Print Page Options
Previous Prev Day Next DayNext

Revised Common Lectionary (Complementary)

Daily Bible readings that follow the church liturgical year, with thematically matched Old and New Testament readings.
Duration: 1245 days
Beibl William Morgan (BWM)
Version
Salmau 42

I’r Pencerdd, Maschil, i feibion Cora.

42 Fel y brefa yr hydd am yr afonydd dyfroedd, felly yr hiraetha fy enaid amdanat ti, O Dduw. Sychedig yw fy enaid am Dduw, am y Duw byw: pa bryd y deuaf ac yr ymddangosaf gerbron Duw? Fy nagrau oedd fwyd i mi ddydd a nos, tra dywedant wrthyf bob dydd, Pa le y mae dy Dduw? Tywalltwn fy enaid ynof, pan gofiwn hynny: canys aethwn gyda’r gynulleidfa, cerddwn gyda hwynt i dŷ Dduw, mewn sain cân a moliant, fel tyrfa yn cadw gŵyl. Paham, fy enaid, y’th ddarostyngir, ac yr ymderfysgi ynof? gobeithia yn Nuw: oblegid moliannaf ef eto, am iachawdwriaeth ei wynepryd. Fy Nuw, fy enaid a ymddarostwng ynof: am hynny y cofiaf di, o dir yr Iorddonen, a’r Hermoniaid, o fryn Misar. Dyfnder a eilw ar ddyfnder, wrth sŵn dy bistylloedd di: dy holl donnau a’th lifeiriaint a aethant drosof fi, Eto yr Arglwydd a orchymyn ei drugaredd liw dydd, a’i gân fydd gyda mi liw nos; sef gweddi ar Dduw fy einioes. Dywedaf wrth Dduw fy nghraig, Paham yr anghofiaist fi? paham y rhodiaf yn alarus trwy orthrymder y gelyn? 10 Megis â chleddyf yn fy esgyrn y mae fy ngwrthwynebwyr yn fy ngwaradwyddo, pan ddywedant wrthyf bob dydd, Pa le y mae dy Dduw? 11 Paham y’th ddarostyngir, fy enaid? a phaham y terfysgi ynof? ymddiried yn Nuw; canys eto y moliannaf ef, sef iachawdwriaeth fy wyneb, a’m Duw.

Eseciel 47:1-12

47 Ac efe a’m dug i drachefn i ddrws y tŷ; ac wele ddwfr yn dyfod allan oddi tan riniog y tŷ tua’r dwyrain: oherwydd wyneb y tŷ oedd tua’r dwyrain; a’r dyfroedd oedd yn disgyn oddi tanodd o ystlys deau y tŷ, o du y deau i’r allor. Ac efe a’m dug i ar hyd ffordd y porth tua’r gogledd, ac a wnaeth i mi amgylchu y ffordd oddi allan hyd y porth nesaf allan ar hyd y ffordd sydd yn edrych tua’r dwyrain; ac wele ddyfroedd yn tarddu ar yr ystlys deau. A phan aeth y gŵr yr hwn oedd â’r llinyn yn ei law allan tua’r dwyrain, efe a fesurodd fil o gufyddau, ac a’m tywysodd i trwy y dyfroedd; a’r dyfroedd hyd y fferau. Ac efe a fesurodd fil eraill, ac a’m tywysodd trwy y dyfroedd; a’r dyfroedd hyd y gliniau: ac a fesurodd fil eraill, ac a’m tywysodd trwodd; a’r dyfroedd hyd y lwynau: Ac efe a fesurodd fil eraill; ac afon oedd, yr hon ni allwn fyned trwyddi: canys codasai y dyfroedd yn ddyfroedd nofiadwy, yn afon ni ellid myned trwyddi.

Ac efe a ddywedodd wrthyf, A welaist ti hyn, fab dyn? Yna y’m tywysodd, ac y’m dychwelodd hyd lan yr afon. Ac wedi i mi ddychwelyd, wele ar fin yr afon goed lawer iawn o’r tu yma ac o’r tu acw. Ac efe a ddywedodd wrthyf, Y dyfroedd hyn sydd yn myned allan tua bro y dwyrain, ac a ddisgynnant i’r gwastad, ac a ânt i’r môr: ac wedi eu myned i’r môr, yr iacheir y dyfroedd. A bydd i bob peth byw, yr hwn a ymlusgo, pa le bynnag y delo yr afonydd, gael byw: ac fe fydd pysgod lawer iawn, oherwydd dyfod y dyfroedd hyn yno: canys iacheir hwynt, a phob dim lle y delo yr afon fydd byw. 10 A bydd i’r pysgodwyr sefyll arni, o En‐gedi hyd En‐eglaim; hwy a fyddant yn daenfa rhwydau: eu pysgod fydd yn ôl eu rhyw, fel pysgod y môr mawr, yn llawer iawn. 11 Ei lleoedd lleidiog a’i chorsydd ni iacheir; i halen y rhoddir hwynt. 12 Ac wrth yr afon y cyfyd, ar ei min o’r ddeutu, bob pren ymborth; ei ddalen ni syrth, a’i ffrwyth ni dderfydd: yn ei fisoedd y dwg ffrwyth newydd; oherwydd ei ddyfroedd, hwy a ddaethant allan o’r cysegr: am hynny y bydd ei ffrwyth yn ymborth, a’i ddalen yn feddyginiaeth.

Jwdas 17-25

17 Eithr chwi, O rai annwyl, cofiwch y geiriau a ragddywedwyd gan apostolion ein Harglwydd Iesu Grist; 18 Ddywedyd ohonynt i chwi, y bydd yn yr amser diwethaf watwarwyr, yn cerdded yn ôl eu chwantau annuwiol eu hunain. 19 Y rhai hyn yw’r rhai sydd yn eu didoli eu hunain, yn anianol, heb fod yr Ysbryd ganddynt. 20 Eithr chwychwi, anwylyd, gan eich adeiladu eich hunain ar eich sancteiddiaf ffydd, a gweddïo yn yr Ysbryd Glân, 21 Ymgedwch yng nghariad Duw, gan ddisgwyl trugaredd ein Harglwydd Iesu Grist i fywyd tragwyddol. 22 A thrugarhewch wrth rai, gan wneuthur rhagor: 23 Eithr rhai cedwch trwy ofn, gan eu cipio hwy allan o’r tân; gan gasáu hyd yn oed y wisg a halogwyd gan y cnawd. 24 Eithr i’r hwn a ddichon eich cadw chwi yn ddi-gwymp, a’ch gosod gerbron ei ogoniant ef yn ddifeius mewn gorfoledd, 25 I’r unig ddoeth Dduw, ein Hiachawdwr ni, y byddo gogoniant a mawredd, gallu ac awdurdod, yr awr hon ac yn dragywydd. Amen.

Beibl William Morgan (BWM)

William Morgan Welsh Bible Edition © British & Foreign Bible Society 1992.