Revised Common Lectionary (Complementary)
Michtam Dafydd.
16 Cadw fi, O Dduw: canys ynot yr ymddiriedaf. 2 Fy enaid, dywedaist wrth yr Arglwydd, Fy Arglwydd ydwyt ti: fy na nid yw ddim i ti: 3 Ond i’r saint sydd ar y ddaear, a’r rhai rhagorol, yn y rhai y mae fy holl hyfrydwch. 4 Gofidiau a amlhânt i’r rhai a frysiant ar ôl duw dieithr: eu diod‐offrwm o waed nid offrymaf fi, ac ni chymeraf eu henwau yn fy ngwefusau. 5 Yr Arglwydd yw rhan fy etifeddiaeth i a’m ffiol: ti a gynheli fy nghoelbren. 6 Y llinynnau a syrthiodd i mi mewn lleoedd hyfryd: ie, y mae i mi etifeddiaeth deg. 7 Bendithiaf yr Arglwydd, yr hwn a’m cynghorodd: fy arennau hefyd a’m dysgant y nos. 8 Gosodais yr Arglwydd bob amser ger fy mron: am ei fod ar fy neheulaw, ni’m hysgogir. 9 Oherwydd hynny llawenychodd fy nghalon, ac ymhyfrydodd fy ngogoniant: fy nghnawd hefyd a orffwys mewn gobaith. 10 Canys ni adewi fy enaid yn uffern; ac ni oddefi i’th Sanct weled llygredigaeth. 11 Dangosi i mi lwybr bywyd: digonolrwydd llawenydd sydd ger dy fron, ar dy ddeheulaw y mae digrifwch yn dragywydd.
1 Yna Moab a wrthryfelodd yn erbyn Israel, wedi marwolaeth Ahab. 2 Ac Ahaseia a syrthiodd trwy ddellt o’i lofft, yr hon oedd yn Samaria, ac a glafychodd; ac efe a anfonodd genhadau, ac a ddywedodd wrthynt, Ewch, ac ymofynnwch â Baal‐sebub duw Ecron, a fyddaf fi byw o’r clefyd hwn. 3 Ac angel yr Arglwydd a ddywedodd wrth Eleias y Thesbiad, Cyfod, dos i fyny i gyfarfod â chenhadau brenin Samaria, a dywed wrthynt, Ai am nad oedd Duw yn Israel, yr ydych chwi yn myned i ymofyn â Baal‐sebub duw Ecron? 4 Ac am hynny fel hyn y dywed yr Arglwydd; Ni ddisgynni o’r gwely y dringaist arno, eithr gan farw y byddi farw. Ac Eleias a aeth ymaith.
5 A phan ddychwelodd y cenhadau ato ef, efe a ddywedodd wrthynt, Paham y dychwelasoch chwi? 6 A hwy a ddywedasant wrtho, Gŵr a ddaeth i fyny i’n cyfarfod ni, ac a ddywedodd wrthym ni, Ewch, dychwelwch at y brenin a’ch anfonodd, a lleferwch wrtho, Fel hyn y dywed yr Arglwydd; Ai am nad oes Duw yn Israel, yr ydwyt ti yn anfon i ymofyn â Baal‐sebub duw Ecron? oherwydd hynny ni ddisgynni o’r gwely y dringaist arno, eithr gan farw y byddi farw. 7 Ac efe a ddywedodd wrthynt, Pa ddull oedd ar y gŵr a ddaeth i fyny i’ch cyfarfod chwi, ac a lefarodd wrthych yr ymadroddion yma? 8 A hwy a ddywedasant wrtho, Gŵr blewog oedd efe, wedi ymwregysu hefyd â gwregys croen am ei lwynau. Dywedodd yntau, Eleias y Thesbiad oedd efe. 9 Yna efe a anfonodd ato ef dywysog ar ddeg a deugain, ynghyd a’i ddeg a deugain: ac efe a aeth i fyny ato ef; (ac wele ef yn eistedd ar ben bryn;) ac a lefarodd wrtho, Ti ŵr Duw, y brenin a lefarodd, Tyred i waered. 10 Ac Eleias a atebodd ac a ddywedodd wrth dywysog y deg a deugain, Os gŵr Duw ydwyf fi, disgynned tân o’r nefoedd, ac ysed di a’th ddeg a deugain. A thân a ddisgynnodd o’r nefoedd, ac a’i hysodd ef a’i ddeg a deugain. 11 A’r brenin a anfonodd eilwaith ato ef dywysog arall ar ddeg a deugain, â’i ddeg a deugain: ac efe a atebodd ac a ddywedodd, O ŵr Duw, fel hyn y dywedodd y brenin, Tyred i waered yn ebrwydd. 12 Ac Eleias a atebodd ac a ddywedodd wrthynt hwy, Os gŵr Duw ydwyf fi, disgynned tân o’r nefoedd, ac ysed di a’th ddeg a deugain. A thân Duw a ddisgynnodd o’r nefoedd, ac a’i hysodd ef a’i ddeg a deugain.
13 A’r brenin a anfonodd eto y trydydd tywysog ar ddeg a deugain, â’i ddeg a deugain: a’r trydydd tywysog ar ddeg a deugain a aeth i fyny, ac a ddaeth ac a ymgrymodd ar ei liniau gerbron Eleias, ac a ymbiliodd ag ef, ac a lefarodd wrtho, O ŵr Duw, atolwg, bydded fy einioes i, ac einioes dy ddeg gwas a deugain hyn, yn werthfawr yn dy olwg di. 14 Wele, disgynnodd tân o’r nefoedd, ac a ysodd y ddau dywysog cyntaf ar ddeg a deugain, a’u deg a deugeiniau: am hynny yn awr bydded fy einioes i yn werthfawr yn dy olwg di. 15 Ac angel yr Arglwydd a lefarodd wrth Eleias, Dos i waered gydag ef, nac ofna ef. Ac efe a gyfododd, ac a aeth i waered gydag ef at y brenin. 16 Ac efe a ddywedodd wrtho, Fel hyn y dywedodd yr Arglwydd, Oherwydd i ti anfon cenhadau i ymofyn â Baal‐sebub duw Ecron, (ai am nad oes Duw yn Israel i ymofyn â’i air?) am hynny ni ddisgynni o’r gwely y dringaist arno, eithr gan farw y byddi farw.
8 Eithr y pryd hynny, pan oeddech heb adnabod Duw, chwi a wasanaethasoch y rhai wrth naturiaeth nid ydynt dduwiau. 9 Ac yn awr, a chwi yn adnabod Duw, ond yn hytrach yn adnabyddus gan Dduw, pa fodd yr ydych yn troi drachefn at yr egwyddorion llesg a thlodion, y rhai yr ydych yn chwennych drachefn o newydd eu gwasanaethu? 10 Cadw yr ydych ddiwrnodau, a misoedd, ac amseroedd, a blynyddoedd. 11 Y mae arnaf ofn amdanoch, rhag darfod i mi boeni wrthych yn ofer. 12 Byddwch fel myfi, canys yr wyf fi fel chwi, y brodyr, atolwg i chwi: ni wnaethoch i mi ddim cam. 13 A chwi a wyddoch mai trwy wendid y cnawd yr efengylais i chwi y waith gyntaf. 14 A’m profedigaeth, yr hon oedd yn fy nghnawd, ni ddiystyrasoch, ac ni ddirmygasoch; eithr chwi a’m derbyniasoch megis angel Duw, megis Crist Iesu. 15 Beth wrth hynny oedd eich dedwyddwch chwi? canys tystio yr wyf i chwi, pe buasai bosibl, y tynasech eich llygaid, ac a’u rhoesech i mi. 16 A euthum i gan hynny yn elyn i chwi, wrth ddywedyd i chwi y gwir? 17 Y maent yn rhoi mawr serch arnoch, ond nid yn dda; eithr chwennych y maent eich cau chwi allan, fel y rhoddoch fawr serch arnynt hwy. 18 Eithr da yw dwyn mawr serch mewn peth da yn wastadol, ac nid yn unig tra fyddwyf bresennol gyda chwi. 19 Fy mhlant bychain, y rhai yr wyf yn eu hesgor drachefn, hyd oni ffurfier Crist ynoch; 20 Ac mi a fynnwn pe bawn yn awr gyda chwi, a newidio fy llais; oherwydd yr wyf yn amau ohonoch.
William Morgan Welsh Bible Edition © British & Foreign Bible Society 1992.