Revised Common Lectionary (Complementary)
I’r Pencerdd ar Sosannim Eduth, Salm Asaff.
80 Gwrando, O Fugail Israel, yr hwn wyt yn arwain Joseff fel praidd; ymddisgleiria, yr hwn wyt yn eistedd rhwng y ceriwbiaid. 2 Cyfod dy nerth o flaen Effraim a Benjamin a Manasse, a thyred yn iachawdwriaeth i ni. 3 Dychwel ni, O Dduw, a llewyrcha dy wyneb; a ni a achubir. 4 O Arglwydd Dduw y lluoedd, pa hyd y sorri wrth weddi dy bobl? 5 Porthaist hwynt â bara dagrau; a diodaist hwynt â dagrau wrth fesur mawr. 6 Gosodaist ni yn gynnen i’n cymdogion; a’n gelynion a’n gwatwarant yn eu mysg eu hun. 7 O Dduw y lluoedd, dychwel ni, a llewyrcha dy wyneb; a ni a achubir.
17 Bydded dy law dros ŵr dy ddeheulaw, a thros fab y dyn yr hwn a gadarnheaist i ti dy hun. 18 Felly ni chiliwn yn ôl oddi wrthyt ti: bywha ni, a ni a alwn ar dy enw. 19 O Arglwydd Dduw y lluoedd, dychwel ni, llewyrcha dy wyneb; a ni a achubir.
23 A pha un genedl ar y ddaear sydd megis dy bobl, megis Israel, yr hon yr aeth Duw i’w gwaredu yn bobl iddo ei hun, ac i osod iddo enw, ac i wneuthur eroch chwi bethau mawr ac ofnadwy dros dy dir, gerbron dy bobl y rhai a waredaist i ti o’r Aifft, oddi wrth y cenhedloedd a’u duwiau? 24 Canys ti a sicrheaist i ti dy bobl Israel yn bobl i ti byth: a thi, Arglwydd, ydwyt iddynt hwy yn Dduw. 25 Ac yn awr, O Arglwydd Dduw, cwblha byth y gair a leferaist am dy was, ac am ei dŷ ef, a gwna megis y dywedaist. 26 A mawrhaer dy enw yn dragywydd; gan ddywedyd, Arglwydd y lluoedd sydd Dduw ar Israel: a bydded tŷ dy was Dafydd wedi ei sicrhau ger dy fron di. 27 Canys ti, O Arglwydd y lluoedd, Duw Israel, a fynegaist i’th was, gan ddywedyd, Adeiladaf dŷ i ti: am hynny dy was a gafodd yn ei galon weddïo atat ti y weddi hon. 28 Ac yn awr, O Arglwydd Dduw, tydi sydd Dduw, a’th eiriau di sydd wirionedd, a thi a leferaist am dy was y daioni hwn. 29 Yn awr gan hynny rhynged bodd i ti fendigo tŷ dy was, i fod ger dy fron di yn dragywydd: canys ti, O Arglwydd Dduw, a leferaist, ac â’th fendith di y bendithier tŷ dy was yn dragywydd.
31 Yr hwn a ddaeth oddi uchod, sydd goruwch pawb oll: yr hwn sydd o’r ddaear, sydd o’r ddaear, ac am y ddaear y mae yn llefaru: yr hwn sydd yn dyfod o’r nef, sydd goruwch pawb. 32 A’r hyn a welodd efe ac a glywodd, hynny y mae efe yn ei dystiolaethu: ond nid oes neb yn derbyn ei dystiolaeth ef. 33 Yr hwn a dderbyniodd ei dystiolaeth ef, a seliodd mai geirwir yw Duw. 34 Canys yr hwn a anfonodd Duw, sydd yn llefaru geiriau Duw; oblegid nid wrth fesur y mae Duw yn rhoddi iddo ef yr Ysbryd. 35 Y mae’r Tad yn caru y Mab, ac efe a roddodd bob peth yn ei law ef. 36 Yr hwn sydd yn credu yn y Mab, y mae ganddo fywyd tragwyddol: a’r hwn sydd heb gredu i’r Mab, ni wêl fywyd; eithr y mae digofaint Duw yn aros arno ef.
William Morgan Welsh Bible Edition © British & Foreign Bible Society 1992.