Revised Common Lectionary (Complementary)
5 Gwyn ei fyd yr hwn y mae Duw Jacob yn gymorth iddo, sydd â’i obaith yn yr Arglwydd ei Dduw: 6 Yr hwn a wnaeth nefoedd a daear, y môr, a’r hyn oll y sydd ynddynt: yr hwn sydd yn cadw gwirionedd yn dragywydd: 7 Yr hwn sydd yn gwneuthur barn i’r rhai gorthrymedig, yn rhoddi bara i’r newynog. Yr Arglwydd sydd yn gollwng y carcharorion yn rhydd. 8 Yr Arglwydd sydd yn agoryd llygaid y deillion: yr Arglwydd sydd yn codi y rhai a ddarostyngwyd: yr Arglwydd sydd yn hoffi y rhai cyfiawn. 9 Yr Arglwydd sydd yn cadw y dieithriaid: efe a gynnal yr amddifad a’r weddw; ac a ddadymchwel ffordd y rhai annuwiol. 10 Yr Arglwydd a deyrnasa byth, sef dy Dduw di, Seion, dros genhedlaeth a chenhedlaeth. Molwch yr Arglwydd.
6 A hi a gyfododd, a’i merched yng nghyfraith, i ddychwelyd o wlad Moab: canys hi a glywsai yng ngwlad Moab ddarfod i’r Arglwydd ymweled â’i bobl gan roddi iddynt fara. 7 A hi a aeth o’r lle yr oedd hi ynddo, a’i dwy waudd gyda hi: a hwy a aethant i ffordd i ddychwelyd i wlad Jwda. 8 A Naomi a ddywedodd wrth ei dwy waudd, Ewch, dychwelwch bob un i dŷ ei mam: gwneled yr Arglwydd drugaredd â chwi, fel y gwnaethoch chwi â’r meirw, ac â minnau. 9 Yr Arglwydd a ganiatao i chwi gael gorffwystra bob un yn nhŷ ei gŵr. Yna y cusanodd hi hwynt: a hwy a ddyrchafasant eu llef, ac a wylasant. 10 A hwy a ddywedasant wrthi, Diau y dychwelwn ni gyda thi at dy bobl di. 11 A dywedodd Naomi, Dychwelwch, fy merched: i ba beth y deuwch gyda mi? a oes gennyf fi feibion eto yn fy nghroth, i fod yn wŷr i chwi? 12 Dychwelwch, fy merched, ewch ymaith: canys yr ydwyf fi yn rhy hen i briodi gŵr. Pe dywedwn, Y mae gennyf obaith, a bod heno gyda gŵr, ac ymddŵyn meibion hefyd; 13 A arhosech chwi amdanynt hwy, hyd oni chynyddent hwy? a ymarhosech chwi amdanynt hwy, heb wra? Nage, fy merched: canys y mae mawr dristwch i mi o’ch plegid chwi, am i law yr Arglwydd fyned i’m herbyn. 14 A hwy a ddyrchafasant eu llef, ac a wylasant eilwaith: ac Orpa a gusanodd ei chwegr; ond Ruth a lynodd wrthi hi. 15 A dywedodd Naomi, Wele, dy chwaer yng nghyfraith a ddychwelodd at ei phobl, ac at ei duwiau: dychwel dithau ar ôl dy chwaer yng nghyfraith. 16 A Ruth a ddywedodd, Nac erfyn arnaf fi ymado â thi, i gilio oddi ar dy ôl di: canys pa le bynnag yr elych di, yr af finnau; ac ym mha le bynnag y lletyech di, y lletyaf finnau: dy bobl di fydd fy mhobl i, a’th Dduw di fy Nuw innau: 17 Lle y byddych di marw, y byddaf finnau farw, ac yno y’m cleddir; fel hyn y gwnelo yr Arglwydd i mi, ac fel hyn y chwanego, os dim ond angau a wna ysgariaeth rhyngof fi a thithau. 18 Pan welodd hi ei bod hi wedi ymroddi i fyned gyda hi, yna hi a beidiodd â dywedyd wrthi hi.
3 Yr ail epistol hwn, anwylyd, yr ydwyf yn awr yn ei ysgrifennu atoch; yn yr hwn yr ydwyf yn cyffroi eich meddwl puraidd, trwy ddwyn ar gof i chwi: 2 Fel y byddo cofus gennych y geiriau a ragddywedwyd gan y proffwydi sanctaidd, a’n gorchymyn ninnau, apostolion yr Arglwydd a’r Iachawdwr: 3 Gan wybod hyn yn gyntaf, y daw yn y dyddiau diwethaf watwarwyr, yn rhodio yn ôl eu chwantau eu hunain. 4 Ac yn dywedyd, Pa le y mae addewid ei ddyfodiad ef? canys er pan hunodd y tadau, y mae pob peth yn parhau fel yr oeddynt o ddechreuad y creadigaeth. 5 Canys y mae hyn yn ddiarwybod iddynt o’u gwirfodd, mai trwy air Duw yr oedd y nefoedd er ys talm, a’r ddaear yn cydsefyll o’r dwfr a thrwy’r dwfr. 6 Oherwydd paham y byd a oedd y pryd hwnnw, wedi ei orchuddio â dwfr, a ddifethwyd. 7 Eithr y nefoedd a’r ddaear sydd yr awr hon, ydynt trwy’r un gair wedi eu rhoddi i gadw i dân, erbyn dydd y farn, a distryw yr anwir ddynion. 8 Eithr yr un peth hwn na fydded yn ddiarwybod i chwi, anwylyd, fod un dydd gyda’r Arglwydd megis mil o flynyddoedd, a mil o flynyddoedd megis un dydd. 9 Nid ydyw’r Arglwydd yn oedi ei addewid, fel y mae rhai yn cyfrif oed; ond hirymarhous yw efe tuag atom ni, heb ewyllysio bod neb yn golledig, ond dyfod o bawb i edifeirwch. 10 Eithr dydd yr Arglwydd a ddaw megis lleidr y nos; yn yr hwn y nefoedd a ânt heibio gyda thwrf, a’r defnyddiau gan wir wres a doddant, a’r ddaear a’r gwaith a fyddo ynddi a losgir.
William Morgan Welsh Bible Edition © British & Foreign Bible Society 1992.