Revised Common Lectionary (Complementary)
I’r Pencerdd ar Gittith, Salm Dafydd.
8 Arglwydd ein Ior ni, mor ardderchog yw dy enw ar yr holl ddaear! yr hwn a osodaist dy ogoniant uwch y nefoedd. 2 O enau plant bychain a rhai yn sugno y peraist nerth, o achos dy elynion, i ostegu y gelyn a’r ymddialydd. 3 Pan edrychwyf ar y nefoedd, gwaith dy fysedd; y lloer a’r sêr, y rhai a ordeiniaist; 4 Pa beth yw dyn, i ti i’w gofio? a mab dyn, i ti i ymweled ag ef? 5 Canys gwnaethost ef ychydig is na’r angylion, ac a’i coronaist â gogoniant ac â harddwch. 6 Gwnaethost iddo arglwyddiaethu ar weithredoedd dy ddwylo; gosodaist bob peth dan ei draed ef: 7 Defaid ac ychen oll, ac anifeiliaid y maes hefyd; 8 Ehediaid y nefoedd, a physgod y môr, ac y sydd yn tramwyo llwybrau y moroedd. 9 Arglwydd ein Ior, mor ardderchog yw dy enw ar yr holl ddaear!
13 Gwyn ei fyd y dyn a gaffo ddoethineb, a’r dyn a ddygo ddeall allan. 14 Canys gwell yw ei marsiandïaeth hi na marsiandïaeth o arian, a’i chynnyrch hi sydd well nag aur coeth. 15 Gwerthfawrocach yw hi na gemau: a’r holl bethau dymunol nid ydynt gyffelyb iddi. 16 Hir hoedl sydd yn ei llaw ddeau hi; ac yn ei llaw aswy y mae cyfoeth a gogoniant. 17 Ei ffyrdd hi sydd ffyrdd hyfrydwch, a’i holl lwybrau hi ydynt heddwch. 18 Pren bywyd yw hi i’r neb a ymaflo ynddi: a gwyn ei fyd a ddalio ei afael ynddi hi.
17 Ar i Dduw ein Harglwydd Iesu Grist, Tad y gogoniant, roddi i chwi Ysbryd doethineb a datguddiad, trwy ei adnabod ef: 18 Wedi goleuo llygaid eich meddyliau; fel y gwypoch beth yw gobaith ei alwedigaeth ef, a pheth yw golud gogoniant ei etifeddiaeth ef yn y saint, 19 A pheth yw rhagorol fawredd ei nerth ef tuag atom ni y rhai ŷm yn credu, yn ôl gweithrediad nerth ei gadernid ef;
William Morgan Welsh Bible Edition © British & Foreign Bible Society 1992.