Revised Common Lectionary (Complementary)
Salm Dafydd.
141 Arglwydd, yr wyf yn gweiddi arnat: brysia ataf; clyw fy llais, pan lefwyf arnat. 2 Cyfeirier fy ngweddi ger dy fron fel arogl‐darth, a dyrchafiad fy nwylo fel yr offrwm prynhawnol. 3 Gosod, Arglwydd, gadwraeth o flaen fy ngenau: cadw ddrws fy ngwefusau. 4 Na ostwng fy nghalon at ddim drwg, i fwriadu gweithredoedd drygioni gyda gwŷr a weithredant anwiredd: ac na ad i mi fwyta o’u danteithion hwynt. 5 Cured y cyfiawn fi yn garedig, a cherydded fi: na thorred eu holew pennaf hwynt fy mhen: canys fy ngweddi fydd eto yn eu drygau hwynt. 6 Pan dafler eu barnwyr i lawr mewn lleoedd caregog, clywant fy ngeiriau; canys melys ydynt. 7 Y mae ein hesgyrn ar wasgar ar fin y bedd, megis un yn torri neu yn hollti coed ar y ddaear. 8 Eithr arnat ti, O Arglwydd Dduw, y mae fy llygaid: ynot ti y gobeithiais; na ad fy enaid yn ddiymgeledd. 9 Cadw fi rhag y fagl a osodasant i mi, a hoenynnau gweithredwyr anwiredd. 10 Cydgwymped y rhai annuwiol yn eu rhwydau eu hun, tra yr elwyf fi heibio.
21 A gosodaf fy ngogoniant ymysg y cenhedloedd, a’r holl genhedloedd a gânt weled fy marnedigaeth yr hon a wneuthum, a’m llaw yr hon a osodais arnynt. 22 A thŷ Israel a gânt wybod mai myfi yw yr Arglwydd eu Duw hwynt o’r dydd hwnnw allan.
23 Y cenhedloedd hefyd a gânt wybod mai am eu hanwiredd eu hun y caethgludwyd tŷ Israel: oherwydd gwneuthur ohonynt gamwedd i’m herbyn, am hynny y cuddiais fy wyneb oddi wrthynt, ac y rhoddais hwynt yn llaw eu gelynion: felly hwy a syrthiasant oll trwy y cleddyf. 24 Yn ôl eu haflendid eu hun, ac yn ôl eu hanwireddau, y gwneuthum â hwynt, ac y cuddiais fy wyneb oddi wrthynt. 25 Am hynny fel hyn y dywed yr Arglwydd Dduw; Yr awr hon y dychwelaf gaethiwed Jacob, tosturiaf hefyd wrth holl dŷ Israel, a gwynfydaf dros fy enw sanctaidd; 26 Wedi dwyn ohonynt eu gwaradwydd, a’u holl gamweddau a wnaethant i’m herbyn, pan drigent yn eu tir eu hun yn ddifraw, a heb ddychrynydd. 27 Pan ddychwelwyf hwynt oddi wrth y bobloedd, a’u casglu hwynt o wledydd eu gelynion, ac y’m sancteiddier ynddynt yng ngolwg cenhedloedd lawer; 28 Yna y cânt wybod mai myfi yw yr Arglwydd eu Duw hwynt, yr hwn a’u caethgludais hwynt ymysg y cenhedloedd, ac a’u cesglais hwynt i’w tir eu hun, ac ni adewais mwy un ohonynt yno. 29 Ni chuddiaf chwaith fy wyneb mwy oddi wrthynt: oherwydd tywelltais fy ysbryd ar dŷ Israel, medd yr Arglwydd Dduw.
40 Yn y bumed flwyddyn ar hugain o’n caethgludiad ni, yn nechrau y flwyddyn, ar y degfed dydd o’r mis, yn y bedwaredd flwyddyn ar ddeg wedi taro y ddinas, o fewn corff y dydd hwnnw y daeth llaw yr Arglwydd arnaf, ac a’m dug yno. 2 Yng ngweledigaethau Duw y dug efe fi i dir Israel, ac a’m gosododd ar fynydd uchel iawn, ac arno yr oedd megis adail dinas o du y deau. 3 Ac efe a’m dug yno: ac wele ŵr a’i welediad fel gwelediad pres, ac yn ei law linyn llin, a chorsen fesur: ac yr ydoedd efe yn sefyll yn y porth. 4 A dywedodd y gŵr wrthyf, Ha fab dyn, gwêl â’th lygaid, gwrando hefyd â’th glustiau, a gosod dy galon ar yr hyn oll a ddangoswyf i ti: oherwydd er mwyn dangos i ti hyn y’th ddygwyd yma: mynega i dŷ Israel yr hyn oll a weli.
23 Pob peth sydd gyfreithlon i mi, eithr nid yw pob peth yn llesáu: pob peth sydd gyfreithlon i mi, eithr nid yw pob peth yn adeiladu. 24 Na cheisied neb yr eiddo ei hun; ond pob un yr eiddo arall. 25 Beth bynnag a werthir yn y gigfa, bwytewch; heb ofyn dim er mwyn cydwybod: 26 Canys eiddo’r Arglwydd y ddaear, a’i chyflawnder. 27 Os bydd i neb o’r rhai di‐gred eich gwahodd, ac os mynnwch fyned; bwytewch beth bynnag a rodder ger eich bron, heb ymofyn dim er mwyn cydwybod. 28 Eithr os dywed neb wrthych, Peth wedi ei aberthu i eilunod yw hwn; na fwytewch, er mwyn hwnnw yr hwn a’i mynegodd, ac er mwyn cydwybod: canys eiddo’r Arglwydd y ddaear, a’i chyflawnder. 29 Cydwybod, meddaf, nid yr eiddot ti, ond yr eiddo arall: canys paham y bernir fy rhyddid i gan gydwybod un arall? 30 Ac os wyf fi trwy ras yn cymryd cyfran, paham y’m ceblir am y peth yr wyf yn rhoddi diolch amdano? 31 Pa un bynnag gan hynny ai bwyta ai yfed, ai beth bynnag a wneloch, gwnewch bob peth er gogoniant i Dduw. 32 Byddwch ddiachos tramgwydd i’r Iddewon ac i’r Cenhedloedd hefyd, ac i eglwys Dduw: 33 Megis yr ydwyf finnau yn rhyngu bodd i bawb ym mhob peth: heb geisio fy llesâd fy hun, ond llesâd llaweroedd, fel y byddont hwy gadwedig.
11 Byddwch ddilynwyr i mi, megis yr wyf finnau i Grist.
William Morgan Welsh Bible Edition © British & Foreign Bible Society 1992.