Revised Common Lectionary (Complementary)
I’r Pencerdd, Salm Dafydd.
64 Clyw fy llef, O Dduw, yn fy ngweddi: cadw fy einioes rhag ofn y gelyn. 2 Cudd fi rhag cyfrinach y rhai drygionus; rhag terfysg gweithredwyr anwiredd: 3 Y rhai a hogant eu tafod fel cleddyf, ac a ergydiant eu saethau, sef geiriau chwerwon: 4 I saethu y perffaith yn ddirgel: yn ddisymwth y saethant ef, ac nid ofnant. 5 Ymwrolant mewn peth drygionus, ymchwedleuant am osod maglau yn ddirgel; dywedant, Pwy a’u gwêl hwynt? 6 Chwiliant allan anwireddau; gorffennant ddyfal chwilio: ceudod a chalon pob un ohonynt sydd ddofn. 7 Eithr Duw a’u saetha hwynt; â saeth ddisymwth yr archollir hwynt. 8 Felly hwy a wnânt i’w tafodau eu hun syrthio arnynt: pob un a’u gwelo a gilia. 9 A phob dyn a ofna, ac a fynega waith Duw: canys doeth ystyriant ei waith ef. 10 Y cyfiawn a lawenycha yn yr Arglwydd, ac a obeithia ynddo; a’r rhai uniawn o galon oll a orfoleddant.
32 Ac yn y deuddegfed mis o’r ddeuddegfed flwyddyn, ar y dydd cyntaf o’r mis, y daeth gair yr Arglwydd ataf, gan ddywedyd, 2 Ha fab dyn, cyfod alarnad am Pharo brenin yr Aifft, a dywed wrtho, Tebygaist i lew ieuanc y cenhedloedd, ac yr ydwyt ti fel morfil yn y moroedd: a daethost allan gyda’th afonydd; cythryblaist hefyd y dyfroedd â’th draed, a methraist eu hafonydd hwynt. 3 Fel hyn y dywed yr Arglwydd Dduw; Minnau a daenaf fy rhwyd arnat â chynulleidfa pobloedd lawer; a hwy a’th godant yn fy rhwyd i. 4 Gadawaf di hefyd ar y tir, taflaf di ar wyneb y maes, a gwnaf i holl ehediaid y nefoedd drigo arnat ti; ie, ohonot ti y diwallaf fwystfilod yr holl ddaear. 5 Rhoddaf hefyd dy gig ar y mynyddoedd, a llanwaf y dyffrynnoedd â’th uchder di. 6 Mwydaf hefyd â’th waed y tir yr wyt yn nofio ynddo, hyd y mynyddoedd; a llenwir yr afonydd ohonot. 7 Ie, cuddiaf y nefoedd wrth dy ddiffoddi, a thywyllaf eu sêr hwynt: yr haul a guddiaf â chwmwl, a’r lleuad ni wna i’w goleuni oleuo. 8 Tywyllaf arnat holl lewyrch goleuadau y nefoedd, a rhoddaf dywyllwch ar dy dir, medd yr Arglwydd Dduw. 9 A digiaf galon pobloedd lawer, pan ddygwyf dy ddinistr ymysg y cenhedloedd i diroedd nid adnabuost. 10 A gwnaf i bobloedd lawer ryfeddu wrthyt, a’u brenhinoedd a ofnant yn fawr o’th blegid, pan wnelwyf i’m cleddyf ddisgleirio o flaen eu hwynebau hwynt; a hwy ar bob munud a ddychrynant, bob un am ei einioes, yn nydd dy gwymp.
37 A darfu drannoeth, pan ddaethant i waered o’r mynydd, i dyrfa fawr gyfarfod ag ef. 38 Ac wele, gŵr o’r dyrfa a ddolefodd, gan ddywedyd, O Athro, yr wyf yn atolwg i ti, edrych ar fy mab; canys fy unig‐anedig yw. 39 Ac wele, y mae ysbryd yn ei gymryd ef, ac yntau yn ddisymwth yn gweiddi; ac y mae’n ei ddryllio ef, hyd oni falo ewyn; a braidd yr ymedy oddi wrtho, wedi iddo ei ysigo ef. 40 Ac mi a ddeisyfais ar dy ddisgyblion di ei fwrw ef allan; ac nis gallasant. 41 A’r Iesu gan ateb a ddywedodd, O genhedlaeth anffyddlon a throfaus, pa hyd y byddaf gyda chwi, ac y’ch goddefaf? dwg dy fab yma. 42 Ac fel yr oedd efe eto yn dyfod, y cythraul a’i rhwygodd ef, ac a’i drylliodd: a’r Iesu a geryddodd yr ysbryd aflan, ac a iachaodd y bachgen, ac a’i rhoddes ef i’w dad.
43 A brawychu a wnaethant oll gan fawredd Duw. Ac a phawb yn rhyfeddu am yr holl bethau a wnaethai’r Iesu, efe a ddywedodd wrth ei ddisgyblion,
William Morgan Welsh Bible Edition © British & Foreign Bible Society 1992.