Chronological
26 A bu, wedi i’r Iesu orffen y geiriau hyn oll, efe a ddywedodd wrth ei ddisgyblion, 2 Chwi a wyddoch mai gwedi deuddydd y mae’r pasg; a Mab y dyn a draddodir i’w groeshoelio. 3 Yna yr ymgasglodd yr archoffeiriaid, a’r ysgrifenyddion, a henuriaid y bobl, i lys yr archoffeiriad, yr hwn a elwid Caiaffas: 4 A hwy a gydymgyngorasant fel y dalient yr Iesu trwy ddichell, ac y lladdent ef. 5 Eithr hwy a ddywedasant, Nid ar yr ŵyl, rhag bod cynnwrf ymhlith y bobl.
6 Ac a’r Iesu ym Methania, yn nhŷ Simon y gwahanglwyfus, 7 Daeth ato wraig a chanddi flwch o ennaint gwerthfawr, ac a’i tywalltodd ar ei ben, ac efe yn eistedd wrth y ford. 8 A phan welodd ei ddisgyblion, hwy a sorasant, gan ddywedyd, I ba beth y bu’r golled hon? 9 Canys fe a allasid gwerthu’r ennaint hwn er llawer, a’i roddi i’r tlodion. 10 A’r Iesu a wybu, ac a ddywedodd wrthynt, Paham yr ydych yn gwneuthur blinder i’r wraig? canys hi a weithiodd weithred dda arnaf. 11 Oblegid y mae gennych y tlodion bob amser gyda chwi; a mi nid ydych yn ei gael bob amser. 12 Canys hi yn tywallt yr ennaint hwn ar fy nghorff, a wnaeth hyn i’m claddu i. 13 Yn wir meddaf i chwi, Pa le bynnag y pregether yr efengyl hon yn yr holl fyd, mynegir yr hyn a wnaeth hi hefyd, er coffa amdani hi.
14 Yna yr aeth un o’r deuddeg, yr hwn a elwid Jwdas Iscariot, at yr archoffeiriaid, 15 Ac a ddywedodd wrthynt, Pa beth a roddwch i mi, a mi a’i traddodaf ef i chwi? A hwy a osodasant iddo ddeg ar hugain o arian. 16 Ac o hynny allan y ceisiodd efe amser cyfaddas i’w fradychu ef.
17 Ac ar y dydd cyntaf o ŵyl y bara croyw, y disgyblion a ddaethant at yr Iesu, gan ddywedyd wrtho, Pa le y mynni i ni baratoi i ti fwyta’r pasg? 18 Ac yntau a ddywedodd, Ewch i’r ddinas at y cyfryw un, a dywedwch wrtho, Y mae’r Athro yn dywedyd, Fy amser sydd agos: gyda thi y cynhaliaf y pasg, mi a’m disgyblion. 19 A’r disgyblion a wnaethant y modd y gorchmynasai’r Iesu iddynt, ac a baratoesant y pasg. 20 Ac wedi ei myned hi yn hwyr, efe a eisteddodd gyda’r deuddeg. 21 Ac fel yr oeddynt yn bwyta, efe a ddywedodd, Yn wir yr wyf yn dywedyd i chwi, mai un ohonoch chwi a’m bradycha i. 22 A hwythau yn drist iawn, a ddechreuasant ddywedyd wrtho, bob un ohonynt, Ai myfi yw, Arglwydd? 23 Ac efe a atebodd ac a ddywedodd, Yr hwn a wlych ei law gyda mi yn y ddysgl, hwnnw a’m bradycha i. 24 Mab y dyn yn ddiau sydd yn myned, fel y mae yn ysgrifenedig amdano: eithr gwae’r dyn hwnnw trwy’r hwn y bradychir Mab y dyn! da fuasai i’r dyn hwnnw pe nas ganesid ef. 25 A Jwdas, yr hwn a’i bradychodd ef, a atebodd ac a ddywedodd, Ai myfi yw efe, Athro? Yntau a ddywedodd wrtho, Ti a ddywedaist.
26 Ac fel yr oeddynt yn bwyta, yr Iesu a gymerth y bara, ac wedi iddo fendithio, efe a’i torrodd, ac a’i rhoddodd i’r disgyblion, ac a ddywedodd, Cymerwch, bwytewch: hwn yw fy nghorff. 27 Ac wedi iddo gymryd y cwpan, a diolch, efe a’i rhoddes iddynt, gan ddywedyd, Yfwch bawb o hwn: 28 Canys hwn yw fy ngwaed o’r testament newydd, yr hwn a dywelltir dros lawer, er maddeuant pechodau. 29 Ac yr ydwyf yn dywedyd i chwi, nad yfaf o hyn allan o ffrwyth hwn y winwydden, hyd y dydd hwnnw pan yfwyf ef gyda chwi yn newydd yn nheyrnas fy Nhad. 30 Ac wedi iddynt ganu hymn, hwy a aethant allan i fynydd yr Olewydd. 31 Yna y dywedodd yr Iesu wrthynt, Chwychwi oll a rwystrir heno o’m plegid i: canys ysgrifenedig yw, Trawaf y bugail, a defaid y praidd a wasgerir. 32 Eithr wedi fy atgyfodi, mi a af o’ch blaen chwi i Galilea. 33 A Phedr a atebodd ac a ddywedodd wrtho, Pe rhwystrid pawb o’th blegid di, eto ni’m rhwystrir i byth. 34 Yr Iesu a ddywedodd wrtho, Yn wir yr wyf yn dywedyd i ti, mai’r nos hon, cyn canu o’r ceiliog, y’m gwedi deirgwaith. 35 Pedr a ddywedodd wrtho, Pe gorfyddai imi farw gyda thi, ni’th wadaf ddim. Yr un modd hefyd y dywedodd yr holl ddisgyblion.
36 Yna y daeth yr Iesu gyda hwynt i fan a elwid Gethsemane, ac a ddywedodd wrth ei ddisgyblion, Eisteddwch yma, tra elwyf a gweddïo acw. 37 Ac efe a gymerth Pedr, a dau fab Sebedeus, ac a ddechreuodd dristáu ac ymofidio. 38 Yna efe a ddywedodd wrthynt, Trist iawn yw fy enaid hyd angau: arhoswch yma, a gwyliwch gyda mi. 39 Ac wedi iddo fyned ychydig ymlaen, efe a syrthiodd ar ei wyneb, gan weddïo, a dywedyd, Fy Nhad, os yw bosibl, aed y cwpan hwn heibio oddi wrthyf: eto nid fel yr ydwyf fi yn ewyllysio, ond fel yr ydwyt ti. 40 Ac efe a ddaeth at y disgyblion, ac a’u cafodd hwy yn cysgu; ac a ddywedodd wrth Pedr, Felly; oni allech chwi wylied un awr gyda mi? 41 Gwyliwch a gweddïwch, fel nad eloch i brofedigaeth. Yr ysbryd yn ddiau sydd yn barod, eithr y cnawd sydd wan. 42 Efe a aeth drachefn yr ail waith, ac a weddïodd, gan ddywedyd, Fy Nhad, onis gall y cwpan hwn fyned heibio oddi wrthyf, na byddo i mi yfed ohono, gwneler dy ewyllys di. 43 Ac efe a ddaeth, ac a’u cafodd hwy yn cysgu drachefn: canys yr oedd eu llygaid hwy wedi trymhau. 44 Ac efe a’u gadawodd hwynt, ac a aeth ymaith drachefn, ac a weddïodd y drydedd waith, gan ddywedyd yr un geiriau. 45 Yna y daeth efe at ei ddisgyblion, ac a ddywedodd wrthynt, Cysgwch bellach, a gorffwyswch: wele, y mae’r awr wedi nesáu, a Mab y dyn a draddodir i ddwylo pechaduriaid. 46 Codwch, awn: wele, nesaodd yr hwn sydd yn fy mradychu.
47 Ac efe eto yn llefaru, wele, Jwdas, un o’r deuddeg, a ddaeth, a chydag ef dyrfa fawr â chleddyfau a ffyn, oddi wrth yr archoffeiriaid a henuriaid y bobl. 48 A’r hwn a’i bradychodd ef a roesai arwydd iddynt, gan ddywedyd, Pa un bynnag a gusanwyf, hwnnw yw efe: deliwch ef. 49 Ac yn ebrwydd y daeth at yr Iesu, ac a ddywedodd, Henffych well, Athro; ac a’i cusanodd ef. 50 A’r Iesu a ddywedodd wrtho. Y cyfaill, i ba beth y daethost? Yna y daethant, ac y rhoesant ddwylo ar yr Iesu, ac a’i daliasant ef. 51 Ac wele, un o’r rhai oedd gyda’r Iesu, a estynnodd ei law, ac a dynnodd ei gleddyf, ac a drawodd was yr archoffeiriad, ac a dorrodd ei glust ef. 52 Yna y dywedodd yr Iesu wrtho, Dychwel dy gleddyf i’w le: canys pawb a’r a gymerant gleddyf, a ddifethir â chleddyf. 53 A ydwyt ti yn tybied nas gallaf yr awr hon ddeisyf ar fy Nhad, ac efe a rydd yn y fan i mi fwy na deuddeg lleng o angylion? 54 Pa fodd ynteu y cyflawnid yr ysgrythurau, mai felly y gorfydd bod? 55 Yn yr awr honno y dywedodd yr Iesu wrth y torfeydd, Ai megis at leidr y daethoch chwi allan, â chleddyfau a ffyn i’m dal i? yr oeddwn i beunydd gyda chwi yn eistedd yn dysgu yn y deml, ac ni’m daliasoch. 56 A hyn oll a wnaethpwyd, fel y cyflawnid ysgrythurau’r proffwydi. Yna yr holl ddisgyblion a’i gadawsant ef, ac a ffoesant.
57 A’r rhai a ddaliasent yr Iesu, a’i dygasant ef ymaith at Caiaffas yr archoffeiriad, lle yr oedd yr ysgrifenyddion a’r henuriaid wedi ymgasglu ynghyd. 58 A Phedr a’i canlynodd ef o hirbell, hyd yn llys yr archoffeiriad; ac a aeth i mewn, ac a eisteddodd gyda’r gweision, i weled y diwedd. 59 A’r archoffeiriaid a’r henuriaid, a’r holl gyngor, a geisiasant gau dystiolaeth yn erbyn yr Iesu, fel y rhoddent ef i farwolaeth; 60 Ac nis cawsant: ie, er dyfod yno gau dystion lawer, ni chawsant. Eithr o’r diwedd fe a ddaeth dau gau dyst, 61 Ac ddywedasant, Hwn a ddywedodd, Mi a allaf ddinistrio teml Dduw, a’i hadeiladu mewn tri diwrnod. 62 A chyfododd yr archoffeiriad, ac a ddywedodd wrtho, A atebi di ddim? beth y mae’r rhai hyn yn ei dystiolaethu yn dy erbyn? 63 Ond yr Iesu a dawodd. A’r archoffeiriad gan ateb a ddywedodd wrtho, Yr ydwyf yn dy dynghedu di trwy’r Duw byw, ddywedyd ohonot i ni, ai tydi yw y Crist, Mab Duw. 64 Yr Iesu a ddywedodd wrtho, Ti a ddywedaist: eithr meddaf i chwi, Ar ôl hyn y gwelwch Fab y dyn yn eistedd ar ddeheulaw’r gallu, ac yn dyfod ar gymylau’r nef. 65 Yna y rhwygodd yr archoffeiriad ei ddillad, gan ddywedyd, Efe a gablodd: pa raid inni mwy wrth dystion? wele, yr awron clywsoch ei gabledd ef. 66 Beth dybygwch chwi? Hwythau gan ateb a ddywedasant, Y mae efe yn euog o farwolaeth. 67 Yna y poerasant yn ei wyneb, ac a’i cernodiasant; eraill a’i trawsant ef â gwiail, 68 Gan ddywedyd, Proffwyda i ni, O Grist, pwy yw’r hwn a’th drawodd?
69 A Phedr oedd yn eistedd allan yn y llys: a daeth morwynig ato, ac a ddywedodd, A thithau oeddit gydag Iesu y Galilead. 70 Ac efe a wadodd ger eu bron hwy oll, ac a ddywedodd, Nis gwn beth yr wyt yn ei ddywedyd. 71 A phan aeth efe allan i’r porth, gwelodd un arall ef; a hi a ddywedodd wrth y rhai oedd yno, Yr oedd hwn hefyd gyda’r Iesu o Nasareth. 72 A thrachefn efe a wadodd trwy lw, Nid adwaen i y dyn. 73 Ac ychydig wedi, daeth y rhai oedd yn sefyll gerllaw, ac a ddywedasant wrth Pedr, Yn wir yr wyt tithau yn un ohonynt; canys y mae dy leferydd yn dy gyhuddo. 74 Yna y dechreuodd efe regi a thyngu, Nid adwaen i y dyn. Ac yn y man y canodd y ceiliog. 75 A chofiodd Pedr air yr Iesu, yr hwn a ddywedasai wrtho, Cyn canu o’r ceiliog, ti a’m gwedi deirgwaith. Ac efe a aeth allan, ac a wylodd yn chwerw‐dost.
14 Ac wedi deuddydd yr oedd y pasg, a gŵyl y bara croyw: a’r archoffeiriaid a’r ysgrifenyddion a geisiasant pa fodd y dalient ef trwy dwyll, ac y lladdent ef: 2 Eithr dywedasant, Nid ar yr ŵyl, rhag bod cynnwrf ymhlith y bobl.
3 A phan oedd efe ym Methania, yn nhŷ Simon y gwahanglwyfus, ac efe yn eistedd i fwyta, daeth gwraig a chanddi flwch o ennaint o nard gwlyb gwerthfawr; a hi a dorrodd y blwch, ac a’i tywalltodd ar ei ben ef. 4 Ac yr oedd rhai yn anfodlon ynddynt eu hunain, ac yn dywedyd, I ba beth y gwnaethpwyd y golled hon o’r ennaint? 5 Oblegid fe a allasid gwerthu hwn uwchlaw tri chan ceiniog, a’u rhoddi i’r tlodion. A hwy a ffromasant yn ei herbyn hi. 6 A’r Iesu a ddywedodd, Gadewch iddi; paham y gwnewch flinder iddi? hi a wnaeth weithred dda arnaf fi. 7 Canys bob amser y cewch y tlodion gyda chwi; a phan fynnoch y gellwch wneuthur da iddynt hwy: ond myfi ni chewch bob amser. 8 Hyn a allodd hon, hi a’i gwnaeth: hi a achubodd y blaen i eneinio fy nghorff erbyn y claddedigaeth. 9 Yn wir meddaf i chwi, Pa le bynnag y pregether yr efengyl hon yn yr holl fyd, yr hyn a wnaeth hon hefyd a adroddir er coffa amdani.
10 A Jwdas Iscariot, un o’r deuddeg, a aeth ymaith at yr archoffeiriaid, i’w fradychu ef iddynt. 11 A phan glywsant, fe fu lawen ganddynt, ac a addawsant roi arian iddo. Yntau a geisiodd pa fodd y gallai yn gymwys ei fradychu ef.
12 A’r dydd cyntaf o ŵyl y bara croyw, pan aberthent y pasg, dywedodd ei ddisgyblion wrtho, I ba le yr wyt ti yn ewyllysio i ni fyned i baratoi i ti, i fwyta’r pasg? 13 Ac efe a anfonodd ddau o’i ddisgyblion, ac a ddywedodd wrthynt, Ewch i’r ddinas; a chyferfydd â chwi ddyn yn dwyn ystenaid o ddwfr: dilynwch ef. 14 A pha le bynnag yr êl i mewn, dywedwch wrth ŵr y tŷ, Fod yr Athro yn dywedyd, Pa le y mae’r llety, lle y gallwyf, mi a’m disgyblion, fwyta’r pasg? 15 Ac efe a ddengys i chwi oruwchystafell fawr wedi ei thaenu yn barod: yno paratowch i ni. 16 A’i ddisgyblion a aethant, ac a ddaethant i’r ddinas; ac a gawsant megis y dywedasai efe wrthynt: ac a baratoesant y pasg. 17 A phan aeth hi yn hwyr, efe a ddaeth gyda’r deuddeg. 18 Ac fel yr oeddynt yn eistedd, ac yn bwyta, yr Iesu a ddywedodd, Yn wir meddaf i chwi, Un ohonoch, yr hwn sydd yn bwyta gyda myfi, a’m bradycha i. 19 Hwythau a ddechreuasant dristáu, a dywedyd wrtho bob yn un ac un, Ai myfi? ac arall, Ai myfi? 20 Ac efe a atebodd ac a ddywedodd wrthynt, Un o’r deuddeg, yr hwn sydd yn gwlychu gyda mi yn y ddysgl, yw efe. 21 Mab y dyn yn wir sydd yn myned ymaith, fel y mae yn ysgrifenedig amdano: ond gwae’r dyn hwnnw trwy’r hwn y bradychir Mab y dyn! da fuasai i’r dyn hwnnw pe nas ganesid.
22 Ac fel yr oeddynt yn bwyta, yr Iesu a gymerodd fara, ac a’i bendithiodd, ac a’i torrodd, ac a’i rhoddes iddynt; ac a ddywedodd, Cymerwch, bwytewch: hwn yw fy nghorff. 23 Ac wedi iddo gymryd y cwpan, a rhoi diolch, efe a’i rhoddes iddynt: a hwynt oll a yfasant ohono. 24 Ac efe a ddywedodd wrthynt, Hwn yw fy ngwaed i o’r testament newydd, yr hwn a dywelltir dros lawer. 25 Yn wir yr wyf yn dywedyd wrthych, nad yfaf mwy o ffrwyth y winwydden, hyd y dydd hwnnw pan yfwyf ef yn newydd yn nheyrnas Dduw.
26 Ac wedi iddynt ganu mawl, hwy a aethant allan i fynydd yr Olewydd. 27 A dywedodd yr Iesu wrthynt, Chwi a rwystrir oll o’m plegid i y nos hon: canys ysgrifenedig yw, Trawaf y bugail, a’r defaid a wasgerir. 28 Eithr wedi i mi atgyfodi, mi a af o’ch blaen chwi i Galilea. 29 Ond Pedr a ddywedodd wrtho, Pe byddai pawb wedi eu rhwystro, eto ni byddaf fi. 30 A dywedodd yr Iesu wrtho, Yn wir yr ydwyf yn dywedyd i ti, Heddiw, o fewn y nos hon, cyn canu o’r ceiliog ddwywaith, y gwedi fi deirgwaith. 31 Ond efe a ddywedodd yn helaethach o lawer, Pe gorfyddai imi farw gyda thi, ni’th wadaf ddim. A’r un modd y dywedasant oll. 32 A hwy a ddaethant i le yr oedd ei enw Gethsemane: ac efe a ddywedodd wrth ei ddisgyblion, Eisteddwch yma, tra fyddwyf yn gweddïo. 33 Ac efe a gymerth gydag ef Pedr, ac Iago, ac Ioan, ac a ddechreuodd ymofidio, a thristáu yn ddirfawr. 34 Ac efe a ddywedodd wrthynt, Y mae fy enaid yn athrist hyd angau: arhoswch yma, a gwyliwch. 35 Ac efe a aeth ychydig ymlaen, ac a syrthiodd ar y ddaear, ac a weddïodd, o bai bosibl, ar fyned yr awr honno oddi wrtho. 36 Ac efe a ddywedodd, Abba, Dad, pob peth sydd bosibl i ti: tro heibio y cwpan hwn oddi wrthyf: eithr nid y peth yr ydwyf fi yn ei ewyllysio, ond y peth yr ydwyt ti. 37 Ac efe a ddaeth, ac a’u cafodd hwy yn cysgu; ac a ddywedodd wrth Pedr, Simon, ai cysgu yr wyt ti? oni allit wylio un awr? 38 Gwyliwch a gweddïwch, rhag eich myned mewn temtasiwn. Yr ysbryd yn ddiau sydd barod, ond y cnawd sydd wan. 39 Ac wedi iddo fyned ymaith drachefn, efe a weddïodd, gan ddywedyd yr un ymadrodd. 40 Ac wedi iddo ddychwelyd, efe a’u cafodd hwynt drachefn yn cysgu; canys yr oedd eu llygaid hwynt wedi trymhau: ac ni wyddent beth a atebent iddo. 41 Ac efe a ddaeth y drydedd waith, ac a ddywedodd wrthynt, Cysgwch weithian, a gorffwyswch: digon yw; daeth yr awr: wele, yr ydys yn bradychu Mab y dyn i ddwylo pechaduriaid. 42 Cyfodwch, awn; wele, y mae’r hwn sydd yn fy mradychu yn agos.
43 Ac yn y man, ac efe eto yn llefaru, daeth Jwdas, un o’r deuddeg, a chydag ef dyrfa fawr â chleddyfau a ffyn, oddi wrth yr archoffeiriaid, a’r ysgrifenyddion, a’r henuriaid. 44 A’r hwn a’i bradychodd ef a roddasai arwydd iddynt, gan ddywedyd, Pwy bynnag a gusanwyf, hwnnw yw: deliwch ef, a dygwch ymaith yn sicr. 45 A phan ddaeth, yn ebrwydd efe a aeth ato, ac a ddywedodd, Rabbi, Rabbi; ac a’i cusanodd ef.
46 A hwythau a roesant eu dwylo arno, ac a’i daliasant ef. 47 A rhyw un o’r rhai oedd yn sefyll gerllaw, a dynnodd ei gleddyf, ac a drawodd was yr archoffeiriad, ac a dorrodd ymaith ei glust ef. 48 A’r Iesu a atebodd ac a ddywedodd wrthynt, Ai megis at leidr y daethoch allan, â chleddyfau ac â ffyn, i’m dala i? 49 Yr oeddwn i beunydd gyda chwi yn athrawiaethu yn y deml, ac ni’m daliasoch: ond rhaid yw cyflawni’r ysgrythurau. 50 A hwynt oll a’i gadawsant ef, ac a ffoesant. 51 A rhyw ŵr ieuanc oedd yn ei ddilyn ef, wedi ymwisgo â lliain main ar ei gorff noeth; a’r gwŷr ieuainc a’i daliasant ef. 52 A hwn a adawodd y lliain, ac a ffodd oddi wrthynt yn noeth.
53 A hwy a ddygasant yr Iesu at yr archoffeiriad: a’r holl archoffeiriaid a’r henuriaid, a’r ysgrifenyddion, a ymgasglasant gydag ef. 54 A Phedr a’i canlynodd ef o hirbell, hyd yn llys yr archoffeiriad; ac yr oedd efe yn eistedd gyda’r gwasanaethwyr, ac yn ymdwymo wrth y tân. 55 A’r archoffeiriaid a’r holl gyngor a geisiasant dystiolaeth yn erbyn yr Iesu, i’w roi ef i’w farwolaeth; ac ni chawsant. 56 Canys llawer a ddygasant gau dystiolaeth yn ei erbyn ef; eithr nid oedd eu tystiolaethau hwy yn gyson. 57 A rhai a gyfodasant ac a ddygasant gamdystiolaeth yn ei erbyn, gan ddywedyd, 58 Ni a’i clywsom ef yn dywedyd, Mi a ddinistriaf y deml hon o waith dwylo, ac mewn tridiau yr adeiladaf arall heb fod o waith llaw. 59 Ac eto nid oedd eu tystiolaeth hwy felly yn gyson. 60 A chyfododd yr archoffeiriad yn y canol, ac a ofynnodd i’r Iesu, gan ddywedyd, Onid atebi di ddim? beth y mae’r rhai hyn yn ei dystiolaethu yn dy erbyn? 61 Ac efe a dawodd, ac nid atebodd ddim. Drachefn yr archoffeiriad a ofynnodd iddo, ac a ddywedodd wrtho, Ai tydi yw Crist, Mab y Bendigedig? 62 A’r Iesu a ddywedodd, Myfi yw: a chwi a gewch weled Mab y dyn yn eistedd ar ddeheulaw’r gallu, ac yn dyfod yng nghymylau’r nef. 63 Yna yr archoffeiriad, gan rwygo ei ddillad, a ddywedodd, Pa raid i ni mwy wrth dystion? 64 Chwi a glywsoch y gabledd: beth dybygwch chwi? A hwynt oll a’i condemniasant ef, ei fod yn euog o farwolaeth. 65 A dechreuodd rhai boeri arno, a chuddio ei wyneb, a’i gernodio; a dywedyd wrtho, Proffwyda. A’r gweinidogion a’i trawsant ef â gwiail.
66 Ac fel yr oedd Pedr yn y llys i waered, daeth un o forynion yr archoffeiriad: 67 A phan ganfu hi Pedr yn ymdwymo, hi a edrychodd arno, ac a ddywedodd, Tithau hefyd oeddit gyda’r Iesu o Nasareth. 68 Ac efe a wadodd, gan ddywedyd, Nid adwaen i, ac ni wn i beth yr wyt yn ei ddywedyd. Ac efe a aeth allan i’r porth; a’r ceiliog a ganodd. 69 A phan welodd y llances ef drachefn, hi a ddechreuodd ddywedyd wrth y rhai oedd yn sefyll yno, Y mae hwn yn un ohonynt. 70 Ac efe a wadodd drachefn. Ac ychydig wedi, y rhai oedd yn sefyll gerllaw a ddywedasant wrth Pedr drachefn, Yn wir yr wyt ti yn un ohonynt; canys Galilead wyt, a’th leferydd sydd debyg. 71 Ond efe a ddechreuodd regi a thyngu, Nid adwaen i’r dyn yma yr ydych chwi yn dywedyd amdano. 72 A’r ceiliog a ganodd yr ail waith. A Phedr a gofiodd y gair a ddywedasai’r Iesu wrtho, Cyn canu o’r ceiliog ddwywaith, ti a’m gwedi deirgwaith. A chan ystyried hynny, efe a wylodd.
William Morgan Welsh Bible Edition © British & Foreign Bible Society 1992.