Print Page Options
Previous Prev Day Next DayNext

Revised Common Lectionary (Complementary)

Daily Bible readings that follow the church liturgical year, with thematically matched Old and New Testament readings.
Duration: 1245 days
Beibl William Morgan (BWM)
Version
Salmau 21

I’r Pencerdd, Salm Dafydd.

21 Arglwydd, yn dy nerth y llawenycha y Brenin; ac yn dy iachawdwriaeth di mor ddirfawr yr ymhyfryda! Deisyfiad ei galon a roddaist iddo; a dymuniad ei wefusau nis gomeddaist. Sela. Canys achubaist ei flaen ef â bendithion daioni: gosodaist ar ei ben ef goron o aur coeth. Gofynnodd oes gennyt, a rhoddaist iddo: ie, hir oes, byth ac yn dragywydd. Mawr yw ei ogoniant yn dy iachawdwriaeth: gosodaist arno ogoniant a phrydferthwch. Canys gwnaethost ef yn fendithion yn dragwyddol; llawenychaist ef â llawenydd â’th wynepryd. Oherwydd bod y Brenin yn ymddiried yn yr Arglwydd, a thrwy drugaredd y Goruchaf nid ysgogir ef. Dy law a gaiff afael ar dy holl elynion: dy ddeheulaw a gaiff afael ar dy gaseion. Ti a’u gwnei hwynt fel ffwrn danllyd yn amser dy lid: yr Arglwydd yn ei ddicllonedd a’u llwnc hwynt, a’r tân a’u hysa hwynt. 10 Eu ffrwyth hwynt a ddinistri di oddi ar y ddaear, a’u had o blith meibion dynion. 11 Canys bwriadasant ddrwg i’th erbyn: meddyliasant amcan, heb allu ohonynt ei gwblhau. 12 Am hynny y gwnei iddynt droi eu cefnau: ar dy linynnau y paratôi di saethau yn erbyn eu hwynebau. 13 Ymddyrcha, Arglwydd, yn dy nerth; canwn, a chanmolwn dy gadernid.

Eseia 24:1-16

24 Wele yr Arglwydd yn gwneuthur y ddaear yn wag, ac yn ei difwyno hi; canys efe a ddadymchwel ei hwyneb hi ac a wasgar ei thrigolion. Yna bydd yr un ffunud i’r bobl ac i’r offeiriad, i’r gwas ac i’w feistr, i’r llawforwyn ac i’w meistres, i’r prynydd ac i’r gwerthydd, i’r hwn a roddo ac i’r hwn a gymero echwyn, i’r hwn a gymero log ac i’r hwn a dalo log iddo. Gan wacáu y gwacéir, a chan ysbeilio yr ysbeilir y wlad; canys yr Arglwydd a lefarodd y gair hwn. Galarodd a diflannodd y ddaear, llesgaodd a dadwinodd y byd, dihoenodd pobl feilchion y ddaear. Y ddaear hefyd a halogwyd dan ei phreswylwyr: canys troseddasant y cyfreithiau, newidiasant y deddfau, diddymasant y cyfamod tragwyddol. Am hynny melltith a ysodd y tir, a’r rhai oedd yn trigo ynddo a anrheithiwyd; am hynny preswylwyr y tir a losgwyd, ac ychydig ddynion a adawyd. Galarodd y gwin, llesgaodd y winwydden, y rhai llawen galon oll a riddfanasant. Darfu llawenydd y tympanau, peidiodd trwst y gorfoleddwyr, darfu hyfrydwch y delyn. Nid yfant win dan ganu; chwerw fydd diod gref i’r rhai a’i hyfant. 10 Drylliwyd y ddinas wagedd; caewyd pob tŷ, fel na ddeler i mewn. 11 Y mae llefain am win yn yr heolydd; tywyllodd pob llawenydd, hyfrydwch y tir a fudodd ymaith. 12 Yn y ddinas y gadawyd anghyfanheddrwydd, ag anrhaith hefyd y dryllir y porth.

13 Oblegid bydd o fewn y tir, yng nghanol y bobloedd, megis ysgydwad olewydden, ac fel grawn lloffa pan ddarffo cynhaeaf y gwin. 14 Hwy a ddyrchafant eu llef, ac a ganant; oherwydd godidowgrwydd yr Arglwydd, bloeddiant o’r môr. 15 Am hynny gogoneddwch yr Arglwydd yn y dyffrynnoedd, enw Arglwydd Dduw Israel yn ynysoedd y môr.

16 O eithafoedd y ddaear y clywsom ganiadau, sef gogoniant i’r cyfiawn. A dywedais, O fy nghulni, O fy nghulni, gwae fi! y rhai anffyddlon a wnaethant yn anffyddlon, ie, gwnaeth yr anffyddlon o’r fath anffyddlonaf.

1 Thesaloniaid 4:1-12

Ymhellach gan hynny, frodyr, yr ydym yn atolwg i chwi, ac yn deisyf yn yr Arglwydd Iesu, megis y derbyniasoch gennym pa fodd y dylech rodio a bodloni Duw, ar i chwi gynyddu fwyfwy. Canys chwi a wyddoch pa orchmynion a roddasom i chwi trwy’r Arglwydd Iesu. Canys hyn yw ewyllys Duw, sef eich sancteiddiad chwi, ar ymgadw ohonoch rhag godineb: Ar fedru o bob un ohonoch feddiannu ei lestr ei hun mewn sancteiddrwydd a pharch; Nid mewn gwŷn trachwant, megis y Cenhedloedd y rhai nid adwaenant Dduw: Na byddo i neb orthrymu na thwyllo ei frawd mewn dim: canys dialydd yw’r Arglwydd ar y rhai hyn oll, megis y dywedasom i chwi o’r blaen, ac y tystiasom. Canys ni alwodd Duw nyni i aflendid, ond i sancteiddrwydd. Am hynny y neb sydd yn dirmygu, nid dyn y mae yn ei ddirmygu, ond Duw, yr hwn hefyd a roddes ei Ysbryd Glân ynom ni. Ond am frawdgarwch, nid rhaid i chwi ysgrifennu ohonof atoch: canys yr ydych chwi eich hunain wedi eich dysgu gan Dduw i garu eich gilydd. 10 Oblegid yr ydych yn gwneuthur hyn i bawb o’r brodyr y rhai sydd trwy holl Facedonia: ond yr ydym yn atolwg i chwi, frodyr, gynyddu ohonoch fwyfwy; 11 A rhoddi ohonoch eich bryd ar fod yn llonydd, a gwneuthur eich gorchwylion eich hunain, a gweithio â’ch dwylo eich hunain, (megis y gorchmynasom i chwi;) 12 Fel y rhodioch yn weddaidd tuag at y rhai sydd oddi allan, ac na byddo arnoch eisiau dim.

Beibl William Morgan (BWM)

William Morgan Welsh Bible Edition © British & Foreign Bible Society 1992.