Print Page Options
Previous Prev Day Next DayNext

Revised Common Lectionary (Complementary)

Daily Bible readings that follow the church liturgical year, with thematically matched Old and New Testament readings.
Duration: 1245 days
Beibl William Morgan (BWM)
Version
1 Brenhinoedd 19:15-16

15 A’r Arglwydd a ddywedodd wrtho, Dos, dychwel i’th ffordd i anialwch Damascus: a phan ddelych, eneinia Hasael yn frenin ar Syria; 16 A Jehu mab Nimsi a eneini di yn frenin ar Israel; ac Eliseus mab Saffat, o Abel‐mehola, a eneini di yn broffwyd yn dy le dy hun.

1 Brenhinoedd 19:19-21

19 Felly efe a aeth oddi yno, ac a gafodd Eliseus mab Saffat yn aredig, â deuddeg cwpl o ychen o’i flaen, ac efe oedd gyda’r deuddegfed. Ac Eleias a aeth heibio iddo ef, ac a fwriodd ei fantell arno ef. 20 Ac efe a adawodd yr ychen, ac a redodd ar ôl Eleias, ac a ddywedodd, Atolwg, gad i mi gusanu fy nhad a’m mam, ac yna mi a ddeuaf ar dy ôl. Ac yntau a ddywedodd wrtho, Dos, dychwel; canys beth a wneuthum i ti? 21 Ac efe a ddychwelodd oddi ar ei ôl ef, ac a gymerth gwpl o ychen, ac a’u lladdodd, ac ag offer yr ychen y berwodd efe eu cig hwynt, ac a’i rhoddodd i’r bobl, a hwy a fwytasant. Yna efe a gyfododd ac a aeth ar ôl Eleias, ac a’i gwasanaethodd ef.

Salmau 16

Michtam Dafydd.

16 Cadw fi, O Dduw: canys ynot yr ymddiriedaf. Fy enaid, dywedaist wrth yr Arglwydd, Fy Arglwydd ydwyt ti: fy na nid yw ddim i ti: Ond i’r saint sydd ar y ddaear, a’r rhai rhagorol, yn y rhai y mae fy holl hyfrydwch. Gofidiau a amlhânt i’r rhai a frysiant ar ôl duw dieithr: eu diod‐offrwm o waed nid offrymaf fi, ac ni chymeraf eu henwau yn fy ngwefusau. Yr Arglwydd yw rhan fy etifeddiaeth i a’m ffiol: ti a gynheli fy nghoelbren. Y llinynnau a syrthiodd i mi mewn lleoedd hyfryd: ie, y mae i mi etifeddiaeth deg. Bendithiaf yr Arglwydd, yr hwn a’m cynghorodd: fy arennau hefyd a’m dysgant y nos. Gosodais yr Arglwydd bob amser ger fy mron: am ei fod ar fy neheulaw, ni’m hysgogir. Oherwydd hynny llawenychodd fy nghalon, ac ymhyfrydodd fy ngogoniant: fy nghnawd hefyd a orffwys mewn gobaith. 10 Canys ni adewi fy enaid yn uffern; ac ni oddefi i’th Sanct weled llygredigaeth. 11 Dangosi i mi lwybr bywyd: digonolrwydd llawenydd sydd ger dy fron, ar dy ddeheulaw y mae digrifwch yn dragywydd.

Galatiaid 5:1

Sefwch gan hynny yn y rhyddid â’r hwn y rhyddhaodd Crist ni; ac na ddalier chwi drachefn dan iau caethiwed.

Galatiaid 5:13-25

13 Canys i ryddid y’ch galwyd chwi, frodyr: yn unig nac arferwch y rhyddid yn achlysur i’r cnawd, ond trwy gariad gwasanaethwch eich gilydd. 14 Canys yr holl ddeddf a gyflawnir mewn un gair, sef yn hwn; Câr dy gymydog fel ti dy hun. 15 Ond os cnoi a thraflyncu eich gilydd yr ydych, gwyliwch na ddifether chwi gan eich gilydd. 16 Ac yr wyf yn dywedyd, Rhodiwch yn yr Ysbryd, ac na chyflawnwch drachwant y cnawd. 17 Canys y mae’r cnawd yn chwenychu yn erbyn yr Ysbryd, a’r Ysbryd yn erbyn y cnawd: a’r rhai hyn a wrthwynebant ei gilydd, fel na alloch wneuthur beth bynnag a ewyllysioch. 18 Ond os gan yr Ysbryd y’ch arweinir, nid ydych dan y ddeddf. 19 Hefyd amlwg yw gweithredoedd y cnawd; y rhai yw, torpriodas, godineb, aflendid, anlladrwydd, 20 Delw‐addoliaeth, swyn‐gyfaredd, casineb, cynhennau, gwynfydau, llid, ymrysonau, ymbleidio, heresïau, 21 Cenfigennau, llofruddiaeth, meddwdod, cyfeddach, a chyffelyb i’r rhai hyn: am y rhai yr wyf fi yn rhagddywedyd wrthych, megis ag y rhagddywedais, na chaiff y rhai sydd yn gwneuthur y cyfryw bethau etifeddu teyrnas Dduw. 22 Eithr ffrwyth yr Ysbryd yw, cariad, llawenydd, tangnefedd, hirymaros, cymwynasgarwch, daioni, ffydd, addfwynder, dirwest: 23 Yn erbyn y cyfryw nid oes ddeddf. 24 A’r rhai sydd yn eiddo Crist, a groeshoeliasant y cnawd, â’i wyniau a’i chwantau. 25 Os byw yr ydym yn yr Ysbryd, rhodiwn hefyd yn yr Ysbryd.

Luc 9:51-62

51 A bu, pan gyflawnwyd y dyddiau y cymerid ef i fyny, yntau a roddes ei fryd ar fyned i Jerwsalem. 52 Ac efe a ddanfonodd genhadau o flaen ei wyneb: a hwy wedi myned, a aethant i mewn i dref y Samariaid, i baratoi iddo ef. 53 Ac nis derbyniasant hwy ef, oblegid fod ei wyneb ef yn tueddu tua Jerwsalem. 54 A’i ddisgyblion ef, Iago ac Ioan, pan welsant, a ddywedasant, Arglwydd, a fynni di ddywedyd ohonom am ddyfod tân i lawr o’r nef, a’u difa hwynt, megis y gwnaeth Eleias? 55 Ac efe a drodd, ac a’u ceryddodd hwynt; ac a ddywedodd, Ni wyddoch o ba ysbryd yr ydych chwi. 56 Canys ni ddaeth Mab y dyn i ddistrywio eneidiau dynion, ond i’w cadw. A hwy a aethant i dref arall.

57 A bu, a hwy yn myned, ddywedyd o ryw un ar y ffordd wrtho ef, Arglwydd, mi a’th ganlynaf i ba le bynnag yr elych. 58 A’r Iesu a ddywedodd wrtho, Y mae gan y llwynogod ffeuau, a chan adar yr awyr nythod; ond gan Fab y dyn nid oes lle y rhoddo ei ben i lawr. 59 Ac efe a ddywedodd wrth un arall, Dilyn fi. Ac yntau a ddywedodd, Arglwydd, gad imi yn gyntaf fyned a chladdu fy nhad. 60 Eithr yr Iesu a ddywedodd wrtho, Gad i’r meirw gladdu eu meirw: ond dos di, a phregetha deyrnas Dduw. 61 Ac un arall hefyd a ddywedodd, Mi a’th ddilynaf di, O Arglwydd; ond gad i mi yn gyntaf ganu’n iach i’r rhai sydd yn fy nhŷ. 62 A’r Iesu a ddywedodd wrtho, Nid oes neb a’r sydd yn rhoi ei law ar yr aradr, ac yn edrych ar y pethau sydd o’i ôl, yn gymwys i deyrnas Dduw.

Beibl William Morgan (BWM)

William Morgan Welsh Bible Edition © British & Foreign Bible Society 1992.