Print Page Options
Previous Prev Day Next DayNext

Chronological

Read the Bible in the chronological order in which its stories and events occurred.
Duration: 365 days
Beibl William Morgan (BWM)
Version
Actau 9-10

A Saul eto yn chwythu bygythiau a chelanedd yn erbyn disgyblion yr Arglwydd, a aeth at yr archoffeiriad, Ac a ddeisyfodd ganddo lythyrau i Ddamascus, at y synagogau; fel os câi efe neb o’r ffordd hon, na gwŷr na gwragedd, y gallai efe eu dwyn hwy yn rhwym i Jerwsalem. Ac fel yr oedd efe yn ymdaith, bu iddo ddyfod yn agos i Ddamascus: ac yn ddisymwth llewyrchodd o’i amgylch oleuni o’r nef. Ac efe a syrthiodd ar y ddaear, ac a glybu lais yn dywedyd wrtho, Saul, Saul, paham yr wyt yn fy erlid i? Yntau a ddywedodd, Pwy wyt ti, Arglwydd? A’r Arglwydd a ddywedodd, Myfi yw Iesu, yr hwn yr wyt ti yn ei erlid: caled yw i ti wingo yn erbyn y symbylau. Yntau gan grynu, ac â braw arno, a ddywedodd, Arglwydd, beth a fynni di i mi ei wneuthur? A’r Arglwydd a ddywedodd wrtho, Cyfod, a dos i’r ddinas, ac fe a ddywedir i ti pa beth sydd raid i ti ei wneuthur. A’r gwŷr oedd yn cyd‐deithio ag ef a safasant yn fud, gan glywed y llais, ac heb weled neb. A Saul a gyfododd oddi ar y ddaear; a phan agorwyd ei lygaid, ni welai efe neb: eithr hwy a’i tywysasant ef erbyn ei law, ac a’i dygasant ef i mewn i Ddamascus. Ac efe a fu dridiau heb weled, ac ni wnaeth na bwyta nac yfed.

10 Ac yr oedd rhyw ddisgybl yn Namascus, a’i enw Ananeias: a’r Arglwydd a ddywedodd wrtho ef mewn gweledigaeth, Ananeias. Yntau a ddywedodd, Wele fi, Arglwydd. 11 A’r Arglwydd a ddywedodd wrtho, Cyfod, a dos i’r heol a elwir Union, a chais yn nhŷ Jwdas un a’i enw Saul, o Darsus: canys, wele, y mae yn gweddïo; 12 Ac efe a welodd mewn gweledigaeth ŵr a’i enw Ananeias yn dyfod i mewn, ac yn dodi ei law arno, fel y gwelai eilwaith. 13 Yna yr atebodd Ananeias, O Arglwydd, mi a glywais gan lawer am y gŵr hwn, faint o ddrygau a wnaeth efe i’th saint di yn Jerwsalem. 14 Ac yma y mae ganddo awdurdod oddi wrth yr archoffeiriaid, i rwymo pawb sydd yn galw ar dy enw di. 15 A dywedodd yr Arglwydd wrtho, Dos ymaith: canys y mae hwn yn llestr etholedig i mi, i ddwyn fy enw gerbron y Cenhedloedd, a brenhinoedd, a phlant Israel. 16 Canys myfi a ddangosaf iddo pa bethau eu maint sydd raid iddo ef eu dioddef er mwyn fy enw i. 17 Ac Ananeias a aeth ymaith, ac a aeth i mewn i’r tŷ; ac wedi dodi ei ddwylo arno, efe a ddywedodd, Y brawd Saul, yr Arglwydd a’m hanfonodd i, (Iesu yr hwn a ymddangosodd i ti ar y ffordd y daethost,) fel y gwelych drachefn, ac y’th lanwer â’r Ysbryd Glân. 18 Ac yn ebrwydd y syrthiodd oddi wrth ei lygaid ef megis cen: ac efe a gafodd ei olwg yn y man; ac efe a gyfododd, ac a fedyddiwyd. 19 Ac wedi iddo gymryd bwyd, efe a gryfhaodd. A bu Saul gyda’r disgyblion oedd yn Namascus dalm o ddyddiau. 20 Ac yn ebrwydd yn y synagogau efe a bregethodd Grist, mai efe yw Mab Duw. 21 A phawb a’r a’i clybu ef, a synasant, ac a ddywedasant, Onid hwn yw yr un oedd yn difetha yn Jerwsalem y rhai a alwent ar yr enw hwn, ac a ddaeth yma er mwyn hyn, fel y dygai hwynt yn rhwym at yr archoffeiriaid? 22 Eithr Saul a gynyddodd fwyfwy o nerth, ac a orchfygodd yr Iddewon oedd yn preswylio yn Namascus, gan gadarnhau mai hwn yw y Crist.

23 Ac wedi cyflawni llawer o ddyddiau, cydymgynghorodd yr Iddewon i’w ladd ef. 24 Eithr eu cydfwriad hwy a wybuwyd gan Saul: a hwy a ddisgwyliasant y pyrth ddydd a nos, i’w ladd ef. 25 Yna y disgyblion a’i cymerasant ef o hyd nos, ac a’i gollyngasant i waered dros y mur mewn basged. 26 A Saul, wedi ei ddyfod i Jerwsalem, a geisiodd ymwasgu â’r disgyblion: ac yr oeddynt oll yn ei ofni ef, heb gredu ei fod ef yn ddisgybl. 27 Eithr Barnabas a’i cymerodd ef, ac a’i dug at yr apostolion, ac a fynegodd iddynt pa fodd y gwelsai efe yr Arglwydd ar y ffordd, ac ymddiddan ohono ag ef, ac mor hy a fuasai efe yn Namascus yn enw yr Iesu. 28 Ac yr oedd efe gyda hwynt, yn myned i mewn ac yn myned allan, yn Jerwsalem. 29 A chan fod yn hy yn enw yr Arglwydd Iesu, efe a lefarodd ac a ymddadleuodd yn erbyn y Groegiaid; a hwy a geisiasant ei ladd ef. 30 A’r brodyr, pan wybuant, a’i dygasant ef i waered i Cesarea, ac a’i hanfonasant ef ymaith i Darsus. 31 Yna yr eglwysi trwy holl Jwdea, a Galilea, a Samaria, a gawsant heddwch, ac a adeiladwyd; a chan rodio yn ofn yr Arglwydd, ac yn niddanwch yr Ysbryd Glân, hwy a amlhawyd.

32 A bu, a Phedr yn tramwy trwy’r holl wledydd, iddo ddyfod i waered at y saint hefyd y rhai oedd yn trigo yn Lyda. 33 Ac efe a gafodd yno ryw ddyn a’i enw Aeneas, er ys wyth mlynedd yn gorwedd ar wely, yr hwn oedd glaf o’r parlys. 34 A Phedr a ddywedodd wrtho, Aeneas, y mae Iesu Grist yn dy iacháu di: cyfod, a chyweiria dy wely. Ac efe a gyfododd yn ebrwydd. 35 A phawb a’r oedd yn preswylio yn Lyda a Saron a’i gwelsant ef, ac a ymchwelasant at yr Arglwydd.

36 Ac yn Jopa yr oedd rhyw ddisgybles a’i henw Tabitha, (yr hon os cyfieithir a elwir Dorcas;) hon oedd yn llawn o weithredoedd da ac elusennau, y rhai a wnaethai hi. 37 A digwyddodd yn y dyddiau hynny iddi fod yn glaf, a marw: ac wedi iddynt ei golchi, hwy a’i dodasant hi mewn llofft. 38 Ac oherwydd bod Lyda yn agos i Jopa, y disgyblion a glywsant fod Pedr yno; ac a anfonasant ddau ŵr ato ef, gan ddeisyf nad oedai ddyfod hyd atynt hwy. 39 A Phedr a gyfododd, ac a aeth gyda hwynt. Ac wedi ei ddyfod, hwy a’i dygasant ef i fyny i’r llofft: a’r holl wragedd gweddwon a safasant yn ei ymyl ef yn wylo, ac yn dangos y peisiau a’r gwisgoedd a wnaethai Dorcas tra ydoedd hi gyda hwynt. 40 Eithr Pedr, wedi eu bwrw hwy i gyd allan, a dodi ei liniau ar lawr, a weddïodd; a chan droi at y corff, a ddywedodd, Tabitha, cyfod. A hi a agorodd ei llygaid; a phan welodd hi Pedr, hi a gododd yn ei heistedd. 41 Ac efe a roddodd ei law iddi, ac a’i cyfododd hi i fyny. Ac wedi galw y saint a’r gwragedd gweddwon, efe a’i gosododd hi gerbron yn fyw. 42 A hysbys fu trwy holl Jopa; a llawer a gredasant yn yr Arglwydd. 43 A bu iddo aros yn Jopa lawer o ddyddiau gydag un Simon, barcer.

10 Yr oedd rhyw ŵr yn Cesarea, a’i enw Cornelius, canwriad o’r fyddin a elwid yr Italaidd; Gŵr defosiynol, ac yn ofni Duw, ynghyd â’i holl dŷ, ac yn gwneuthur llawer o elusennau i’r bobl, ac yn gweddïo Duw yn wastadol. Efe a welodd mewn gweledigaeth yn eglur, ynghylch y nawfed awr o’r dydd, angel Duw yn dyfod i mewn ato, ac yn dywedyd wrtho, Cornelius. Ac wedi iddo graffu arno, a myned yn ofnus, efe a ddywedodd, Beth sydd, Arglwydd? Ac efe a ddywedodd wrtho, Dy weddïau di a’th elusennau a ddyrchafasant yn goffadwriaeth gerbron Duw. Ac yn awr anfon wŷr i Jopa, a gyr am Simon, yr hwn a gyfenwir Pedr: Y mae efe yn lletya gydag un Simon, barcer; tŷ’r hwn sydd wrth y môr: efe a ddywed i ti pa beth sydd raid i ti ei wneuthur. A phan ymadawodd yr angel oedd yn ymddiddan â Chornelius, efe a alwodd ar ddau o dylwyth ei dŷ, a milwr defosiynol o’r rhai oedd yn aros gydag ef: Ac wedi iddo fynegi iddynt y cwbl, efe a’u hanfonodd hwynt i Jopa.

A thrannoeth, fel yr oeddynt hwy yn ymdeithio, ac yn nesáu at y ddinas, Pedr a aeth i fyny ar y tŷ i weddïo, ynghylch y chweched awr. 10 Ac fe ddaeth arno newyn mawr, ac efe a chwenychai gael bwyd. Ac a hwynt yn paratoi iddo, fe syrthiodd arno lewyg: 11 Ac efe a welai y nef yn agored, a rhyw lestr yn disgyn arno, fel llenlliain fawr, wedi rhwymo ei phedair congl, a’i gollwng i waered hyd y ddaear: 12 Yn yr hon yr oedd pob rhyw bedwarcarnolion y ddaear, a gwylltfilod, ac ymlusgiaid, ac ehediaid y nef. 13 A daeth llef ato, Cyfod, Pedr; lladd, a bwyta. 14 A Phedr a ddywedodd, Nid felly, Arglwydd: canys ni fwyteais i erioed ddim cyffredin neu aflan. 15 A’r llef drachefn a ddywedodd wrtho yr ail waith, Y pethau a lanhaodd Duw, na alw di yn gyffredin. 16 A hyn a wnaed dair gwaith: a’r llestr a dderbyniwyd drachefn i fyny i’r nef. 17 Ac fel yr oedd Pedr yn amau ynddo’i hun beth oedd y weledigaeth a welsai; wele, y gwŷr a anfonasid oddi wrth Cornelius, wedi ymofyn am dŷ Simon, oeddynt yn sefyll wrth y porth. 18 Ac wedi iddynt alw, hwy a ofynasant a oedd Simon, yr hwn a gyfenwid Pedr, yn lletya yno.

19 Ac fel yr oedd Pedr yn meddwl am y weledigaeth, dywedodd yr Ysbryd wrtho, Wele dri wŷr yn dy geisio di. 20 Am hynny cyfod, disgyn, a dos gyda hwynt, heb amau dim: oherwydd myfi a’u hanfonais hwynt. 21 A Phedr, wedi disgyn at y gwŷr a anfonasid oddi wrth Cornelius ato, a ddywedodd, Wele, myfi yw’r hwn yr ydych chwi yn ei geisio: beth yw yr achos y daethoch o’i herwydd? 22 Hwythau a ddywedasant, Cornelius y canwriad, gŵr cyfiawn, ac yn ofni Duw, ac â gair da iddo gan holl genedl yr Iddewon, a rybuddiwyd gan angel sanctaidd, i ddanfon amdanat ti i’w dŷ, ac i wrando geiriau gennyt. 23 Am hynny efe a’u galwodd hwynt i mewn, ac a’u lletyodd hwy. A thrannoeth yr aeth Pedr ymaith gyda hwy, a rhai o’r brodyr o Jopa a aeth gydag ef. 24 A thrannoeth yr aethant i mewn i Cesarea. Ac yr oedd Cornelius yn disgwyl amdanynt; ac efe a alwasai ei geraint a’i annwyl gyfeillion ynghyd. 25 Ac fel yr oedd Pedr yn dyfod i mewn, Cornelius a gyfarfu ag ef, ac a syrthiodd wrth ei draed, ac a’i haddolodd ef. 26 Eithr Pedr a’i cyfododd ef i fyny, gan ddywedyd, Cyfod; dyn wyf finnau hefyd. 27 A than ymddiddan ag ef, efe a ddaeth i mewn, ac a gafodd lawer wedi ymgynnull ynghyd. 28 Ac efe a ddywedodd wrthynt, Chwi a wyddoch mai anghyfreithlon yw i ŵr o Iddew ymwasgu neu ddyfod at alltud: eithr Duw a ddangosodd i mi na alwn neb yn gyffredin neu yn aflan. 29 O ba herwydd, ie, yn ddi‐nag, y deuthum, pan anfonwyd amdanaf: yr wyf gan hynny yn gofyn am ba achos y danfonasoch amdanaf. 30 A Chornelius a ddywedodd, Er ys pedwar diwrnod i’r awr hon o’r dydd yr oeddwn yn ymprydio, ac ar y nawfed awr yn gweddïo yn fy nhŷ: ac wele, safodd gŵr ger fy mron mewn gwisg ddisglair, 31 Ac a ddywedodd, Cornelius, gwrandawyd dy weddi di, a’th elusennau a ddaethant mewn coffa gerbron Duw. 32 Am hynny anfon i Jopa, a galw am Simon, yr hwn a gyfenwir Pedr: y mae efe yn lletya yn nhŷ Simon, barcer, yng nglan y môr; yr hwn, pan ddelo atat, a lefara wrthyt. 33 Am hynny yn ddi‐oed myfi a anfonais atat; a thi a wnaethost yn dda ddyfod. Yr awron, gan hynny, yr ŷm ni oll yn bresennol gerbron Duw, i wrando’r holl bethau a orchmynnwyd i ti gan Dduw.

34 Yna yr agorodd Pedr ei enau, ac a ddywedodd, Yr wyf yn deall mewn gwirionedd, nad ydyw Duw dderbyniwr wyneb: 35 Ond ym mhob cenedl, y neb sydd yn ei ofni ef, ac yn gweithredu cyfiawnder, sydd gymeradwy ganddo ef. 36 Y gair yr hwn a anfonodd Duw i blant Israel, gan bregethu tangnefedd trwy Iesu Grist: (efe yw Arglwydd pawb oll:) 37 Chwychwi a wyddoch y gair a fu yn holl Jwdea, gan ddechrau o Galilea, wedi’r bedydd a bregethodd Ioan: 38 Y modd yr eneiniodd Duw Iesu o Nasareth â’r Ysbryd Glân, ac â nerth; yr hwn a gerddodd o amgylch gan wneuthur daioni, ac iacháu pawb a’r oedd wedi eu gorthrymu gan ddiafol: oblegid yr oedd Duw gydag ef. 39 A ninnau ydym dystion o’r pethau oll a wnaeth efe yng ngwlad yr Iddewon, ac yn Jerwsalem; yr hwn a laddasant, ac a groeshoeliasant ar bren: 40 Hwn a gyfododd Duw y trydydd dydd, ac a’i rhoddes ef i’w wneuthur yn amlwg; 41 Nid i’r bobl oll, eithr i’r tystion etholedig o’r blaen gan Dduw, sef i ni, y rhai a fwytasom ac a yfasom gydag ef wedi ei atgyfodi ef o feirw. 42 Ac efe a orchmynnodd i ni bregethu i’r bobl, a thystiolaethu, mai efe yw’r hwn a ordeiniwyd gan Dduw yn Farnwr byw a meirw. 43 I hwn y mae’r holl broffwydi yn dwyn tystiolaeth, y derbyn pawb a gredo ynddo ef faddeuant pechodau trwy ei enw ef.

44 A Phedr eto yn llefaru’r geiriau hyn, syrthiodd yr Ysbryd Glân ar bawb a oedd yn clywed y gair. 45 A’r rhai o’r enwaediad a oeddynt yn credu, cynifer ag a ddaethent gyda Phedr, a synasant, am dywallt dawn yr Ysbryd Glân ar y Cenhedloedd hefyd. 46 Canys yr oeddynt yn eu clywed hwy yn llefaru â thafodau, ac yn mawrygu Duw. Yna yr atebodd Pedr, 47 A all neb luddias dwfr, fel na fedyddier y rhai hyn, y rhai a dderbyniasant yr Ysbryd Glân fel ninnau? 48 Ac efe a orchmynnodd eu bedyddio hwynt yn enw yr Arglwydd. Yna y deisyfasant arno aros dros ennyd o ddyddiau.

Beibl William Morgan (BWM)

William Morgan Welsh Bible Edition © British & Foreign Bible Society 1992.