Revised Common Lectionary (Complementary)
I’r Pencerdd, Salm Dafydd.
20 Gwrandawed yr Arglwydd arnat yn nydd cyfyngder: enw Duw Jacob a’th ddiffynno. 2 Anfoned i ti gymorth o’r cysegr, a nerthed di o Seion. 3 Cofied dy holl offrymau, a bydded fodlon i’th boethoffrwm. Sela. 4 Rhodded i ti wrth fodd dy galon; a chyflawned dy holl gyngor. 5 Gorfoleddwn yn dy iachawdwriaeth di, a dyrchafwn faner yn enw ein Duw: cyflawned yr Arglwydd dy holl ddymuniadau. 6 Yr awr hon y gwn y gwared yr Arglwydd ei eneiniog: efe a wrendy arno o nefoedd ei sancteiddrwydd, yn nerth iechyd ei ddeheulaw ef. 7 Ymddiried rhai mewn cerbydau, a rhai mewn meirch: ond nyni a gofiwn enw yr Arglwydd ein Duw. 8 Hwy a gwympasant, ac a syrthiasant; ond nyni a gyfodasom, ac a safasom. 9 Achub, Arglwydd: gwrandawed y Brenin arnom yn y dydd y llefom.
15 Fel hyn y dywed yr Arglwydd; Llef a glywyd yn Rama, cwynfan ac wylofain chwerw; Rahel yn wylo am ei meibion, ni fynnai ei chysuro am ei meibion, oherwydd nad oeddynt. 16 Fel hyn y dywed yr Arglwydd; Atal dy lef rhag wylo, a’th lygaid rhag dagrau: canys y mae tâl i’th lafur, medd yr Arglwydd; a hwy a ddychwelant o dir y gelyn. 17 Ac y mae gobaith yn dy ddiwedd, medd yr Arglwydd, y dychwel dy blant i’w bro eu hun.
18 Gan glywed y clywais Effraim yn cwynfan fel hyn; Cosbaist fi, a mi a gosbwyd, fel llo heb ei gynefino â’r iau: dychwel di fi, a mi a ddychwelir, oblegid ti yw yr Arglwydd fy Nuw. 19 Yn ddiau wedi i mi ddychwelyd, mi a edifarheais; ac wedi i mi wybod, mi a drewais fy morddwyd: myfi a gywilyddiwyd, ac a waradwyddwyd hefyd, am i mi ddwyn gwarth fy ieuenctid. 20 Ai mab hoff gennyf yw Effraim? ai plentyn hyfrydwch yw? canys er pan leferais i yn ei erbyn ef, gan gofio y cofiaf ef eto: am hynny fy mherfedd a ruant amdano ef; gan drugarhau y trugarhaf wrtho ef, medd yr Arglwydd. 21 Cyfod i ti arwyddion ffordd, gosod i ti garneddau uchel: gosod dy galon tua’r briffordd, y ffordd yr aethost: dychwel, forwyn Israel, dychwel i’th ddinasoedd hyn.
22 Pa hyd yr ymgrwydri, O ferch wrthnysig? oblegid yr Arglwydd a greodd beth newydd ar y ddaear; Benyw a amgylcha ŵr.
41 Ac wedi iddo ddyfod yn agos, pan welodd efe y ddinas, efe a wylodd drosti, 42 Gan ddywedyd, Pe gwybuasit tithau, ie, yn dy ddydd hwn, y pethau a berthynent i’th heddwch! eithr y maent yn awr yn guddiedig oddi wrth dy lygaid. 43 Canys daw’r dyddiau arnat, a’th elynion a fwriant glawdd o’th amgylch, ac a’th amgylchant, ac a’th warchaeant o bob parth, 44 Ac a’th wnânt yn gydwastad â’r llawr, a’th blant o’th fewn; ac ni adawant ynot faen ar faen; oherwydd nad adnabuost amser dy ymweliad.
William Morgan Welsh Bible Edition © British & Foreign Bible Society 1992.