Print Page Options
Previous Prev Day Next DayNext

Revised Common Lectionary (Complementary)

Daily Bible readings that follow the church liturgical year, with thematically matched Old and New Testament readings.
Duration: 1245 days
Beibl William Morgan (BWM)
Version
Salmau 119:65-72

65 Gwnaethost yn dda â’th was, O Arglwydd, yn ôl dy air. 66 Dysg i mi iawn ddeall a gwybodaeth: oherwydd dy orchmynion di a gredais. 67 Cyn fy nghystuddio yr oeddwn yn cyfeiliorni: ond yn awr cedwais dy air di. 68 Da ydwyt, a daionus: dysg i mi dy ddeddfau. 69 Y beilchion a glytiasant gelwydd i’m herbyn; minnau a gadwaf dy orchmynion â’m holl galon. 70 Cyn frased â’r bloneg yw eu calon: minnau a ymddigrifais yn dy gyfraith di. 71 Da yw i mi fy nghystuddio; fel y dysgwn dy ddeddfau. 72 Gwell i mi gyfraith dy enau, na miloedd o aur ac arian.

IOD

Eseia 2:12-17

12 Canys dydd Arglwydd y lluoedd fydd ar bob balch ac uchel, ac ar bob dyrchafedig; ac efe a ostyngir: 13 Ac ar holl uchel a dyrchafedig gedrwydd Libanus, ac ar holl dderw Basan, 14 Ac ar yr holl fynyddoedd uchel, ac ar yr holl fryniau dyrchafedig, 15 Ac ar bob tŵr uchel, ac ar bob magwyr gadarn, 16 Ac ar holl longau Tarsis, ac ar yr holl luniau dymunol. 17 Yna yr iselir uchelder dyn, ac y gostyngir uchder dynion: a’r Arglwydd yn unig a ddyrchefir yn y dydd hwnnw.

Titus 1:1-9

Paul, gwas Duw, ac apostol Iesu Grist, yn ôl ffydd etholedigion Duw, ac adnabyddiaeth y gwirionedd, yr hon sydd yn ôl duwioldeb; I obaith bywyd tragwyddol, yr hon a addawodd y digelwyddog Dduw cyn dechrau’r byd; Eithr mewn amseroedd priodol efe a eglurhaodd ei air trwy bregethu, am yr hyn yr ymddiriedwyd i mi, yn ôl gorchymyn Duw ein Hiachawdwr; At Titus, fy mab naturiol yn ôl y ffydd gyffredinol: Gras, trugaredd, a thangnefedd, oddi wrth Dduw Dad, a’r Arglwydd Iesu Grist ein Hiachawdwr ni. Er mwyn hyn y’th adewais yn Creta, fel yr iawn drefnit y pethau sydd yn ôl, ac y gosodit henuriaid ym mhob dinas, megis yr ordeiniais i ti: Os yw neb yn ddiargyhoedd, yn ŵr un wraig, a chanddo blant ffyddlon, heb gael y gair o fod yn afradlon, neu yn anufudd: Canys rhaid i esgob fod yn ddiargyhoedd, fel goruchwyliwr Duw; nid yn gyndyn, nid yn ddicllon, nid yn wingar, nid yn drawydd, nid yn budrelwa; Eithr yn lletygar, yn caru daioni, yn sobr, yn gyfiawn, yn sanctaidd, yn dymherus; Yn dal yn lew y gair ffyddlon yn ôl yr addysg, fel y gallo gynghori yn yr athrawiaeth iachus, ac argyhoeddi’r rhai sydd yn gwrthddywedyd.

Beibl William Morgan (BWM)

William Morgan Welsh Bible Edition © British & Foreign Bible Society 1992.