Chronological
22 A nesaodd gŵyl y bara croyw, yr hon a elwir y pasg. 2 A’r archoffeiriaid a’r ysgrifenyddion a geisiasant pa fodd y difethent ef: oblegid yr oedd arnynt ofn y bobl.
3 A Satan a seth i mewn i Jwdas, yr hwn a gyfenwid Iscariot, yr hwn oedd o rifedi’r deuddeg. 4 Ac efe a aeth ymaith, ac a ymddiddanodd â’r archoffeiriaid a’r blaenoriaid, pa fodd y bradychai efe ef iddynt. 5 Ac yr oedd yn llawen ganddynt: a hwy a gytunasant ar roddi arian iddo. 6 Ac efe a addawodd, ac a geisiodd amser cyfaddas i’w fradychu ef iddynt yn absen y bobl.
7 A daeth dydd y bara croyw, ar yr hwn yr oedd rhaid lladd y pasg. 8 Ac efe a anfonodd Pedr ac Ioan, gan ddywedyd, Ewch, paratowch i ni’r pasg, fel y bwytaom. 9 A hwy a ddywedasant wrtho, Pa le y mynni baratoi ohonom? 10 Ac efe a ddywedodd wrthynt, Wele, pan ddeloch i mewn i’r ddinas, cyferfydd â chwi ddyn yn dwyn ystenaid o ddwfr: canlynwch ef i’r tŷ lle yr êl efe i mewn. 11 A dywedwch wrth ŵr y tŷ, Y mae’r Athro yn dywedyd wrthyt, Pa le y mae’r llety, lle y gallwyf fwyta’r pasg gyda’m disgyblion? 12 Ac efe a ddengys i chwi oruwchystafell fawr, wedi ei thaenu: yno paratowch. 13 A hwy a aethant, ac a gawsant fel y dywedasai efe wrthynt; ac a baratoesant y pasg. 14 A phan ddaeth yr awr, efe a eisteddodd i lawr, a’r deuddeg apostol gydag ef. 15 Ac efe a ddywedodd wrthynt, Mi a chwenychais yn fawr fwyta’r pasg hwn gyda chwi cyn dioddef ohonof. 16 Canys yr ydwyf yn dywedyd i chwi, Ni fwytâf fi mwyach ohono, hyd oni chyflawner yn nheyrnas Dduw. 17 Ac wedi iddo gymryd y cwpan, a rhoddi diolch, efe a ddywedodd, Cymerwch hwn, a rhennwch yn eich plith: 18 Canys yr ydwyf yn dywedyd i chwi, nad yfaf o ffrwyth y winwydden, hyd oni ddêl teyrnas Dduw.
19 Ac wedi iddo gymryd bara, a rhoi diolch, efe a’i torrodd, ac a’i rhoddes iddynt, gan ddywedyd, Hwn yw fy nghorff yr hwn yr ydys yn ei roddi drosoch: gwnewch hyn er coffa amdanaf. 20 Yr un modd y cwpan hefyd wedi swperu, gan ddywedyd, Y cwpan hwn yw’r testament newydd yn fy ngwaed i, yr hwn yr ydys yn ei dywallt drosoch.
21 Eithr wele law yr hwn sydd yn fy mradychu gyda mi ar y bwrdd. 22 Ac yn wir y mae Mab y dyn yn myned, megis y mae wedi ei luniaethu: eithr gwae’r dyn hwnnw, trwy’r hwn y bradychir ef! 23 Hwythau a ddechreuasant ymofyn yn eu plith eu hunain, pwy ohonynt oedd yr hwn a wnâi hynny.
24 A bu ymryson yn eu plith, pwy ohonynt a dybygid ei fod yn fwyaf. 25 Ac efe a ddywedodd wrthynt, Y mae brenhinoedd y Cenhedloedd yn arglwyddiaethu arnynt; a’r rhai sydd mewn awdurdod arnynt, a elwir yn bendefigion. 26 Ond na fyddwch chwi felly: eithr y mwyaf yn eich plith chwi, bydded megis yr ieuangaf; a’r pennaf, megis yr hwn sydd yn gweini. 27 Canys pa un fwyaf, ai’r hwn sydd yn eistedd ar y bwrdd, ai’r hwn sydd yn gwasanaethu? onid yr hwn sydd yn eistedd ar y bwrdd? eithr yr ydwyf fi yn eich mysg fel un yn gwasanaethu. 28 A chwychwi yw’r rhai a arosasoch gyda mi yn fy mhrofedigaethau. 29 Ac yr wyf fi yn ordeinio i chwi deyrnas, megis yr ordeiniodd fy Nhad i minnau; 30 Fel y bwytaoch ac yr yfoch ar fy mwrdd i yn fy nheyrnas, ac yr eisteddoch ar orseddfeydd, yn barnu deuddeg llwyth Israel.
31 A’r Arglwydd a ddywedodd, Simon, Simon, wele, Satan a’ch ceisiodd chwi, i’ch nithio fel gwenith: 32 Eithr mi a weddïais drosot, na ddiffygiai dy ffydd di: tithau pan y’th droer, cadarnha dy frodyr. 33 Ac efe a ddywedodd wrtho, Arglwydd, yr ydwyf fi yn barod i fyned gyda thi i garchar, ac i angau. 34 Yntau a ddywedodd, Yr wyf yn dywedyd i ti, Pedr, Na chân y ceiliog heddiw, nes i ti wadu dair gwaith yr adwaeni fi. 35 Ac efe a ddywedodd wrthynt, Pan y’ch anfonais heb na phwrs, na chod, nac esgidiau, a fu arnoch eisiau dim? A hwy a ddywedasant, Naddo ddim. 36 Yna y dywedodd wrthynt, Ond yn awr y neb sydd ganddo bwrs, cymered; a’r un modd god: a’r neb nid oes ganddo, gwerthed ei bais, a phryned gleddyf. 37 Canys yr wyf yn dywedyd i chwi, fod yn rhaid eto gyflawni ynof fi y peth hwn a ysgrifennwyd; sef, A chyda’r anwir y cyfrifwyd ef; canys y mae diben i’r pethau amdanaf fi. 38 A hwy a ddywedasant, Arglwydd, wele ddau gleddyf yma. Ac efe a ddywedodd wrthynt, Digon yw.
39 Ac wedi iddo fyned allan, efe a aeth, yn ôl ei arfer, i fynydd yr Olewydd; a’i ddisgyblion hefyd a’i canlynasant ef. 40 A phan ddaeth efe i’r man, efe a ddywedodd wrthynt, Gweddïwch nad eloch mewn profedigaeth. 41 Ac efe a dynnodd oddi wrthynt tuag ergyd carreg; ac wedi iddo fyned ar ei liniau, efe a weddïodd, 42 Gan ddywedyd, O Dad, os ewyllysi droi heibio y cwpan hwn oddi wrthyf: er hynny nid fy ewyllys i, ond yr eiddot ti a wneler. 43 Ac angel o’r nef a ymddangosodd iddo, yn ei nerthu ef. 44 Ac efe mewn ymdrech meddwl, a weddïodd yn ddyfalach: a’i chwys ef oedd fel defnynnau gwaed yn disgyn ar y ddaear. 45 A phan gododd efe o’i weddi, a dyfod at ei ddisgyblion, efe a’u cafodd hwynt yn cysgu gan dristwch; 46 Ac a ddywedodd wrthynt, Paham yr ydych yn cysgu? codwch, a gweddïwch nad eloch mewn profedigaeth.
47 Ac efe eto yn llefaru, wele dyrfa; a’r hwn a elwir Jwdas, un o’r deuddeg, oedd yn myned o’u blaen hwynt, ac a nesaodd at yr Iesu, i’w gusanu ef. 48 A’r Iesu a ddywedodd wrtho, Jwdas, ai â chusan yr wyt ti yn bradychu Mab y dyn? 49 A phan welodd y rhai oedd yn ei gylch ef y peth oedd ar ddyfod, hwy a ddywedasant wrtho, Arglwydd, a drawn ni â chleddyf?
50 A rhyw un ohonynt a drawodd was yr archoffeiriad, ac a dorrodd ymaith ei glust ddeau ef. 51 A’r Iesu a atebodd ac a ddywedodd, Goddefwch hyd yn hyn. Ac efe a gyffyrddodd â’i glust, ac a’i hiachaodd ef. 52 A’r Iesu a ddywedodd wrth yr archoffeiriaid, a blaenoriaid y deml, a’r henuriaid, y rhai a ddaethent ato, Ai fel at leidr y daethoch chwi allan, â chleddyfau ac â ffyn? 53 Pan oeddwn beunydd gyda chwi yn y deml, nid estynasoch ddwylo i’m herbyn: eithr hon yw eich awr chwi, a gallu’r tywyllwch.
54 A hwy a’i daliasant ef, ac a’i harweiniasant, ac a’i dygasant i mewn i dŷ’r archoffeiriad. A Phedr a ganlynodd o hirbell. 55 Ac wedi iddynt gynnau tân yng nghanol y neuadd, a chydeistedd ohonynt, eisteddodd Pedr yntau yn eu plith hwynt. 56 A phan ganfu rhyw lances ef yn eistedd wrth y tân, a dal sylw arno, hi a ddywedodd, Yr oedd hwn hefyd gydag ef. 57 Yntau a’i gwadodd ef, gan ddywedyd, O wraig, nid adwaen i ef. 58 Ac ychydig wedi, un arall a’i gwelodd ef, ac a ddywedodd, Yr wyt tithau hefyd yn un ohonynt. A Phedr a ddywedodd, O ddyn, nid ydwyf. 59 Ac ar ôl megis ysbaid un awr, rhyw un arall a daerodd, gan ddywedyd, Mewn gwirionedd yr oedd hwn hefyd gydag ef: canys Galilead yw. 60 A Phedr a ddywedodd, Y dyn, nis gwn beth yr wyt yn ei ddywedyd. Ac yn y man, ac efe eto yn llefaru, canodd y ceiliog. 61 A’r Arglwydd a drodd, ac a edrychodd ar Pedr. A Phedr a gofiodd ymadrodd yr Arglwydd, fel y dywedasai efe wrtho, Cyn canu o’r ceiliog, y gwedi fi deirgwaith. 62 A Phedr a aeth allan, ac a wylodd yn chwerw‐dost.
63 A’r gwŷr oedd yn dal yr Iesu, a’i gwatwarasant ef, gan ei daro. 64 Ac wedi iddynt guddio ei lygaid ef, hwy a’i trawsant ef ar ei wyneb, ac a ofynasant iddo, gan ddywedyd, Proffwyda, pwy yw’r hwn a’th drawodd di? 65 A llawer o bethau eraill, gan gablu, a ddywedasant yn ei erbyn ef.
66 A phan aeth hi yn ddydd, ymgynullodd henuriaid y bobl, a’r archoffeiriaid, a’r ysgrifenyddion, ac a’i dygasant ef i’w cyngor hwynt, 67 Gan ddywedyd, Ai ti yw Crist? dywed i ni. Ac efe a ddywedodd wrthynt, Os dywedaf i chwi, ni chredwch ddim: 68 Ac os gofynnaf hefyd i chwi, ni’m hatebwch, ac ni’m gollyngwch ymaith. 69 Ar ôl hyn y bydd Mab y dyn yn eistedd ar ddeheulaw gallu Duw. 70 A hwy oll a ddywedasant, Ai Mab Duw gan hynny ydwyt ti? Ac efe a ddywedodd wrthynt, Yr ydych chwi yn dywedyd fy mod. 71 Hwythau a ddywedasant, Pa raid i ni mwyach wrth dystiolaeth? canys clywsom ein hunain o’i enau ef ei hun.
13 Achyn gŵyl y pasg, yr Iesu yn gwybod ddyfod ei awr ef i ymadael â’r byd hwn at y Tad, efe yn caru yr eiddo y rhai oedd yn y byd, a’u carodd hwynt hyd y diwedd. 2 Ac wedi darfod swper, wedi i ddiafol eisoes roi yng nghalon Jwdas Iscariot, mab Simon, ei fradychu ef; 3 Yr Iesu yn gwybod roddi o’r Tad bob peth oll yn ei ddwylo ef, a’i fod wedi dyfod oddi wrth Dduw, ac yn myned at Dduw; 4 Efe a gyfododd oddi ar swper, ac a roes heibio ei gochlwisg, ac a gymerodd dywel, ac a ymwregysodd. 5 Wedi hynny efe a dywalltodd ddwfr i’r cawg, ac a ddechreuodd olchi traed y disgyblion, a’u sychu â’r tywel, â’r hwn yr oedd efe wedi ei wregysu. 6 Yna y daeth efe at Simon Pedr: ac efe a ddywedodd wrtho, Arglwydd, a wyt ti’n golchi fy nhraed i? 7 Yr Iesu a atebodd ac a ddywedodd wrtho, Y peth yr wyf fi yn ei wneuthur, ni wyddost ti yr awron: eithr ti a gei wybod ar ôl hyn. 8 Pedr a ddywedodd wrtho, Ni chei di olchi fy nhraed i byth. Yr Iesu a atebodd iddo, Oni olchaf di, nid oes i ti gyfran gyda myfi. 9 Simon Pedr a ddywedodd wrtho, Arglwydd, nid fy nhraed yn unig, eithr fy nwylo a’m pen hefyd. 10 Yr Iesu a ddywedodd wrtho, Yr hwn a olchwyd, nid rhaid iddo ond golchi ei draed, eithr y mae yn lân oll: ac yr ydych chwi yn lân, eithr nid pawb oll. 11 Canys efe a wyddai pwy a’i bradychai ef: am hynny y dywedodd, Nid ydych chwi yn lân bawb oll. 12 Felly wedi iddo olchi eu traed hwy, a chymryd ei gochlwisg, efe a eisteddodd drachefn, ac a ddywedodd wrthynt, A wyddoch chwi pa beth a wneuthum i chwi? 13 Yr ydych chwi yn fy ngalw i, Yr Athro, a’r Arglwydd: a da y dywedwch; canys felly yr ydwyf. 14 Am hynny os myfi, yn Arglwydd ac yn Athro, a olchais eich traed chwi; chwithau a ddylech olchi traed eich gilydd; 15 Canys rhoddais esampl i chwi, fel y gwnelech chwithau megis y gwneuthum i chwi. 16 Yn wir, yn wir, meddaf i chwi, Nid yw’r gwas yn fwy na’i arglwydd; na’r hwn a ddanfonwyd yn fwy na’r hwn a’i danfonodd. 17 Os gwyddoch y pethau hyn, gwyn eich byd os gwnewch hwynt.
18 Nid wyf fi yn dywedyd amdanoch oll; mi a wn pwy a etholais: ond fel y cyflawnid yr ysgrythur, Yr hwn sydd yn bwyta bara gyda mi, a gododd ei sawdl yn fy erbyn. 19 Yn awr yr wyf yn dywedyd wrthych cyn ei ddyfod, fel pan ddêl, y credoch mai myfi yw efe. 20 Yn wir, yn wir, meddaf i chwi, Yr hwn sydd yn derbyn y neb a ddanfonwyf fi, sydd yn fy nerbyn i; a’r hwn sydd yn fy nerbyn i, sydd yn derbyn yr hwn a’m danfonodd i. 21 Wedi i’r Iesu ddywedyd y pethau hyn, efe a gynhyrfwyd yn yr ysbryd, ac a dystiolaethodd, ac a ddywedodd, Yn wir, yn wir, y dywedaf wrthych, y bradycha un ohonoch fi. 22 Yna y disgyblion a edrychasant ar ei gilydd, gan amau am bwy yr oedd efe yn dywedyd. 23 Ac yr oedd un o’i ddisgyblion yn pwyso ar fynwes yr Iesu, yr hwn yr oedd yr Iesu yn ei garu. 24 Am hynny yr amneidiodd Simon Pedr ar hwnnw, i ofyn pwy oedd efe, am yr hwn yr oedd efe yn dywedyd. 25 Ac yntau’n pwyso ar ddwyfron yr Iesu, a ddywedodd wrtho, Arglwydd, pwy yw efe? 26 Yr Iesu a atebodd, Hwnnw yw efe, i’r hwn y rhoddaf fi damaid wedi i mi ei wlychu. Ac wedi iddo wlychu’r tamaid, efe a’i rhoddodd i Jwdas Iscariot, mab Simon. 27 Ac ar ôl y tamaid, yna yr aeth Satan i mewn iddo. Am hynny y dywedodd yr Iesu wrtho, Hyn yr wyt yn ei wneuthur, gwna ar frys. 28 Ac ni wyddai neb o’r rhai oedd yn eistedd i ba beth y dywedasai efe hyn wrtho. 29 Canys rhai oedd yn tybied, am fod Jwdas a’r god ganddo, fod yr Iesu yn dywedyd wrtho, Prŷn y pethau sydd arnom eu heisiau erbyn yr ŵyl; neu, ar roi ohono beth i’r tlodion. 30 Yntau gan hynny, wedi derbyn y tamaid, a aeth allan yn ebrwydd. Ac yr oedd hi’n nos.
31 Yna gwedi iddo fyned allan, yr Iesu a ddywedodd, Yn awr y gogoneddwyd Mab y dyn, a Duw a ogoneddwyd ynddo ef. 32 Os gogoneddwyd Duw ynddo ef, Duw hefyd a’i gogonedda ef ynddo ei hun, ac efe a’i gogonedda ef yn ebrwydd. 33 O blant bychain, eto yr wyf ennyd fechan gyda chwi. Chwi a’m ceisiwch: ac, megis y dywedais wrth yr Iddewon, Lle yr wyf fi yn myned, ni ellwch chwi ddyfod; yr ydwyf yn dywedyd wrthych chwithau hefyd yr awron. 34 Gorchymyn newydd yr wyf yn ei roddi i chwi, Ar garu ohonoch eich gilydd; fel y cerais i chwi, ar garu ohonoch chwithau bawb eich gilydd. 35 Wrth hyn y gwybydd pawb mai disgyblion i mi ydych, os bydd gennych gariad i’ch gilydd.
36 A Simon Pedr a ddywedodd wrtho, Arglwydd, i ba le yr wyt ti’n myned? Yr Iesu a atebodd iddo, Lle yr ydwyf fi yn myned, ni elli di yr awron fy nghanlyn: eithr ar ôl hyn y’m canlyni. 37 Pedr a ddywedodd wrtho, Arglwydd, paham na allaf fi dy ganlyn yr awron? mi a roddaf fy einioes drosot. 38 Yr Iesu a atebodd iddo, A roddi di dy einioes drosof fi? Yn wir, yn wir, meddaf i ti, Ni chân y ceiliog nes i ti fy ngwadu dair gwaith.
William Morgan Welsh Bible Edition © British & Foreign Bible Society 1992.