Revised Common Lectionary (Complementary)
I’r Pencerdd ar Sosannim Eduth, Salm Asaff.
80 Gwrando, O Fugail Israel, yr hwn wyt yn arwain Joseff fel praidd; ymddisgleiria, yr hwn wyt yn eistedd rhwng y ceriwbiaid. 2 Cyfod dy nerth o flaen Effraim a Benjamin a Manasse, a thyred yn iachawdwriaeth i ni. 3 Dychwel ni, O Dduw, a llewyrcha dy wyneb; a ni a achubir. 4 O Arglwydd Dduw y lluoedd, pa hyd y sorri wrth weddi dy bobl? 5 Porthaist hwynt â bara dagrau; a diodaist hwynt â dagrau wrth fesur mawr. 6 Gosodaist ni yn gynnen i’n cymdogion; a’n gelynion a’n gwatwarant yn eu mysg eu hun. 7 O Dduw y lluoedd, dychwel ni, a llewyrcha dy wyneb; a ni a achubir.
17 Bydded dy law dros ŵr dy ddeheulaw, a thros fab y dyn yr hwn a gadarnheaist i ti dy hun. 18 Felly ni chiliwn yn ôl oddi wrthyt ti: bywha ni, a ni a alwn ar dy enw. 19 O Arglwydd Dduw y lluoedd, dychwel ni, llewyrcha dy wyneb; a ni a achubir.
7 Aphan eisteddodd y brenin yn ei dŷ, a rhoddi o’r Arglwydd lonydd iddo ef rhag ei holl elynion oddi amgylch: 2 Yna y dywedodd y brenin wrth Nathan y proffwyd, Wele yn awr fi yn preswylio mewn tŷ o gedrwydd, ac arch Duw yn aros o fewn y cortynnau. 3 A Nathan a ddywedodd wrth y brenin, Dos, gwna yr hyn oll sydd yn dy galon: canys yr Arglwydd sydd gyda thi.
4 A bu, y noson honno, i air yr Arglwydd ddyfod at Nathan, gan ddywedyd, 5 Dos, a dywed wrth fy ngwas Dafydd, Fel hyn y dywed yr Arglwydd; Ai tydi a adeiledi i mi dŷ, lle y cyfanheddwyf fi? 6 Canys nid arhosais mewn tŷ, er y dydd yr arweiniais blant Israel o’r Aifft, hyd y dydd hwn, eithr bûm yn rhodio mewn pabell ac mewn tabernacl. 7 Ym mha le bynnag y rhodiais gyda holl feibion Israel, a yngenais i air wrth un o lwythau Israel, i’r rhai y gorchmynnais borthi fy mhobl Israel, gan ddywedyd, Paham nad adeiladasoch i mi dŷ o gedrwydd? 8 Ac yn awr fel hyn y dywedi wrth fy ngwas Dafydd; Fel hyn y dywed Arglwydd y lluoedd; Myfi a’th gymerais di o’r gorlan, oddi ar ôl y praidd, i fod yn flaenor ar fy mhobl, ar Israel. 9 A bûm gyda thi ym mha le bynnag y rhodiaist; torrais ymaith hefyd dy holl elynion di o’th flaen, a gwneuthum enw mawr i ti, megis enw y rhai mwyaf ar y ddaear. 10 Gosodaf hefyd i’m pobl Israel le; a phlannaf ef, fel y trigo efe yn ei le ei hun, ac na symudo mwyach: a meibion anwiredd ni chwanegant ei gystuddio ef, megis cynt; 11 Sef er y dydd yr ordeiniais i farnwyr ar fy mhobl Israel, ac y rhoddais lonyddwch i ti oddi wrth dy holl elynion. A’r Arglwydd sydd yn mynegi i ti, y gwna efe dŷ i ti.
12 A phan gyflawner dy ddyddiau di, a huno ohonot gyda’th dadau, mi a gyfodaf dy had di ar dy ôl, yr hwn a ddaw allan o’th ymysgaroedd di, a mi a gadarnhaf ei frenhiniaeth ef. 13 Efe a adeilada dŷ i’m henw i; minnau a gadarnhaf orseddfainc ei frenhiniaeth ef byth. 14 Myfi a fyddaf iddo ef yn dad, ac yntau fydd i mi yn fab. Os trosedda efe, mi a’i ceryddaf â gwialen ddynol, ac â dyrnodiau meibion dynion: 15 Ond fy nhrugaredd nid ymedy ag ef, megis ag y tynnais hi oddi wrth Saul, yr hwn a fwriais ymaith o’th flaen di. 16 A’th dŷ di a sicrheir, a’th frenhiniaeth, yn dragywydd o’th flaen di: dy orseddfainc a sicrheir byth. 17 Yn ôl yr holl eiriau hyn, ac yn ôl yr holl weledigaeth hon, felly y llefarodd Nathan wrth Dafydd.
23 Eithr cyn dyfod ffydd, y’n cadwyd dan y ddeddf, wedi ein cyd‐gau i’r ffydd, yr hon oedd i’w datguddio. 24 Y ddeddf gan hynny oedd ein hathro ni at Grist, fel y’n cyfiawnheid trwy ffydd. 25 Eithr wedi dyfod ffydd, nid ydym mwyach dan athro. 26 Canys chwi oll ydych blant i Dduw trwy ffydd yng Nghrist Iesu. 27 Canys cynifer ohonoch ag a fedyddiwyd yng Nghrist, a wisgasoch Grist. 28 Nid oes nac Iddew na Groegwr, nid oes na chaeth na rhydd, nid oes na gwryw na benyw: canys chwi oll un ydych yng Nghrist Iesu. 29 Ac os eiddo Crist ydych, yna had Abraham ydych, ac etifeddion yn ôl yr addewid.
William Morgan Welsh Bible Edition © British & Foreign Bible Society 1992.