Print Page Options
Previous Prev Day Next DayNext

Revised Common Lectionary (Complementary)

Daily Bible readings that follow the church liturgical year, with thematically matched Old and New Testament readings.
Duration: 1245 days
Beibl William Morgan (BWM)
Version
Salmau 124

Caniad y graddau, o’r eiddo Dafydd.

124 Oni buasai yr Arglwydd yr hwn a fu gyda ni, y gall Israel ddywedyd yn awr; Oni buasai yr Arglwydd yr hwn a fu gyda ni, pan gyfododd dynion yn ein herbyn: Yna y’n llyncasent ni yn fyw, pan enynnodd eu llid hwynt i’n herbyn: Yna y dyfroedd a lifasai drosom, y ffrwd a aethai dros ein henaid: Yna yr aethai dros ein henaid ddyfroedd chwyddedig. Bendigedig fyddo yr Arglwydd, yr hwn ni roddodd ni yn ysglyfaeth i’w dannedd hwynt. Ein henaid a ddihangodd fel aderyn o fagl yr adarwyr: y fagl a dorrwyd, a ninnau a ddianghasom. Ein porth ni sydd yn enw yr Arglwydd, yr hwn a wnaeth nefoedd a daear.

Diarhebion 8:4-21

Arnoch chwi, wŷr, yr wyf fi yn galw; ac at feibion dynion y mae fy llais. Ha ynfydion, deellwch gyfrwyster; a chwi wŷr angall, byddwch o galon ddeallus. Gwrandewch: canys myfi a draethaf i chwi bethau ardderchog; ac a agoraf fy ngwefusau ar bethau uniawn. Canys fy ngenau a draetha wirionedd; a ffiaidd gan fy ngwefusau ddrygioni. Holl eiriau fy ngenau ydynt gyfiawn; nid oes ynddynt na gŵyrni na thrawsedd. Y maent hwy oll yn amlwg i’r neb a ddeallo, ac yn uniawn i’r rhai a gafodd wybodaeth. 10 Derbyniwch fy addysg, ac nid arian; a gwybodaeth o flaen aur etholedig. 11 Canys gwell yw doethineb na gemau: nid oes dim dymunol cyffelyb iddi. 12 Myfi doethineb wyf yn trigo gyda challineb: yr ydwyf yn cael allan wybodaeth cyngor. 13 Ofn yr Arglwydd yw casáu drygioni: balchder, ac uchder, a ffordd ddrygionus, a’r genau traws, sydd gas gennyf fi. 14 Mi biau cyngor, a gwir ddoethineb: deall ydwyf fi; mi biau nerth. 15 Trwof fi y teyrnasa brenhinoedd, ac y barna’r penaethiaid gyfiawnder. 16 Trwof fi y rheola tywysogion a phendefigion, sef holl farnwyr y ddaear. 17 Y sawl a’m carant i, a garaf finnau; a’r sawl a’m ceisiant yn fore, a’m cânt. 18 Gyda myfi y mae cyfoeth, ac anrhydedd, golud parhaus, a chyfiawnder. 19 Gwell yw fy ffrwyth i nag aur, ie, nag aur coeth; a’m cynnyrch sydd well na’r arian detholedig. 20 Ar hyd ffordd cyfiawnder yr arweiniaf, ar hyd canol llwybrau barn: 21 I beri i’r rhai a’m carant etifeddu sylwedd: a mi a lanwaf eu trysorau.

Effesiaid 5:15-20

15 Gwelwch gan hynny pa fodd y rhodioch yn ddiesgeulus, nid fel annoethion, ond fel doethion; 16 Gan brynu’r amser, oblegid y dyddiau sydd ddrwg. 17 Am hynny na fyddwch annoethion, eithr yn deall beth yw ewyllys yr Arglwydd. 18 Ac na feddwer chwi gan win, yn yr hyn y mae gormodedd; eithr llanwer chwi â’r Ysbryd; 19 Gan lefaru wrth eich gilydd mewn salmau, a hymnau, ac odlau ysbrydol; gan ganu a phyncio yn eich calon i’r Arglwydd; 20 Gan ddiolch yn wastad i Dduw a’r Tad am bob peth, yn enw ein Harglwydd Iesu Grist;

Beibl William Morgan (BWM)

William Morgan Welsh Bible Edition © British & Foreign Bible Society 1992.