Print Page Options
Previous Prev Day Next DayNext

Revised Common Lectionary (Complementary)

Daily Bible readings that follow the church liturgical year, with thematically matched Old and New Testament readings.
Duration: 1245 days
Beibl William Morgan (BWM)
Version
Salmau 122

Caniad y graddau, o’r eiddo Dafydd.

122 Llawenychais pan ddywedent wrthyf, Awn i dŷ yr Arglwydd. Ein traed a safant o fewn dy byrth di, O Jerwsalem. Jerwsalem a adeiladwyd fel dinas wedi ei chydgysylltu ynddi ei hun. Yno yr esgyn y llwythau, llwythau yr Arglwydd, yn dystiolaeth i Israel, i foliannu enw yr Arglwydd. Canys yno y gosodwyd gorseddfeinciau barn, gorseddfeinciau tŷ Dafydd. Dymunwch heddwch Jerwsalem: llwydded y rhai a’th hoffant. Heddwch fyddo o fewn dy ragfur, a ffyniant yn dy balasau. Er mwyn fy mrodyr a’m cyfeillion y dywedaf yn awr, Heddwch fyddo i ti. Er mwyn tŷ yr Arglwydd ein Duw, y ceisiaf i ti ddaioni.

Genesis 6:11-22

11 A’r ddaear a lygrasid gerbron Duw; llanwasid y ddaear hefyd â thrawsedd. 12 A Duw a edrychodd ar y ddaear, ac wele hi a lygrasid; canys pob cnawd a lygrasai ei ffordd ar y ddaear. 13 A Duw a ddywedodd wrth Noa, Diwedd pob cnawd a ddaeth ger fy mron: oblegid llanwyd y ddaear â thrawsedd trwyddynt hwy: ac wele myfi a’u difethaf hwynt gyda’r ddaear.

14 Gwna i ti arch o goed Goffer; yn gellau y gwnei yr arch, a phyga hi oddi mewn ac oddi allan â phyg. 15 Ac fel hyn y gwnei di hi: tri chan cufydd fydd hyd yr arch, deg cufydd a deugain ei lled, a deg cufydd ar hugain ei huchder. 16 Gwna ffenestr i’r arch, a gorffen hi yn gufydd oddi arnodd; a gosod ddrws yr arch yn ei hystlys: o dri uchder y gwnei di hi. 17 Ac wele myfi, ie myfi, yn dwyn dyfroedd dilyw ar y ddaear, i ddifetha pob cnawd, yr hwn y mae anadl einioes ynddo, oddi tan y nefoedd: yr hyn oll sydd ar y ddaear a drenga. 18 Ond â thi y cadarnhaf fy nghyfamod; ac i’r arch yr ei di, tydi a’th feibion, a’th wraig, a gwragedd dy feibion gyda thi. 19 Ac o bob peth byw, o bob cnawd, y dygi ddau o bob rhyw i’r arch i’w cadw yn fyw gyda thi; gwryw a benyw fyddant. 20 O’r ehediaid wrth eu rhywogaeth, ac o’r anifeiliaid wrth eu rhywogaeth, o bob ymlusgiad y ddaear wrth eu rhywogaeth; dau o bob rhywogaeth a ddaw atat i’w cadw yn fyw. 21 A chymer i ti o bob bwyd a fwyteir, a chasgl atat; a bydd yn ymborth i ti ac iddynt hwythau. 22 Felly y gwnaeth Noa, yn ôl yr hyn oll a orchmynasai Duw iddo, felly y gwnaeth efe.

Mathew 24:1-22

24 A’r Iesu a aeth allan, ac a ymadawodd o’r deml: a’i ddisgyblion a ddaethant ato, i ddangos iddo adeiladau’r deml. A’r Iesu a ddywedodd wrthynt, Oni welwch chwi hyn oll? Yn wir meddaf i chwi, Ni adewir yma garreg ar garreg, a’r ni ddatodir.

Ac efe yn eistedd ar fynydd yr Olewydd, y disgyblion a ddaethant ato o’r neilltu, gan ddywedyd, Mynega i ni, pa bryd y bydd y pethau hyn? a pha arwydd fydd o’th ddyfodiad, ac o ddiwedd y byd? A’r Iesu a atebodd ac a ddywedodd wrthynt, Edrychwch rhag i neb eich twyllo chwi. Canys daw llawer yn fy enw i, gan ddywedyd, Myfi yw Crist; ac a dwyllant lawer. A chwi a gewch glywed am ryfeloedd, a sôn am ryfeloedd: gwelwch na chyffroer chwi: canys rhaid yw bod hyn oll; eithr nid yw’r diwedd eto. Canys cyfyd cenedl yn erbyn cenedl, a theyrnas yn erbyn teyrnas: ac fe fydd newyn, a nodau, a daeargrynfâu mewn mannau. A dechreuad gofidiau yw hyn oll. Yna y’ch traddodant chwi i’ch gorthrymu, ac a’ch lladdant: a chwi a gaseir gan yr holl genhedloedd er mwyn fy enw i. 10 Ac yna y rhwystrir llawer, ac y bradychant ei gilydd, ac y casânt ei gilydd. 11 A gau broffwydi lawer a godant, ac a dwyllant lawer. 12 Ac oherwydd yr amlha anwiredd, fe a oera cariad llawer. 13 Eithr y neb a barhao hyd y diwedd, hwnnw a fydd cadwedig. 14 A’r efengyl hon am y deyrnas a bregethir trwy’r holl fyd, er tystiolaeth i’r holl genhedloedd: ac yna y daw’r diwedd. 15 Am hynny pan weloch y ffieidd‐dra anghyfanheddol, a ddywedwyd trwy Daniel y proffwyd, yn sefyll yn y lle sanctaidd, (y neb a ddarlleno, ystyried;) 16 Yna y rhai a fyddant yn Jwdea, ffoant i’r mynyddoedd. 17 Y neb a fyddo ar ben y tŷ, na ddisgynned i gymryd dim allan o’i dŷ: 18 A’r hwn a fyddo yn y maes, na ddychweled yn ei ôl i gymryd ei ddillad. 19 A gwae’r rhai beichiogion, a’r rhai yn rhoi bronnau, yn y dyddiau hynny. 20 Eithr gweddïwch na byddo eich fföedigaeth yn y gaeaf, nac ar y dydd Saboth: 21 Canys y pryd hwnnw y bydd gorthrymder mawr, y fath ni bu o ddechrau’r byd hyd yr awr hon, ac ni bydd chwaith. 22 Ac oni bai fyrhau’r dyddiau hynny, ni fuasai gadwedig un cnawd oll: eithr er mwyn yr etholedigion fe fyrheir y dyddiau hynny.

Beibl William Morgan (BWM)

William Morgan Welsh Bible Edition © British & Foreign Bible Society 1992.