Revised Common Lectionary (Complementary)
Caniad y graddau, o’r eiddo Dafydd.
124 Oni buasai yr Arglwydd yr hwn a fu gyda ni, y gall Israel ddywedyd yn awr; 2 Oni buasai yr Arglwydd yr hwn a fu gyda ni, pan gyfododd dynion yn ein herbyn: 3 Yna y’n llyncasent ni yn fyw, pan enynnodd eu llid hwynt i’n herbyn: 4 Yna y dyfroedd a lifasai drosom, y ffrwd a aethai dros ein henaid: 5 Yna yr aethai dros ein henaid ddyfroedd chwyddedig. 6 Bendigedig fyddo yr Arglwydd, yr hwn ni roddodd ni yn ysglyfaeth i’w dannedd hwynt. 7 Ein henaid a ddihangodd fel aderyn o fagl yr adarwyr: y fagl a dorrwyd, a ninnau a ddianghasom. 8 Ein porth ni sydd yn enw yr Arglwydd, yr hwn a wnaeth nefoedd a daear.
8 A Duw a gofiodd Noa, a phob peth byw, a phob anifail a’r a oedd gydag ef yn yr arch: a Duw a wnaeth i wynt dramwy ar y ddaear, a’r dyfroedd a lonyddasant. 2 Caewyd hefyd ffynhonnau’r dyfnder a ffenestri’r nefoedd; a lluddiwyd y glaw o’r nefoedd. 3 A’r dyfroedd a ddychwelasant oddi ar y ddaear, gan fyned a dychwelyd: ac ymhen y deng niwrnod a deugain a chant, y dyfroedd a dreiasai.
4 Ac yn y seithfed mis, ar yr ail ddydd ar bymtheg o’r mis, y gorffwysodd yr arch ar fynyddoedd Ararat. 5 A’r dyfroedd fuant yn myned ac yn treio, hyd y degfed mis: yn y degfed mis, ar y dydd cyntaf o’r mis, y gwelwyd pennau’r mynyddoedd.
6 Ac ymhen deugain niwrnod yr agorodd Noa ffenestr yr arch a wnaethai efe. 7 Ac efe a anfonodd allan gigfran; a hi a aeth, gan fyned allan a dychwelyd, hyd oni sychodd y dyfroedd oddi ar y ddaear. 8 Ac efe a anfonodd golomen oddi wrtho, i weled a dreiasai’r dyfroedd oddi ar wyneb y ddaear. 9 Ac ni chafodd y golomen orffwysfa i wadn ei throed; a hi a ddychwelodd ato ef i’r arch, am fod y dyfroedd ar wyneb yr holl dir: ac efe a estynnodd ei law, ac a’i cymerodd hi, ac a’i derbyniodd hi ato i’r arch. 10 Ac efe a arhosodd eto saith niwrnod eraill, ac a anfonodd eilwaith y golomen allan o’r arch. 11 A’r golomen a ddaeth ato ef ar brynhawn; ac wele ddeilen olewydden yn ei gylfin hi, wedi ei thynnu: yna y gwybu Noa dreio o’r dyfroedd oddi ar y ddaear. 12 Ac efe a arhosodd eto saith niwrnod eraill, ac a anfonodd y golomen; ac ni ddychwelodd hi eilwaith ato ef mwy.
13 Ac yn yr unfed flwyddyn a chwe chant, yn y mis cyntaf, ar y dydd cyntaf o’r mis, y darfu i’r dyfroedd sychu oddi ar y tir: a Noa a symudodd gaead yr arch, ac a edrychodd, ac wele, sychasai wyneb y ddaear. 14 Ac yn yr ail fis, ar y seithfed dydd ar hugain o’r mis, y ddaear a sychasai.
15 A llefarodd Duw wrth Noa, gan ddywedyd, 16 Dos allan o’r arch, ti, a’th wraig, a’th feibion, a gwragedd dy feibion, gyda thi. 17 Pob peth byw a’r sydd gyda thi, o bob cnawd, yn adar, ac yn anifeiliaid, ac yn bob ymlusgiad a ymlusgo ar y ddaear, a ddygi allan gyda thi: epiliant hwythau yn y ddaear, a ffrwythant ac amlhânt ar y ddaear. 18 A Noa a aeth allan, a’i feibion, a’i wraig, a gwragedd ei feibion, gydag ef. 19 Pob bwystfil, pob ymlusgiad, a phob ehediad, pob peth a ymlusgai ar y ddaear, wrth eu rhywogaethau, a ddaethant allan o’r arch.
6 Beth wrth hynny a ddywedwn ni? a drigwn ni yn wastad mewn pechod, fel yr amlhao gras? 2 Na ato Duw. A ninnau wedi meirw i bechod, pa wedd y byddwn byw eto ynddo ef? 3 Oni wyddoch chwi, am gynifer ohonom ag a fedyddiwyd i Grist Iesu, ein bedyddio ni i’w farwolaeth ef? 4 Claddwyd ni gan hynny gydag ef trwy fedydd i farwolaeth: fel megis ag y cyfodwyd Crist o feirw trwy ogoniant y Tad, felly y rhodiom ninnau hefyd mewn newydd‐deb buchedd. 5 Canys os gwnaed ni yn gyd‐blanhigion i gyffelybiaeth ei farwolaeth ef, felly y byddwn i gyffelybiaeth ei atgyfodiad ef: 6 Gan wybod hyn, ddarfod croeshoelio ein hen ddyn ni gydag ef, er mwyn dirymu corff pechod, fel rhag llaw na wasanaethom bechod. 7 Canys y mae’r hwn a fu farw, wedi ei ryddhau oddi wrth bechod. 8 Ac os buom feirw gyda Crist, yr ydym ni yn credu y byddwn byw hefyd gydag ef: 9 Gan wybod nad yw Crist, yr hwn a gyfodwyd oddi wrth y meirw, yn marw mwyach; nad arglwyddiaetha marwolaeth arno mwyach. 10 Canys fel y bu efe farw, efe a fu farw unwaith i bechod: ac fel y mae yn byw, byw y mae i Dduw. 11 Felly chwithau hefyd, cyfrifwch eich hunain yn feirw i bechod: eithr yn fyw i Dduw, yng Nghrist Iesu ein Harglwydd.
William Morgan Welsh Bible Edition © British & Foreign Bible Society 1992.