Revised Common Lectionary (Complementary)
I’r Pencerdd, Maschil, i feibion Cora.
42 Fel y brefa yr hydd am yr afonydd dyfroedd, felly yr hiraetha fy enaid amdanat ti, O Dduw. 2 Sychedig yw fy enaid am Dduw, am y Duw byw: pa bryd y deuaf ac yr ymddangosaf gerbron Duw? 3 Fy nagrau oedd fwyd i mi ddydd a nos, tra dywedant wrthyf bob dydd, Pa le y mae dy Dduw? 4 Tywalltwn fy enaid ynof, pan gofiwn hynny: canys aethwn gyda’r gynulleidfa, cerddwn gyda hwynt i dŷ Dduw, mewn sain cân a moliant, fel tyrfa yn cadw gŵyl. 5 Paham, fy enaid, y’th ddarostyngir, ac yr ymderfysgi ynof? gobeithia yn Nuw: oblegid moliannaf ef eto, am iachawdwriaeth ei wynepryd. 6 Fy Nuw, fy enaid a ymddarostwng ynof: am hynny y cofiaf di, o dir yr Iorddonen, a’r Hermoniaid, o fryn Misar. 7 Dyfnder a eilw ar ddyfnder, wrth sŵn dy bistylloedd di: dy holl donnau a’th lifeiriaint a aethant drosof fi, 8 Eto yr Arglwydd a orchymyn ei drugaredd liw dydd, a’i gân fydd gyda mi liw nos; sef gweddi ar Dduw fy einioes. 9 Dywedaf wrth Dduw fy nghraig, Paham yr anghofiaist fi? paham y rhodiaf yn alarus trwy orthrymder y gelyn? 10 Megis â chleddyf yn fy esgyrn y mae fy ngwrthwynebwyr yn fy ngwaradwyddo, pan ddywedant wrthyf bob dydd, Pa le y mae dy Dduw? 11 Paham y’th ddarostyngir, fy enaid? a phaham y terfysgi ynof? ymddiried yn Nuw; canys eto y moliannaf ef, sef iachawdwriaeth fy wyneb, a’m Duw.
17 Onid ychydig bach fydd eto hyd oni throir Libanus yn ddoldir, a’r doldir a gyfrifir yn goed?
18 A’r dydd hwnnw y rhai byddar a glywant eiriau y llyfr, a llygaid y deillion a welant allan o niwl a thywyllwch. 19 A’r rhai llariaidd a chwanegant lawenychu yn yr Arglwydd; a’r dynion tlodion a ymhyfrydant yn Sanct Israel. 20 Canys darfu am yr ofnadwy, a difethwyd y gwatwarus, a’r rhai oll a wyliant am anwiredd a dorrir ymaith; 21 Y rhai a wnânt ddyn yn droseddwr oherwydd gair, ac a osodant faglau i’r hwn a geryddo yn y porth, ac a wnânt i’r cyfiawn ŵyro am beth coeg. 22 Am hynny fel hyn y dywed yr Arglwydd, yr hwn a waredodd Abraham, am dŷ Jacob, Weithian ni chywilyddir Jacob, ac ni lasa ei wyneb ef. 23 Eithr pan welo efe ei feibion, gwaith fy nwylo, o’i fewn, hwy a sancteiddiant fy enw, ie, sancteiddiant Sanct Jacob, ac a ofnant Dduw Israel. 24 A’r rhai cyfeiliornus o ysbryd a ddysgant ddeall, a’r grwgnachwyr a ddysgant addysg.
12 A thrwy ddwylo’r apostolion y gwnaed arwyddion a rhyfeddodau lawer ymhlith y bobl; (ac yr oeddynt oll yn gytûn ym mhorth Solomon. 13 Eithr ni feiddiai neb o’r lleill ymgysylltu â hwynt: ond y bobl oedd yn eu mawrhau. 14 A chwanegwyd atynt rai yn credu yn yr Arglwydd, lliaws o wŷr a gwragedd hefyd:) 15 Hyd oni ddygent y rhai cleifion allan ar hyd yr heolydd, a’u gosod ar welyau a glythau, fel o’r hyn lleiaf y cysgodai cysgod Pedr, pan ddelai heibio, rai ohonynt. 16 A lliaws a ddaeth hefyd ynghyd o’r dinasoedd o amgylch Jerwsalem, gan ddwyn rhai cleifion, a rhai a drallodid gan ysbrydion aflan; y rhai a iachawyd oll.
William Morgan Welsh Bible Edition © British & Foreign Bible Society 1992.