Print Page Options
Previous Prev Day Next DayNext

Chronological

Read the Bible in the chronological order in which its stories and events occurred.
Duration: 365 days
Beibl William Morgan (BWM)
Version
1 Corinthiaid 9-11

Onid wyf fi yn apostol? onid wyf fi yn rhydd? oni welais i Iesu Grist ein Harglwydd? onid fy ngwaith i ydych chwi yn yr Arglwydd? Onid wyf yn apostol i eraill, eto yr wyf i chwi: canys sêl fy apostoliaeth i ydych chwi yn yr Arglwydd. Fy amddiffyn i, i’r rhai a’m holant, yw hwn; Onid oes i ni awdurdod i fwyta ac i yfed? Onid oes i ni awdurdod i arwain o amgylch wraig a fyddai chwaer, megis ag y mae i’r apostolion eraill, ac i frodyr yr Arglwydd, ac i Ceffas? Ai myfi yn unig a Barnabas, nid oes gennym awdurdod i fod heb weithio? Pwy sydd un amser yn rhyfela ar ei draul ei hun? pwy sydd yn plannu gwinllan, ac nid yw yn bwyta o’i ffrwyth hi? neu pwy sydd yn porthi praidd, ac nid yw yn bwyta o laeth y praidd? Ai yn ôl dyn yr wyf fi yn dywedyd y pethau hyn? neu onid yw’r ddeddf hefyd yn dywedyd hyn? Canys ysgrifenedig yw yn neddf Moses, Na chae safn yr ych sydd yn dyrnu. Ai dros ychen y mae Duw yn gofalu? 10 Ynteu er ein mwyn ni yn hollol y mae yn dywedyd? Canys er ein mwyn ni yr ysgrifennwyd, mai mewn gobaith y dylai’r arddwr aredig, a’r dyrnwr mewn gobaith, i fod yn gyfrannog o’i obaith. 11 Os nyni a heuasom i chwi bethau ysbrydol, ai mawr yw os nyni a fedwn eich pethau cnawdol? 12 Os yw eraill yn gyfranogion o’r awdurdod hon arnoch, onid ydym ni yn hytrach? Eithr nid arferasom ni yr awdurdod hon: ond goddef yr ydym bob peth, fel na roddom ddim rhwystr i efengyl Crist. 13 Oni wyddoch chwi fod y rhai sydd yn gwneuthur pethau cysegredig, yn bwyta o’r cysegr? a’r rhai sydd yn gwasanaethu yr allor, yn gyd‐gyfranogion o’r allor? 14 Felly hefyd yr ordeiniodd yr Arglwydd, i’r rhai sydd yn pregethu’r efengyl, fyw wrth yr efengyl. 15 Eithr myfi nid arferais yr un o’r pethau hyn: ac nid ysgrifennais y pethau hyn, fel y gwnelid felly i mi: canys gwell yw imi farw, na gwneuthur o neb fy ngorfoledd yn ofer. 16 Canys os pregethaf yr efengyl, nid oes orfoledd i mi: canys anghenraid a osodwyd arnaf; a gwae fydd i mi, oni phregethaf yr efengyl. 17 Canys os gwnaf hyn o’m bodd, y mae i mi wobr: ond os o’m hanfodd, ymddiriedwyd i mi am y gorchwyl. 18 Pa wobr sydd i mi gan hynny? Bod i mi, pan efengylwyf, osod efengyl Crist yn rhad, fel na chamarferwyf fy awdurdod yn yr efengyl. 19 Canys er fy mod yn rhydd oddi wrth bawb, mi a’m gwneuthum fy hun yn was i bawb, fel yr enillwn fwy. 20 Ac mi a ymwneuthum i’r Iddewon megis yn Iddew, fel yr enillwn yr Iddewon; i’r rhai dan y ddeddf, megis dan y ddeddf, fel yr enillwn y rhai sydd dan y ddeddf; 21 I’r rhai di‐ddeddf, megis di‐ddeddf, (a minnau heb fod yn ddi‐ddeddf i Dduw, ond dan y ddeddf i Grist,) fel yr enillwn y rhai di‐ddeddf. 22 Ymwneuthum i’r rhai gweiniaid megis yn wan, fel yr enillwn y gweiniaid: mi a ymwneuthum yn bob peth i bawb, fel y gallwn yn hollol gadw rhai. 23 A hyn yr wyf fi yn ei wneuthur er mwyn yr efengyl, fel y’m gwneler yn gyd‐gyfrannog ohoni. 24 Oni wyddoch chwi fod y rhai sydd yn rhedeg mewn gyrfa, i gyd yn rhedeg, ond bod un yn derbyn y gamp? Felly rhedwch, fel y caffoch afael. 25 Ac y mae pob un a’r sydd yn ymdrechu, yn ymgadw ym mhob peth: a hwynt‐hwy yn wir, fel y derbyniont goron lygredig; eithr nyni, un anllygredig. 26 Yr wyf fi gan hynny felly yn rhedeg, nid megis ar amcan; felly yr wyf yn ymdrechu, nid fel un yn curo’r awyr: 27 Ond yr wyf fi yn cosbi fy nghorff, ac yn ei ddwyn yn gaeth; rhag i mi mewn un modd, wedi i mi bregethu i eraill, fod fy hun yn anghymeradwy.

10 Ac ni fynnwn i chwi fod heb wybod, fod ein tadau oll dan y cwmwl, a’u myned oll trwy y môr; A’u bedyddio hwy oll i Moses, yn y cwmwl, ac yn y môr; A bwyta o bawb ohonynt yr un bwyd ysbrydol; Ac yfed o bawb ohonynt yr un ddiod ysbrydol: canys hwy a yfasant o’r Graig ysbrydol a oedd yn canlyn: a’r Graig oedd Crist. Eithr ni bu Dduw fodlon i’r rhan fwyaf ohonynt: canys cwympwyd hwynt yn y diffeithwch. A’r pethau hyn a wnaed yn siamplau i ni, fel na chwenychem ddrygioni, megis ag y chwenychasant hwy. Ac na fyddwch eilun‐addolwyr, megis rhai ohonynt hwy; fel y mae yn ysgrifenedig, Eisteddodd y bobl i fwyta ac i yfed, ac a gyfodasant i chwarae. Ac na odinebwn, fel y godinebodd rhai ohonynt hwy, ac y syrthiodd mewn un dydd dair mil ar hugain. Ac na themtiwn Grist, megis ag y temtiodd rhai ohonynt hwy, ac a’u distrywiwyd gan seirff. 10 Ac na rwgnechwch, megis y grwgnachodd rhai ohonynt hwy, ac a’u distrywiwyd gan y dinistrydd. 11 A’r pethau hyn oll a ddigwyddasant yn siamplau iddynt hwy; ac a ysgrifennwyd yn rhybudd i ninnau, ar y rhai y daeth terfynau yr oesoedd. 12 Am hynny, yr hwn sydd yn tybied ei fod yn sefyll, edryched na syrthio. 13 Nid ymaflodd ynoch demtasiwn, ond un dynol: eithr ffyddlon yw Duw, yr hwn ni ad eich temtio uwchlaw yr hyn a alloch; eithr a wna ynghyd â’r temtasiwn ddihangfa hefyd, fel y galloch ei ddwyn. 14 Oherwydd paham, fy anwylyd, ffowch oddi wrth eilun‐addoliaeth. 15 Dywedyd yr wyf fel wrth rai synhwyrol: bernwch chwi beth yr wyf fi yn ei ddywedyd. 16 Ffiol y fendith, yr hon a fendigwn, onid cymun gwaed Crist ydyw? y bara yr ydym yn ei dorri, onid cymun corff Crist yw? 17 Oblegid nyni yn llawer ydym un bara, ac un corff: canys yr ydym ni oll yn gyfranogion o’r un bara. 18 Edrychwch ar yr Israel yn ôl y cnawd: onid yw’r rhai sydd yn bwyta’r ebyrth, yn gyfranogion o’r allor? 19 Beth gan hynny yr ydwyf yn ei ddywedyd? bod yr eilun yn ddim, neu’r hyn a aberthwyd i eilun yn ddim? 20 Ond y pethau y mae’r Cenhedloedd yn eu haberthu, i gythreuliaid y maent yn eu haberthu, ac nid i Dduw. Ni fynnwn i chwi fod yn gyfranogion â’r cythreuliaid. 21 Ni ellwch yfed o ffiol yr Arglwydd, a ffiol y cythreuliaid: ni ellwch fod yn gyfranogion o fwrdd yr Arglwydd, a bord y cythreuliaid. 22 Ai gyrru’r Arglwydd i eiddigedd yr ydym? a ydym ni yn gryfach nag ef? 23 Pob peth sydd gyfreithlon i mi, eithr nid yw pob peth yn llesáu: pob peth sydd gyfreithlon i mi, eithr nid yw pob peth yn adeiladu. 24 Na cheisied neb yr eiddo ei hun; ond pob un yr eiddo arall. 25 Beth bynnag a werthir yn y gigfa, bwytewch; heb ofyn dim er mwyn cydwybod: 26 Canys eiddo’r Arglwydd y ddaear, a’i chyflawnder. 27 Os bydd i neb o’r rhai di‐gred eich gwahodd, ac os mynnwch fyned; bwytewch beth bynnag a rodder ger eich bron, heb ymofyn dim er mwyn cydwybod. 28 Eithr os dywed neb wrthych, Peth wedi ei aberthu i eilunod yw hwn; na fwytewch, er mwyn hwnnw yr hwn a’i mynegodd, ac er mwyn cydwybod: canys eiddo’r Arglwydd y ddaear, a’i chyflawnder. 29 Cydwybod, meddaf, nid yr eiddot ti, ond yr eiddo arall: canys paham y bernir fy rhyddid i gan gydwybod un arall? 30 Ac os wyf fi trwy ras yn cymryd cyfran, paham y’m ceblir am y peth yr wyf yn rhoddi diolch amdano? 31 Pa un bynnag gan hynny ai bwyta ai yfed, ai beth bynnag a wneloch, gwnewch bob peth er gogoniant i Dduw. 32 Byddwch ddiachos tramgwydd i’r Iddewon ac i’r Cenhedloedd hefyd, ac i eglwys Dduw: 33 Megis yr ydwyf finnau yn rhyngu bodd i bawb ym mhob peth: heb geisio fy llesâd fy hun, ond llesâd llaweroedd, fel y byddont hwy gadwedig.

11 Byddwch ddilynwyr i mi, megis yr wyf finnau i Grist. Yr ydwyf yn eich canmol, frodyr, eich bod yn fy nghofio i ym mhob peth, ac yn dal y traddodiadau, fel y traddodais i chwi. Eithr mi a fynnwn i chwi wybod, mai pen pob gŵr yw Crist; a phen y wraig yw’r gŵr; a phen Crist yw Duw. Pob gŵr yn gweddïo neu yn proffwydo, a pheth am ei ben, sydd yn cywilyddio ei ben. Eithr pob gwraig yn gweddïo neu yn proffwydo, yn bennoeth, sydd yn cywilyddio ei phen: canys yr un yw â phe byddai wedi ei heillio. Canys os y wraig ni wisg am ei phen, cneifier hi hefyd: eithr os brwnt i wraig ei chneifio, neu ei heillio, gwisged. Canys gŵr yn wir ni ddylai wisgo am ei ben, am ei fod yn ddelw a gogoniant Duw: a’r wraig yw gogoniant y gŵr. Canys nid yw’r gŵr o’r wraig, ond y wraig o’r gŵr. Ac ni chrewyd y gŵr er mwyn y wraig; eithr y wraig er mwyn y gŵr. 10 Am hynny y dylai’r wraig fod ganddi awdurdod ar ei phen, oherwydd yr angylion. 11 Er hynny nid yw na’r gŵr heb y wraig, na’r wraig heb y gŵr, yn yr Arglwydd. 12 Canys yr un wedd ag y mae’r wraig o’r gŵr, felly y mae’r gŵr trwy’r wraig: a phob peth sydd o Dduw. 13 Bernwch ynoch eich hunain, ai hardd yw i wraig weddïo Duw yn bennoeth? 14 Onid yw naturiaeth ei hun yn eich dysgu chwi, os gwalltlaes a fydd gŵr, mai amarch yw iddo? 15 Eithr os gwraig a fydd gwalltlaes, clod yw iddi: oblegid ei llaeswallt a ddodwyd yn orchudd iddi. 16 Od oes neb a fyn fod yn ymrysongar, nid oes gennym ni gyfryw ddefod, na chan eglwysi Duw. 17 Eithr wrth ddywedyd hyn, nid ydwyf yn eich canmol, eich bod yn dyfod ynghyd, nid er gwell, ond er gwaeth. 18 Canys yn gyntaf, pan ddeloch ynghyd yn yr eglwys, yr ydwyf yn clywed fod ymrafaelion yn eich mysg chwi; ac o ran yr wyf fi yn credu. 19 Canys rhaid yw bod hefyd heresïau yn eich mysg, fel y byddo’r rhai cymeradwy yn eglur yn eich plith chwi. 20 Pan fyddoch chwi gan hynny yn dyfod ynghyd i’r un lle, nid bwyta swper yr Arglwydd ydyw hyn. 21 Canys y mae pob un wrth fwyta, yn cymryd ei swper ei hun o’r blaen; ac un sydd â newyn arno, ac arall sydd yn feddw. 22 Onid oes gennych dai i fwyta ac i yfed? ai dirmygu yr ydych chwi eglwys Dduw, a gwaradwyddo’r rhai nid oes ganddynt? Pa beth a ddywedaf wrthych? a ganmolaf fi chwi yn hyn? Nid wyf yn eich canmol. 23 Canys myfi a dderbyniais gan yr Arglwydd yr hyn hefyd a draddodais i chwi; Bod i’r Arglwydd Iesu, y nos y bradychwyd ef, gymryd bara: 24 Ac wedi iddo ddiolch, efe a’i torrodd, ac a ddywedodd, Cymerwch, bwytewch; hwn yw fy nghorff, yr hwn a dorrir trosoch: gwnewch hyn er coffa amdanaf. 25 Yr un modd efe a gymerodd y cwpan, wedi swperu, gan ddywedyd, Y cwpan hwn yw’r testament newydd yn fy ngwaed: gwnewch hyn, cynifer gwaith bynnag yr yfoch, er coffa amdanaf. 26 Canys cynifer gwaith bynnag y bwytaoch y bara hwn, ac yr yfoch y cwpan hwn, y dangoswch farwolaeth yr Arglwydd oni ddelo. 27 Am hynny, pwy bynnag a fwytao’r bara hwn, neu a yfo gwpan yr Arglwydd yn annheilwng, euog fydd o gorff a gwaed yr Arglwydd. 28 Eithr holed dyn ef ei hun; ac felly bwytaed o’r bara, ac yfed o’r cwpan. 29 Canys yr hwn sydd yn bwyta ac yn yfed yn annheilwng, sydd yn bwyta ac yn yfed barnedigaeth iddo ei hun, am nad yw yn iawn farnu corff yr Arglwydd. 30 Oblegid hyn y mae llawer yn weiniaid ac yn llesg yn eich mysg, a llawer yn huno. 31 Canys pe iawn farnem ni ein hunain, ni’n bernid. 32 Eithr pan y’n bernir, y’n ceryddir gan yr Arglwydd, fel na’n damnier gyda’r byd. 33 Am hynny, fy mrodyr, pan ddeloch ynghyd i fwyta, arhoswch eich gilydd. 34 Eithr os bydd newyn ar neb, bwytaed gartref: fel na ddeloch ynghyd i farnedigaeth. Ond y pethau eraill mi a’u trefnaf pan ddelwyf.

Beibl William Morgan (BWM)

William Morgan Welsh Bible Edition © British & Foreign Bible Society 1992.