Print Page Options
Previous Prev Day Next DayNext

Chronological

Read the Bible in the chronological order in which its stories and events occurred.
Duration: 365 days
Beibl William Morgan (BWM)
Version
Colosiaid 1-4

Paul, apostol Iesu Grist trwy ewyllys Duw, a Thimotheus ein brawd, At y saint a’r ffyddlon frodyr yng Nghrist y rhai sydd yng Ngholosa: Gras i chwi, a thangnefedd, oddi wrth Dduw ein Tad, a’r Arglwydd Iesu Grist. Yr ydym yn diolch i Dduw a Thad ein Harglwydd Iesu Grist, gan weddïo drosoch chwi yn wastadol, Er pan glywsom am eich ffydd yng Nghrist Iesu, ac am y cariad sydd gennych tuag at yr holl saint; Er mwyn y gobaith a roddwyd i gadw i chwi yn y nefoedd, am yr hon y clywsoch o’r blaen yng ngair gwirionedd yr efengyl: Yr hon sydd wedi dyfod atoch chwi, megis ag y mae yn yr holl fyd; ac sydd yn dwyn ffrwyth, megis ag yn eich plith chwithau, er y dydd y clywsoch, ac y gwybuoch ras Duw mewn gwirionedd: Megis ag y dysgasoch gan Epaffras ein hannwyl gyd‐was, yr hwn sydd drosoch chwi yn ffyddlon weinidog i Grist; Yr hwn hefyd a amlygodd i ni eich cariad chwi yn yr Ysbryd. Oherwydd hyn ninnau hefyd, er y dydd y clywsom, nid ydym yn peidio â gweddïo drosoch, a deisyf eich cyflawni chwi â gwybodaeth ei ewyllys ef ym mhob doethineb a deall ysbrydol; 10 Fel y rhodioch yn addas i’r Arglwydd i bob rhyngu bodd, gan ddwyn ffrwyth ym mhob gweithred dda, a chynyddu yng ngwybodaeth am Dduw; 11 Wedi eich nerthu â phob nerth yn ôl ei gadernid gogoneddus ef, i bob dioddefgarwch a hirymaros gyda llawenydd; 12 Gan ddiolch i’r Tad, yr hwn a’n gwnaeth ni yn gymwys i gael rhan o etifeddiaeth y saint yn y goleuni: 13 Yr hwn a’n gwaredodd ni allan o feddiant y tywyllwch, ac a’n symudodd i deyrnas ei annwyl Fab: 14 Yn yr hwn y mae i ni brynedigaeth trwy ei waed ef, sef maddeuant pechodau: 15 Yr hwn yw delw y Duw anweledig, cyntaf‐anedig pob creadur: 16 Canys trwyddo ef y crewyd pob dim a’r sydd yn y nefoedd, ac sydd ar y ddaear, yn weledig ac yn anweledig, pa un bynnag ai thronau, ai arglwyddiaethau, ai tywysogaethau, ai meddiannau; pob dim a grewyd trwyddo ef, ac erddo ef. 17 Ac y mae efe cyn pob peth, ac ynddo ef y mae pob peth yn cydsefyll. 18 Ac efe yw pen corff yr eglwys; efe, yr hwn yw’r dechreuad, y cyntaf‐anedig oddi wrth y meirw; fel y byddai efe yn blaenori ym mhob peth. 19 Oblegid rhyngodd bodd i’r Tad drigo o bob cyflawnder ynddo ef; 20 Ac, wedi iddo wneuthur heddwch trwy waed ei groes ef, trwyddo ef gymodi pob peth ag ef ei hun; trwyddo ef, meddaf, pa un bynnag ai pethau ar y ddaear, ai pethau yn y nefoedd. 21 A chwithau, y rhai oeddech ddieithriaid, a gelynion mewn meddwl trwy weithredoedd drwg, yr awr hon hefyd a gymododd efe, 22 Yng nghorff ei gnawd ef trwy farwolaeth, i’ch cyflwyno chwi yn sanctaidd, ac yn ddifeius, ac yn ddiargyhoedd, ger ei fron ef: 23 Os ydych yn parhau yn y ffydd, wedi eich seilio a’ch sicrhau, ac heb eich symud oddi wrth obaith yr efengyl, yr hon a glywsoch, ac a bregethwyd ymysg pob creadur a’r sydd dan y nef; i’r hon y’m gwnaethpwyd i Paul yn weinidog: 24 Yr hwn ydwyf yn awr yn llawenychu yn fy nioddefiadau drosoch, ac yn cyflawni’r hyn sydd yn ôl o gystuddiau Crist yn fy nghnawd i, er mwyn ei gorff ef, yr hwn yw’r eglwys: 25 I’r hon y’m gwnaethpwyd i yn weinidog, yn ôl goruchwyliaeth Duw, yr hon a roddwyd i mi tuag atoch chwi, i gyflawni gair Duw; 26 Sef y dirgelwch oedd guddiedig er oesoedd ac er cenedlaethau, ond yr awr hon a eglurwyd i’w saint ef: 27 I’r rhai yr ewyllysiodd Duw hysbysu beth yw golud gogoniant y dirgelwch hwn ymhlith y Cenhedloedd; yr hwn yw Crist ynoch chwi, gobaith y gogoniant: 28 Yr hwn yr ydym ni yn ei bregethu, gan rybuddio pob dyn, a dysgu pob dyn ym mhob doethineb; fel y cyflwynom bob dyn yn berffaith yng Nghrist Iesu: 29 Am yr hyn yr ydwyf hefyd yn llafurio, gan ymdrechu yn ôl ei weithrediad ef, yr hwn sydd yn gweithio ynof fi yn nerthol.

Canys mi a ewyllysiwn i chwi wybod pa faint o ymdrech sydd arnaf er eich mwyn chwi, a’r rhai yn Laodicea, a chynifer ag ni welsant fy wyneb i yn y cnawd; Fel y cysurid eu calonnau hwy, wedi eu cydgysylltu mewn cariad, ac i bob golud sicrwydd deall, i gydnabyddiaeth dirgelwch Duw, a’r Tad, a Christ; Yn yr hwn y mae holl drysorau doethineb a gwybodaeth yn guddiedig. A hyn yr ydwyf yn ei ddywedyd, fel na thwyllo neb chwi ag ymadrodd hygoel. Canys er fy mod i yn absennol yn y cnawd, er hynny yr ydwyf gyda chwi yn yr ysbryd, yn llawenychu, ac yn gweled eich trefn chwi, a chadernid eich ffydd yng Nghrist. Megis gan hynny y derbyniasoch Grist Iesu yr Arglwydd, felly rhodiwch ynddo; Wedi eich gwreiddio a’ch adeiladu ynddo ef, a’ch cadarnhau yn y ffydd, megis y’ch dysgwyd, gan gynyddu ynddi mewn diolchgarwch. Edrychwch na bo neb yn eich anrheithio trwy philosophi a gwag dwyll, yn ôl traddodiad dynion, yn ôl egwyddorion y byd, ac nid yn ôl Crist. Oblegid ynddo ef y mae holl gyflawnder y Duwdod yn preswylio yn gorfforol. 10 Ac yr ydych chwi wedi eich cyflawni ynddo ef, yr hwn yw pen pob tywysogaeth ac awdurdod: 11 Yn yr hwn hefyd y’ch enwaedwyd ag enwaediad nid o waith llaw, trwy ddiosg corff pechodau’r cnawd, yn enwaediad Crist: 12 Wedi eich cydgladdu ag ef yn y bedydd, yn yr hwn hefyd y’ch cyd-gyfodwyd trwy ffydd gweithrediad Duw yr hwn a’i cyfododd ef o feirw. 13 A chwithau, pan oeddech yn feirw mewn camweddau, a dienwaediad eich cnawd, a gydfywhaodd efe gydag ef, gan faddau i chwi yr holl gamweddau; 14 Gan ddileu ysgrifen‐law yr ordeiniadau, yr hon oedd i’n herbyn ni, yr hon oedd yng ngwrthwyneb i ni, ac a’i cymerodd hi oddi ar y ffordd, gan ei hoelio wrth y groes; 15 Gan ysbeilio’r tywysogaethau a’r awdurdodau, efe a’u harddangosodd hwy ar gyhoedd, gan ymorfoleddu arnynt arni hi. 16 Am hynny na farned neb arnoch chwi am fwyd, neu am ddiod, neu o ran dydd gŵyl, neu newyddloer, neu Sabothau: 17 Y rhai ydynt gysgod pethau i ddyfod; ond y corff sydd o Grist. 18 Na thwylled neb chwi am eich gwobr, wrth ei ewyllys, mewn gostyngeiddrwydd, ac addoliad angylion, gan ruthro i bethau nis gwelodd, wedi ymchwyddo yn ofer gan ei feddwl cnawdol ei hun; 19 Ac heb gyfatal y Pen, o’r hwn y mae’r holl gorff, trwy’r cymalau a’r cysylltiadau, yn derbyn lluniaeth, ac wedi ei gydgysylltu, yn cynyddu gan gynnydd Duw. 20 Am hynny, os ydych wedi marw gyda Christ oddi wrth egwyddorion y byd, paham yr ydych, megis petech yn byw yn y byd, yn ymroi i ordeiniadau, 21 (Na chyffwrdd; ac nac archwaetha; ac na theimla; 22 Y rhai ydynt oll yn llygredigaeth wrth eu harfer;) yn ôl gorchmynion ac athrawiaethau dynion? 23 Yr hyn bethau sydd ganddynt rith doethineb mewn ewyllys‐grefydd, a gostyngeiddrwydd, a bod heb arbed y corff, nid mewn bri i ddigoni’r cnawd.

Am hynny os cydgyfodasoch gyda Christ, ceisiwch y pethau sydd uchod, lle mae Crist yn eistedd ar ddeheulaw Duw. Rhoddwch eich serch ar bethau sydd uchod, nid ar bethau sydd ar y ddaear. Canys meirw ydych, a’ch bywyd a guddiwyd gyda Christ yn Nuw. Pan ymddangoso Crist ein bywyd ni, yna hefyd yr ymddangoswch chwithau gydag ef mewn gogoniant. Marwhewch gan hynny eich aelodau, y rhai sydd ar y ddaear; godineb, aflendid, gwŷn, drygchwant, a chybydd‐dod, yr hon sydd eilun‐addoliaeth: O achos yr hyn bethau y mae digofaint Duw yn dyfod ar blant yr anufudd‐dod: Yn y rhai hefyd y rhodiasoch chwithau gynt, pan oeddech yn byw ynddynt. Ond yr awron rhoddwch chwithau ymaith yr holl bethau hyn; dicter, llid, drygioni, cabledd, serthedd, allan o’ch genau. Na ddywedwch gelwydd wrth eich gilydd, gan ddarfod i chwi ddiosg yr hen ddyn ynghyd â’i weithredoedd; 10 A gwisgo’r newydd, yr hwn a adnewyddir mewn gwybodaeth, yn ôl delw yr hwn a’i creodd ef: 11 Lle nid oes na Groegwr nac Iddew, enwaediad na dienwaediad, Barbariad na Scythiad, caeth na rhydd: ond Crist sydd bob peth, ac ym mhob peth. 12 Am hynny, (megis etholedigion Duw, sanctaidd ac annwyl,) gwisgwch amdanoch ymysgaroedd trugareddau, cymwynasgarwch, gostyngeiddrwydd, addfwynder, ymaros; 13 Gan gyd‐ddwyn â’ch gilydd, a maddau i’ch gilydd, os bydd gan neb gweryl yn erbyn neb: megis ag y maddeuodd Crist i chwi, felly gwnewch chwithau. 14 Ac am ben hyn oll, gwisgwch gariad, yr hwn yw rhwymyn perffeithrwydd. 15 A llywodraethed tangnefedd Duw yn eich calonnau, i’r hwn hefyd y’ch galwyd yn un corff; a byddwch ddiolchgar. 16 Preswylied gair Crist ynoch yn helaeth ym mhob doethineb; gan ddysgu a rhybuddio bawb eich gilydd mewn salmau, a hymnau, ac odlau ysbrydol, gan ganu trwy ras yn eich calonnau i’r Arglwydd. 17 A pha beth bynnag a wneloch, ar air neu ar weithred, gwnewch bob peth yn enw’r Arglwydd Iesu, gan ddiolch i Dduw a’r Tad trwyddo ef. 18 Y gwragedd, ymostyngwch i’ch gwŷr priod, megis y mae yn weddus yn yr Arglwydd. 19 Y gwŷr, cerwch eich gwragedd, ac na fyddwch chwerwon wrthynt. 20 Y plant, ufuddhewch i’ch rhieni ym mhob peth: canys hyn sydd yn rhyngu bodd i’r Arglwydd yn dda. 21 Y tadau, na chyffrowch eich plant, fel na ddigalonnont. 22 Y gweision, ufuddhewch ym mhob peth i’ch meistriaid yn ôl y cnawd; nid â llygad‐wasanaeth, fel bodlonwyr dynion, eithr mewn symlrwydd calon, yn ofni Duw: 23 A pha beth bynnag a wneloch, gwnewch o’r galon, megis i’r Arglwydd, ac nid i ddynion; 24 Gan wybod mai gan yr Arglwydd y derbyniwch daledigaeth yr etifeddiaeth: canys yr Arglwydd Crist yr ydych yn ei wasanaethu. 25 Ond yr hwn sydd yn gwneuthur cam, a dderbyn am y cam a wnaeth: ac nid oes derbyn wyneb.

Y meistriaid, gwnewch i’ch gweision yr hyn sydd gyfiawn ac union; gan wybod fod i chwithau Feistr yn y nefoedd. Parhewch mewn gweddi, gan wylied ynddi gyda diolchgarwch; Gan weddïo hefyd drosom ninnau, ar i Dduw agori i ni ddrws ymadrodd, i adrodd dirgelwch Crist, am yr hwn yr ydwyf hefyd mewn rhwymau: Fel yr eglurhawyf ef, megis y mae yn rhaid i mi ei draethu. Rhodiwch mewn doethineb tuag at y rhai sydd allan, gan brynu’r amser. Bydded eich ymadrodd bob amser yn rasol, wedi ei dymheru â halen, fel y gwypoch pa fodd y mae yn rhaid i chwi ateb i bob dyn. Fy holl helynt i a fynega Tychicus i chwi, y brawd annwyl, a’r gweinidog ffyddlon, a’r cyd‐was yn yr Arglwydd: Yr hwn a ddanfonais atoch er mwyn hyn, fel y gwybyddai eich helynt chwi, ac y diddanai eich calonnau chwi; Gydag Onesimus, y ffyddlon a’r annwyl frawd, yr hwn sydd ohonoch chwi. Hwy a hysbysant i chwi bob peth a wneir yma. 10 Y mae Aristarchus, fy nghyd‐garcharor, yn eich annerch; a Marc, nai Barnabas fab ei chwaer, (am yr hwn y derbyniasoch orchmynion: os daw efe atoch, derbyniwch ef;) 11 A Jesus, yr hwn a elwir Jwstus, y rhai ydynt o’r enwaediad. Y rhai hyn yn unig yw fy nghyd‐weithwyr i deyrnas Dduw, y rhai a fuant yn gysur i mi. 12 Y mae Epaffras, yr hwn sydd ohonoch, gwas Crist, yn eich annerch, gan ymdrechu yn wastadol drosoch mewn gweddïau, ar i chwi sefyll yn berffaith ac yn gyflawn yng nghwbl o ewyllys Duw. 13 Canys yr ydwyf yn dyst iddo, fod ganddo sêl mawr trosoch chwi, a’r rhai o Laodicea, a’r rhai o Hierapolis. 14 Y mae Luc y ffisigwr annwyl, a Demas, yn eich annerch. 15 Anerchwch y brodyr sydd yn Laodicea, a Nymffas, a’r eglwys sydd yn ei dŷ ef. 16 Ac wedi darllen yr epistol hwn gyda chwi, perwch ei ddarllen hefyd yn eglwys y Laodiceaid: a darllen ohonoch chwithau yr un o Laodicea. 17 A dywedwch wrth Archipus, Edrych at y weinidogaeth a dderbyniaist yn yr Arglwydd, ar i ti ei chyflawni hi. 18 Yr annerch â’m llaw i Paul fy hun. Cofiwch fy rhwymau. Gras fyddo gyda chwi. Amen.

At y Colosiaid yr ysgrifennwyd o Rufain, gyda Thychicus ac Onesimus.

Philemon

Paul, carcharor Crist Iesu, a’r brawd Timotheus, at Philemon ein hanwylyd, a’n cyd-weithiwr, Ac at Apffia ein hanwylyd, ac at Archipus ein cyd-filwr, ac at yr eglwys sydd yn dy dŷ di: Gras i chwi, a thangnefedd, oddi wrth Dduw ein Tad, a’r Arglwydd Iesu Grist. Yr wyf yn diolch i’m Duw, gan wneuthur coffa amdanat yn wastadol yn fy ngweddïau, Wrth glywed dy gariad, a’r ffydd sydd gennyt tuag at yr Arglwydd Iesu, a thuag at yr holl saint; Fel y gwneler cyfraniad dy ffydd di yn nerthol, trwy adnabod pob peth daionus a’r sydd ynoch chwi yng Nghrist Iesu. Canys y mae gennym lawer o lawenydd a diddanwch yn dy gariad di, herwydd bod ymysgaroedd y saint wedi eu llonni trwot ti, frawd. Oherwydd paham, er bod gennyf hyfdra lawer yng Nghrist, i orchymyn i ti y peth sydd weddus: Eto o ran cariad yr ydwyf yn hytrach yn atolwg, er fy mod yn gyfryw un â Phaul yr hynafgwr, ac yr awron hefyd yn garcharor Iesu Grist. 10 Yr ydwyf yn atolwg i ti dros fy mab Onesimus, yr hwn a genhedlais i yn fy rhwymau: 11 Yr hwn gynt a fu i ti yn anfuddiol, ond yr awron yn fuddiol i ti ac i minnau hefyd; 12 Yr hwn a ddanfonais drachefn: a derbyn dithau ef, yr hwn yw fy ymysgaroedd i: 13 Yr hwn yr oeddwn i yn ewyllysio ei ddal gyda mi, fel drosot ti y gwasanaethai efe fi yn rhwymau yr efengyl. 14 Eithr heb dy feddwl di nid ewyllysiais wneuthur dim; fel na byddai dy ddaioni di megis o anghenraid, ond o fodd. 15 Canys ysgatfydd er mwyn hyn yr ymadawodd dros amser, fel y derbynnit ef yn dragywydd; 16 Nid fel gwas bellach, eithr uwchlaw gwas, yn frawd annwyl, yn enwedig i mi; eithr pa faint mwy i ti, yn y cnawd ac yn yr Arglwydd hefyd? 17 Os wyt ti gan hynny yn fy nghymryd i yn gydymaith, derbyn ef fel myfi. 18 Ac os gwnaeth efe ddim cam â thi, neu os yw yn dy ddyled, cyfrif hynny arnaf i; 19 Myfi Paul a’i hysgrifennais â’m llaw fy hun, myfi a’i talaf: fel na ddywedwyf wrthyt, dy fod yn fy nyled i ymhellach amdanat dy hun hefyd. 20 Ie, frawd, gad i mi dy fwynhau di yn yr Arglwydd: llonna fy ymysgaroedd i yn yr Arglwydd. 21 Gan hyderu ar dy ufudd-dod yr ysgrifennais atat, gan wybod y gwnei, ie, fwy nag yr wyf yn ei ddywedyd. 22 Heblaw hyn hefyd, paratoa i mi lety: canys yr ydwyf yn gobeithio trwy eich gweddïau chwi y rhoddir fi i chwi. 23 Y mae yn dy annerch, Epaffras, fy nghyd-garcharor yng Nghrist Iesu; 24 Marc, Aristarchus, Demas, Luc, fy nghyd-weithwyr. 25 Gras ein Harglwydd Iesu Grist fyddo gyda’ch ysbryd chwi. Amen.

At Philemon yr ysgrifennwyd o Rufain, gyda’r gwas Onesimus.

Beibl William Morgan (BWM)

William Morgan Welsh Bible Edition © British & Foreign Bible Society 1992.