Print Page Options
Previous Prev Day Next DayNext

Revised Common Lectionary (Complementary)

Daily Bible readings that follow the church liturgical year, with thematically matched Old and New Testament readings.
Duration: 1245 days
Beibl William Morgan (BWM)
Version
Salmau 48

Cân a Salm i feibion Cora.

48 Mawr yw yr Arglwydd, a thra moliannus, yn ninas ein Duw ni, yn ei fynydd sanctaidd. Tegwch bro, llawenydd yr holl ddaear, yw mynydd Seion, yn ystlysau y gogledd, dinas y Brenin mawr. Duw yn ei phalasau a adwaenir yn amddiffynfa. Canys, wele, y brenhinoedd a ymgynullasant, aethant heibio ynghyd. Hwy a welsant, felly y rhyfeddasant; brawychasant, ac aethant ymaith ar ffrwst. Dychryn a ddaeth arnynt yno, a dolur, megis gwraig yn esgor. Â gwynt y dwyrain y drylli longau y môr. Megis y clywsom, felly y gwelsom yn ninas Arglwydd y lluoedd, yn ninas ein Duw ni: Duw a’i sicrha hi yn dragywydd. Sela. Meddyliasom, O Dduw, am dy drugaredd yng nghanol dy deml. 10 Megis y mae dy enw, O Dduw, felly y mae dy fawl hyd eithafoedd y tir: cyflawn o gyfiawnder yw dy ddeheulaw. 11 Llawenyched mynydd Seion, ac ymhyfryded merched Jwda, oherwydd dy farnedigaethau. 12 Amgylchwch Seion, ac ewch o’i hamgylch hi; rhifwch ei thyrau hi. 13 Ystyriwch ei rhagfuriau, edrychwch ar ei phalasau; fel y mynegoch i’r oes a ddelo ar ôl. 14 Canys y Duw hwn yw ein Duw ni byth ac yn dragywydd: efe a’n tywys ni hyd angau.

Joel 2:18-29

18 Yna yr Arglwydd a eiddigedda am ei dir, ac a arbed ei bobl. 19 A’r Arglwydd a etyb, ac a ddywed wrth ei bobl, Wele fi yn anfon i chwi ŷd, a gwin, ac olew; a diwellir chwi ohono: ac ni wnaf chwi mwyach yn waradwydd ymysg y cenhedloedd. 20 Eithr bwriaf yn bell oddi wrthych y gogleddlu, a gyrraf ef i dir sych diffaith, a’i wyneb tua môr y dwyrain, a’i ben ôl tua’r môr eithaf: a’i ddrewi a gyfyd, a’i ddrycsawr a â i fyny, am iddo wneuthur mawrhydri.

21 Nac ofna di, ddaear; gorfoledda a llawenycha: canys yr Arglwydd a wna fawredd. 22 Nac ofnwch, anifeiliaid y maes: canys tarddu y mae porfeydd yr anialwch; canys y pren a ddwg ei ffrwyth, y ffigysbren a’r winwydden a roddant eu cnwd. 23 Chwithau, plant Seion, gorfoleddwch, ac ymlawenhewch yn yr Arglwydd eich Duw: canys efe a roddes i chwi y cynnar law yn gymedrol, ac a wna i’r cynnar law a’r diweddar law ddisgyn i chwi yn y mis cyntaf. 24 A’r ysguboriau a lenwir o ŷd, a’r gwin newydd a’r olew a â dros y llestri. 25 A mi a dalaf i chwi y blynyddoedd a ddifaodd y ceiliog rhedyn, pryf y rhwd, a’r locust, a’r lindys, fy llu mawr i, yr hwn a anfonais yn eich plith. 26 Yna y bwytewch, gan fwyta ac ymddigoni; ac y moliennwch enw yr Arglwydd eich Duw, yr hwn a wnaeth â chwi yn rhyfedd: ac ni waradwyddir fy mhobl byth. 27 A chewch wybod fy mod i yng nghanol Israel, ac mai myfi yw yr Arglwydd eich Duw, ac nid neb arall: a’m pobl nis gwaradwyddir byth.

28 A bydd ar ôl hynny, y tywalltaf fy ysbryd ar bob cnawd; a’ch meibion a’ch merched a broffwydant, eich henuriaid a welant freuddwydion, eich gwŷr ieuainc a welant weledigaethau: 29 Ac ar y gweision hefyd ac ar y morynion y tywalltaf fy ysbryd yn y dyddiau hynny.

1 Corinthiaid 2:1-11

A myfi, pan ddeuthum atoch, frodyr, a ddeuthum nid yn ôl godidowgrwydd ymadrodd neu ddoethineb, gan fynegi i chwi dystiolaeth Duw. Canys ni fernais i mi wybod dim yn eich plith, ond Iesu Grist, a hwnnw wedi ei groeshoelio. A mi a fûm yn eich mysg mewn gwendid, ac ofn, a dychryn mawr. A’m hymadrodd a’m pregeth i, ni bu mewn geiriau denu o ddoethineb ddynol, ond yn eglurhad yr Ysbryd a nerth: Fel na byddai eich ffydd mewn doethineb dynion, ond mewn nerth Duw. A doethineb yr ydym ni yn ei llefaru ymysg rhai perffaith: eithr nid doethineb y byd hwn, na thywysogion y byd hwn, y rhai sydd yn diflannu. Eithr yr ydym ni yn llefaru doethineb Duw mewn dirgelwch, sef y ddoethineb guddiedig, yr hon a ragordeiniodd Duw cyn yr oesoedd i’n gogoniant ni: Yr hon nid adnabu neb o dywysogion y byd hwn: oherwydd pes adwaenasent, ni chroeshoeliasent Arglwydd y gogoniant. Eithr fel y mae yn ysgrifenedig, Ni welodd llygad, ac ni chlywodd clust, ac ni ddaeth i galon dyn, y pethau a ddarparodd Duw i’r rhai a’i carant ef. 10 Eithr Duw a’u heglurodd i ni trwy ei Ysbryd: canys yr Ysbryd sydd yn chwilio pob peth; ie, dyfnion bethau Duw hefyd. 11 Canys pa ddyn a edwyn bethau dyn, ond ysbryd dyn yr hwn sydd ynddo ef? felly hefyd, pethau Duw nid edwyn neb, ond Ysbryd Duw.

Beibl William Morgan (BWM)

William Morgan Welsh Bible Edition © British & Foreign Bible Society 1992.