Revised Common Lectionary (Complementary)
Salm Dafydd.
37 Nac ymddigia oherwydd y rhai drygionus, ac na chenfigenna wrth y rhai a wnânt anwiredd. 2 Canys yn ebrwydd y torrir hwynt i’r llawr fel glaswellt, ac y gwywant fel gwyrddlysiau. 3 Gobeithia yn yr Arglwydd, a gwna dda; felly y trigi yn y tir, a thi a borthir yn ddiau. 4 Ymddigrifa hefyd yn yr Arglwydd; ac efe a ddyry i ti ddymuniadau dy galon. 5 Treigla dy ffordd ar yr Arglwydd, ac ymddiried ynddo; ac efe a’i dwg i ben. 6 Efe a ddwg allan dy gyfiawnder fel y goleuni, a’th farn fel hanner dydd. 7 Distawa yn yr Arglwydd, a disgwyl wrtho: nac ymddigia oherwydd yr hwn a lwyddo ganddo ei ffordd, wrth y gŵr sydd yn gwneuthur ei ddrwg amcanion. 8 Paid â digofaint, a gad ymaith gynddaredd: nac ymddigia er dim i wneuthur drwg. 9 Canys torrir ymaith y drwg ddynion: ond y rhai a ddisgwyliant wrth yr Arglwydd, hwynt‐hwy a etifeddant y tir.
18 Ac yn y drydedd flwyddyn i Hosea mab Ela brenin Israel, y teyrnasodd Heseceia mab Ahas brenin Jwda. 2 Mab pum mlwydd ar hugain oedd efe pan aeth yn frenin, a naw mlynedd ar hugain y teyrnasodd efe yn Jerwsalem: ac enw ei fam ef oedd Abi, merch Sachareia. 3 Ac efe a wnaeth yr hyn oedd uniawn yng ngolwg yr Arglwydd, yn ôl yr hyn oll a wnaethai Dafydd ei dad ef.
4 Efe a dynnodd ymaith yr uchelfeydd, ac a ddrylliodd y delwau, ac a dorrodd y llwyni, ac a faluriodd y sarff bres a wnaethai Moses; canys hyd y dyddiau hynny yr oedd meibion Israel yn arogldarthu iddi hi: ac efe a’i galwodd hi Nehustan. 5 Yn Arglwydd Dduw Israel yr ymddiriedodd efe, ac ar ei ôl ef ni bu ei fath ef ymhlith holl frenhinoedd Jwda, nac ymysg y rhai a fuasai o’i flaen ef. 6 Canys efe a lynodd wrth yr Arglwydd, ni throdd efe oddi ar ei ôl ef, eithr efe a gadwodd ei orchmynion ef, y rhai a orchmynasai yr Arglwydd wrth Moses. 7 A’r Arglwydd fu gydag ef; i ba le bynnag yr aeth, efe a lwyddodd: ac efe a wrthryfelodd yn erbyn brenin Asyria, ac nis gwasanaethodd ef. 8 Efe a drawodd y Philistiaid hyd Gasa a’i therfynau, o dŵr y gwylwyr hyd y ddinas gaerog.
28 Felly Rabsace a safodd, ac a waeddodd â llef uchel yn iaith yr Iddewon, llefarodd hefyd, a dywedodd, Gwrandewch air y brenin mawr, brenin Asyria. 29 Fel hyn y dywedodd y brenin, Na thwylled Heseceia chwi: canys ni ddichon efe eich gwaredu chwi o’m llaw i. 30 Ac na phared Heseceia i chwi ymddiried yn yr Arglwydd, gan ddywedyd, Yr Arglwydd gan waredu a’n gwared ni, ac ni roddir y ddinas hon yn llaw brenin Asyria. 31 Na wrandewch ar Heseceia: canys fel hyn y dywed brenin Asyria, Gwnewch fwynder â mi, a deuwch allan ataf fi, ac yna bwytewch bob un o’i winwydden ei hun, a phob un o’i ffigysbren, ac yfed pawb ddwfr ei ffynnon ei hun: 32 Nes i mi ddyfod a’ch dwyn chwi i wlad megis eich gwlad eich hun, gwlad ŷd a gwin, gwlad bara a gwinllannoedd, gwlad olew olewydd a mêl, fel y byddoch fyw, ac na byddoch feirw: ac na wrandewch ar Heseceia, pan hudo efe chwi, gan ddywedyd, Yr Arglwydd a’n gwared ni. 33 A lwyr waredodd yr un o dduwiau y cenhedloedd ei wlad o law brenin Asyria? 34 Mae duwiau Hamath ac Arpad? mae duwiau Seffarfaim, Hena, ac Ifa? a achubasant hwy Samaria o’m llaw i? 35 Pwy sydd ymhlith holl dduwiau y gwledydd a waredasant eu gwlad o’m llaw i, fel y gwaredai yr Arglwydd Jerwsalem o’m llaw i? 36 Eithr y bobl a dawsant, ac nid atebasant air iddo: canys gorchymyn y brenin oedd hyn, gan ddywedyd, Nac atebwch ef.
8 Ac at angel yr eglwys sydd yn Smyrna, ysgrifenna; Y pethau hyn y mae’r cyntaf a’r diwethaf, yr hwn a fu farw, ac sydd fyw, yn eu dywedyd; 9 Mi a adwaen dy weithredoedd di, a’th gystudd, a’th dlodi, (eithr cyfoethog wyt,) ac mi a adwaen gabledd y rhai sydd yn dywedyd eu bod yn Iddewon, ac nid ydynt ond synagog Satan. 10 Nac ofna ddim o’r pethau yr ydwyt i’w dioddef. Wele, y cythraul a fwrw rai ohonoch chwi i garchar, fel y’ch profer; a chwi a gewch gystudd ddeng niwrnod. Bydd ffyddlon hyd angau, ac mi a roddaf i ti goron y bywyd. 11 Yr hwn sydd ganddo glust, gwrandawed beth y mae’r Ysbryd yn ei ddywedyd wrth yr eglwysi; Yr hwn sydd yn gorchfygu, ni chaiff ddim niwed gan yr ail farwolaeth.
William Morgan Welsh Bible Edition © British & Foreign Bible Society 1992.