Print Page Options
Previous Prev Day Next DayNext

Revised Common Lectionary (Complementary)

Daily Bible readings that follow the church liturgical year, with thematically matched Old and New Testament readings.
Duration: 1245 days
Beibl William Morgan (BWM)
Version
Salmau 64

I’r Pencerdd, Salm Dafydd.

64 Clyw fy llef, O Dduw, yn fy ngweddi: cadw fy einioes rhag ofn y gelyn. Cudd fi rhag cyfrinach y rhai drygionus; rhag terfysg gweithredwyr anwiredd: Y rhai a hogant eu tafod fel cleddyf, ac a ergydiant eu saethau, sef geiriau chwerwon: I saethu y perffaith yn ddirgel: yn ddisymwth y saethant ef, ac nid ofnant. Ymwrolant mewn peth drygionus, ymchwedleuant am osod maglau yn ddirgel; dywedant, Pwy a’u gwêl hwynt? Chwiliant allan anwireddau; gorffennant ddyfal chwilio: ceudod a chalon pob un ohonynt sydd ddofn. Eithr Duw a’u saetha hwynt; â saeth ddisymwth yr archollir hwynt. Felly hwy a wnânt i’w tafodau eu hun syrthio arnynt: pob un a’u gwelo a gilia. A phob dyn a ofna, ac a fynega waith Duw: canys doeth ystyriant ei waith ef. 10 Y cyfiawn a lawenycha yn yr Arglwydd, ac a obeithia ynddo; a’r rhai uniawn o galon oll a orfoleddant.

Job 19:1-22

19 A Job a atebodd ac a ddywedodd, Pa hyd y cystuddiwch fy enaid? ac y’m drylliwch â geiriau? Dengwaith bellach y’m gwaradwyddasoch; ac nid cywilydd gennych ymgaledu i’m herbyn. Hefyd pe byddai wir wneuthur ohonof fi yn amryfus; gyda mi y trig fy amryfusedd. Yn wir os ymfawrygwch yn fy erbyn, a dadlau fy ngwaradwydd i’m herbyn: Gwybyddwch yn awr mai Duw a’m dymchwelodd i, ac a’m hamgylchodd â’i rwyd. Wele, llefaf rhag trawster, ond ni’m hatebir: gwaeddaf, ond nid oes farn. Efe a gaeodd fy ffordd, fel nad elwyf drosodd: y mae efe yn gosod tywyllwch ar fy llwybrau. Efe a ddiosgodd fy ngogoniant oddi amdanaf; ac a ddygodd ymaith goron fy mhen. 10 Y mae efe yn fy nistrywio oddi amgylch, ac yr ydwyf yn myned ymaith: ac efe a symudodd fy ngobaith fel pren. 11 Gwnaeth hefyd i’w ddigofaint gynnau yn fy erbyn; ac a’m cyfrifodd iddo fel un o’i elynion. 12 Ei dorfoedd sydd yn dyfod ynghyd, ac yn palmantu eu ffyrdd yn fy erbyn, ac yn gwersyllu o amgylch fy mhabell. 13 Efe a bellhaodd fy mrodyr oddi wrthyf, a’r rhai oedd yn fy adnabod hefyd a ymddieithrasant oddi wrthyf. 14 Fy nghyfnesaf a ballasant, a’r rhai oedd o’m cydnabod a’m hanghofiasant. 15 Y rhai oedd yn trigo yn fy nhŷ, a’m morynion, sydd yn fy nghyfrif yn ddieithr: alltud ydwyf yn eu golwg. 16 Gelwais ar fy ngwasanaethwr, ac nid atebodd; ymbiliais ag ef â’m genau. 17 Dieithr oedd fy anadl i’m gwraig, er ymbil ohonof â hi er mwyn fy mhlant o’m corff. 18 Plant hefyd a’m diystyrent: cyfodais, a dywedasant i’m herbyn. 19 Fy holl gyfrinachwyr sydd yn fy ffieiddio: a’r rhai a gerais a droesant yn fy erbyn. 20 Fy esgyrn a lynodd wrth fy nghroen, ac wrth fy nghnawd; ac â chroen fy nannedd y dihengais. 21 Trugarhewch wrthyf, trugarhewch wrthyf, fy nghyfeillion; canys llaw Duw a gyffyrddodd â mi. 22 Paham yr ydych chwi yn fy erlid i fel Duw, heb gael digon ar fy nghnawd?

Effesiaid 2:11-22

11 Am hynny cofiwch, a chwi gynt yn Genhedloedd yn y cnawd, y rhai a elwid yn ddienwaediad, gan yr hyn a elwir enwaediad o waith llaw yn y cnawd; 12 Eich bod chwi y pryd hwnnw heb Grist, wedi eich dieithrio oddi wrth wladwriaeth Israel, ac yn estroniaid oddi wrth amodau’r addewid, heb obaith gennych, ac heb Dduw yn y byd: 13 Eithr yr awron yng Nghrist Iesu, chwychwi, y rhai oeddech gynt ymhell, a wnaethpwyd yn agos trwy waed Crist. 14 Canys efe yw ein tangnefedd ni, yr hwn a wnaeth y ddau yn un, ac a ddatododd ganolfur y gwahaniaeth rhyngom ni: 15 Ac a ddirymodd trwy ei gnawd ei hun y gelyniaeth, sef deddf y gorchmynion mewn ordeiniadau, fel y creai’r ddau ynddo’i hun yn un dyn newydd, gan wneuthur heddwch; 16 Ac fel y cymodai’r ddau â Duw yn un corff trwy’r groes, wedi lladd y gelyniaeth trwyddi hi. 17 Ac efe a ddaeth, ac a bregethodd dangnefedd i chwi’r rhai pell, ac i’r rhai agos. 18 Oblegid trwyddo ef y mae i ni ein dau ddyfodfa mewn un Ysbryd at y Tad. 19 Weithian gan hynny nid ydych chwi mwyach yn ddieithriaid a dyfodiaid, ond yn gyd‐ddinasyddion â’r saint, ac yn deulu Duw; 20 Wedi eich goruwchadeiladu ar sail yr apostolion a’r proffwydi, ac Iesu Grist ei hun yn benconglfaen; 21 Yn yr hwn y mae’r holl adeilad wedi ei chymwys gydgysylltu, yn cynyddu’n deml sanctaidd yn yr Arglwydd: 22 Yn yr hwn y’ch cydadeiladwyd chwithau yn breswylfod i Dduw trwy’r Ysbryd.

Beibl William Morgan (BWM)

William Morgan Welsh Bible Edition © British & Foreign Bible Society 1992.