Revised Common Lectionary (Complementary)
I’r Pencerdd ar Gittith, Salm Dafydd.
8 Arglwydd ein Ior ni, mor ardderchog yw dy enw ar yr holl ddaear! yr hwn a osodaist dy ogoniant uwch y nefoedd. 2 O enau plant bychain a rhai yn sugno y peraist nerth, o achos dy elynion, i ostegu y gelyn a’r ymddialydd. 3 Pan edrychwyf ar y nefoedd, gwaith dy fysedd; y lloer a’r sêr, y rhai a ordeiniaist; 4 Pa beth yw dyn, i ti i’w gofio? a mab dyn, i ti i ymweled ag ef? 5 Canys gwnaethost ef ychydig is na’r angylion, ac a’i coronaist â gogoniant ac â harddwch. 6 Gwnaethost iddo arglwyddiaethu ar weithredoedd dy ddwylo; gosodaist bob peth dan ei draed ef: 7 Defaid ac ychen oll, ac anifeiliaid y maes hefyd; 8 Ehediaid y nefoedd, a physgod y môr, ac y sydd yn tramwyo llwybrau y moroedd. 9 Arglwydd ein Ior, mor ardderchog yw dy enw ar yr holl ddaear!
4 Gwrandewch, blant, addysg tad, ac erglywch i ddysgu deall. 2 Canys yr ydwyf fi yn rhoddi i chwi addysg dda: na wrthodwch fy nghyfraith. 3 Canys yr oeddwn yn fab i’m tad, yn dyner ac yn annwyl yng ngolwg fy mam. 4 Efe a’m dysgai, ac a ddywedai wrthyf, Dalied dy galon fy ngeiriau: cadw fy ngorchmynion, a bydd fyw. 5 Cais ddoethineb, cais ddeall: na ad dros gof, ac na ŵyra oddi wrth eiriau fy ngenau. 6 Nac ymâd â hi, a hi a’th geidw: câr hi, a hi a’th wared di. 7 Pennaf peth yw doethineb: cais ddoethineb; ac â’th holl gyfoeth cais ddeall. 8 Dyrchafa di hi, a hithau a’th ddyrchafa di: hi a’th ddwg di i anrhydedd, os cofleidi hi. 9 Hi a rydd ychwaneg o ras i’th ben di: ie, hi a rydd i ti goron gogoniant.
41 A’i rieni ef a aent i Jerwsalem bob blwyddyn ar ŵyl y pasg. 42 A phan oedd efe yn ddeuddeng mlwydd oed, hwynt‐hwy a aethant i fyny i Jerwsalem yn ôl defod yr ŵyl. 43 Ac wedi gorffen y dyddiau, a hwy yn dychwelyd, arhosodd y bachgen Iesu yn Jerwsalem; ac ni wyddai Joseff a’i fam ef: 44 Eithr gan dybied ei fod ef yn y fintai, hwy a aethant daith diwrnod; ac a’i ceisiasant ef ymhlith eu cenedl a’u cydnabod. 45 A phryd na chawsant ef, hwy a ddychwelasant i Jerwsalem, gan ei geisio ef. 46 A bu, ar ôl tridiau, gael ohonynt hwy ef yn y deml, yn eistedd yng nghanol y doctoriaid, yn gwrando arnynt, ac yn eu holi hwynt. 47 A synnu a wnaeth ar bawb a’r a’i clywsant ef, oherwydd ei ddeall ef a’i atebion. 48 A phan welsant ef, bu aruthr ganddynt. A’i fam a ddywedodd wrtho, Fy mab, paham y gwnaethost felly â ni? wele, dy dad a minnau yn ofidus a’th geisiasom di. 49 Ac efe a ddywedodd wrthynt, Paham y ceisiech fi? oni wyddech fod yn rhaid i mi fod ynghylch y pethau a berthyn i’m Tad? 50 A hwy ni ddeallasant y gair a ddywedasai efe wrthynt. 51 Ac efe a aeth i waered gyda hwynt, ac a ddaeth i Nasareth, ac a fu ostyngedig iddynt. A’i fam ef a gadwodd yr holl eiriau hyn yn ei chalon. 52 A’r Iesu a gynyddodd mewn doethineb a chorffolaeth, a ffafr gyda Duw a dynion.
William Morgan Welsh Bible Edition © British & Foreign Bible Society 1992.