Print Page Options
Previous Prev Day Next DayNext

Chronological

Read the Bible in the chronological order in which its stories and events occurred.
Duration: 365 days
Beibl William Morgan (BWM)
Version
Marc 11

11 Ac wedi eu dyfod yn agos i Jerwsalem, i Bethffage a Bethania, hyd fynydd yr Olewydd, efe a anfonodd ddau o’i ddisgyblion, Ac a ddywedodd wrthynt, Ewch ymaith i’r pentref sydd gyferbyn â chwi: ac yn y man wedi y deloch i mewn iddo, chwi a gewch ebol wedi ei rwymo, ar yr hwn nid eisteddodd neb; gollyngwch ef yn rhydd, a dygwch ymaith. Ac os dywed neb wrthych, Paham y gwnewch hyn? dywedwch, Am fod yn rhaid i’r Arglwydd wrtho; ac yn ebrwydd efe a’i denfyn yma. A hwy a aethant ymaith, ac a gawsant yr ebol yn rhwym wrth y drws oddi allan, mewn croesffordd; ac a’i gollyngasant ef yn rhydd. A rhai o’r rhai oedd yn sefyll yno a ddywedasant wrthynt, Beth a wnewch chwi, yn gollwng yr ebol yn rhydd? A hwy a ddywedasant wrthynt fel y gorchmynasai yr Iesu: a hwy a adawsant iddynt fyned ymaith. A hwy a ddygasant yr ebol at yr Iesu, ac a fwriasant eu dillad arno; ac efe a eisteddodd arno. A llawer a daenasant eu dillad ar hyd y ffordd; ac eraill a dorasant gangau o’r gwŷdd, ac a’u taenasant ar y ffordd. A’r rhai oedd yn myned o’r blaen, a’r rhai oedd yn dyfod ar ôl, a lefasant, gan ddywedyd, Hosanna; Bendigedig fyddo’r hwn sydd yn dyfod yn enw’r Arglwydd: 10 Bendigedig yw’r deyrnas sydd yn dyfod yn enw Arglwydd ein tad Dafydd: Hosanna yn y goruchaf. 11 A’r Iesu a aeth i mewn i Jerwsalem, ac i’r deml: ac wedi iddo edrych ar bob peth o’i amgylch, a hi weithian yn hwyr, efe a aeth allan i Fethania gyda’r deuddeg.

12 A thrannoeth, wedi iddynt ddyfod allan o Fethania, yr oedd arno chwant bwyd. 13 Ac wedi iddo ganfod o hirbell ffigysbren ag arno ddail, efe a aeth i edrych a gaffai ddim arno. A phan ddaeth ato, ni chafodd efe ddim ond y dail: canys nid oedd amser ffigys. 14 A’r Iesu a atebodd ac a ddywedodd wrtho, Na fwytaed neb ffrwyth ohonot byth mwy. A’i ddisgyblion ef a glywsant.

15 A hwy a ddaethant i Jerwsalem. A’r Iesu a aeth i’r deml, ac a ddechreuodd fwrw allan y rhai a werthent ac a brynent yn y deml; ac a ymchwelodd drestlau’r arianwyr, a chadeiriau’r gwerthwyr colomennod: 16 Ac ni adawai efe i neb ddwyn llestr trwy’r deml. 17 Ac efe a’u dysgodd, gan ddywedyd wrthynt, Onid yw’n ysgrifenedig, Y gelwir fy nhŷ i yn dŷ gweddi i’r holl genhedloedd? ond chwi a’i gwnaethoch yn ogof lladron. 18 A’r ysgrifenyddion a’r archoffeiriaid a glywsant hyn, ac a geisiasant pa fodd y difethent ef: canys yr oeddynt yn ei ofni ef, am fod yr holl bobl yn synnu oblegid ei athrawiaeth ef. 19 A phan aeth hi yn hwyr, efe a aeth allan o’r ddinas.

20 A’r bore, wrth fyned heibio, hwy a welsant y ffigysbren wedi crino o’r gwraidd. 21 A Phedr wedi atgofio, a ddywedodd wrtho, Athro, wele y ffigysbren a felltithiaist, wedi crino. 22 A’r Iesu a atebodd ac a ddywedodd wrthynt, Bydded gennych ffydd yn Nuw: 23 Canys yn wir yr wyf yn dywedyd i chwi, Pwy bynnag a ddywedo wrth y mynydd hwn, Tynner di ymaith, a bwrier di i’r môr; ac nid amheuo yn ei galon, ond credu y daw i ben y pethau a ddywedo efe; beth bynnag a ddywedo, a fydd iddo. 24 Am hynny meddaf i chwi, Beth bynnag oll a geisioch wrth weddïo credwch y derbyniwch, ac fe fydd i chwi. 25 A phan safoch i weddïo, maddeuwch, o bydd gennych ddim yn erbyn neb; fel y maddeuo eich Tad yr hwn sydd yn y nefoedd i chwithau eich camweddau: 26 Ond os chwi ni faddeuwch, eich Tad yr hwn sydd yn y nefoedd ni faddau chwaith eich camweddau chwithau.

27 A hwy a ddaethant drachefn i Jerwsalem: ac fel yr oedd efe yn rhodio yn y deml, yr archoffeiriaid, a’r ysgrifenyddion, a’r henuriaid, a ddaethant ato, 28 Ac a ddywedasant wrtho, Trwy ba awdurdod yr wyt ti yn gwneuthur y pethau hyn? a phwy a roddes i ti yr awdurdod hon i wneuthur y pethau hyn? 29 A’r Iesu a atebodd ac a ddywedodd wrthynt, A minnau a ofynnaf i chwithau un gair; ac atebwch fi, a mi a ddywedaf i chwi trwy ba awdurdod yr wyf yn gwneuthur y pethau hyn. 30 Bedydd Ioan, ai o’r nef yr oedd, ai o ddynion? atebwch fi. 31 Ac ymresymu a wnaethant wrthynt eu hunain, gan ddywedyd, Os dywedwn, O’r nef; efe a ddywed, Paham gan hynny na chredech iddo? 32 Eithr os dywedwn, O ddynion; yr oedd arnynt ofn y bobl: canys pawb oll a gyfrifent Ioan mai proffwyd yn ddiau ydoedd. 33 A hwy a atebasant ac a ddywedasant wrth yr Iesu, Ni wyddom ni. A’r Iesu a atebodd ac a ddywedodd wrthynt hwythau, Ac ni ddywedaf finnau i chwithau trwy ba awdurdod yr wyf yn gwneuthur y pethau hyn.

Ioan 12

12 Yna yr Iesu, chwe diwrnod cyn y pasg, a ddaeth i Fethania, lle yr oedd Lasarus, yr hwn a fuasai farw, yr hwn a godasai efe o feirw. Ac yno y gwnaethant iddo swper; a Martha oedd yn gwasanaethu: a Lasarus oedd un o’r rhai a eisteddent gydag ef. Yna y cymerth Mair bwys o ennaint nard gwlyb gwerthfawr, ac a eneiniodd draed yr Iesu, ac a sychodd ei draed ef â’i gwallt: a’r tŷ a lanwyd gan arogl yr ennaint. Am hynny y dywedodd un o’i ddisgyblion ef, Jwdas Iscariot, mab Simon, yr hwn oedd ar fedr ei fradychu ef, Paham na werthwyd yr ennaint hwn er tri chan ceiniog, a’i roddi i’r tlodion? Eithr hyn a ddywedodd efe, nid oherwydd bod arno ofal dros y tlodion; ond am ei fod yn lleidr, a bod ganddo’r pwrs, a’i fod yn dwyn yr hyn a fwrid ynddo. A’r Iesu a ddywedodd, Gad iddi: erbyn dydd fy nghladdedigaeth y cadwodd hi hwn. Canys y mae gennych y tlodion gyda chwi bob amser; eithr myfi nid oes gennych bob amser. Gwybu gan hynny dyrfa fawr o’r Iddewon ei fod ef yno: a hwy a ddaethant, nid er mwyn yr Iesu yn unig, ond fel y gwelent Lasarus hefyd, yr hwn a godasai efe o feirw.

10 Eithr yr archoffeiriaid a ymgyngorasant fel y lladdent Lasarus hefyd: 11 Oblegid llawer o’r Iddewon a aethant ymaith o’i herwydd ef, ac a gredasant yn yr Iesu.

12 Trannoeth, tyrfa fawr yr hon a ddaethai i’r ŵyl, pan glywsant fod yr Iesu yn dyfod i Jerwsalem, 13 A gymerasant gangau o’r palmwydd, ac a aethant allan i gyfarfod ag ef, ac a lefasant, Hosanna: Bendigedig yw Brenin Israel, yr hwn sydd yn dyfod yn enw yr Arglwydd. 14 A’r Iesu wedi cael asynnyn, a eisteddodd arno; megis y mae yn ysgrifenedig, 15 Nac ofna, ferch Seion: wele, y mae dy Frenin yn dyfod, yn eistedd ar ebol asyn. 16 Y pethau hyn ni wybu ei ddisgyblion ef ar y cyntaf: eithr pan ogoneddwyd yr Iesu, yna y cofiasant fod y pethau hyn yn ysgrifenedig amdano, ac iddynt wneuthur hyn iddo. 17 Tystiolaethodd gan hynny y dyrfa, yr hon oedd gydag ef pan alwodd efe Lasarus o’r bedd, a’i godi ef o feirw. 18 Am hyn y daeth y dyrfa hefyd i gyfarfod ag ef, am glywed ohonynt iddo wneuthur yr arwydd hwn. 19 Y Phariseaid gan hynny a ddywedasant yn eu plith eu hunain, A welwch chwi nad ydych yn tycio dim? wele, fe aeth y byd ar ei ôl ef.

20 Ac yr oedd rhai Groegiaid ymhlith y rhai a ddaethent i fyny i addoli ar yr ŵyl: 21 Y rhai hyn gan hynny a ddaethant at Philip, yr hwn oedd o Fethsaida yng Ngalilea, ac a ddymunasant arno, gan ddywedyd, Syr, ni a ewyllysiem weled yr Iesu. 22 Philip a ddaeth, ac a ddywedodd i Andreas; a thrachefn Andreas a Philip a ddywedasant i’r Iesu.

23 A’r Iesu a atebodd iddynt, gan ddywedyd, Daeth yr awr y gogonedder Mab y dyn. 24 Yn wir, yn wir, meddaf i chwi, Oni syrth y gronyn gwenith i’r ddaear, a marw, hwnnw a erys yn unig: eithr os bydd efe marw, efe a ddwg ffrwyth lawer. 25 Yr hwn sydd yn caru ei einioes, a’i cyll hi; a’r hwn sydd yn casáu ei einioes yn y byd hwn, a’i ceidw hi i fywyd tragwyddol. 26 Os gwasanaetha neb fi, dilyned fi: a lle yr wyf fi, yno y bydd fy ngweinidog hefyd: ac os gwasanaetha neb fi, y Tad a’i hanrhydedda ef. 27 Yr awron y cynhyrfwyd fy enaid: a pha beth a ddywedaf? O Dad, gwared fi allan o’r awr hon: eithr oherwydd hyn y deuthum i’r awr hon. 28 O Dad, gogonedda dy enw. Yna y daeth llef o’r nef, Mi a’i gogoneddais, ac a’i gogoneddaf drachefn. 29 Y dyrfa gan hynny, yr hon oedd yn sefyll ac yn clywed, a ddywedodd mai taran oedd: eraill a ddywedasant, Angel a lefarodd wrtho. 30 Yr Iesu a atebodd ac a ddywedodd, Nid o’m hachos i y bu’r llef hon, ond o’ch achos chwi. 31 Yn awr y mae barn y byd hwn: yn awr y bwrir allan dywysog y byd hwn. 32 A minnau, os dyrchefir fi oddi ar y ddaear, a dynnaf bawb ataf fy hun. 33 (A hyn a ddywedodd efe, gan arwyddo o ba angau y byddai farw.) 34 Y dyrfa a atebodd iddo, Ni a glywsom o’r ddeddf, fod Crist yn aros yn dragwyddol: a pha wedd yr wyt ti yn dywedyd, fod yn rhaid dyrchafu Mab y dyn? pwy ydyw hwnnw Mab y dyn? 35 Yna yr Iesu a ddywedodd wrthynt, Eto ychydig ennyd y mae’r goleuni gyda chwi. Rhodiwch tra fyddo gennych y goleuni, fel na ddalio’r tywyllwch chwi: a’r hwn sydd yn rhodio mewn tywyllwch, ni ŵyr i ba le y mae’n myned. 36 Tra fyddo gennych oleuni, credwch yn y goleuni, fel y byddoch blant y goleuni. Hyn a ddywedodd yr Iesu, ac efe a ymadawodd, ac a ymguddiodd rhagddynt.

37 Ac er gwneuthur ohono ef gymaint o arwyddion yn eu gŵydd hwynt, ni chredasant ynddo: 38 Fel y cyflawnid ymadrodd Eseias y proffwyd, yr hwn a ddywedodd efe, Arglwydd, pwy a gredodd i’n hymadrodd ni? ac i bwy y datguddiwyd braich yr Arglwydd? 39 Am hynny ni allent gredu, oblegid dywedyd o Eseias drachefn, 40 Efe a ddallodd eu llygaid, ac a galedodd eu calon; fel na welent â’u llygaid, a deall â’u calon, ac ymchwelyd ohonynt, ac i mi eu hiacháu hwynt. 41 Y pethau hyn a ddywedodd Eseias, pan welodd ei ogoniant ef, ac y llefarodd amdano ef.

42 Er hynny llawer o’r penaethiaid hefyd a gredasant ynddo; ond oblegid y Phariseaid ni chyffesasant ef, rhag eu bwrw allan o’r synagog: 43 Canys yr oeddynt yn caru gogoniant dynion yn fwy na gogoniant Duw.

44 A’r Iesu a lefodd ac a ddywedodd, Yr hwn sydd yn credu ynof fi, nid yw yn credu ynof fi, ond yn yr hwn a’m hanfonodd i. 45 A’r hwn sydd yn fy ngweled i, sydd yn gweled yr hwn a’m danfonodd i. 46 Mi a ddeuthum yn oleuni i’r byd, fel y bo i bob un a’r sydd yn credu ynof fi, nad arhoso yn y tywyllwch. 47 Ac os clyw neb fy ngeiriau, ac ni chred, myfi nid wyf yn ei farnu ef: canys ni ddeuthum i farnu’r byd, eithr i achub y byd. 48 Yr hwn sydd yn fy nirmygu i, ac heb dderbyn fy ngeiriau, y mae iddo un yn ei farnu: y gair a leferais i, hwnnw a’i barn ef yn y dydd diwethaf. 49 Canys myfi ni leferais ohonof fy hun: ond y Tad yr hwn a’m hanfonodd i, efe a roddes orchymyn i mi, beth a ddywedwn, a pha beth a lefarwn. 50 Ac mi a wn fod ei orchymyn ef yn fywyd tragwyddol: am hynny y pethau yr wyf fi yn eu llefaru, fel y dywedodd y Tad wrthyf, felly yr wyf yn llefaru.

Beibl William Morgan (BWM)

William Morgan Welsh Bible Edition © British & Foreign Bible Society 1992.