Revised Common Lectionary (Complementary)
Salm.
98 Cenwch i’r Arglwydd ganiad newydd: canys efe a wnaeth bethau rhyfedd: ei ddeheulaw a’i fraich sanctaidd a barodd iddo fuddugoliaeth. 2 Hysbysodd yr Arglwydd ei iachawdwriaeth: datguddiodd ei gyfiawnder yng ngolwg y cenhedloedd. 3 Cofiodd ei drugaredd a’i wirionedd i dŷ Israel: holl derfynau y ddaear a welsant iachawdwriaeth ein Duw ni. 4 Cenwch yn llafar i’r Arglwydd, yr holl ddaear: llefwch, ac ymlawenhewch, a chenwch. 5 Cenwch i’r Arglwydd gyda’r delyn; gyda’r delyn, a llef salm. 6 Ar utgyrn a sain cornet, cenwch yn llafar o flaen yr Arglwydd y Brenin. 7 Rhued y môr a’i gyflawnder; y byd a’r rhai a drigant o’i fewn. 8 Cured y llifeiriaint eu dwylo; a chydganed y mynyddoedd 9 O flaen yr Arglwydd; canys y mae yn dyfod i farnu y ddaear: efe a farna y byd â chyfiawnder, a’r bobloedd ag uniondeb.
10 Yna yr edrychais, ac wele yn y ffurfafen, yr hon oedd uwchben y ceriwbiaid, megis maen saffir, fel dull cyffelybrwydd gorseddfa, a welid arnynt hwy. 2 Ac efe a lefarodd wrth y gŵr a wisgasid â lliain, ac a ddywedodd, Dos i mewn rhwng yr olwynion, hyd dan y ceriwb, a llanw dy ddwylo o farwor tanllyd oddi rhwng y ceriwbiaid, a thaena ar y ddinas. Ac efe a aeth o flaen fy llygaid. 3 A’r ceriwbiaid oedd yn sefyll o du deau y tŷ, pan aeth y gŵr i mewn; a’r cwmwl a lanwodd y cyntedd nesaf i mewn. 4 Yna y cyfododd gogoniant yr Arglwydd oddi ar y ceriwb, ac a safodd oddi ar riniog y tŷ; a’r tŷ a lanwyd â’r cwmwl, a llanwyd y cyntedd o ddisgleirdeb gogoniant yr Arglwydd. 5 A sŵn adenydd y ceriwbiaid a glybuwyd hyd y cyntedd nesaf allan, fel sŵn Duw Hollalluog pan lefarai. 6 Bu hefyd, wedi iddo orchymyn i’r gŵr a wisgasid â lliain, gan ddywedyd, Cymer dân oddi rhwng yr olwynion, oddi rhwng y ceriwbiaid; fyned ohono ef, a sefyll wrth yr olwynion. 7 Yna yr estynnodd un ceriwb ei law oddi rhwng y ceriwbiaid i’r tân yr hwn oedd rhwng y ceriwbiaid, ac a gymerth, ac a roddodd beth yn nwylo yr hwn a wisgasid â lliain: yntau a’i cymerodd, ac a aeth allan.
8 A gwelid yn y ceriwbiaid lun llaw dyn dan eu hadenydd. 9 Edrychais hefyd, ac wele bedair olwyn wrth y ceriwbiaid, un olwyn wrth un ceriwb, ac un olwyn wrth geriwb arall: a gwelediad yr olwynion oedd fel lliw maen beryl. 10 A’u gwelediad, un wedd oedd iddynt ill pedair, fel pe byddai olwyn yng nghanol olwyn. 11 Pan gerddent, ar eu pedwar ochr y cerddent; ni throent pan gerddent, ond lle yr edrychai y pen, y cerddent ar ei ôl ef; ni throent pan gerddent. 12 Eu holl gnawd hefyd, a’u cefnau, a’u dwylo, a’u hadenydd, a’r olwynion, oedd yn llawn llygaid oddi amgylch; sef yr olwynion oedd iddynt ill pedwar. 13 Galwyd hefyd lle y clywais arnynt hwy, sef ar yr olwynion, O olwyn. 14 A phedwar wyneb oedd i bob un; yr wyneb cyntaf yn wyneb ceriwb, a’r ail wyneb yn wyneb dyn, a’r trydydd yn wyneb llew, a’r pedwerydd yn wyneb eryr. 15 A’r ceriwbiaid a ymddyrchafasant. Dyma y peth byw a welais wrth afon Chebar. 16 A phan gerddai y ceriwbiaid, y cerddai yr olwynion wrthynt; a phan godai y ceriwbiaid eu hadenydd i ymddyrchafu oddi ar y ddaear, yr olwynion hwythau ni throent chwaith oddi wrthynt. 17 Safent, pan safent hwythau; a chodent gyda hwy, pan godent hwythau; canys ysbryd y peth byw oedd ynddynt. 18 Yna gogoniant yr Arglwydd a aeth allan oddi ar riniog y tŷ, ac a safodd ar y ceriwbiaid. 19 A’r ceriwbiaid a godasant eu hadenydd, ac a ymddyrchafasant oddi ar y ddaear o flaen fy llygaid: a’r olwynion oedd yn eu hymyl, pan aethant allan: a safodd pob un wrth ddrws porth y dwyrain i dŷ yr Arglwydd; a gogoniant Duw Israel oedd arnynt oddi arnodd.
20 A phan ofynnodd y Phariseaid iddo, pa bryd y deuai teyrnas Dduw, efe a atebodd iddynt, ac a ddywedodd, Ni ddaw teyrnas Dduw wrth ddisgwyl. 21 Ac ni ddywedant, Wele yma; neu, Wele acw: canys wele, teyrnas Dduw, o’ch mewn chwi y mae. 22 Ac efe a ddywedodd wrth y disgyblion, Y dyddiau a ddaw pan chwenychoch weled un o ddyddiau Mab y dyn, ac nis gwelwch. 23 A hwy a ddywedant wrthych, Wele yma; neu, Wele acw: nac ewch, ac na chanlynwch hwynt. 24 Canys megis y mae’r fellten a felltenna o’r naill ran dan y nef, yn disgleirio hyd y rhan arall dan y nef; felly y bydd Mab y dyn hefyd yn ei ddydd ef. 25 Eithr yn gyntaf rhaid iddo ddioddef llawer, a’i wrthod gan y genhedlaeth hon. 26 Ac megis y bu yn nyddiau Noe, felly y bydd hefyd yn nyddiau Mab y dyn. 27 Yr oeddynt yn bwyta, yn yfed, yn gwreica, yn gwra hyd y dydd yr aeth Noe i mewn i’r arch; a daeth y dilyw, ac a’u difethodd hwynt oll. 28 Yr un modd hefyd ag y bu yn nyddiau Lot: yr oeddynt yn bwyta, yn yfed, yn prynu, yn gwerthu, yn plannu, yn adeiladu; 29 Eithr y dydd yr aeth Lot allan o Sodom, y glawiodd tân a brwmstan o’r nef, ac a’u difethodd hwynt oll: 30 Fel hyn y bydd yn y dydd y datguddir Mab y dyn. 31 Yn y dydd hwnnw y neb a fyddo ar ben y tŷ, a’i ddodrefn o fewn y tŷ, na ddisgynned i’w cymryd hwynt; a’r hwn a fyddo yn y maes, yr un ffunud na ddychweled yn ei ôl. 32 Cofiwch wraig Lot. 33 Pwy bynnag a geisio gadw ei einioes, a’i cyll; a phwy bynnag a’i cyll, a’i bywha hi. 34 Yr wyf yn dywedyd i chwi, Y nos honno y bydd dau yn yr un gwely; y naill a gymerir, a’r llall a adewir. 35 Dwy a fydd yn malu yn yr un lle; y naill a gymerir, a’r llall a adewir. 36 Dau a fyddant yn y maes; y naill a gymerir, a’r llall a adewir. 37 A hwy a atebasant ac a ddywedasant wrtho, Pa le, Arglwydd? Ac efe a ddywedodd wrthynt, Pa le bynnag y byddo y corff, yno yr ymgasgl yr eryrod.
William Morgan Welsh Bible Edition © British & Foreign Bible Society 1992.