Chronological
1 Datguddiad Iesu Grist, yr hwn a roddes Duw iddo ef, i ddangos i’w wasanaethwyr y pethau sydd raid eu dyfod i ben ar fyrder; a chan ddanfon trwy ei angel, efe a’i hysbysodd i’w wasanaethwr Ioan: 2 Yr hwn a dystiolaethodd air Duw, a thystiolaeth Iesu Grist, a’r holl bethau a welodd. 3 Dedwydd yw’r hwn sydd yn darllen, a’r rhai sydd yn gwrando geiriau’r broffwydoliaeth hon, ac yn cadw y pethau sydd yn ysgrifenedig ynddi: canys y mae’r amser yn agos.
4 Ioan at y saith eglwys sydd yn Asia: Gras fyddo i chwi, a thangnefedd, oddi wrth yr hwn sydd, a’r hwn a fu, a’r hwn sydd ar ddyfod; ac oddi wrth y saith Ysbryd sydd gerbron ei orseddfainc ef; 5 Ac oddi wrth Iesu Grist, yr hwn yw y Tyst ffyddlon, y Cyntaf-anedig o’r meirw, a Thywysog brenhinoedd y ddaear. Iddo ef yr hwn a’n carodd ni, ac a’n golchodd ni oddi wrth ein pechodau yn ei waed ei hun, 6 Ac a’n gwnaeth ni yn frenhinoedd ac yn offeiriaid i Dduw a’i Dad ef; iddo ef y byddo’r gogoniant a’r gallu yn oes oesoedd. Amen. 7 Wele, y mae efe yn dyfod gyda’r cymylau; a phob llygad a’i gwêl ef, ie, y rhai a’i gwanasant ef: a holl lwythau’r ddaear a alarant o’i blegid ef. Felly, Amen. 8 Mi yw Alffa ac Omega, y dechrau a’r diwedd, medd yr Arglwydd, yr hwn sydd, a’r hwn oedd, a’r hwn sydd i ddyfod, yr Hollalluog. 9 Myfi Ioan, yr hwn wyf hefyd eich brawd, a’ch cydymaith mewn cystudd, ac yn nheyrnas ac amynedd Iesu Grist, oeddwn yn yr ynys a elwir Patmos, am air Duw, ac am dystiolaeth Iesu Grist. 10 Yr oeddwn i yn yr ysbryd ar ddydd yr Arglwydd; ac a glywais o’r tu ôl i mi lef fawr fel llais utgorn, 11 Yn dywedyd, Mi yw Alffa ac Omega, y cyntaf a’r diwethaf: a’r hyn yr wyt yn ei weled, ysgrifenna mewn llyfr, a danfon i’r saith eglwys y rhai sydd yn Asia; i Effesus, ac i Smyrna, ac i Pergamus, ac i Thyatira, ac i Sardis, a Philadelffia, a Laodicea. 12 Ac mi a droais i weled y llef a lefarai wrthyf. Ac wedi i mi droi, mi a welais saith ganhwyllbren aur; 13 Ac yng nghanol y saith ganhwyllbren, un tebyg i Fab y dyn, wedi ymwisgo â gwisg laes hyd ei draed, ac wedi ymwregysu ynghylch ei fronnau â gwregys aur. 14 Ei ben ef a’i wallt oedd wynion fel gwlân, cyn wynned â’r eira; a’i lygaid fel fflam dân; 15 A’i draed yn debyg i bres coeth, megis yn llosgi mewn ffwrn; a’i lais fel sŵn llawer o ddyfroedd. 16 Ac yr oedd ganddo yn ei law ddeau saith seren: ac o’i enau yr oedd cleddau llym daufiniog yn dyfod allan: a’i wynepryd fel yr haul yn disgleirio yn ei nerth. 17 A phan welais ef, mi a syrthiais wrth ei draed ef fel marw. Ac efe a osododd ei law ddeau arnaf fi, gan ddywedyd wrthyf, Nac ofna; myfi yw’r cyntaf a’r diwethaf: 18 A’r hwn wyf fyw, ac a fûm farw; ac wele, byw ydwyf yn oes oesoedd, Amen; ac y mae gennyf agoriadau uffern a marwolaeth. 19 Ysgrifenna’r pethau a welaist, a’r pethau sydd, a’r pethau a fydd ar ôl hyn; 20 Dirgelwch y saith seren a welaist yn fy llaw ddeau, a’r saith ganhwyllbren aur. Y saith seren, angylion y saith eglwys ydynt: a’r saith ganhwyllbren a welaist, y saith eglwys ydynt.
2 At angel yr eglwys sydd yn Effesus, ysgrifenna; Y pethau hyn y mae’r hwn sydd yn dal y saith seren yn ei law ddeau, yr hwn sydd yn rhodio yng nghanol y saith ganhwyllbren aur, yn eu dywedyd; 2 Mi a adwaen dy weithredoedd di, a’th lafur, a’th amynedd, ac na elli oddef y rhai drwg: a phrofi ohonot y rhai sydd yn dywedyd eu bod yn apostolion, ac nid ydynt; a chael ohonot hwynt yn gelwyddog: 3 A thi a oddefaist, ac y mae amynedd gennyt, ac a gymeraist boen er mwyn fy enw i, ac ni ddiffygiaist. 4 Eithr y mae gennyf beth yn dy erbyn, am i ti ymadael â’th gariad cyntaf. 5 Cofia gan hynny o ba le y syrthiaist, ac edifarha, a gwna’r gweithredoedd cyntaf: ac onid e, yr wyf fi yn dyfod atat ti ar frys, ac mi a symudaf dy ganhwyllbren di allan o’i le, onid edifarhei di. 6 Ond hyn sydd gennyt ti, dy fod di yn casáu gweithredoedd y Nicolaiaid, y rhai yr wyf fi hefyd yn eu casáu. 7 Yr hwn sydd ganddo glust, gwrandawed pa beth y mae’r Ysbryd yn ei ddywedyd wrth yr eglwysi; I’r hwn sydd yn gorchfygu, y rhoddaf iddo fwyta o bren y bywyd, yr hwn sydd yng nghanol paradwys Duw.
8 Ac at angel yr eglwys sydd yn Smyrna, ysgrifenna; Y pethau hyn y mae’r cyntaf a’r diwethaf, yr hwn a fu farw, ac sydd fyw, yn eu dywedyd; 9 Mi a adwaen dy weithredoedd di, a’th gystudd, a’th dlodi, (eithr cyfoethog wyt,) ac mi a adwaen gabledd y rhai sydd yn dywedyd eu bod yn Iddewon, ac nid ydynt ond synagog Satan. 10 Nac ofna ddim o’r pethau yr ydwyt i’w dioddef. Wele, y cythraul a fwrw rai ohonoch chwi i garchar, fel y’ch profer; a chwi a gewch gystudd ddeng niwrnod. Bydd ffyddlon hyd angau, ac mi a roddaf i ti goron y bywyd. 11 Yr hwn sydd ganddo glust, gwrandawed beth y mae’r Ysbryd yn ei ddywedyd wrth yr eglwysi; Yr hwn sydd yn gorchfygu, ni chaiff ddim niwed gan yr ail farwolaeth.
12 Ac at angel yr eglwys sydd yn Pergamus, ysgrifenna; Y pethau hyn y mae’r hwn sydd ganddo’r cleddyf llym daufiniog, yn eu dywedyd; 13 Mi a adwaen dy weithredoedd di, a pha le yr wyt yn trigo; sef lle mae gorseddfainc Satan: ac yr wyt yn dal fy enw i, ac ni wedaist fy ffydd i, ie, yn y dyddiau y bu Antipas yn ferthyr ffyddlon i mi, yr hwn a laddwyd yn eich plith chwi, lle y mae Satan yn trigo. 14 Eithr y mae gennyf ychydig bethau yn dy erbyn di, oblegid bod gennyt yno rai yn dal athrawiaeth Balaam, yr hwn a ddysgodd i Balac fwrw rhwystr gerbron meibion Israel, i fwyta pethau wedi eu haberthu i eilunod, ac i odinebu. 15 Felly y mae gennyt tithau hefyd rai yn dal athrawiaeth y Nicolaiaid, yr hyn beth yr wyf fi yn ei gasáu. 16 Edifarha; ac os amgen, yr wyf fi yn dyfod atat ar frys, ac a ryfelaf yn eu herbyn hwynt â chleddyf fy ngenau. 17 Yr hwn sydd ganddo glust, gwrandawed beth y mae’r Ysbryd yn ei ddywedyd wrth yr eglwysi; I’r hwn sydd yn gorchfygu, y rhoddaf iddo fwyta o’r manna cuddiedig, ac a roddaf iddo garreg wen, ac ar y garreg enw newydd wedi ei ysgrifennu, yr hwn nid edwyn neb, ond yr hwn sydd yn ei dderbyn.
18 Ac at angel yr eglwys sydd yn Thyatira, ysgrifenna; Y pethau hyn y mae Mab Duw yn eu dywedyd, yr hwn sydd â’i lygaid fel fflam dân, a’i draed yn debyg i bres coeth; 19 Mi a adwaen dy weithredoedd di, a’th gariad, a’th wasanaeth, a’th ffydd, a’th amynedd di, a’th weithredoedd; a bod y rhai diwethaf yn fwy na’r rhai cyntaf. 20 Eithr y mae gennyf ychydig bethau yn dy erbyn, oblegid dy fod yn gadael i’r wraig honno Jesebel, yr hon sydd yn ei galw ei hun yn broffwydes, ddysgu a thwyllo fy ngwasanaethwyr i odinebu, ac i fwyta pethau wedi eu haberthu i eilunod. 21 Ac mi a roddais iddi amser i edifarhau am ei godineb; ac nid edifarhaodd hi. 22 Wele, yr wyf fi yn ei bwrw hi ar wely, a’r rhai sydd yn godinebu gyda hi, i gystudd mawr, onid edifarhânt am eu gweithredoedd. 23 A’i phlant hi a laddaf â marwolaeth: a’r holl eglwysi a gânt wybod mai myfi yw’r hwn sydd yn chwilio’r arennau a’r calonnau: ac mi a roddaf i bob un ohonoch yn ôl eich gweithredoedd. 24 Eithr wrthych chwi yr wyf yn dywedyd, ac wrth y lleill yn Thyatira, y sawl nid oes ganddynt y ddysgeidiaeth hon, a’r rhai nid adnabuant ddyfnderau Satan, fel y dywedant; Ni fwriaf arnoch faich arall. 25 Eithr yr hyn sydd gennych, deliwch hyd oni ddelwyf. 26 A’r hwn sydd yn gorchfygu, ac yn cadw fy ngweithredoedd hyd y diwedd, mi a roddaf iddo awdurdod ar y cenhedloedd: 27 Ac efe a’u bugeilia hwy â gwialen haearn; fel llestri pridd y dryllir hwynt: fel y derbyniais innau gan fy Nhad. 28 Ac mi a roddaf iddo’r seren fore. 29 Yr hwn sydd ganddo glust, gwrandawed beth y mae’r Ysbryd yn ei ddywedyd wrth yr eglwysi.
3 Ac at angel yr eglwys sydd yn Sardis, ysgrifenna; Y pethau hyn y mae’r hwn sydd â saith Ysbryd Duw a’r saith seren ganddo, yn eu dywedyd; Mi a adwaen dy weithredoedd di, oblegid y mae gennyt enw dy fod yn fyw, a marw ydwyt. 2 Bydd wyliadwrus, a sicrha’r pethau sydd yn ôl, y rhai sydd barod i farw: canys ni chefais dy weithredoedd yn gyflawn gerbron Duw. 3 Cofia gan hynny pa fodd y derbyniaist ac y clywaist, a chadw, ac edifarha. Os tydi gan hynny ni wyli, mi a ddeuaf arnat ti fel lleidr, ac ni chei di wybod pa awr y deuaf atat. 4 Eithr y mae gennyt ychydig enwau, ie, yn Sardis, y rhai ni halogasant eu dillad; a hwy a rodiant gyda mi mewn dillad gwynion: oblegid teilwng ydynt. 5 Yr hwn sydd yn gorchfygu, hwnnw a wisgir mewn dillad gwynion; ac ni ddileaf ei enw ef allan o lyfr y bywyd, ond mi a gyffesaf ei enw ef gerbron fy Nhad, a cherbron ei angylion ef. 6 Yr hwn sydd ganddo glust, gwrandawed beth y mae’r Ysbryd yn ei ddywedyd wrth yr eglwysi.
7 Ac at angel yr eglwys sydd yn Philadelffia, ysgrifenna; Y pethau hyn y mae y Sanctaidd, y Cywir, yn eu dywedyd, yr hwn sydd ganddo agoriad Dafydd, yr hwn sydd yn agoryd, ac nid yw neb yn cau; ac yn cau, ac nid yw neb yn agoryd; 8 Mi a adwaen dy weithredoedd: wele, rhoddais ger dy fron ddrws agored, ac ni ddichon neb ei gau: canys y mae gennyt ychydig nerth, a thi a gedwaist fy ngair, ac ni wedaist fy enw. 9 Wele, mi a wnaf iddynt hwy o synagog Satan, y rhai sydd yn dywedyd eu bod yn Iddewon, ac nid ydynt, ond dywedyd celwydd y maent; wele, meddaf, gwnaf iddynt ddyfod ac addoli o flaen dy draed, a gwybod fy mod i yn dy garu di. 10 O achos cadw ohonot air fy amynedd i, minnau a’th gadwaf di oddi wrth awr y brofedigaeth, yr hon a ddaw ar yr holl fyd, i brofi’r rhai sydd yn trigo ar y ddaear. 11 Wele, yr wyf yn dyfod ar frys: dal yr hyn sydd gennyt, fel na ddygo neb dy goron di. 12 Yr hwn sydd yn gorchfygu, mi a’i gwnaf ef yn golofn yn nheml fy Nuw i, ac allan nid â efe mwyach: ac mi a ysgrifennaf arno ef enw fy Nuw i, ac enw dinas fy Nuw i, yr hon ydyw Jerwsalem newydd, yr hon sydd yn disgyn o’r nef oddi wrth fy Nuw i: ac mi a ysgrifennaf arno ef fy enw newydd i. 13 Yr hwn sydd ganddo glust, gwrandawed beth y mae’r Ysbryd yn ei ddywedyd wrth yr eglwysi.
14 Ac at angel eglwys y Laodiceaid, ysgrifenna; Y pethau hyn y mae Amen yn eu dywedyd, y Tyst ffyddlon a chywir, dechreuad creadigaeth Duw; 15 Mi a adwaen dy weithredoedd di, nad ydwyt nac oer na brwd: mi a fynnwn pe bait oer neu frwd. 16 Felly, am dy fod yn glaear, ac nid yn oer nac yn frwd, mi a’th chwydaf di allan o’m genau: 17 Oblegid dy fod yn dywedyd, Goludog wyf, ac mi a gyfoethogais, ac nid oes arnaf eisiau dim; ac ni wyddost dy fod yn druan, ac yn resynol, ac yn dlawd, ac yn ddall, ac yn noeth. 18 Yr wyf yn dy gynghori i brynu gennyf fi aur wedi ei buro trwy dân, fel y’th gyfoethoger; a dillad gwynion, fel y’th wisger, ac fel nad ymddangoso gwarth dy noethder di; ira hefyd dy lygaid ag eli llygaid, fel y gwelech. 19 Yr wyf fi yn argyhoeddi, ac yn ceryddu’r sawl yr wyf yn eu caru: am hynny bydded gennyt sêl, ac edifarha. 20 Wele, yr wyf yn sefyll wrth y drws, ac yn curo: os clyw neb fy llais i, ac agoryd y drws, mi a ddeuaf i mewn ato ef, ac a swperaf gydag ef, ac yntau gyda minnau. 21 Yr hwn sydd yn gorchfygu, rhoddaf iddo ef eistedd gyda mi ar fy ngorseddfainc, megis y gorchfygais innau, ac yr eisteddais gyda’m Tad ar ei orseddfainc ef. 22 Yr hwn sydd ganddo glust, gwrandawed beth y mae’r Ysbryd yn ei ddywedyd wrth yr eglwysi.
4 Ar ôl y pethau hyn yr edrychais; ac wele ddrws wedi ei agoryd yn y nef: a’r llais cyntaf a glywais oedd fel llais utgorn yn ymddiddan â mi, gan ddywedyd, Dring i fyny yma, a mi a ddangosaf i ti’r pethau sydd raid eu bod ar ôl hyn. 2 Ac yn y man yr oeddwn yn yr ysbryd: ac wele, yr oedd gorseddfainc wedi ei gosod yn y nef, ac un yn eistedd ar yr orseddfainc. 3 A’r hwn oedd yn eistedd oedd yn debyg yr olwg arno i faen iasbis a sardin: ac yr oedd enfys o amgylch yr orseddfainc, yn debyg yr olwg arno i smaragdus. 4 Ac ynghylch yr orseddfainc yr oedd pedair gorseddfainc ar hugain: ac ar y gorseddfeinciau y gwelais bedwar henuriad ar hugain yn eistedd, wedi eu gwisgo mewn dillad gwynion; ac yr oedd ganddynt ar eu pennau goronau aur. 5 Ac yr oedd yn dyfod allan o’r orseddfainc fellt, a tharanau, a lleisiau: ac yr oedd saith o lampau tân yn llosgi gerbron yr orseddfainc, y rhai yw saith Ysbryd Duw. 6 Ac o flaen yr orseddfainc yr ydoedd môr o wydr, yn debyg i grisial: ac yng nghanol yr orseddfainc, ac ynghylch yr orseddfainc, yr oedd pedwar anifail yn llawn o lygaid o’r tu blaen ac o’r tu ôl. 7 A’r anifail cyntaf oedd debyg i lew, a’r ail anifail yn debyg i lo, a’r trydydd anifail oedd ganddo wyneb fel dyn, a’r pedwerydd anifail oedd debyg i eryr yn ehedeg. 8 A’r pedwar anifail oedd ganddynt, bob un ohonynt, chwech o adenydd o’u hamgylch; ac yr oeddynt oddi fewn yn llawn llygaid: ac nid oeddynt yn gorffwys ddydd a nos, gan ddywedyd, Sanct, Sanct, Sanct, Arglwydd Dduw Hollalluog, yr hwn oedd, a’r hwn sydd, a’r hwn sydd i ddyfod. 9 A phan fyddo’r anifeiliaid yn rhoddi gogoniant, ac anrhydedd, a diolch, i’r hwn oedd yn eistedd ar yr orseddfainc, yr hwn sydd yn byw yn oes oesoedd, 10 Y mae’r pedwar henuriad ar hugain yn syrthio gerbron yr hwn oedd yn eistedd ar yr orseddfainc, ac yn addoli’r hwn sydd yn byw yn oes oesoedd, ac yn bwrw eu coronau gerbron yr orseddfainc, gan ddywedyd, 11 Teilwng wyt, O Arglwydd, i dderbyn gogoniant, ac anrhydedd, a gallu: canys ti a greaist bob peth, ac oherwydd dy ewyllys di y maent, ac y crewyd hwynt.
5 Ac mi a welais yn neheulaw’r hwn oedd yn eistedd ar yr orseddfainc, lyfr wedi ei ysgrifennu oddi fewn ac oddi allan wedi ei selio â saith sêl. 2 Ac mi a welais angel cryf yn cyhoeddi â llef uchel, Pwy sydd deilwng i agoryd y llyfr, ac i ddatod ei seliau ef? 3 Ac nid oedd neb yn y nef, nac yn y ddaear, na than y ddaear, yn gallu agoryd y llyfr, nac edrych arno. 4 Ac mi a wylais lawer, o achos na chaed neb yn deilwng i agoryd ac i ddarllen y llyfr, nac i edrych arno. 5 Ac un o’r henuriaid a ddywedodd wrthyf, Nac wyla: wele, y Llew yr hwn sydd o lwyth Jwda, Gwreiddyn Dafydd, a orchfygodd i agoryd y llyfr, ac i ddatod ei saith sêl ef. 6 Ac mi a edrychais; ac wele, yng nghanol yr orseddfainc a’r pedwar anifail, ac yng nghanol yr henuriaid, yr oedd Oen yn sefyll megis wedi ei ladd, a chanddo saith gorn, a saith lygad, y rhai ydyw saith Ysbryd Duw, wedi eu danfon allan i’r holl ddaear. 7 Ac efe a ddaeth, ac a gymerth y llyfr o ddeheulaw’r hwn oedd yn eistedd ar yr orseddfainc. 8 A phan gymerth efe’r llyfr, y pedwar anifail a’r pedwar henuriad ar hugain a syrthiasant gerbron yr Oen; a chan bob un ohonynt yr oedd telynau, a ffiolau aur yn llawn o arogl-darth, y rhai ydyw gweddïau’r saint. 9 A hwy a ganasant ganiad newydd, gan ddywedyd, Teilwng wyt ti i gymryd y llyfr, ac i agoryd ei seliau ef: oblegid ti a laddwyd, ac a’n prynaist ni i Dduw trwy dy waed, allan o bob llwyth, ac iaith, a phobl, a chenedl; 10 Ac a’n gwnaethost ni i’n Duw ni, yn frenhinoedd, ac yn offeiriaid: ac ni a deyrnaswn ar y ddaear. 11 Ac mi a edrychais, ac a glywais lais angylion lawer ynghylch yr orseddfainc, a’r anifeiliaid, a’r henuriaid: a’u rhifedi hwynt oedd fyrddiynau o fyrddiynau, a miloedd o filoedd; 12 Yn dywedyd â llef uchel, Teilwng yw’r Oen, yr hwn a laddwyd, i dderbyn gallu, a chyfoeth, a doethineb, a chadernid, ac anrhydedd, a gogoniant, a bendith. 13 A phob creadur a’r sydd yn y nef, ac ar y ddaear, a than y ddaear, a’r pethau sydd yn y môr, ac oll a’r sydd ynddynt, a glywais i yn dywedyd, I’r hwn sydd yn eistedd ar yr orseddfainc, ac i’r Oen, y byddo’r fendith, a’r anrhydedd, a’r gogoniant, a’r gallu, yn oes oesoedd. 14 A’r pedwar anifail a ddywedasant, Amen. A’r pedwar henuriad ar hugain a syrthiasant i lawr, ac a addolasant yr hwn sydd yn byw yn oes oesoedd.
William Morgan Welsh Bible Edition © British & Foreign Bible Society 1992.