Print Page Options
Previous Prev Day Next DayNext

Chronological

Read the Bible in the chronological order in which its stories and events occurred.
Duration: 365 days
Beibl William Morgan (BWM)
Version
Rhufeiniaid 4-7

Pa beth gan hynny a ddywedwn ni ddarfod i Abraham ein tad ni ei gael, yn ôl y cnawd? Canys os Abraham a gyfiawnhawyd trwy weithredoedd, y mae iddo orfoledd; eithr nid gerbron Duw. Canys pa beth a ddywed yr ysgrythur? Credodd Abraham i Dduw; a chyfrifwyd iddo yn gyfiawnder. Eithr i’r neb sydd yn gweithio, ni chyfrifir y gwobr o ras, ond o ddyled. Eithr i’r neb nid yw yn gweithio, ond yn credu yn yr hwn sydd yn cyfiawnhau yr annuwiol, ei ffydd ef a gyfrifir yn gyfiawnder. Megis y mae Dafydd hefyd yn datgan dedwyddwch y dyn y mae Duw yn cyfrif cyfiawnder iddo heb weithredoedd, gan ddywedyd, Dedwydd yw y rhai y maddeuwyd eu hanwireddau, a’r rhai y cuddiwyd eu pechodau: Dedwydd yw y gŵr nid yw’r Arglwydd yn cyfrif pechod iddo. A ddaeth y dedwyddwch hwn gan hynny ar yr enwaediad yn unig, ynteu ar y dienwaediad hefyd? canys yr ydym yn dywedyd ddarfod cyfrif ffydd i Abraham yn gyfiawnder. 10 Pa fodd gan hynny y cyfrifwyd hi? ai pan oedd yn yr enwaediad, ynteu yn y dienwaediad? Nid yn yr enwaediad, ond yn y dienwaediad. 11 Ac efe a gymerth arwydd yr enwaediad, yn insel cyfiawnder y ffydd, yr hon oedd ganddo yn y dienwaediad: fel y byddai efe yn dad pawb a gredent, yn y dienwaediad; fel y cyfrifid cyfiawnder iddynt hwythau hefyd: 12 Ac yn dad yr enwaediad, nid i’r rhai o’r enwaediad yn unig, ond i’r sawl hefyd a gerddant lwybrau ffydd Abraham ein tad ni, yr hon oedd ganddo yn y dienwaediad. 13 Canys nid trwy’r ddeddf y daeth yr addewid i Abraham, neu i’w had, y byddai efe yn etifedd y byd: eithr trwy gyfiawnder ffydd. 14 Canys os y rhai sydd o’r ddeddf yw yr etifeddion, gwnaed ffydd yn ofer, a’r addewid yn ddi‐rym. 15 Oblegid y mae’r ddeddf yn peri digofaint; canys lle nid oes deddf, nid oes gamwedd. 16 Am hynny o ffydd y mae, fel y byddai yn ôl gras: fel y byddai’r addewid yn sicr i’r holl had; nid yn unig i’r hwn sydd o’r ddeddf, ond hefyd i’r hwn sydd o ffydd Abraham, yr hwn yw ein tad ni oll, 17 (Megis y mae yn ysgrifenedig, Mi a’th wneuthum yn dad llawer o genhedloedd,) gerbron y neb y credodd efe iddo, sef Duw, yr hwn sydd yn bywhau’r meirw, ac sydd yn galw’r pethau nid ydynt, fel pe byddent: 18 Yr hwn yn erbyn gobaith a gredodd dan obaith, fel y byddai efe yn dad cenhedloedd lawer; yn ôl yr hyn a ddywedasid, Felly y bydd dy had di. 19 Ac efe, yn ddiegwan o ffydd, nid ystyriodd ei gorff ei hun, yr hwn oedd yr awron wedi marweiddio, ac efe ynghylch can mlwydd oed, na marweidd‐dra bru Sara. 20 Ac nid amheuodd efe addewid Duw trwy anghrediniaeth; eithr efe a nerthwyd yn y ffydd, gan roddi gogoniant i Dduw: 21 Ac yn gwbl sicr ganddo, am yr hyn a addawsai efe, ei fod ef yn abl i’w wneuthur hefyd. 22 Ac am hynny y cyfrifwyd iddo yn gyfiawnder. 23 Eithr nid ysgrifennwyd hynny er ei fwyn ef yn unig, ddarfod ei gyfrif iddo; 24 Ond er ein mwyn ninnau hefyd, i’r rhai y cyfrifir, y rhai ydym yn credu yn yr hwn a gyfododd Iesu ein Harglwydd ni o feirw: 25 Yr hwn a draddodwyd dros ein pechodau ni, ac a gyfodwyd i’n cyfiawnhau ni.

Am hynny, gan ein bod wedi ein cyfiawnhau trwy ffydd, y mae gennym heddwch tuag at Dduw, trwy ein Harglwydd Iesu Grist: Trwy yr hwn hefyd y cawsom ddyfodfa trwy ffydd i’r gras hwn, yn yr hwn yr ydym yn sefyll ac yn gorfoleddu dan obaith gogoniant Duw. Ac nid felly yn unig, eithr yr ydym yn gorfoleddu mewn gorthrymderau; gan wybod fod gorthrymder yn peri dioddefgarwch; A dioddefgarwch, brofiad; a phrofiad, obaith: A gobaith ni chywilyddia, am fod cariad Duw wedi ei dywallt yn ein calonnau ni, trwy’r Ysbryd Glân yr hwn a roddwyd i ni. Canys Crist, pan oeddem ni eto yn weiniaid, mewn pryd a fu farw dros yr annuwiol. Oblegid braidd y bydd neb farw dros un cyfiawn: oblegid dros y da ysgatfydd fe feiddiai un farw hefyd. Eithr y mae Duw yn canmol ei gariad tuag atom; oblegid, a nyni eto yn bechaduriaid, i Grist farw trosom ni. Mwy ynteu o lawer, a nyni yn awr wedi ein cyfiawnhau trwy ei waed ef, y’n hachubir rhag digofaint trwyddo ef. 10 Canys os pan oeddem yn elynion, y’n heddychwyd â Duw trwy farwolaeth ei Fab ef; mwy o lawer, wedi ein heddychu, y’n hachubir trwy ei fywyd ef. 11 Ac nid hynny yn unig, eithr gorfoleddu yr ydym hefyd yn Nuw trwy ein Harglwydd Iesu Grist, trwy yr hwn yr awr hon y derbyniasom y cymod. 12 Am hynny, megis trwy un dyn y daeth pechod i’r byd, a marwolaeth trwy bechod; ac felly yr aeth marwolaeth ar bob dyn, yn gymaint â phechu o bawb: 13 Canys hyd y ddeddf yr oedd pechod yn y byd: eithr ni chyfrifir pechod pryd nad oes deddf. 14 Eithr teyrnasodd marwolaeth o Adda hyd Moses, ie, arnynt hwy y rhai ni phechasant yn ôl cyffelybiaeth camwedd Adda, yr hwn yw ffurf yr un oedd ar ddyfod. 15 Eithr nid megis y camwedd, felly y mae’r dawn hefyd. Canys os trwy gamwedd un y bu feirw llawer; mwy o lawer yr amlhaodd gras Duw, a’r dawn trwy ras yr un dyn Iesu Grist, i laweroedd. 16 Ac nid megis y bu trwy un a bechodd, y mae’r dawn: canys y farn a ddaeth o un camwedd i gondemniad; eithr y dawn sydd o gamweddau lawer i gyfiawnhad. 17 Canys os trwy gamwedd un y teyrnasodd marwolaeth trwy un; mwy o lawer y caiff y rhai sydd yn derbyn lluosowgrwydd o ras, ac o ddawn cyfiawnder, deyrnasu mewn bywyd trwy un, Iesu Grist. 18 Felly gan hynny, megis trwy gamwedd un y daeth barn ar bob dyn i gondemniad; felly hefyd trwy gyfiawnder un y daeth y dawn ar bob dyn i gyfiawnhad bywyd. 19 Oblegid megis trwy anufudd‐dod un dyn y gwnaethpwyd llawer yn bechaduriaid; felly trwy ufudd‐dod un y gwneir llawer yn gyfiawn. 20 Eithr y ddeddf a ddaeth i mewn fel yr amlhâi’r camwedd: eithr lle yr amlhaodd y pechod, y rhagor amlhaodd gras: 21 Fel megis y teyrnasodd pechod i farwolaeth, felly hefyd y teyrnasai gras trwy gyfiawnder i fywyd tragwyddol, trwy Iesu Grist ein Harglwydd.

Beth wrth hynny a ddywedwn ni? a drigwn ni yn wastad mewn pechod, fel yr amlhao gras? Na ato Duw. A ninnau wedi meirw i bechod, pa wedd y byddwn byw eto ynddo ef? Oni wyddoch chwi, am gynifer ohonom ag a fedyddiwyd i Grist Iesu, ein bedyddio ni i’w farwolaeth ef? Claddwyd ni gan hynny gydag ef trwy fedydd i farwolaeth: fel megis ag y cyfodwyd Crist o feirw trwy ogoniant y Tad, felly y rhodiom ninnau hefyd mewn newydd‐deb buchedd. Canys os gwnaed ni yn gyd‐blanhigion i gyffelybiaeth ei farwolaeth ef, felly y byddwn i gyffelybiaeth ei atgyfodiad ef: Gan wybod hyn, ddarfod croeshoelio ein hen ddyn ni gydag ef, er mwyn dirymu corff pechod, fel rhag llaw na wasanaethom bechod. Canys y mae’r hwn a fu farw, wedi ei ryddhau oddi wrth bechod. Ac os buom feirw gyda Crist, yr ydym ni yn credu y byddwn byw hefyd gydag ef: Gan wybod nad yw Crist, yr hwn a gyfodwyd oddi wrth y meirw, yn marw mwyach; nad arglwyddiaetha marwolaeth arno mwyach. 10 Canys fel y bu efe farw, efe a fu farw unwaith i bechod: ac fel y mae yn byw, byw y mae i Dduw. 11 Felly chwithau hefyd, cyfrifwch eich hunain yn feirw i bechod: eithr yn fyw i Dduw, yng Nghrist Iesu ein Harglwydd. 12 Na theyrnased pechod gan hynny yn eich corff marwol, i ufuddhau ohonoch iddo yn ei chwantau. 13 Ac na roddwch eich aelodau yn arfau anghyfiawnder i bechod: eithr rhoddwch eich hunain i Dduw, megis rhai o feirw yn fyw; a’ch aelodau yn arfau cyfiawnder i Dduw. 14 Canys nid arglwyddiaetha pechod arnoch chwi: oblegid nid ydych chwi dan y ddeddf, eithr dan ras. 15 Beth wrth hynny? a bechwn ni, oherwydd nad ydym dan y ddeddf, eithr dan ras? Na ato Duw. 16 Oni wyddoch chwi, mai i bwy bynnag yr ydych yn eich rhoddi eich hunain yn weision i ufuddhau iddo, eich bod yn weision i’r hwn yr ydych yn ufuddhau iddo; pa un bynnag ai i bechod i farwolaeth, ynteu i ufudd‐dod i gyfiawnder? 17 Ond i Dduw y bo’r diolch, eich bod chwi gynt yn weision i bechod; eithr ufuddhau ohonoch o’r galon i’r ffurf o athrawiaeth a draddodwyd i chwi. 18 Ac wedi eich rhyddhau oddi wrth bechod, fe a’ch gwnaethpwyd yn weision i gyfiawnder. 19 Yn ôl dull dynol yr ydwyf yn dywedyd, oblegid gwendid eich cnawd chwi. Canys megis ag y rhoddasoch eich aelodau yn weision i aflendid ac anwiredd, i anwiredd; felly yr awr hon rhoddwch eich aelodau yn weision i gyfiawnder, i sancteiddrwydd. 20 Canys pan oeddech yn weision pechod, rhyddion oeddech oddi wrth gyfiawnder. 21 Pa ffrwyth gan hynny oedd i chwi y pryd hwnnw o’r pethau y mae arnoch yr awr hon gywilydd o’u plegid? canys diwedd y pethau hynny yw marwolaeth. 22 Ac yr awr hon, wedi eich rhyddhau oddi wrth bechod, a’ch gwneuthur yn weision i Dduw, y mae i chwi eich ffrwyth yn sancteiddrwydd, a’r diwedd yn fywyd tragwyddol. 23 Canys cyflog pechod yw marwolaeth; eithr dawn Duw yw bywyd tragwyddol, trwy Iesu Grist ein Harglwydd.

Oni wyddoch chwi, frodyr, (canys wrth y rhai sydd yn gwybod y ddeddf yr wyf yn dywedyd,) fod y ddeddf yn arglwyddiaethu ar ddyn tra fyddo efe byw? Canys y wraig y mae iddi ŵr, sydd yn rhwym wrth y ddeddf i’r gŵr, tra fyddo efe byw: ond o bydd marw y gŵr, hi a ryddhawyd oddi wrth ddeddf y gŵr. Ac felly, os a’r gŵr yn fyw, y bydd hi yn eiddo gŵr arall, hi a elwir yn odinebus: eithr os marw fydd ei gŵr hi, y mae hi yn rhydd oddi wrth y ddeddf; fel nad yw hi odinebus, er bod yn eiddo gŵr arall. Ac felly chwithau, fy mrodyr, ydych wedi meirw i’r ddeddf trwy gorff Crist; fel y byddech eiddo un arall, sef eiddo’r hwn a gyfodwyd o feirw, fel y dygem ffrwyth i Dduw. Canys pan oeddem yn y cnawd, gwyniau pechodau, y rhai oedd trwy’r ddeddf, oedd yn gweithio yn ein haelodau ni, i ddwyn ffrwyth i farwolaeth. Eithr yn awr y rhyddhawyd ni oddi wrth y ddeddf, wedi ein meirw i’r peth y’n hatelid; fel y gwasanaethem mewn newydd‐deb ysbryd, ac nid yn hender y llythyren. Beth wrth hynny a ddywedwn ni? Ai pechod yw’r ddeddf? Na ato Duw. Eithr nid adnabûm i bechod, ond wrth y ddeddf: canys nid adnabuaswn i drachwant, oni bai ddywedyd o’r ddeddf, Na thrachwanta. Eithr pechod, wedi cymryd achlysur trwy’r gorchymyn, a weithiodd ynof fi bob trachwant. Canys heb y ddeddf marw oedd pechod. Eithr yr oeddwn i gynt yn fyw heb y ddeddf: ond pan ddaeth y gorchymyn, yr adfywiodd pechod, a minnau a fûm farw. 10 A’r gorchymyn, yr hwn ydoedd i fywyd, hwnnw a gaed i mi i farwolaeth. 11 Canys pechod, wedi cymryd achlysur trwy’r gorchymyn, a’m twyllodd i; a thrwy hwnnw a’m lladdodd. 12 Felly yn wir y mae’r ddeddf yn sanctaidd; a’r gorchymyn yn sanctaidd, ac yn gyfiawn, ac yn dda. 13 Gan hynny a wnaethpwyd y peth oedd dda, yn farwolaeth i mi? Na ato Duw. Eithr pechod, fel yr ymddangosai yn bechod, gan weithio marwolaeth ynof fi trwy’r hyn sydd dda: fel y byddai pechod trwy’r gorchymyn yn dra phechadurus. 14 Canys ni a wyddom fod y ddeddf yn ysbrydol: eithr myfi sydd gnawdol, wedi fy ngwerthu dan bechod. 15 Canys yr hyn yr wyf yn ei wneuthur, nid yw fodlon gennyf: canys nid y peth yr wyf yn ei ewyllysio, hynny yr wyf yn ei wneuthur; eithr y peth sydd gas gennyf, hyn yr ydwyf yn ei wneuthur. 16 Ac os y peth nid wyf yn ei ewyllysio, hynny yr wyf yn ei wneuthur, yr wyf fi yn cydsynio â’r ddeddf mai da ydyw. 17 Felly yr awron nid myfi sydd mwy yn gwneuthur hynny, eithr y pechod yr hwn sydd yn trigo ynof fi. 18 Canys mi a wn nad oes ynof fi (hynny yw, yn fy nghnawd i,) ddim da yn trigo: oblegid yr ewyllysio sydd barod gennyf; eithr cwblhau’r hyn sydd dda, nid wyf yn medru arno. 19 Canys nid wyf yn gwneuthur y peth da yr wyf yn ei ewyllysio; ond y drwg yr hwn nid wyf yn ei ewyllysio, hynny yr wyf yn ei wneuthur. 20 Ac os ydwyf fi yn gwneuthur y peth nid wyf yn ei ewyllysio, nid myfi mwyach sydd yn ei wneuthur, ond y pechod sydd yn trigo ynof fi. 21 Yr ydwyf fi gan hynny yn cael deddf, a mi yn ewyllysio gwneuthur da, fod drwg yn bresennol gyda mi. 22 Canys ymhyfrydu yr wyf yng nghyfraith Duw, yn ôl y dyn oddi mewn: 23 Eithr yr wyf yn gweled deddf arall yn fy aelodau, yn gwrthryfela yn erbyn deddf fy meddwl, ac yn fy nghaethiwo i ddeddf pechod, yr hon sydd yn fy aelodau. 24 Ys truan o ddyn wyf fi! pwy a’m gwared i oddi wrth gorff y farwolaeth hon? 25 Yr wyf fi yn diolch i Dduw, trwy Iesu Grist ein Harglwydd. Felly gan hynny, yr wyf fi fy hun â’r meddwl yn gwasanaethu cyfraith Duw; ond â’r cnawd, cyfraith pechod.

Beibl William Morgan (BWM)

William Morgan Welsh Bible Edition © British & Foreign Bible Society 1992.