Print Page Options
Previous Prev Day Next DayNext

Chronological

Read the Bible in the chronological order in which its stories and events occurred.
Duration: 365 days
Beibl William Morgan (BWM)
Version
2 Corinthiaid 5-9

Canys ni a wyddom, os ein daearol dŷ o’r babell hon a ddatodir, fod i ni adeilad gan Dduw, sef tŷ nid o waith llaw, tragwyddol yn y nefoedd. Canys am hynny yr ydym yn ocheneidio, gan ddeisyfu cael ein harwisgo â’n tŷ sydd o’r nef: Os hefyd wedi ein gwisgo, nid yn noethion y’n ceir. Canys ninnau hefyd y rhai ŷm yn y babell hon ydym yn ocheneidio, yn llwythog: yn yr hyn nid ŷm yn chwennych ein diosg, ond ein harwisgo, fel y llyncer yr hyn sydd farwol gan fywyd. A’r hwn a’n gweithiodd ni i hyn yma yw Duw, yr hwn hefyd a roddodd i ni ernes yr Ysbryd. Am hynny yr ydym yn hyderus bob amser, ac yn gwybod, tra ydym yn gartrefol yn y corff, ein bod oddi cartref oddi wrth yr Arglwydd: Canys wrth ffydd yr ydym yn rhodio, ac nid wrth olwg. Ond yr ydym yn hy, ac yn gweled yn dda yn hytrach fod oddi cartref o’r corff, a chartrefu gyda’r Arglwydd. Am hynny hefyd yr ydym yn ymorchestu, pa un bynnag ai gartref y byddom, ai oddi cartref, ein bod yn gymeradwy ganddo ef. 10 Canys rhaid i ni oll ymddangos gerbron brawdle Crist; fel y derbynio pob un y pethau a wnaethpwyd yn y corff, yn ôl yr hyn a wnaeth, pa un bynnag ai da ai drwg. 11 A ni gan hynny yn gwybod ofn yr Arglwydd, yr ydym yn perswadio dynion: eithr i Dduw y’n gwnaed yn hysbys; ac yr ydwyf yn gobeithio ddarfod ein gwneuthur yn hysbys yn eich cydwybodau chwithau hefyd. 12 Canys nid ydym yn ein canmol ein hunain drachefn wrthych, ond yn rhoddi i chwi achlysur gorfoledd o’n plegid ni, fel y caffoch beth i ateb yn erbyn y rhai sydd yn gorfoleddu yn y golwg, ac nid yn y galon. 13 Canys pa un bynnag ai amhwyllo yr ydym, i Dduw yr ydym; ai yn ein pwyll yr ydym, i chwi yr ydym. 14 Canys y mae cariad Crist yn ein cymell ni, gan farnu ohonom hyn; os bu un farw dros bawb, yna meirw oedd pawb: 15 Ac efe a fu farw dros bawb, fel na byddai i’r rhai byw fyw mwyach iddynt eu hunain, ond i’r hwn a fu farw drostynt, ac a gyfodwyd. 16 Am hynny nyni o hyn allan nid adwaenom neb yn ôl y cnawd: ac os buom hefyd yn adnabod Crist yn ôl y cnawd, eto yn awr nid ydym yn ei adnabod ef mwyach. 17 Gan hynny od oes neb yng Nghrist, y mae efe yn greadur newydd: yr hen bethau a aethant heibio; wele, gwnaethpwyd pob peth yn newydd. 18 A phob peth sydd o Dduw, yr hwn a’n cymododd ni ag ef ei hun trwy Iesu Grist, ac a roddodd i ni weinidogaeth y cymod; 19 Sef, bod Duw yng Nghrist yn cymodi’r byd ag ef ei hun, heb gyfrif iddynt eu pechodau; ac wedi gosod ynom ni air y cymod. 20 Am hynny yr ydym ni yn genhadau dros Grist, megis pe byddai Duw yn deisyf arnoch trwom ni: yr ydym yn erfyn dros Grist, Cymoder chwi â Duw. 21 Canys yr hwn nid adnabu bechod, a wnaeth efe yn bechod drosom ni; fel y’n gwnelid ni yn gyfiawnder Duw ynddo ef.

A ninnau, gan gydweithio, ydym yn atolwg i chwi, na dderbynioch ras Duw yn ofer: (Canys y mae efe yn dywedyd, Mewn amser cymeradwy y’th wrandewais, ac yn nydd iachawdwriaeth y’th gynorthwyais: wele, yn awr yr amser cymeradwy; wele, yn awr ddydd yr iachawdwriaeth.) Heb roddi dim achos tramgwydd mewn dim, fel na feier ar y weinidogaeth: Eithr gan ein dangos ein hunain ym mhob peth fel gweinidogion Duw, mewn amynedd mawr, mewn cystuddiau, mewn anghenion, mewn cyfyngderau, Mewn gwialenodiau, mewn carcharau, mewn terfysgau, mewn poenau, mewn gwyliadwriaethau, mewn ymprydiau, Mewn purdeb, mewn gwybodaeth, mewn hirymaros, mewn tiriondeb, yn yr Ysbryd Glân, mewn cariad diragrith, Yng ngair gwirionedd, yn nerth Duw, trwy arfau cyfiawnder ar ddeau ac ar aswy, Trwy barch ac amarch, trwy anghlod a chlod: megis twyllwyr, ac er hynny yn eirwir; Megis anadnabyddus, ac er hynny yn adnabyddus; megis yn meirw, ac wele, byw ydym; megis wedi ein ceryddu, a heb ein lladd; 10 Megis wedi ein tristáu, ond yn wastad yn llawen; megis yn dlodion, ond yn cyfoethogi llawer; megis heb ddim gennym, ond eto yn meddiannu pob peth. 11 Ein genau ni a agorwyd wrthych chwi, O Gorinthiaid, ein calon ni a ehangwyd. 12 Ni chyfyngwyd arnoch ynom ni, eithr cyfyngwyd arnoch yn eich ymysgaroedd eich hunain. 13 Ond am yr un tâl, (yr ydwyf yn dywedyd megis wrth fy mhlant,) ehanger chwithau hefyd. 14 Na ieuer chwi yn anghymharus gyda’r rhai di-gred; canys pa gyfeillach sydd rhwng cyfiawnder ac anghyfiawnder? a pha gymundeb rhwng goleuni a thywyllwch? 15 A pha gysondeb sydd rhwng Crist a Belial? neu pa ran sydd i gredadun gydag anghredadun? 16 A pha gydfod sydd rhwng teml Duw ac eilunod? canys teml y Duw byw ydych chwi; fel y dywedodd Duw, Mi a breswyliaf ynddynt, ac a rodiaf yn eu mysg, ac a fyddaf yn Dduw iddynt hwy, a hwy a fyddant yn bobl i mi. 17 Oherwydd paham deuwch allan o’u canol hwy, ac ymddidolwch, medd yr Arglwydd, ac na chyffyrddwch â dim aflan; ac mi a’ch derbyniaf chwi, 18 Ac a fyddaf yn Dad i chwi, a chwithau a fyddwch yn feibion ac yn ferched i mi, medd yr Arglwydd Hollalluog.

Am hynny gan fod gennym yr addewidion hyn, anwylyd, ymlanhawn oddi wrth bob halogrwydd cnawd ac ysbryd, gan berffeithio sancteiddrwydd yn ofn Duw. Derbyniwch ni. Ni wnaethom gam i neb; ni lygrasom neb; nid ysbeiliasom neb. Nid i’ch condemnio yr wyf yn dywedyd: canys mi a ddywedais o’r blaen eich bod chwi yn ein calonnau ni, i farw ac i fyw gyda chwi. Y mae hyfder fy ymadrodd yn fawr wrthych. Y mae gennyf orfoledd mawr o’ch plegid chwi: yr wyf yn llawn o ddiddanwch, yn dra chyflawn o lawenydd yn ein holl orthrymder. Canys wedi ein dyfod ni i Facedonia, ni chafodd ein cnawd ni ddim llonydd; eithr ym mhob peth cystuddiedig fuom: oddi allan yr oedd ymladdau, oddi fewn ofnau. Eithr Duw, yr hwn sydd yn diddanu y rhai cystuddiedig, a’n diddanodd ni wrth ddyfodiad Titus. Ac nid yn unig wrth ei ddyfodiad ef, ond hefyd wrth y diddanwch â’r hwn y diddanwyd ef ynoch chwi, pan fynegodd efe i ni eich awyddfryd chwi, eich galar chwi, eich sêl tuag ataf fi; fel y llawenheais i yn fwy. Canys er i mi eich tristáu chwi mewn llythyr, nid yw edifar gennyf, er bod yn edifar gennyf; canys yr wyf yn gweled dristáu o’r llythyr hwnnw chwi, er nad oedd ond dros amser. Yn awr yr ydwyf yn llawen, nid am eich tristáu chwi, ond am eich tristáu i edifeirwch: canys tristáu a wnaethoch yn dduwiol, fel na chaech golled mewn dim oddi wrthym ni. 10 Canys duwiol dristwch sydd yn gweithio edifeirwch er iachawdwriaeth ni bydd edifeirwch ohoni: eithr tristwch y byd sydd yn gweithio angau. 11 Canys wele hyn yma, eich tristáu chwi yn dduwiol, pa astudrwydd ei faint a weithiodd ynoch, ie, pa amddiffyn, ie, pa soriant, ie, pa ofn, ie, pa awyddfryd, ie, pa sêl, ie, pa ddial! Ym mhob peth y dangosasoch eich bod yn bur yn y peth hwn. 12 Oherwydd paham, er ysgrifennu ohonof atoch, nid ysgrifennais o’i blegid ef a wnaethai’r cam, nac oblegid yr hwn a gawsai gam, ond er mwyn bod yn eglur i chwi ein gofal drosoch gerbron Duw. 13 Am hynny nyni a ddiddanwyd yn eich diddanwch chwi: a mwy o lawer y buom lawen am lawenydd Titus, oblegid esmwytháu ar ei ysbryd ef gennych chwi oll. 14 Oblegid os bostiais ddim wrtho ef amdanoch, ni’m cywilyddiwyd: eithr megis y dywedasom wrthych bob dim mewn gwirionedd, felly hefyd gwirionedd oedd ein bost ni, yr hwn a fu wrth Titus. 15 Ac y mae ei ymysgaroedd ef yn helaethach tuag atoch, wrth gofio ohono eich ufudd-dod chwi oll, pa fodd trwy ofn a dychryn y derbyniasoch ef. 16 Am hynny llawen wyf, am fod i mi hyder arnoch ym mhob dim.

Yr ydym ni hefyd yn hysbysu i chwi, frodyr, y gras Duw a roddwyd yn eglwysi Macedonia; Ddarfod, mewn mawr brofiad cystudd, i helaethrwydd eu llawenydd hwy a’u dwfn dlodi, ymhelaethu i gyfoeth eu haelioni hwy. Oblegid yn ôl eu gallu, yr wyf fi yn dyst, ac uwchlaw eu gallu, yr oeddynt yn ewyllysgar ohonynt eu hunain; Gan ddeisyfu arnom trwy lawer o ymbil, ar dderbyn ohonom ni y rhodd, a chymdeithas gweinidogaeth y saint. A hyn a wnaethant, nid fel yr oeddem ni yn gobeithio, ond hwy a’u rhoddasant eu hunain yn gyntaf i’r Arglwydd, ac i ninnau trwy ewyllys Duw: Fel y dymunasom ni ar Titus, megis y dechreuasai efe o’r blaen, felly hefyd orffen ohono yn eich plith chwi y gras hwn hefyd. Eithr fel yr ydych ym mhob peth yn helaeth, mewn ffydd, a gair, a gwybodaeth, a phob astudrwydd, ac yn eich cariad tuag atom ni; edrychwch ar fod ohonoch yn y gras hwn hefyd yn ehelaeth. Nid trwy orchymyn yr ydwyf yn dywedyd, ond oblegid diwydrwydd rhai eraill, a chan brofi gwirionedd eich cariad chwi. Canys chwi a adwaenoch ras ein Harglwydd Iesu Grist, iddo ef, ac yntau’n gyfoethog, fyned er eich mwyn chwi yn dlawd, fel y cyfoethogid chwi trwy ei dlodi ef. 10 Ac yr ydwyf yn rhoddi cyngor yn hyn: canys hyn sydd dda i chwi, y rhai a ragddechreuasoch, nid yn unig wneuthur, ond hefyd ewyllysio er y llynedd. 11 Ac yn awr gorffennwch wneuthur hefyd; fel megis ag yr oedd y parodrwydd i ewyllysio, felly y byddo i gwblhau hefyd o’r hyn sydd gennych. 12 Canys os bydd parodrwydd meddwl o’r blaen, yn ôl yr hyn sydd gan un, y mae yn gymeradwy, nid yn ôl yr hyn nid oes ganddo. 13 Ac nid fel y byddai esmwythdra i eraill, a chystudd i chwithau; 14 Eithr o gymhwystra: y pryd hwn bydded eich helaethrwydd chwi yn diwallu eu diffyg hwy, fel y byddo eu helaethrwydd hwythau yn diwallu eich diffyg chwithau; fel y byddo cymhwystra: 15 Megis y mae yn ysgrifenedig, Yr hwn a gasglodd lawer, nid oedd ganddo weddill; ac a gasglodd ychydig, nid oedd arno eisiau. 16 Eithr i Dduw y byddo’r diolch, yr hwn a roddodd yr un diwydrwydd trosoch yng nghalon Titus. 17 Oblegid yn wir efe a dderbyniodd y dymuniad; a chan fod yn fwy diwyd, a aeth atoch o’i wirfodd ei hun. 18 Ni a anfonasom hefyd gydag ef y brawd, yr hwn y mae ei glod yn yr efengyl trwy’r holl eglwysi; 19 Ac nid hynny yn unig, eithr hefyd a ddewiswyd gan yr eglwysi i gydymdaith â ni â’r gras hwn, yr hwn a wasanaethir gennym er gogoniant i’r Arglwydd ei hun, ac i amlygu parodrwydd eich meddwl chwi: 20 Gan ochelyd hyn, rhag i neb feio arnom yn yr helaethrwydd yma, yr hwn a wasanaethir gennym: 21 Y rhai ydym yn rhagddarpar pethau onest, nid yn unig yng ngolwg yr Arglwydd, ond hefyd yng ngolwg dynion. 22 Ac ni a anfonasom gyda hwynt ein brawd, yr hwn a brofasom mewn llawer o bethau, lawer gwaith, ei fod ef yn ddyfal, ac yn awr yn ddyfalach o lawer, am y mawr ymddiried y sydd gennyf ynoch. 23 Os gofynnir am Titus, fy nghydymaith yw, a chyd-weithydd tuag atoch chwi; neu am ein brodyr, cenhadau’r eglwysi ydynt, a gogoniant Crist. 24 Am hynny dangoswch iddynt hwy hysbysrwydd o’ch cariad, ac o’n bost ninnau amdanoch chwi, yng ngolwg yr eglwysi.

Canys tuag at am y weinidogaeth i’r saint, afraid yw i mi ysgrifennu atoch: Oherwydd mi a adwaen barodrwydd eich meddwl chwi, yr hwn yr ydwyf yn ei fostio wrth y Macedoniaid amdanoch chwi, fod Achaia wedi ymbaratoi er y llynedd; a’r sêl a ddaeth oddi wrthych chwi a anogodd lawer iawn. A mi a ddanfonais y brodyr, fel na byddo ein bost ni amdanoch chwi yn ofer yn y rhan hon; fel, megis y dywedais, y byddoch wedi ymbaratoi: Rhag, os y Macedoniaid a ddeuant gyda mi, a’ch cael chwi yn amharod, bod i ni, (ni ddywedaf, chwi,) gael cywilydd yn y fost hyderus yma. Mi a dybiais gan hynny yn angenrheidiol atolygu i’r brodyr, ar iddynt ddyfod o’r blaen atoch, a rhagddarparu eich bendith chwi yr hon a fynegwyd; fel y byddo parod megis bendith, ac nid megis o gybydd-dra. A hyn yr wyf yn ei ddywedyd, Yr hwn sydd yn hau yn brin, a fed hefyd yn brin; a’r hwn sydd yn hau yn helaeth, a fed hefyd yn helaeth. Pob un megis y mae yn rhagarfaethu yn ei galon, felly rhodded; nid yn athrist, neu trwy gymell: canys rhoddwr llawen y mae Duw yn ei garu. Ac y mae Duw yn abl i beri i bob gras fod yn helaeth tuag atoch chwi; fel y byddoch chwi ym mhob peth, bob amser, a chennych bob digonoldeb yn helaeth i bob gweithred dda: (Megis yr ysgrifennwyd, Efe a wasgarodd; rhoddodd i’r tlodion: ei gyfiawnder ef sydd yn aros yn dragywydd. 10 A’r hwn sydd yn rhoddi had i’r heuwr, rhodded hefyd fara yn ymborth, ac amlhaed eich had, a chwaneged ffrwyth eich cyfiawnder;) 11 Wedi eich cyfoethogi ym mhob peth i bob haelioni, yr hwn sydd yn gweithio trwom ni ddiolch i Dduw. 12 Canys y mae gweinidogaeth y swydd hon, nid yn unig yn cyflawni diffygion y saint, ond hefyd yn ymhelaethu trwy aml roddi diolch i Dduw; 13 Gan eu bod, trwy brofiad y weinidogaeth hon, yn gogoneddu Duw oherwydd darostyngiad eich cyffes chwi i efengyl Crist, ac oherwydd haelioni eich cyfraniad iddynt hwy, ac i bawb; 14 A thrwy eu gweddi hwythau drosoch chwi, y rhai ydynt yn hiraethu amdanoch chwi, am y rhagorol ras Duw yr hwn sydd ynoch. 15 Ac i Dduw y byddo’r diolch am ei ddawn anhraethol.

Beibl William Morgan (BWM)

William Morgan Welsh Bible Edition © British & Foreign Bible Society 1992.