 11 Megis y gwyddoch y modd y buom yn eich cynghori, ac yn eich cysuro, bob un ohonoch, fel tad ei blant ei hun, 12 Ac yn ymbil, ar rodio ohonoch yn deilwng i Dduw, yr hwn a’ch galwodd chwi i’w deyrnas a’i ogoniant. 13 Oblegid hyn yr ydym ninnau hefyd yn diolch i Dduw yn ddi-baid, oherwydd i chwi, pan dderbyniasoch air Duw, yr hwn a glywsoch gennym ni, ei dderbyn ef nid fel gair dyn, eithr fel y mae yn wir, yn air Duw, yr hwn hefyd sydd yn nerthol weithio ynoch chwi y rhai sydd yn credu. 14 Canys chwychwi, frodyr, a wnaethpwyd yn ddilynwyr i eglwysi Duw, y rhai yn Jwdea sydd yng Nghrist Iesu; oblegid chwithau a ddioddefasoch y pethau hyn gan eich cyd-genedl, megis hwythau gan yr Iddewon: 15 Y rhai a laddasant yr Arglwydd Iesu, a’u proffwydi eu hunain, ac a’n herlidiasant ninnau ymaith; ac ydynt heb ryngu bodd Duw, ac yn erbyn pob dyn; 16 Gan warafun i ni lefaru wrth y Cenhedloedd, fel yr iacheid hwy, i gyflawni eu pechodau hwynt yn wastadol: canys digofaint Duw a ddaeth arnynt hyd yr eithaf. 17 A ninnau, frodyr, wedi ein gwneuthur yn amddifaid amdanoch dros ennyd awr, yng ngolwg, nid yng nghalon, a fuom fwy astud i weled eich wyneb chwi mewn awydd mawr. 18 Am hynny yr ewyllysiasom ddyfod atoch (myfi Paul, yn ddiau,) unwaith a dwywaith hefyd; eithr Satan a’n lluddiodd ni. 19 Canys beth yw ein gobaith ni, neu ein llawenydd, neu goron ein gorfoledd? onid chwychwi, gerbron ein Harglwydd Iesu Grist yn ei ddyfodiad ef? 20 Canys chwychwi yw ein gogoniant a’n llawenydd ni.

Am hynny, gan na allem ymatal yn hwy, ni a welsom yn dda ein gadael ni ein hunain yn Athen; Ac a ddanfonasom Timotheus, ein brawd, a gweinidog Duw, a’n cyd-weithiwr yn efengyl Crist, i’ch cadarnhau chwi, ac i’ch diddanu ynghylch eich ffydd; Fel na chynhyrfid neb yn y gorthrymderau hyn: canys chwychwi eich hunain a wyddoch mai i hyn y’n gosodwyd ni. Canys yn wir pan oeddem gyda chwi, ni a ragddywedasom i chwi y gorthrymid ni; megis y bu, ac y gwyddoch chwi. Oherwydd hyn, minnau, heb allu ymatal yn hwy, a ddanfonais i gael gwybod eich ffydd chwi; rhag darfod i’r temtiwr eich temtio chwi, a myned ein llafur ni yn ofer. Eithr yr awron, wedi dyfod Timotheus atom oddi wrthych, a dywedyd i ni newyddion da am eich ffydd chwi a’ch cariad, a bod gennych goffa da amdanom ni yn wastadol, gan hiraethu am ein gweled ni, megis yr ydym ninnau am eich gweled chwithau; Am hynny y cawsom gysur, frodyr, amdanoch chwi, yn ein holl orthrymder a’n hangenoctid, trwy eich ffydd chwi. Oblegid yr awron byw ydym ni, os ydych chwi yn sefyll yn yr Arglwydd. Canys pa ddiolch a allwn ni ei ad-dalu i Dduw amdanoch chwi, am yr holl lawenydd â’r hwn yr ydym ni yn llawen o’ch achos chwi gerbron ein Duw ni, 10 Gan weddïo mwy na mwy, nos a dydd, ar gael gweled eich wyneb chwi, a chyflawni diffygion eich ffydd chwi? 11 A Duw ei hun a’n Tad ni, a’n Harglwydd Iesu Grist, a gyfarwyddo ein ffordd ni atoch chwi. 12 A’r Arglwydd a’ch lluosogo, ac a’ch chwanego ym mhob cariad i’ch gilydd, ac i bawb, megis ag yr ydym ninnau i chwi: 13 I gadarnhau eich calonnau chwi yn ddiargyhoedd mewn sancteiddrwydd gerbron Duw a’n Tad, yn nyfodiad ein Harglwydd Iesu Grist gyda’i holl saint.

Ymhellach gan hynny, frodyr, yr ydym yn atolwg i chwi, ac yn deisyf yn yr Arglwydd Iesu, megis y derbyniasoch gennym pa fodd y dylech rodio a bodloni Duw, ar i chwi gynyddu fwyfwy. Canys chwi a wyddoch pa orchmynion a roddasom i chwi trwy’r Arglwydd Iesu. Canys hyn yw ewyllys Duw, sef eich sancteiddiad chwi, ar ymgadw ohonoch rhag godineb: Ar fedru o bob un ohonoch feddiannu ei lestr ei hun mewn sancteiddrwydd a pharch; Nid mewn gwŷn trachwant, megis y Cenhedloedd y rhai nid adwaenant Dduw: Na byddo i neb orthrymu na thwyllo ei frawd mewn dim: canys dialydd yw’r Arglwydd ar y rhai hyn oll, megis y dywedasom i chwi o’r blaen, ac y tystiasom. Canys ni alwodd Duw nyni i aflendid, ond i sancteiddrwydd. Am hynny y neb sydd yn dirmygu, nid dyn y mae yn ei ddirmygu, ond Duw, yr hwn hefyd a roddes ei Ysbryd Glân ynom ni. Ond am frawdgarwch, nid rhaid i chwi ysgrifennu ohonof atoch: canys yr ydych chwi eich hunain wedi eich dysgu gan Dduw i garu eich gilydd. 10 Oblegid yr ydych yn gwneuthur hyn i bawb o’r brodyr y rhai sydd trwy holl Facedonia: ond yr ydym yn atolwg i chwi, frodyr, gynyddu ohonoch fwyfwy; 11 A rhoddi ohonoch eich bryd ar fod yn llonydd, a gwneuthur eich gorchwylion eich hunain, a gweithio â’ch dwylo eich hunain, (megis y gorchmynasom i chwi;) 12 Fel y rhodioch yn weddaidd tuag at y rhai sydd oddi allan, ac na byddo arnoch eisiau dim. 13 Ond ni ewyllysiwn, frodyr, i chwi fod heb wybod am y rhai a hunasant, na thristaoch, megis eraill y rhai nid oes ganddynt obaith. 14 Canys os ydym yn credu farw Iesu, a’i atgyfodi; felly y rhai a hunasant yn yr Iesu, a ddwg Duw hefyd gydag ef. 15 Canys hyn yr ydym yn ei ddywedyd wrthych yng ngair yr Arglwydd, na bydd i ni’r rhai byw, y rhai a adewir hyd ddyfodiad yr Arglwydd, ragflaenu’r rhai a hunasant. 16 Oblegid yr Arglwydd ei hun a ddisgyn o’r nef gyda bloedd, â llef yr archangel, ac ag utgorn Duw: a’r meirw yng Nghrist a gyfodant yn gyntaf: 17 Yna ninnau’r rhai byw, y rhai a adawyd, a gipir i fyny gyda hwynt yn y cymylau, i gyfarfod â’r Arglwydd yn yr awyr: ac felly y byddwn yn wastadol gyda’r Arglwydd. 18 Am hynny diddenwch eich gilydd â’r ymadroddion hyn.

Eithr am yr amserau a’r prydiau, frodyr, nid rhaid i chwi ysgrifennu ohonof atoch. Oblegid chwi a wyddoch eich hunain yn hysbys, mai felly y daw dydd yr Arglwydd fel lleidr yn y nos. Canys pan ddywedant, Tangnefedd a diogelwch; yna y mae dinistr disymwth yn dyfod ar eu gwarthaf, megis gwewyr esgor ar un a fo beichiog; ac ni ddihangant hwy ddim. Ond chwychwi, frodyr, nid ydych mewn tywyllwch, fel y goddiweddo’r dydd hwnnw chwi megis lleidr. Chwychwi oll, plant y goleuni ydych, a phlant y dydd: nid ydym ni o’r nos, nac o’r tywyllwch. Am hynny na chysgwn, fel rhai eraill; eithr gwyliwn, a byddwn sobr. Canys y rhai a gysgant, y nos y cysgant; a’r rhai a feddwant, y nos y meddwant. Eithr nyni, gan ein bod o’r dydd, byddwn sobr, wedi ymwisgo â dwyfronneg ffydd a chariad, ac â gobaith iachawdwriaeth yn lle helm. Canys nid apwyntiodd Duw nyni i ddigofaint, ond i gaffael iachawdwriaeth trwy ein Harglwydd Iesu Grist, 10 Yr hwn a fu farw drosom; fel pa un bynnag a wnelom ai gwylied ai cysgu, y byddom fyw gydag ef. 11 Oherwydd paham cynghorwch eich gilydd, ac adeiledwch bob un eich gilydd, megis ag yr ydych yn gwneuthur. 12 Ac yr ydym yn atolwg i chwi, frodyr, adnabod y rhai sydd yn llafurio yn eich mysg, ac yn eich llywodraethu chwi yn yr Arglwydd, ac yn eich rhybuddio; 13 A gwneuthur cyfrif mawr ohonynt mewn cariad, er mwyn eu gwaith. Byddwch dangnefeddus yn eich plith eich hunain. 14 Ond yr ydym yn deisyf arnoch, frodyr, rhybuddiwch y rhai afreolus, diddenwch y gwan eu meddwl, cynheliwch y gweiniaid, byddwch ymarhous wrth bawb. 15 Gwelwch na thalo neb ddrwg dros ddrwg i neb: eithr yn wastadol dilynwch yr hyn sydd dda, tuag at eich gilydd, a thuag at bawb. 16 Byddwch lawen yn wastadol. 17 Gweddïwch yn ddi-baid. 18 Ym mhob dim diolchwch: canys hyn yw ewyllys Duw yng Nghrist Iesu tuag atoch chwi. 19 Na ddiffoddwch yr Ysbryd. 20 Na ddirmygwch broffwydoliaethau. 21 Profwch bob peth: deliwch yr hyn sydd dda. 22 Ymgedwch rhag pob rhith drygioni. 23 A gwir Dduw’r tangnefedd a’ch sancteiddio yn gwbl oll: a chadwer eich ysbryd oll, a’ch enaid, a’ch corff, yn ddiargyhoedd yn nyfodiad ein Harglwydd Iesu Grist. 24 Ffyddlon yw’r hwn a’ch galwodd, yr hwn hefyd a’i gwna. 25 O frodyr, gweddïwch drosom. 26 Anerchwch yr holl frodyr â chusan sancteiddiol. 27 Yr ydwyf yn eich tynghedu yn yr Arglwydd, ar ddarllen y llythyr hwn i’r holl frodyr sanctaidd. 28 Gras ein Harglwydd Iesu Grist fyddo gyda chwi. Amen.

Y cyntaf at y Thesaloniaid a ysgrifennwyd o Athen.

2 Thesaloniaid 1-3

Paul, a Silfanus, a Thimotheus, at eglwys y Thesaloniaid, yn Nuw ein Tad, a’r Arglwydd Iesu Grist: Gras i chwi, a thangnefedd, oddi wrth Dduw ein Tad ni, a’r Arglwydd Iesu Grist. Diolch a ddylem i Dduw yn wastadol drosoch, frodyr, fel y mae yn addas, oblegid bod eich ffydd chwi yn mawr gynyddu, a chariad pob un ohonoch oll tuag at eich gilydd yn ychwanegu; Hyd onid ydym ni ein hunain yn gorfoleddu ynoch chwi yn eglwysi Duw, oherwydd eich amynedd chwi a’ch ffydd yn eich holl erlidiau a’r gorthrymderau yr ydych yn eu goddef: Yr hyn sydd argoel golau o gyfiawn farn Duw, fel y’ch cyfrifer yn deilwng i deyrnas Dduw, er mwyn yr hon yr ydych hefyd yn goddef. Canys cyfiawn yw gerbron Duw, dalu cystudd i’r rhai sydd yn eich cystuddio chwi; Ac i chwithau, y rhai a gystuddir, esmwythdra gyda ni, yn ymddangosiad yr Arglwydd Iesu o’r nef, gyda’i angylion nerthol, A thân fflamllyd, gan roddi dial i’r sawl nid adwaenant Dduw, ac nid ydynt yn ufuddhau i efengyl ein Harglwydd Iesu Grist: Y rhai a ddioddefant yn gosbedigaeth, ddinistr tragwyddol oddi gerbron yr Arglwydd, ac oddi wrth ogoniant ei gadernid ef; 10 Pan ddêl efe i’w ogoneddu yn ei saint, ac i fod yn rhyfeddol yn y rhai oll sydd yn credu, (oherwydd i’n tystiolaeth ni yn eich mysg chwi gael ei chredu,) yn y dydd hwnnw. 11 Am ba achos yr ydym hefyd yn gweddïo yn wastadol drosoch, ar fod i’n Duw ni eich cyfrif chwi’n deilwng o’r alwedigaeth hon, a chyflawni holl fodlonrwydd ei ddaioni, a gwaith ffydd, yn nerthol: 12 Fel y gogonedder enw ein Harglwydd Iesu Grist ynoch chwi, a chwithau ynddo yntau, yn ôl gras ein Duw ni, a’r Arglwydd Iesu Grist.

Ac yr ydym yn atolwg i chwi, frodyr, er dyfodiad ein Harglwydd Iesu Grist, a’n cydgynulliad ninnau ato ef, Na’ch sigler yn fuan oddi wrth eich meddwl, ac na’ch cynhyrfer, na chan ysbryd, na chan air, na chan lythyr, megis oddi wrthym ni, fel pe bai dydd Crist yn gyfagos. Na thwylled neb chwi mewn un modd: oblegid ni ddaw’r dydd hwnnw hyd oni ddêl ymadawiad yn gyntaf, a datguddio’r dyn pechod, mab y golledigaeth; Yr hwn sydd yn gwrthwynebu, ac yn ymddyrchafu goruwch pob peth a elwir yn Dduw, neu a addolir; hyd onid yw efe, megis Duw, yn eistedd yn nheml Duw, ac yn ei ddangos ei hun mai Duw ydyw. Onid cof gennych chwi, pan oeddwn i eto gyda chwi, ddywedyd ohonof y pethau hyn i chwi? Ac yr awron chwi a wyddoch yr hyn sydd yn atal, fel y datguddier ef yn ei bryd ei hun. Canys y mae dirgelwch yr anwiredd yn gweithio eisoes: yn unig yr hwn sydd yr awron yn atal, a etyl nes ei dynnu ymaith. Ac yna y datguddir yr Anwir hwnnw, yr hwn a ddifetha’r Arglwydd ag ysbryd ei enau, ac a ddilea â disgleirdeb ei ddyfodiad: Sef yr hwn y mae ei ddyfodiad yn ôl gweithrediad Satan, gyda phob nerth, ac arwyddion, a rhyfeddodau gau, 10 A phob dichell anghyfiawnder yn y rhai colledig; am na dderbyniasant gariad y gwirionedd, fel y byddent gadwedig. 11 Ac am hynny y denfyn Duw iddynt hwy amryfusedd cadarn, fel y credont gelwydd: 12 Fel y barner yr holl rai nid oeddynt yn credu i’r gwirionedd, ond yn ymfodloni mewn anghyfiawnder. 13 Eithr nyni a ddylem ddiolch yn wastad i Dduw drosoch chwi, frodyr caredig gan yr Arglwydd, oblegid i Dduw o’r dechreuad eich ethol chwi i iachawdwriaeth, trwy sancteiddiad yr Ysbryd, a ffydd i’r gwirionedd: 14 I’r hyn y galwodd efe chwi trwy ein hefengyl ni, i feddiannu gogoniant ein Harglwydd Iesu Grist. 15 Am hynny, frodyr, sefwch, a deliwch y traddodiadau a ddysgasoch, pa un bynnag ai trwy ymadrodd, ai trwy ein hepistol ni. 16 A’n Harglwydd Iesu Grist ei hun, a Duw a’n Tad, yr hwn a’n carodd ni, ac a roddes inni ddiddanwch tragwyddol, a gobaith da trwy ras, 17 A ddiddano eich calonnau chwi, ac a’ch sicrhao ym mhob gair a gweithred dda.

Bellach, frodyr, gweddïwch drosom ni, ar fod i air yr Arglwydd redeg, a chael gogonedd, megis gyda chwithau; Ac ar ein gwared ni oddi wrth ddynion anhywaith a drygionus: canys nid oes ffydd gan bawb. Eithr ffyddlon yw’r Arglwydd, yr hwn a’ch sicrha chwi, ac a’ch ceidw rhag drwg. Ac y mae gennym hyder yn yr Arglwydd amdanoch, eich bod yn gwneuthur, ac y gwnewch, y pethau yr ydym yn eu gorchymyn i chwi. A’r Arglwydd a gyfarwyddo eich calonnau chwi at gariad Duw, ac i ymaros am Grist. Ac yr ydym yn gorchymyn i chwi, frodyr, yn enw ein Harglwydd Iesu Grist, dynnu ohonoch ymaith oddi wrth bob brawd a’r sydd yn rhodio yn afreolus, ac nid yn ôl y traddodiad a dderbyniodd efe gennym ni. Canys chwi a wyddoch eich hunain pa fodd y dylech ein dilyn ni: oblegid ni buom afreolus yn eich plith chwi; Ac ni fwytasom fara neb yn rhad; ond trwy weithio mewn llafur a lludded, nos a dydd, fel na phwysem ar neb ohonoch chwi; Nid oherwydd nad oes gennym awdurdod, ond fel y’n rhoddem ein hunain yn siampl i chwi i’n dilyn. 10 Canys pan oeddem hefyd gyda chwi, hyn a orchmynasom i chwi, Os byddai neb ni fynnai weithio, ni châi fwyta chwaith. 11 Canys yr ydym yn clywed fod rhai yn rhodio yn eich plith chwi yn afreolus, heb weithio dim, ond bod yn rhodresgar. 12 Ond i’r cyfryw gorchymyn yr ydym, a’u hannog trwy ein Harglwydd Iesu Grist, ar iddynt weithio trwy lonyddwch, a bwyta eu bara eu hunain. 13 A chwithau, frodyr, na ddiffygiwch yn gwneuthur daioni. 14 Ond od oes neb heb ufuddhau i’n gair trwy y llythyr yma, hysbyswch hwnnw; ac na fydded i chwi gymdeithas ag ef, megis y cywilyddio efe. 15 Er hynny na chymerwch ef megis gelyn, eithr cynghorwch ef fel brawd. 16 Ac Arglwydd y tangnefedd ei hun a roddo i chwi dangnefedd yn wastadol ym mhob modd. Yr Arglwydd a fyddo gyda chwi oll. 17 Yr annerch â’m llaw i Paul fy hun; yr hyn sydd arwydd ym mhob epistol: fel hyn yr ydwyf yn ysgrifennu. 18 Gras ein Harglwydd Iesu Grist gyda chwi oll. Amen.

Yr ail at y Thesaloniaid a ysgrifennwyd o Athen.

Beibl William Morgan (BWM)

William Morgan Welsh Bible Edition © British & Foreign Bible Society 1992.