Revised Common Lectionary (Complementary)
I’r Pencerdd ar Sosannim Eduth, Salm Asaff.
80 Gwrando, O Fugail Israel, yr hwn wyt yn arwain Joseff fel praidd; ymddisgleiria, yr hwn wyt yn eistedd rhwng y ceriwbiaid. 2 Cyfod dy nerth o flaen Effraim a Benjamin a Manasse, a thyred yn iachawdwriaeth i ni. 3 Dychwel ni, O Dduw, a llewyrcha dy wyneb; a ni a achubir. 4 O Arglwydd Dduw y lluoedd, pa hyd y sorri wrth weddi dy bobl? 5 Porthaist hwynt â bara dagrau; a diodaist hwynt â dagrau wrth fesur mawr. 6 Gosodaist ni yn gynnen i’n cymdogion; a’n gelynion a’n gwatwarant yn eu mysg eu hun. 7 O Dduw y lluoedd, dychwel ni, a llewyrcha dy wyneb; a ni a achubir.
17 Bydded dy law dros ŵr dy ddeheulaw, a thros fab y dyn yr hwn a gadarnheaist i ti dy hun. 18 Felly ni chiliwn yn ôl oddi wrthyt ti: bywha ni, a ni a alwn ar dy enw. 19 O Arglwydd Dduw y lluoedd, dychwel ni, llewyrcha dy wyneb; a ni a achubir.
18 Yna yr aeth y brenin Dafydd i mewn, ac a eisteddodd gerbron yr Arglwydd: ac a ddywedodd, Pwy ydwyf fi, O Arglwydd Dduw? a pheth yw fy nhŷ, pan ddygit fi hyd yma? 19 Ac eto bychan oedd hyn yn dy olwg di, O Arglwydd Dduw; ond ti a leferaist hefyd am dŷ dy was dros hir amser: ai dyma arfer dyn, O Arglwydd Dduw? 20 A pha beth mwyach a ddywed Dafydd ychwaneg wrthyt? canys ti a adwaenost dy was, O Arglwydd Dduw. 21 Er mwyn dy air di, ac yn ôl dy feddwl dy hun, y gwnaethost yr holl fawredd hyn, i beri i’th was eu gwybod. 22 Am hynny y’th fawrhawyd, O Arglwydd Dduw; canys nid oes neb fel tydi, ac nid oes Duw onid ti, yn ôl yr hyn oll a glywsom ni â’n clustiau.
4 A hyn yr wyf yn ei ddywedyd: dros gymaint o amser ag y mae’r etifedd yn fachgen, nid oes dim rhagor rhyngddo a gwas, er ei fod yn arglwydd ar y cwbl; 2 Eithr y mae efe dan ymgeleddwyr a llywodraethwyr, hyd yr amser a osodwyd gan y tad. 3 Felly ninnau hefyd, pan oeddem fechgyn, oeddem gaethion dan wyddorion y byd: 4 Ond pan ddaeth cyflawnder yr amser, y danfonodd Duw ei Fab, wedi ei wneuthur o wraig, wedi ei wneuthur dan y ddeddf; 5 Fel y prynai’r rhai oedd dan y ddeddf, fel y derbyniem y mabwysiad. 6 Ac oherwydd eich bod yn feibion, yr anfonodd Duw Ysbryd ei Fab i’ch calonnau chwi, yn llefain, Abba, Dad. 7 Felly nid wyt ti mwy yn was, ond yn fab; ac os mab, etifedd hefyd i Dduw trwy Grist.
William Morgan Welsh Bible Edition © British & Foreign Bible Society 1992.